Neidio i'r prif gynnwy

Data am fynediad i orsafoedd, digwyddiadau ar drenau, marwolaethau ar reilffyrdd a throsedd ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023.

Prif bwyntiau

Yn 2022-23 (1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023), gwnaed 23.5 miliwn o siwrneiau ar y rheilffyrdd gan deithwyr a oedd naill ai wedi dechrau neu wedi gorffen ei siwrneiau yng Nghymru. Roedd hynny yn gynnydd o 32.6% o gymharu â 2021-22, oedd wedi’u heffeithio gan gyfyngiadau teithio o ganlyniad i’r pandemig coronafeirws, ond yn ostyngiad o 21.5% o gymharu â 2019-20. 

  • Cynyddodd nifer y siwrneiau gan deithwyr ar y rheilffyrdd yng Nghymru gan 30.8% i 14.8 miliwn yn 2022-23.

Ffigur 1: Teithiau ar drenau i/o Gymru neu o fewn Cymru rhwng, 2014-15 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart llinell yn dangos cynnydd o 32.6% yn nifer y siwrneiau gan deithwyr yn 2022–23 o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o Dueddiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol, proffiliau defnydd rhanbarthol, Swyddfa Rheoleiddiwr y Rheilffyrdd

  • Caerdydd oedd y cyrchfan mwyaf cyffredin ar gyfer siwrneiau yng Nghymru (5.9 miliwn o siwrneiau gan deithwyr), gan gyfrif am 40% o’r holl siwrneiau. 
  • Yn 2023 bu farw 12 o bobl ar y rheilffyrdd, roedd y rhain i gyd achosion o hunanladdiad.
  • Hunanladdiad sydd i gyfrif am y rhan fwyaf o’r marwolaethau ar y rheilffyrdd ers 2012.
  • Yn 2022-23, roedd nifer y troseddau ar reilffyrdd Cymru yn debyg i’r nifer a welwyd y flwyddyn gynt ac wedi gostwng gan 1.7% o’i gymharu â 2019-20. 
  • Rhoddwyd gwybod am 1,430 o droseddau hysbysadwy ar reilffyrdd Cymru yn 2022–23, sy’n debyg i’r flwyddyn gynt.

Adroddiadau

Trafnidiaeth rheilffyrdd: Ebrill 2022 i Fawrth 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 516 KB

PDF
Saesneg yn unig
516 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

James Khonje

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.