Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad ansawdd

Mae clefyd yn yr arennau yn effeithio ar tua 10% o'r boblogaeth yn fyd-eang gyda diabetes a phwysedd gwaed uchel ymhlith yr achosion mwyaf cyffredin. Mae’r cynnydd yn nifer yr achosion o gyflyrau o'r fath yn ein cymunedau yn awgrymu ein bod yn debygol o weld mwy o Gymry â chlefyd yn yr arennau a fydd angen therapi – o rai unigolion â ffurf ysgafn ar glefyd yn y gymuned i unigolion eraill a fydd angen gofal arbenigol gyda dialysis a thrawsblaniad.

Mae Therapi Adfer Arennol, fel dialysis, yn cael ei ddarparu i tua 1,400 o oedolion sy’n preswylio yng Nghymru ac mae tua 100 o drawsblaniadau arennau yn cael eu cynnal bob blwyddyn. Mae bron i 1,800 o gleifion hefyd yng Nghymru sy’n byw gyda thrawsblaniad aren weithredol, y mae arnynt angen adolygiadau clinigol, cymorth seicogymdeithasol a thriniaethau cyffuriau atal imiwnedd yn barhaus. Mae'r holl ragolygon yn dangos yn gyson y bydd yr angen am y gwasanaethau hyn i oedolion yn tyfu 4-5% o flwyddyn i flwyddyn.

Bob blwyddyn, mae tua 2 o blant fesul miliwn o’r boblogaeth gyfan yn cyrraedd camau terfynol methiant yr arennau. Yng Nghymru, mae hyn yn cyfateb i tua 6 achos newydd y flwyddyn. Mae tua 50 o blant ar Therapi Adfer Arennol yng Nghymru ar unrhyw adeg benodol, â llawer ohonynt wedi cael trawsblaniad aren. Cydnabyddir bod yr angen i sicrhau trefniadau pontio didrafferth o wasanaethau iechyd plant i wasanaethau i oedolion, fel yr amlinellir yn Y Canllawiau Pontio a Throsglwyddo, yn elfen annatod o'r llwybr gofal.

Gan adeiladu ar waith y Cynllun Cyflawni Gwasanaethau Arennol (2016-2020), mae'n rhaid i'r cam pum mlynedd nesaf o ddatblygu gwasanaethau i bobl sydd â chlefyd yn yr arennau fanteisio ar y consensws eang ynghylch y meysydd â blaenoriaeth, sicrhau bod rhaglenni yn dwyn ffrwyth, a chynnal yr arweinyddiaeth genedlaethol, a’r trefniadau ymgysylltu lleol a chydweithio â'r trydydd sector sydd wedi'u gwireddu. Bydd hyn yn sicrhau bod dull hirdymor a chyson ar waith ar gyfer gwella canlyniadau, fel y rhagwelir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac fel sydd wedi’i ddangos drwy brofiad rhyngwladol.

Cafwyd arwydd clir ynghylch cyflwyno datganiadau ansawdd yn Cymru Iachach a disgrifiwyd y datganiadau hyn yn y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol fel y lefel nesaf o gynllunio cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau clinigol penodol. Mae datganiadau ansawdd yn rhan o'r pwyslais manylach ar ansawdd a byddant yn rhan annatod o drefniadau cynllunio ac atebolrwydd ar gyfer y GIG yng Nghymru yn y dyfodol.

Cafodd gwasanaethau arennol yng Nghymru eu heffeithio'n sylweddol gan y pandemig COVID-19. Mae'r hyn a ddysgwyd yn sgil yr angen i addasu i'r heriau wedi dylanwadu ar y dull a gyflwynir yn y Datganiad Ansawdd hwn. O ganlyniad, mae’n cynnwys pwyslais uniongyrchol, yn y tymor byr, ar adfer a hefyd yn ystyried y potensial gyfer trawsnewid yn y tymor canolig a’r tymor hwy. 

Mae angen sicrhau bod mynediad teg yn cael ei ddarparu ar gyfer y bobl hynny sydd wedi wynebu anghydraddoldeb, fel, er enghraifft, cymunedau ethnig lleiafrifol a chymunedau LGBQT+ a bydd angen i lwybrau ymgorffori mwy o hyblygrwydd i gyflawni hyn. Dylai cynllun Mwy na geiriau Llywodraeth Cymru i gryfhau'r Gymraeg mewn gwasanaethau iechyd a gofal drwy egwyddor ‘y cynnig gweithredol’ ddod yn rhan annatod o'r ddarpariaeth gwasanaethau. Dylai darparwyr gwasanaethau adeiladu ar yr arferion gorau presennol a chynllunio, comisiynu a darparu gofal yn seiliedig ar yr egwyddor hon.

Datblygu Llwybr Gofal Integredig yr Arennau i ddarparu'r fframwaith cyffredinol ar gyfer darparu gofal yr arennau – o atal i gefnogi cleifion i benderfynu ar y ffurf ar therapi adfer arennol sy'n iawn iddyn nhw – yw’r weledigaeth. Nod Llwybr Gofal Integredig yr Arennau fydd ysgogi gwelliannau ar draws y system gyfan drwy leihau amrywiadau na ellir eu cyfiawnhau mewn gofal a gwella canlyniadau i gleifion.

Mae’r dull hwn yn gyson â’r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol, sy’n rhoi pwyslais penodol ar ddatblygu llwybrau clinigol cenedlaethol, yn ogystal â’r Fframwaith Ansawdd a Diogelwch, sy’n pwysleisio pa mor bwysig yw defnyddio’r cylch sicrhau ansawdd mewn modd systematig yn lleol. 

Mae’r dull hefyd yn golygu bod modd canolbwyntio ar weithio ar draws grwpiau i fynd i’r afael â meysydd fel atal, adsefydlu, rhoi organau a thrawsblannu, gofal i’r rheini sy’n ddifrifol wael neu ar ddiwedd eu hoes, yn ogystal â chydweithio â gwasanaethau ar gyfer cyflyrau eraill, fel gwasanaethau gofal y galon, strôc, diabetes a fasgwlaidd. 

Mae byrddau iechyd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau arennol yn unol â safonau proffesiynol a’r priodoleddau ansawdd a nodir isod. Bydd byrddau iechyd yn cael eu cyfarwyddo, eu cefnogi a'u galluogi i ddarparu gwasanaethau gwell. Bydd Rhwydwaith Arennau Cymru yn cyflwyno cynllun gweithredu tair blynedd, treigl sy'n nodi ac yn blaenoriaethu datblygiadau sy’n seiliedig ar y priodoleddau ansawdd a nodir isod. Bydd manylebau gwasanaeth manwl hefyd yn cael eu datblygu i gefnogi'r trefniadau comisiynu ac atebolrwydd gan gynnwys metrigau allweddol ar gyfer darparu gwasanaethau arennol o ansawdd uchel a chynaliadwy sy'n diwallu anghenion y boblogaeth. Bydd y rhain yn cael eu cynnwys yn Atodiad A maes o law.

Priodoleddau ansawdd gwasanaethau ar gyfer pobl â chlefyd yn yr arennau yng Nghymru

Teg

  • Dull cenedlaethol sy’n cael ei arwain gan Rwydwaith Arennau Cymru i wella gwasanaethau drwy ei fwrdd rhwydwaith ar y cyd â Gweithrediaeth y GIG. 
  • Bydd Llwybr Gofal Integredig yr Arennau yn sicrhau tryloywder, cefnogi mynediad teg, cysondeb mewn safonau gofal ac yn mynd i’r afael ag unrhyw amrywiadau na ellir eu cyfiawnhau.
  • Bydd gwasanaethau i bobl â chlefyd yn yr arennau yn cael eu mesur a'u dal yn atebol gan ddefnyddio metrigau, archwiliadau clinigol, Mesurau Canlyniad a Adroddir gan Glaf (PROMs) ac adolygiadau gan gymheiriaid sy'n adlewyrchu ansawdd y gofal i gleifion a'i ganlyniadau. 
  • Mae dull 'trawsblaniad aren yn gyntaf' yn cael ei fabwysiadu, cyn i glaf orfod ystyried cael dialysis. Bydd hyn yn cynnwys nodi’n gynnar bob claf posibl i gael trawsblaniad, yn enwedig yn achos trawsblannu rhagataliol a rhoddwyr arennau byw posibl.
  • Mae cymaint o driniaeth a chymorth â phosibl yn cael eu darparu yn agos at gartref y claf, neu yn y cartref, gyda dialysis yn y cartref yn ddewis cyntaf os nad yw trawsblaniad aren yn bosibl.
  • Mae gweithlu gofal yr arennau yn cael ei gefnogi a'i ddatblygu, i fynd i'r afael â chadw staff, a sicrhau ei fod yn gynaliadwy, wedi’i ddosbarthu’n deg, ac yn tyfu i fodloni'r galw gan ganolbwyntio ar feysydd allweddol fel cymorth iechyd a llesiant yr arennau a nyrsio arbenigol.

Diogel

  • Mae pwyslais ar lefel system gyfan ar drawsnewid llwybrau i sicrhau bod mwy o gadernid yn y system drwy fabwysiadu'r hyn a ddysgwyd gydol y pandemig.
  • Mae rhaglenni gwella diogelwch cleifion sydd wedi’u hategu gan dystiolaeth yn cael eu hymwreiddio gan ddefnyddio system adrodd am ddigwyddiadau Cymru gyfan i nodi themâu a rhannu pwyntiau dysgu ar y cyd.

Effeithiol

  • Mae ymdrech benodol i gefnogi cleifion sydd mewn perygl o gael clefyd yn yr arennau neu sydd yng nghamau cynnar eu diagnosis ac maen nhw eu hunain yn cymryd rhan i reoli eu clefyd, gan gynnwys drwy gymorth ar gyfer addasu eu ffordd o fyw.
  • Dylai plant a phobl ifanc gael gofal sy'n briodol i'w hoedran a'u hanghenion gyda’r broses o bontio i wasanaethau i oedolion yn cael ei chefnogi’n briodol i sicrhau bod gofal yn cael ei drosglwyddo'n ddidrafferth.
  • Diwylliant lle y mae holl anghenion y claf, nid gofal yr arennau yn unig, yn cael eu deall gan sicrhau bod y gefnogaeth gywir yn cael ei darparu ar yr adeg gywir, drwy ddefnyddio dull system gyfan sy’n cynnwys arbenigeddau eraill fel diabetes a gwasanaethau fel cefnogaeth gan gymheiriaid a ddarperir gan y trydydd sector.

Effeithlon

  • Agwedd genedlaethol tuag at weithredu system gwybodeg gwasanaethau arennol (VitalData) er mwyn gallu integreiddio gofal yn well a darparu data wedi’u safoni, perthnasol, o ansawdd uchel i arwain trefniadau gwella gwasanaethau ac i bennu anghenion comisiynu.
  • Adeiladu ar ffyrdd newydd o weithio drwy ddefnyddio technoleg i ryddhau mwy o amser i ofalu, fel y rhaglen rhagnodi electronig a gweinyddu meddyginiaethau (EPMA) sy'n golygu bod modd rheoli a gweinyddu meddyginiaethau yn ddiogel ac yn effeithlon.

Yn canolbwyntio ar yr unigolyn

  • Mae cleifion yn cael eu cefnogi i hunanreoli pan fo’n bosibl gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu digidol i hwyluso a chydgynhyrchu cynlluniau gofal.
  • Mae cleifion yn cymryd rhan weithredol mewn prosesau rheoli a gwneud penderfyniadau parhaus sy’n ymwneud â’u triniaeth ar gyfer clefyd yn yr arennau. Sicrheir bod cleifion yn cael eu cefnogi i ddeall trywydd tebygol eu clefyd, gan gynnwys amcangyfrif rhesymol o’r prognosis i gynnwys gwybodaeth a chymorth am Gynlluniau Gofal lefel uwch i'w galluogi i gofnodi sut ofal y byddent yn dymuno ei gael ar ddiwedd eu hoes waeth pa opsiwn triniaeth y maent yn ei ddewis.
  • Mae cleifion wedi'u paratoi'n dda ar gyfer dialysis (pan na fydd trawsblannu wedi’i nodi’n glinigol), gan gynnwys dechrau ar y math a ffefrir o ddialysis a lleoliad y dialysis, gyda mynediad fasgwlaidd parhaol yn ei le.
  • Mae agwedd gydweithredol tuag at ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn rhan annatod o'r diwylliant ac yn cael ei gefnogi gan agwedd gyffredin tuag at ddiagnosis, triniaeth a gofal a ddarperir yn y gymuned pan fo’n briodol. 
  • Defnyddir PROMs a PREMs i ddeall anghenion gofal a gwasanaeth yn well i sicrhau bod pobl sy'n cael eu heffeithio gan glefyd yn yr arennau yn cyflawni'r canlyniadau sy'n bwysig iddyn nhw.
  • Mae canlyniadau'r astudiaethau ymchwil a wneir yng Nghymru ac yn fyd-eang yn cael eu defnyddio i lywio sut yr ydym yn cynllunio’r ddarpariaeth gofal ac addysg i gleifion. 

Amserol

  • Bydd mecanweithiau wedi'u dilysu ar gyfer nodi pobl sydd mewn perygl o ddatblygu clefyd yn yr arennau a'r rhai sydd yng nghamau cynnar clefyd yn cael eu defnyddio i gefnogi gofal sylfaenol i sicrhau bod atgyfeiriadau at ofal eilaidd yn cael eu gwneud yn amserol.
  • Mae cyfleoedd i ddefnyddio meddyginiaethau newydd y profwyd eu bod yn lleihau datblygiad clefyd yn yr arennau a chlefyd cardiofasgwlaidd cysylltiedig yn cael eu hymchwilio’n fanylach a'u gweithredu.

Atodiad A: Manylebau gwasanaeth

Bydd Rhwydwaith Arennau Cymru yn datblygu manylebau gwasanaeth ar gyfer llwybrau clefyd yn yr arennau i lywio trafodaethau ynghylch atebolrwydd a phenderfyniadau comisiynu. Bydd y rhain yn cael eu cynnwys maes o law.