Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am bobl ag anabledd dysgu, anabledd corfforol a synhwyraidd ar 31 Mawrth 2021.

Prif bwyntiau

Cofrestrau o bobl ag anableddau dysgu[troednodyn a]

  • Roedd 13,676 o bobl ar gofrestrau o bobl ag anableddau dysgu; roedd 83% yn byw mewn lleoliadau cymunedol (e.e. yn byw gyda rhieni neu deulu), ac roedd 17% yn byw mewn lleoliadau preswyl (e.e. cartrefi gofal).

Cofrestrau o bobl ag anableddau corfforol neu synhwyraidd [troednodyn b]

  • Roedd 40,292 (r) o bobl ag anabledd corfforol neu synhwyraidd ar gofrestrau awdurdodau lleol.
  • Roedd 11,195 (r) o bobl wedi’u cofrestru â nam ar eu golwg; o’r rhain, roedd tua hanner wedi’u cofrestru â nam ar eu golwg a tua hanner â nam difrifol ar eu golwg.
  • Roedd 7,688 (r) o bobl wedi’u cofrestru â nam ar eu clyw (heb nam ar eu golwg).
  • Roedd 21,409 (r) o bobl wedi’u cofrestru ag anabledd corfforol yn unig [troednodyn c].

(r) Diwygiedig ar 7 Gorffennaf 2022.

Troednodiadau

[a] Nid oedd un awdurdod lleol yn gallu darparu’r data hyn ar gyfer y rheini sy’n 16 oed ac yn hŷn.
[b] Nid oedd un awdurdod lleol yn gallu darparu unrhyw ddata ar gyfer pobl sydd wedi’u cofrestru ag anableddau corfforol neu synhwyraidd.
[c] Nid oedd pum awdurdod lleol yn gallu darparu data ar gyfer pobl a oedd wedi’u cofrestru ag anabledd corfforol yn unig. Nid oedd un awdurdod lleol yn gallu darparu data ar gyfer y rheini sy’n 65 oed ac yn hŷn.

Nodi

O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol lunio a chadw cofrestrau o bobl sy’n breswylwyr fel arfer yn eu hardaloedd sydd â nam ar eu golwg, nam difrifol ar eu golwg, nam ar eu clyw, nam difrifol ar eu clyw, neu sydd â nam ar eu golwg a’u clyw sydd gyda’i gilydd yn cael effaith sylweddol ar eu bywydau o ddydd i ddydd. Yn ogystal, rhaid i awdurdodau lleol lunio a chadw cofrestr o blant anabl sy’n byw yn ardal yr awdurdod lleol, sydd â nam corfforol neu feddyliol sy’n arwain at anghenion gofal a chymorth, neu a allai arwain at yr anghenion hynny yn y dyfodol. Gall awdurdodau lleol hefyd gadw cofrestr o oedolion sy’n byw yn eu hardaloedd y mae’r meini prawf hyn yn berthnasol iddynt.

Mae’r broses o gofrestru yn wirfoddol a gall ffigurau felly fod yn is na’r amcangyfrif o’r nifer o bobl sydd â’r fath anableddau. Fodd bynnag, mae cofrestru nam difrifol ar y golwg yn rhagamod ar gyfer cael budd-daliadau ariannol penodol. Gall y nifer o bobl sy’n y categori hwn fod yn fwy dibynadwy na’r rheini sydd â nam rhannol ar eu golwg neu anableddau eraill. Mae’r ffactorau hyn, yn ogystal ag ansicrwydd ynglŷn â pha mor rheolaidd y caiff y cofrestrau eu hadolygu yn golygu bod dibynadwyedd yr wybodaeth hon yn anodd ei sefydlu. Ni ellir felly ei hystyried yn nifer pendant o bobl sydd ag anableddau.

Mae rhagor o ddata ar lefel awdurdod lleol ar gael ar StatsCymru.

Datganiad ansawdd

Mae’r ffigurau hyn yn adlewyrchu’r flwyddyn adrodd 2020-21 ac maent yn gywir ar 31 Mawrth 2021. Cwblhawyd prosesau sicrhau ansawdd gydag awdurdodau lleol. Ni wnaeth pob awdurdod lleol ddychwelyd ffurflenni wedi’u cwblhau’n llawn. Nid oedd un awdurdod lleol yn gallu darparu data ar gyfer y rhieni sydd ag anabledd dysgu ac sy’n 16 oed neu’n hŷn. Nid oedd un awdurdod lleol yn gallu darparu unrhyw ddata ar gyfer pobl sydd wedi’u cofrestru ag anableddau corfforol neu synhwyraidd. Nid oedd pedwar awdurdod lleol arall yn gallu darparu data ar gyfer pobl sydd ag anabledd corfforol yn unig, ac nid oedd un awdurdod lleol yn gallu darparu data ar gyfer y rheini sydd ag anabledd corfforol yn unig ac sy’n 65 oed neu’n hŷn.

Gellir dod o hyd i’r wybodaeth ynghylch ansawdd yn adroddiad Cofrestrau awdurdodau lleol o bobl anabl: ar 31 Mawrth 2019.

Mae dyfodol y casgliad data hwn yn cael ei ystyried ar hyn o bryd, fodd bynnag, disgwylir y bydd yn parhau ar gyfer 2021-22. Os ydych chi’n defnyddio’r ystadegau hyn, ac yr hoffech i ni fod yn ymwybodol ohonoch wrth i ni ystyried dyfodol yr allbwn hwn, a wnewch chi anfon e-bost at y cyswllt isod.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.