Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu BVA BDRC i gynnal arolwg ymwelwyr fel rhan o werthusiad o frand marchnata Cymru a thwristiaeth. Nod y gwerthusiad hwn yw darparu gwybodaeth a thystiolaeth ar alw ym maes twristiaeth, canfyddiadau brand a pherfformiad gweithgareddau marchnata Croeso Cymru. Defnyddir y wybodaeth hon gan Croeso Cymru i helpu i ddeall anghenion ymwelwyr fel y gellir datblygu a hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru i ddiwallu’r anghenion hyn. Fel rhan o'r gwerthusiad hwn, bydd BVA BDRC yn casglu gwybodaeth trwy arolwg ar-lein dilynol.

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn copi o'r data a gasglwyd gan BVA BDRC.

Cynhwysir y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan BVA BDRC a Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Os hoffech gymryd rhan yn y raffl am gyfle i ennill un o dair gwobr o £100 yr un, gofynnir i chi roi eich cyfeiriad e-bost. Mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Y person cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn BVA BDRC yw:
Jon Young
E-bost: jon.young@bva-bdrc.com
Rhif ffôn: 020 7400 1010

Pa ddata personol sydd gennym ni a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr’.

Anfonir arolwg ailgysylltu Croeso Cymru at gysylltiadau a gaiff eu recriwtio drwy arolygon Croeso Cymru ar-lein a all fod ar wefan Croeso Cymru, gwefannau cyfryngau cymdeithasol neu wefannau trydydd parti. Fel rhan o’r broses recriwtio hon, gwnaethoch ddarparu eich cyfeiriad e-bost a’r wlad a/neu’r rhanbarth yr ydych yn byw ynddi i Croeso Cymru, a rhoi eich cydsyniad i Croeso Cymru gysylltu â chi i gymryd rhan yn yr arolwg hwn. Bydd Croeso Cymru yn anfon y gwahoddiadau e-bost i'r arolwg.

Nid yw'r ymchwil hwn yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol gennych chi. Wrth ymateb i'r arolwg drwy'r ddolen yn yr e-bost nid yw eich cyfeiriad e-bost yn cael ei ddal fel rhan o ddata'r arolwg. Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol mewn ymatebion testun agored byddwn yn ceisio peidio â’ch adnabod o’r ymatebion a roddwch, na chysylltu eich hunaniaeth â nhw. Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o ddata'r ymchwil.

Cyrchir eich ymatebion i’r arolwg gan BVA BDRC, sy’n cynnal y dadansoddiad ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu gael nodyn atgoffa yna atebwch yr e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu.

Pan fyddwch chi'n cwblhau'r arolwg bydd gennych chi'r opsiwn i gymryd rhan mewn raffl am un o dair gwobr o £100. Os penderfynwch gymryd rhan, mae dolen yn yr arolwg i fynd â chi i dudalen we Croeso Cymru ar wahân i roi eich cyfeiriad e-bost a’ch enw. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost na'ch enw yn rhan o'ch ymateb i'r arolwg sy'n parhau i fod yn ddienw. Mae hyn yn gwbl wirfoddol ac nid oes angen i chi roi eich cyfeiriad e-bost na'ch enw os nad ydych am gymryd rhan yn y raffl.

Bydd Llywodraeth Cymru (Croeso Cymru) yn cynnal y raffl ar 10 Chwefror 2023. Bydd Llywodraeth Cymru yn cysylltu ag enillwyr y raffl a bydd gofyn iddynt hawlio eu gwobr o fewn saith diwrnod. Unwaith y bydd y wobr wedi’i hawlio, rhennir cyfeiriad e-bost yr enillydd gyda BVA BDRC er mwyn trefnu i’r wobr gael ei dosbarthu. Os na fydd yr enillydd yn hawlio'r wobr o fewn yr amser hwn byddwn yn dyfarnu'r wobr i ymgeisydd arall a ddewiswyd ar hap ymhlith y cystadleuwyr sy'n weddill.

Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Gallai’r wybodaeth a gasglwyd yn yr ymchwil hwn, er enghraifft, gael ei defnyddio i fesur effaith marchnata Croeso Cymru.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i BVA BDRC bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Bydd BVA BDRC yn defnyddio'r data hwn at ddibenion ymchwil yn unig. Mae gan BVA BDRC ardystiad Hanfodion Seiber.

Wrth gynnal arolygon, mae BVA BDRC yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolwg o'r enw Decipher. Rydym wedi sicrhau bod Decipher yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir trwy’r feddalwedd (er enghraifft, mae’r holl ddata’n cael ei brosesu yn y DU).

Mae gan BVA BDRC weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Os oes amheuaeth o dorri amodau, bydd BVA BDRC yn adrodd hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Mae gwybodaeth bersonol a roddir i Lywodraeth Cymru ar gyfer y raffl yn cael ei storio bob amser ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o staff sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion gweithredu'r raffl y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data hwn.

Bydd BVA BDRC yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?

Bydd unrhyw ddata personol a roddir mewn ymateb i gwestiynau testun agored yn cael ei ddileu gan BVA BDRC cyn i’r data gael ei ddadansoddi, o fewn mis i ddyddiad cau’r arolwg. Bydd BVA BDRC yn darparu data arolwg i Lywodraeth Cymru dim ond ar ôl i ddata mewn cwestiynau testun agored gael eu hanonymeiddio.

Bydd BVA BDRC yn prosesu'r cyfeiriadau e-bost ar gyfer enillwyr y raffl yn unig, er mwyn cyflwyno'r gwobrau. Bydd BVA BDRC yn dileu cyfeiriadau e-bost enillwyr gwobrau o fewn wythnos i dderbyn y wobr.

Llywodraeth Cymru fydd yn cadw’r cyfeiriadau e-bost ar gyfer unrhyw un sy’n dewis ymuno â’r raffl. Byddwn yn parhau i gadw eich data personol a ddarparwyd gennych yn flaenorol i Croeso Cymru (eich cyfeiriad e-bost a manylion y wlad a/neu’r rhanbarth yr ydych yn byw ynddi) o dan y trefniadau a ddarparwyd gennych yn wreiddiol. Bydd y set ddata e-bost ar gyfer cynigion am wobrau yn cael ei dileu ar 10 Ebrill 2023.

Hawliau unigol

O dan y GDPR, mae gennych chi'r hawliau canlynol o ran yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r arolwg hwn:

  • i weld copi o'ch data eich hun
  • i ofyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • i wrthwynebu neu gyfyngu gwaith prosesu (mewn amgylchiadau penodol)
  • i'ch data gael ei 'ddileu' (mewn amgylchiadau penodol)
  • i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef eich rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Gwybodaeth bellach

Os oes gennych ragor o gwestiynau am y ffordd y bydd y data a ddarparwch fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu'n awyddus i arfer eich hawliau gan ddefnyddio’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

David Stephens
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru
Rhif ffôn: 0300 025 5236

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 ENQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru