Ruth Glazzard Cadeirydd
Ruth Glazzard yw Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru.
Mae Ruth hefyd yn cadeirio Panel Sicrwydd Annibynnol Rheoleiddio Tai Llywodraeth Cymru. Mae ganddi sawl rôl anweithredol. Mae'r rhain yn cynnwys Is-gadeirydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Cyn hynny, gwasanaethodd Ruth fel aelod o fwrdd Coastal Housing a Chanolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru. Mae ganddi gefndir mewn gwasanaethau ariannol, rheoleiddio a llywodraethu. Mae ganddi hefyd brofiad sylweddol o fod ar fwrdd. Mae hyn yn cynnwys gwaith fel aelod annibynnol a chadeirydd byrddau archwilio a safonau llywodraeth leol.
Mae Ruth yn wreiddiol o Dde Cymru. Mae wedi gweithio i fanciau a chymdeithasau adeiladu ledled y DU. Yn 2006, ymunodd â'r rheoleiddiwr gwasanaethau ariannol. Yma bu'n gweithio mewn rolau gweithredol a rheoleiddiol trwy argyfwng ariannol 2008. Parhaodd i weithio yno trwy newidiadau diweddarach i'r system reoleiddio.
Ar ôl gweithio'n rhyngwladol fel pennaeth llywodraethu i Standard Chartered Bank, dychwelodd Ruth i Gymru. Mae hi bellach yn canolbwyntio ar ei gyrfa anweithredol tra’n magu ei theulu ifanc.
