Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am bobl ag anabledd dysgu, anabledd corfforol a synhwyraidd ar 31 Mawrth 2022.

Prif bwyntiau

Cofrestrau o bobl ag anableddau dysgu [troednodyn 1]

Roedd 12,303 o bobl ar gofrestrau anabledd dysgu; roedd 84% yn byw mewn lleoliadau cymunedol (e.e. yn byw gyda rhieni neu deulu) [troednodyn 2] ac roedd 16% yn byw mewn lleoliadau preswyl (e.e. cartrefi gofal).

Cofrestrau o bobl ag anableddau corfforol neu synhwyraidd

  • Roedd 45,083 o bobl ar gofrestrau anabledd corfforol neu synhwyraidd.
  • Roedd 11,749 o bobl wedi’u cofrestru â nam ar eu golwg; o’r rhain, roedd ychydig dros hanner wedi’u cofrestru â nam difrifol ar eu golwg ac ychydig llai na hanner â nam ar eu golwg. [troednodyn3]
  • Roedd 8,847 o bobl wedi’u cofrestru â nam ar eu clyw (heb nam ar eu golwg). [troednodyn4]
  • Roedd 24,487 o bobl wedi’u cofrestru ag anabledd corfforol yn unig. [troednodyn 5]

Troednodiadau

[1] nid oedd un awdurdod lleol yn gallu darparu data ar gyfer y rhai a oedd yn 18 oed a hŷn ac nid oedd awdurdod lleol arall yn gallu darparu data ar gyfer y rhai 65 oed a hŷn.
[2] nid oedd dau awdurdod lleol yn gallu darparu data ar gyfer y rheini sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain, ac nid oedd un yn gallu darparu data ar gyfer y rheini sy’n byw gyda’u rhieni neu gyda theulu.
[3] nid oedd un awdurdod lleol yn gallu darparu data ar gyfer pobl sydd wedi cofrestru bod ganddynt nam difrifol ar y golwg ac yn fyddar, a phobl sydd wedi cofrestru bod ganddynt nam ar y golwg ac yn fyddar heb leferydd.
[4] nid oedd un awdurdod lleol yn gallu darparu data ar gyfer pobl heb anabledd ar y golwg ac yn fyddar.
[5] nid oedd pedwar awdurdod lleol yn gallu darparu data ar gyfer pobl sydd wedi’u cofrestru ag anabledd corfforol yn unig.

Nodi

O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddfwriaeth y DU), mae’n ofynnol i awdurdodau lleol lunio a chadw cofrestrau o bobl sy’n breswylwyr fel arfer yn eu hardaloedd sydd â nam ar eu golwg, nam difrifol ar eu golwg, nam ar eu clyw, nam difrifol ar eu clyw, neu sydd â nam ar eu golwg a’u clyw sydd gyda’i gilydd yn cael effaith sylweddol ar eu bywydau o ddydd i ddydd. Yn ogystal, rhaid i awdurdodau lleol lunio a chadw cofrestr o blant anabl sy’n byw yn ardal yr awdurdod lleol, sydd â nam corfforol neu feddyliol sy’n arwain at anghenion gofal a chymorth, neu a allai arwain at yr anghenion hynny yn y dyfodol. Gall awdurdodau lleol hefyd gadw cofrestr o oedolion sy’n byw yn eu hardaloedd y mae’r meini prawf hyn yn berthnasol iddynt.

Er ei bod yn ofyniad cyfreithiol i awdurdodau lleol gadw cofrestrau anabledd, nid yw’n orfodol i rywun ag anabledd gofrestru gydag awdurdod lleol. Golyga hyn y gall nifer y bobl ar y cofrestrau fod yn llai na gwir nifer y bobl gydag anabledd. Yn ogystal, nid yw awdurdodau lleol yn diweddaru eu cofrestrau yn gyson sy’n golygu ei bod yn anodd gwybod pa mor ddibynnol yw’r data a gofnodwyd.

Credir mai’r gofrestr ar gyfer y rheini a nam difrifol ar y golwg yw’r gofrestr cywiraf gan fod angen i bobl â’r anabledd hwn fod ar y gofrestr er mwyn hawlio cymorth ariannol penodol. Fodd bynnag, ni ellir ystyried mai’r ffigurau yn y set ddata hon yw’r nifer bendant o bobl gydag anableddau.

Mae rhagor o ddata ar lefel awdurdod lleol ar gael ar StatsCymru.

Datganiad ansawdd

Mae’r data’n adlewyrchu’r sefyllfa ar systemau awdurdodau lleol ar 31 Mawrth 2022.

Cwblhawyd prosesau sicrhau ansawdd gydag awdurdodau lleol. Ni wnaeth pob awdurdod lleol ddychwelyd ffurflenni wedi’u cwblhau’n llawn. Nid oedd un awdurdod lleol yn gallu darparu data ar gyfer y rhieni sydd ag anabledd dysgu ac yn 18 oed a hŷn ac nid oedd awdurdod lleol arall yn gallu darparu data ar gyfer y rhieni sydd ag anabledd dysgu ac yn 65 oed a hŷn. Nid oedd dau awdurdod lleol yn gallu darparu data ar gyfer y rheini sydd ag anabledd dysgu sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain, ac nid oedd un yn gallu darparu data ar gyfer y rheini sy’n byw gyda’u rhieni neu gyda theulu. Nid oedd un awdurdod lleol yn gallu darparu data ar gyfer pobl sydd wedi’u cofrestru ag anableddau corfforol a bod ganddynt nam difrifol ar y golwg ac yn fyddar, pobl sydd wedi cofrestru bod ganddynt nam ar y golwg ac yn fyddar heb leferydd, a phobl heb anabledd ar y golwg ac yn fyddar. Nid oedd pedwar awdurdod lleol yn gallu darparu data ar gyfer pobl sydd wedi’u cofrestru ag anabledd corfforol yn unig.

Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd ar gael yn natganiad ystadegol dyddiedig 31 Mawrth 2019, Cofrestrau awdurdodau lleol o bobl anabl: ar 31 Mawrth 2019.

Hysbysiad terfynu

Ni fydd data cofrestrau anabledd (SSDA900 a SSDA901) yn cael eu casglu a’u cyhoeddi ar ôl y datganiad hwn.

Yn lle hynny, bydd casgliad data lefel unigolyn ar gyfer oedolion yn cael ei gasglu’n flynyddol gan ddechrau o fis Ebrill 2023, yn ogystal â chasgliad data lefel unigolyn newydd ar gyfer plant. Mae rhagor o fanylion am hyn yn y canllawiau ar gyfer mesur gweithgarwch a pherfformiad, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r Fframwaith Mesur Perfformiad o dan y Cod Ymarfer sy’n ymwneud â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol.

Bydd y Cyfrifiad Oedolion sy’n Derbyn Gofal a Chymorth newydd yn adlewyrchu’r Cyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal a Chymorth ac yn cynnig rhagor o wybodaeth am oedolion sydd â chynllun gofal a chymorth, gan gynnwys data mwy cadarn am anabledd. Mae’r set ddata hon wedi’i datblygu drwy feithrin cysylltiadau yn helaeth â rhanddeiliaid ac mae canllawiau manwl wedi’u datblygu. Mae’r Cyfrifiad Plant sy’n derbyn Gofal a Chymorth hefyd wedi’i adolygu gyda gofynion data newydd ar gyfer 2023-24.

I leihau’r baich ar awdurdodau lleol a pheidio â dyblygu casgliadau data, nid oes angen y datganiadau cofrestr anabledd ar ôl 2021-22.

Rhagwelir y bydd y data o’r Cyfrifiad Oedolion sy’n Derbyn Gofal a Chymorth newydd yn cael eu hadrodd yn ystod y gwanwyn 2025.

Ni fydd y casgliadau data lefel unigolyn yn cynnwys pobl sydd heb gynllun gofal a chymorth. Mae rhagor o wybodaeth am anabledd o fewn y boblogaeth gyffredinol ar gael o ganlyniadau Cyfrifiad 2021 (Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Os ydych chi’n defnyddio’r ystadegau hyn ac oes gennych chi unrhyw gwestiynau, e-bostiwch gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Bethan Sherwood

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.