Neidio i'r prif gynnwy

‘Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr’, a gyhoeddwyd yn 2017, yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg. Mae’r ddogfen yn pennu dau darged, sef miliwn o siaradwyr Cymraeg a chynyddu’r ganran o’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i 20 y cant erbyn 2050.

Mae’r Strategaeth wedi’i strwythuro ar sail tair thema, pob un yn cynnwys cyfres o nodau.

  1. Thema 1: Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.
  2. Thema 2: Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.
  3. Thema 3: Creu amodau ffafriol, seilwaith a chyd-destun.

Diben Fframwaith Ymchwil a Gwerthuso Cymraeg 2050 yw cynnig arweiniad ynghylch casglu a dadansoddi tystiolaeth a data, asesu cynnydd, a gwerthuso effaith ‘Cymraeg 2050’ wrth iddo gael ei weithredu.

Bwriedir i’r Fframwaith gael ei ddefnyddio gan gyrff sy’n gwneud gwaith ymchwil neu werthuso mewn perthynas â ‘Cymraeg 2050’. Amcan arall yw cefnogi a chynnig arweiniad i gyrff sy’n ceisio gwerthuso eu gweithgareddau eu hunain mewn perthynas â ‘Cymraeg 2050’. Bwriedir iddo hefyd gefnogi gwaith Llywodraeth Cymru ei hun, a hwyluso’r broses o sicrhau bod polisi yn cael ei ddatblygu a’i gyflawni yng ngoleuni dibenion y Strategaeth.

Pwrpas y Fframwaith yw darparu gorolwg o’r prif ystyriaethau a fydd yn sail i waith ymchwil a gwerthuso dros y blynyddoedd i ddod. Yn yr ystyr hwnnw, bwriedir i’r Fframwaith gefnogi proses gydweithredol, lle bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio gweithio gyda sefydliadau a chyrff eraill sy’n gwneud gwaith ymchwil a gwerthuso, er mwyn datblygu’r sail dystiolaeth ar gyfer ‘Cymraeg 2050’.

Yn dilyn cyflwyniad byr ym Mhennod 1, mae Pennod 2 y Fframwaith yn cyflwyno cyd-destun polisi ‘Cymraeg 2050’, gan nodi ei sail statudol, ei berthynas â nodau llesiant Llywodraeth Cymru, yn ogystal â safbwyntiau polisi diweddar a nodwyd yn y Rhaglen Lywodraethu a’r Cytundeb Cydweithio.

Mae Pennod 3 yn cynnig gorolwg o’r Strategaeth ei hun drwy amlinellu’r berthynas rhwng y Strategaeth, y Cynlluniau Gweithredu blynyddol sy’n nodi’r gweithgareddau i’w cyflawni yn ystod blwyddyn ariannol benodol, a’r ddwy Raglen Waith sydd wedi’u cyhoeddi hyd yma (2017-21 a 2021-26). Mae’r bennod yn nodi bod y deilliannau yn dibynnu yn aml ar weithgarwch ystod o feysydd polisi. O ganlyniad, mae’r Fframwaith yn pwysleisio’r angen i werthuso i ba raddau y caiff ‘Cymraeg 2050’ ei roi ar waith ar draws Llywodraeth Cymru. Mae’r Fframwaith yn nodi hefyd y bydd gweithredu’r Strategaeth yn galw am gyfraniad amrediad o bartneriaid a chyrff, a bod rôl y Llywodraeth yn ymestyn i sicrhau bod mecanweithiau yn bodoli i hyrwyddo cydweithredu strategol rhwng partneriaid.

Mae’r bennod hefyd yn trafod seiliau cysyniadol y Strategaeth, ystyriaeth a chyd-destun pwysig i ymchwilwyr sy’n ceisio deall y theori sy’n sail i ‘Cymraeg 2050’ a gweithgareddau cysylltiedig. Tynnir sylw yn benodol at yr egwyddor o ystyried caffael y Gymraeg a’r defnydd ohoni fel rhywbeth sy’n digwydd dros gyfnod oes. Mae’r safbwynt hwn yn sail i fynd ati i ddeall profiadau siaradwyr ar wahanol gyfnodau, a ‘phwyntiau tyngedfennol’ yn ystod eu bywyd.

Mae Pennod 4 yn trafod methodolegau a dulliau posibl o werthuso ‘Cymraeg 2050’. Mae’n nodi’r angen i asesu cryfder rhesymeg y Strategaeth, a chynigir datblygu theori (neu theorïau) newid fel cyfrwng i fynegi’r rhesymeg honno, ac fel sail i’w gwerthuso. Trafodir hefyd rai o’r ystyriaethau a’r heriau sy’n gysylltiedig â gwerthuso’r Strategaeth, a sut i briodoli effaith benodol i’r Strategaeth. Darperir ffynonellau allweddol o ddata a thystiolaeth i gefnogi’r gwaith ymchwil a gwerthuso. Daw’r Bennod i ben drwy amlinellu prif flaenoriaethau ymchwil a gwerthuso’r Llywodraeth.

Mae’r drafodaeth ynghylch blaenoriaethau yn awgrymu y bydd pryd y gellir disgwyl gweld deilliannau tymor byr a thymor hirach yn allweddol, wrth i werthusiadau gael eu cynllunio ac wrth i’r dystiolaeth gael ei dadansoddi. Mae’n debygol y bydd angen gwaith mireinio a datblygu pellach hefyd o safbwynt i ba raddau y gellir gwerthuso rhai agweddau ar y Strategaeth. Mae hyn yn debygol o olygu datblygu mwy o theorïau newid, a’r rheini’n rhai manylach, datblygu dealltwriaeth o’r cyd-destun ehangach, a nodi dangosyddion a ffynonellau data priodol. Mae’r adran hon hefyd yn nodi y bydd angen i’r rhaglen ymchwil a gwerthuso ystyried sut gall edrych ar y maes o safbwynt cwrs bywyd gyfoethogi’r sail dystiolaeth, drwy astudiaethau hydredol, astudiaethau ethnograffig, a ffyrdd eraill o ymchwilio i brofiadau siaradwyr.

Daw’r bennod i ben drwy gynnig nifer o gwestiynau ymchwil allweddol a allai lywio proses, effaith a gwerthusiadau o theorïau’r Strategaeth i’w chefnogi ymhellach.

Mae Pennod 5 yn cyflwyno theori newid fel man cychwyn ar gyfer datblygiad pellach. Diben y theori newid yw tynnu sylw at y rhyngberthynas rhwng 15 nod y Strategaeth ar draws y tair thema.

Mae Penodau 6 i 8 yn cynnig manylion pellach ar bob un o dair thema a 15 nod y Strategaeth. Mae’r penodau yn cyflwyno prif gyd-destun ac ystyriaethau’r themâu, ac yn nodi’r ffynonellau data penodol y gellid eu defnyddio i fonitro’r cynnydd tuag at gyrraedd y targedau. Mae’r penodau hefyd yn trafod y blaenoriaethau ymchwil, ac yn rhestru nifer o gwestiynau ymchwil sy’n gysylltiedig â phob thema. Mae’r blaenoriaethau ar gyfer Thema 3 ychydig yn wahanol i’r lleill oherwydd y pwyslais ar ddatblygu dealltwriaeth lawnach o’r cyd-destun ac i ba raddau y mae modd gwerthuso’r thema a’i deilliannau.

Ar ôl trafod y thema, mae pob un o’r tair pennod olaf yn cyflwyno trafodaeth fanwl ynghylch pob nod yn ei dro. Mae’r drafodaeth yn ystyried y rhesymeg, y deilliannau tymor byr a thymor hirach, yr ystyriaethau a’r cyd-destun ehangach, a’r rhagdybiaethau sy’n gysylltiedig â phob nod, ynghyd â ffynonellau data perthnasol a chyhoeddiadau ymchwil Llywodraeth Cymru. Nid yw hyn yn bosibl mewn rhai achosion fodd bynnag, lle mae angen gwaith pellach i ddatblygu dealltwriaeth o’r nod ac i ba raddau y mae modd ei werthuso.

Mae Atodiad A: Ffynonellau Data yn cynnig manylion pellach mewn perthynas â’r ffynonellau data a nodir yn y ddogfen.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Cangen ymchwil y Gymraeg

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Cangen ymchwil y Gymraeg
Ebost: ymchwil.cymraeg@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 73/2022
ISBN digidol 978-1-80535-006-4

Image
GSR logo