Neidio i'r prif gynnwy

Meini Prawf

 

Pwysoliad (P)

Cydweddu Strategol – a yw'r cynllun yn dangos achos cadarn dros newid? A yw'n cyd-fynd â dibenion / amcanion y grant?

10

Llesiant – a yw'r cynllun yn cyd-fynd ag uchelgeisiau Llwybr Newydd Strategaeth Drafnidiaeth Cymru? A yw’n cynyddu’r cyfraniad at lesiant cymaint ag y bo modd? A yw’n cynnig gwerth am arian?

5

Rheoli – A ellir darparu’r cynllun ac a yw unrhyw gerrig milltir  wedi’u hesbonio?  A yw’r risgiau darparu wedi’u nodi a’u lliniaru? 

5

Fforddiadwyedd – beth yw cyfanswm cost y cynllun i’r Gronfa Trafnidiaeth Leol/ Cronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol? Sgorio:

<£0.2 miliwn = 5, £0.2 miliwn - £0.49 miliwn = 4, £0.5 miliwn - £0.99 miliwn = 3, £1 miliwn - £4.99 miliwn = 2, £5 miliwn - £9.99 miliwn = 1, £10 miliwn a throsodd = 0

4

Arian Cyfatebol – a oes arian cyfatebol ar gael? Sgorio: 0% = 0, 1%-9% = 1; 10%-19% = 2; 20%-29% =  3; 30%-39% = 4 ac ati

4

Cyflawnadwyedd  – sut bydd y cynllun yn cael ei gaffael? A yw'n hyfyw? A yw hyd y contract yn unol â thelerau ac amodau'r grant?

3

Monitro, Gwerthuso a Hyrwyddo – a yw’r cynnig yn cynnwys cynllun ar gyfer monitro, gwerthuso a hyrwyddo?

3

Nodiadau

a) Sgorio

5 = Rhagorol

4 = Da Iawn

3 = Da

2 = Boddhaol

1 = Gwael

0 = Dim neu Dim Tystiolaeth

b) Cyfrifo

Lluosir y pwysoliad â’r sgôr ar gyfer gwerthoedd yr asesiadau, ac maent i gyd yn cael eu hadio i roi’r gwerth terfynol.