Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am bobl ag anabledd dysgu, anabledd corfforol a synhwyraidd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y cyhoeddiad diweddaraf

Casglu data

Hysbysiad terfynu

Ni fydd data cofrestrau anabledd (SSDA900 a SSDA901) yn cael eu casglu a’u cyhoeddi ar ôl y datganiad hwn.

Yn lle hynny, bydd casgliad data lefel unigolyn ar gyfer oedolion yn cael ei gasglu’n flynyddol gan ddechrau o fis Ebrill 2023, yn ogystal â chasgliad data lefel unigolyn newydd ar gyfer plant. Mae rhagor o fanylion am hyn yn y canllawiau ar gyfer mesur gweithgarwch a pherfformiad, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r Fframwaith Mesur Perfformiad o dan y Cod Ymarfer sy’n ymwneud â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol.

Bydd y Cyfrifiad Oedolion sy’n Derbyn Gofal a Chymorth newydd yn adlewyrchu’r Cyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal a Chymorth ac yn cynnig rhagor o wybodaeth am oedolion sydd â chynllun gofal a chymorth, gan gynnwys data mwy cadarn am anabledd. Mae’r set ddata hon wedi’i datblygu drwy feithrin cysylltiadau yn helaeth â rhanddeiliaid ac mae canllawiau manwl wedi’u datblygu. Mae’r Cyfrifiad Plant sy’n derbyn Gofal a Chymorth hefyd wedi’i adolygu gyda gofynion data newydd ar gyfer 2023-24.

I leihau’r baich ar awdurdodau lleol a pheidio â dyblygu casgliadau data, nid oes angen y datganiadau cofrestr anabledd ar ôl 2021-22.

Rhagwelir y bydd y data o’r Cyfrifiad Oedolion sy’n Derbyn Gofal a Chymorth newydd yn cael eu hadrodd yn ystod y gwanwyn 2025.

Ni fydd y casgliadau data lefel unigolyn yn cynnwys pobl sydd heb gynllun gofal a chymorth. Mae rhagor o wybodaeth am anabledd o fewn y boblogaeth gyffredinol ar gael o ganlyniadau Cyfrifiad 2021 (Swyddfa Ystadegau Gwladol).