Dysgwch ragor am frechiadau rheolaidd a'r clefydau y maent yn amddiffyn eich plentyn rhagddynt.
Cynnwys
Trosolwg
Mae brechiadau i blant yn ffordd bwysig o amddiffyn eich plentyn rhag salwch difrifol.
Mae brechiadau a ddefnyddir yn ein rhaglenni imiwneiddio'r GIG yn achub bywydau, gyda miliynau o blant ar hyd a lled y byd yn eu derbyn yn ddiogel.
Cyn ei gyflwyno, mae pob brechlyn yn destun profion trylwyr, sy'n cynnwys sawl cam o dreialon clinigol i sefydlu diogelwch, ansawdd ac effeithiolrwydd y brechlyn cyn y gellir ei awdurdodi a'i drwyddedu i'w ddefnyddio gan y cyhoedd.
Mae data helaeth o'r treialon hyn yn cael eu hadolygu, gan sicrhau bod brechlynnau yn bodloni safonau uchel ar gyfer atal clefydau a diogelu iechyd y cyhoedd.
Ar ôl cyflwyno brechlyn, mae asiantaethau iechyd y cyhoedd annibynnol yn monitro i wneud yn siŵr o'i effeithiolrwydd a'i ddiogelwch parhaus.
Caiff eich plentyn ei wahodd i gael ei frechiadau rheolaidd ar gamau penodol o'i ddatblygiad. Ceir crynodeb o'r rhain yn yramserlen imiwneiddio rheolaidd.
O 1 Gorffennaf 2025, diweddarwyd yr amserlen reolaidd, gyda newidiadau pellach o 1 Ionawr 2026. Mae rhagor o wybodaeth am y diweddariadau ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru: Newidiadau i'r amserlen imiwneiddio i blant - Iechyd Cyhoeddus Cymru
Brechlyn 6 mewn 1
Caiff y brechlyn DTaP/IPV/Hib/HepB, a elwir hefyd yn frechlyn 6 mewn 1, ei roi mewn un pigiad. Mae'n amddiffyn yn effeithiol rhag 6 chlefyd difrifol:
- difftheria
- tetanws
- y pas (pertwsis)
- polio
- haemophilus influenzae math b (Hib)
- hepatitis B
Caiff y brechlyn 6 mewn 1 ei gynnig i'ch baban fel rhan o'i frechiadau rheolaidd cyntaf pan fydd yn:
- 8 wythnos oed
- 12 wythnos oed
- 16 wythnos oed
- 18 mis (o 1 Ionawr 2026)
Mae angen i fabanod gael pob dos o'r brechlyn hwn er mwyn eu hamddiffyn yn llawn. Siaradwch â'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os yw eich baban wedi colli unrhyw ddosau.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y brechlyn a'r clefydau y mae'n amddiffyn rhagddynt ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Brechlyn rotafeirws
Mae haint rotafeirws yn achosi dolur rhydd a chwydu difrifol mewn babanod a phlant ifanc. Mae'r brechlyn rotafeirws yn amddiffyn eich baban rhag cael ei heintio.
Caiff y brechlyn rotafeirws ei gynnig i'ch baban gyda'i frechiadau eraill pan fydd yn:
- 8 wythnos oed
- 12 wythnos oed
Mae angen rhoi 2 frechiad rotafeirws i fabanod, un 4 wythnos ar ôl y llall, er mwyn eu hamddiffyn yn llawn.
Os bydd eich baban yn colli un o'r brechiadau, mae modd iddo gael ei ddos cyntaf hyd at 15 wythnos oed a'i ail ddos hyd at 24 wythnos oed.
Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn rhag y rotafeirws ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Brechlyn meningococol grŵp B (MenB)
Y brechlyn MenB yw'r ffordd fwyaf diogel ac effeithiol o amddiffyn eich baban rhag bacteria meningococol grŵp B, sy'n gallu achosi llid yr ymennydd a sepsis. Mae'r rhain yn glefydau difrifol, sy'n gallu bod yn angheuol hefyd.
Caiff y brechlyn MenB ei gynnig i'ch baban pan fydd yn:
- 8 wythnos oed
- 12 wythnos oed
- 12 i 13 mis oed (brechiad atgyfnerthu)
Caiff eich baban apwyntiad i gael y brechiad MenB, ar y cyd â'i frechiadau rheolaidd eraill. Mae angen rhoi 3 dos o'r brechlyn MenB i fabanod er mwyn eu hamddiffyn yn llawn. Siaradwch â'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os yw eich plentyn wedi colli unrhyw ddosau.
Mae rhagor o wybodaeth am MenB a'r brechlyn ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Brechlyn niwmococol cyfun
Haint niwmococol yw un o'r achosion mwyaf cyffredin o lid yr ymennydd. Mae hefyd yn achosi heintiau clust, niwmonia a rhai afiechydon difrifol eraill.
Mae'r brechlyn niwmococol cyfun yn darparu amddiffyniad rhag haint niwmococol.
Caiff y brechlyn hwn ei gynnig i'ch baban fel rhan o'i frechiadau rheolaidd pan fydd yn:
- 16 wythnos oed
- 12 i 13 mis oed
Siaradwch â'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os yw eich baban wedi colli unrhyw ddosau o'r brechlyn.
Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn niwmococol cyfun ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Brechlyn Hib/MenC
Gall heintiau haemophilus influenzae math b (Hib) a meningococol grŵp C (MenC) achosi llid yr ymennydd a sepsis. Mae'r rhain yn glefydau difrifol, sy'n gallu bod yn angheuol.
Roedd y brechlyn hwn yn cael ei roi i fabanod yn eu hapwyntiad brechlyn 12 mis. O 1 Gorffennaf 2025, nid yw'r brechlyn Hib/MenC bellach yn cael ei roi fel rhan o'r rhaglen brechiadau rheolaidd i blant, gan fod y cynnyrch yn cael ei derfynu gan y gwneuthurwr.
Nid yw'r rhan MenC o'r brechlyn yn cael ei ddisodli. Mae hyn oherwydd llwyddiant y brechlyn MenACWY, a roddir i bobl ifanc yn eu harddegau, sy'n helpu i amddiffyn rhag llid yr ymennydd A, C, W ac Y. Felly, mae'n bwysig felly bod pobl ifanc yn eu harddegau'n manteisio ar y brechlyn i gadw'r amddiffyniad hwn.
Bydd babanod yn dal i gael cynnig y brechlyn Hib, a fydd yn cael ei roi yn 18 mis oed fel rhan o apwyntiad brechlyn 6 mewn 1 newydd.
Siaradwch â'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os yw eich baban wedi colli unrhyw ddosau o'r brechlyn.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am heintiau Haemophilus influenzae math b (Hib) a llid yr ymennydd C (MenC) a'r brechlynnau sydd ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Brechlyn y frech goch, clwy'r pennau a rwbela (MMR)
O 1 Ionawr 2026, bydd newidiadau i'r brechlyn MMR sy'n cael ei roi ar hyn o bryd i blant 12 mis oed a 3 blwydd a 4 mis oed. Bydd brechiad varicella newydd yn cael ei gyflwyno i amddiffyn babanod a phlant rhag brech yr ieir. Bydd hwn yn cael ei gyfuno â'r brechlyn frech goch, clwy'r pennau a rwbela mewn un brechlyn MMRV.
Bydd y brechlyn MMRV yn amddiffyn rhag heintiau difrifol: y frech goch, clwy'r pennau, rwbela a varicella (brech yr ieir). Mae'r rhain yn glefydau cyffredin, heintus sy'n gallu arwain at gymhlethdodau difrifol, a all fod yn angheuol.
Mae angen 2 ddos er mwyn cwblhau cwrs cyflawn o'r brechiad MMRV. Er mwyn diogelu eich plentyn yn gynt, bydd y rhain yn cael eu cynnig i'ch babi yn:
- 12 mis oed
- 18 mis oed
Mae brigiadau o achosion o'r frech goch a chlwy'r pennau wedi bod yn ddiweddar yng Nghymru. Mae'n bwysig sicrhau eich bod chi a'ch plant wedi cael eich brechiadau MMR diweddaraf.
Os bydd eich plentyn yn colli dos o'r brechlyn, mae modd iddo ei gael beth bynnag fydd ei oedran. Os nad ydych yn siŵr a ydych chi neu'ch plentyn wedi cael dau ddos o'r brechlyn, cysylltwch â'ch practis meddyg teulu cyn gynted â phosibl. Gallant wirio'ch cofnodion a threfnu brechiad dal i fyny os oes angen. Mae mwy o wybodaeth am y newidiadau sydd ar ddod i'r brechlyn MMR ar gael yma: Brechiad rheolaidd varicella (brech yr ieir) ar gyfer plant ifanc o 1 Ionawr 2026 (WHC/2025/046) [HTML] | LLYW.CYMRU ac ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Brechlyn atgyfnerthu 4 mewn 1
Mae'r brechlyn DTaP/IPV, a elwir hefyd yn frechlyn 4 mewn 1, yn helpu i amddiffyn rhag 4 gwahanol glefyd:
- difftheria
- tetanws
- pertwsis (y pas)
- polio
Mae'r brechlyn 4 mewn 1 yn effeithiol iawn o ran atgyfnerthu'r amddiffyniad a roddir gan y brechlyn 6 mewn 1. Caiff ei gynnig i'ch plentyn fel brechiad atgyfnerthu cyn ysgol pan fydd yn:
- 3 blwydd a 4 mis oed
Siaradwch â'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os yw eich plentyn wedi colli unrhyw ddosau o'r brechlyn.
Caiff y brechlyn 4 mewn 1 ei gynnig yn ystod beichiogrwydd hefyd er mwyn helpu i amddiffyn y baban rhag y pas. Siaradwch â’ch bydwraig neu’ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael rhagor o wybodaeth.
Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn 4 mewn 1 a'r clefydau y mae'n amddiffyn rhagddynt ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Brechlyn y ffliw
Mae’r ffliw yn feirws sy’n gallu achosi salwch difrifol a marwolaeth. Gall unrhyw un gael y ffliw, ond mae’r lefelau heintio uchaf ymhlith plant, a gall y ffliw fod yn ddifrifol iddynt. Bob blwyddyn, mae brechlynnau’r ffliw yn cael eu newid i gyd-fynd â'r feirysau ffliw sydd ar led y flwyddyn honno, fel bod pobl yn cael yr amddiffyniad gorau.
Bob blwyddyn, mae brechlyn y ffliw yn cael ei gynnig i blant rhwng 2 ac 16 oed. Mae hyn yn cynnwys:
- pob plentyn sy'n 2 neu 3 oed ar 31 Awst bob blwyddyn
- pob plentyn mewn ysgol gynradd
Hefyd, mae plant chwe mis oed neu hŷn yn gymwys os oes ganddynt unrhyw un o'r cyflyrau iechyd hirdymor sy’n golygu bod mwy o risg iddynt os byddant yn dal y ffliw.
Mae brechiadau'r ffliw yn cael eu rhoi rhwng mis Medi a mis Mawrth. Os ydych chi’n meddwl y gallai eich plentyn fod wedi colli ei gyfle i gael y brechiad, cysylltwch â nyrs yr ysgol neu eich meddygfa.
Os nad yw'ch plentyn yn yr ysgol neu os yw'n cael ei addysgu gartref, bydd yn gallu cael brechlyn y ffliw yn y feddygfa pan ddaw’r amser.
Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn rhag y ffliw ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
