Neidio i'r prif gynnwy

Data am fynediad i orsafoedd, digwyddiadau ar drenau, marwolaethau ar reilffyrdd a throsedd ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Parhaodd pandemig y coronafeirws (COVID-19) i effeithio ar wasanaethau trafnidiaeth ar y rheilffyrdd yn 2021-22 (rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022), ond i raddau llai nag yn 2020-21.

Prif bwyntiau

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siwrneiau teithwyr rheilffordd i/o Gymru neu o fewn Cymru rhwng 1995–96 a 2021–22, roedd gynnydd yn nifer y siwrneiau gan deithwyr yn 2021–22 o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol.

  • Yn 2021-22, gwnaed 17.7 miliwn o siwrneiau ar y rheilffyrdd gan deithwyr a oedd naill ai wedi dechrau neu wedi gorffen ei siwrneiau yng Nghymru. Roedd hynny dros dair gwaith yn fwy nag yn ystod y flwyddyn gynt, ond yn ostyngiad o 41% o gymharu â 2019-20.
  • Roedd dros ddau draean (64%) o’r siwrneiau hynny yng Nghymru (Ffigur 1).
  • Cynyddodd nifer y siwrneiau gan deithwyr ar y rheilffyrdd yng Nghymru i 11.3 miliwn yn 2021-22.
  • Roedd nifer y siwrneiau gan deithwyr ar y rheilffyrdd yng Nghymru wedi mwy na threblu o gymharu â 2020-21, ond dim ond ychydig dros hanner y siwrneiau a wnaed yn 2019-20 oedd y nifer hwnnw.
  • Caerdydd oedd y cyrchfan mwyaf cyffredin ar gyfer siwrneiau yng Nghymru (4.4. miliwn o siwrneiau gan deithwyr), gan gyfrif am 38.9% o’r holl siwrneiau.
  • Yn 2021 bu farw 8 o bobl ar y rheilffyrdd, roedd 6 o’r rheini’n achosion o hunanladdiad.
  • Hunanladdiad sydd i gyfrif am y rhan fwyaf o’r marwolaethau ar y rheilffyrdd ers 2012.
  • Yn 2021-22, cynyddodd troseddau ar reilffyrdd Cymru 35% o gymharu â’r flwyddyn gynt, ond roedd nifer y troseddau’n debyg i’r nifer a welwyd yn 2019-20.
  • Rhoddwyd gwybod am 1,440 o droseddau hysbysadwy ar reilffyrdd Cymru yn 2021–22, cynnydd o 377 o gymharu â’r flwyddyn gynt.

Adroddiadau

Trafnidiaeth rheilffyrdd: Ebrill 2021 i Fawrth 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 527 KB

PDF
Saesneg yn unig
527 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

James Khonje

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.