Dysgwch ragor am y brechiadau rheolaidd sy'n cael eu cynnig i blant ac oedolion ifanc dros 12 oed.
Cynnwys
Brechlyn HPV
Mae HPV yn feirws cyffredin iawn, sy'n cael ei drosglwyddo'n rhywiol. Mae’n gallu achosi gwahanol fathau o ganser yn ogystal â dafadennau gwenerol. Nid oes symptomau gan y rhan fwyaf o bobl, ac ni fyddant yn gwybod bod y feirws ganddynt.
Mae'n bwysig cael y brechlyn HPV er mwyn amddiffyn rhag amrywiaeth o ganserau sy'n gallu codi'n ddiweddarach mewn bywyd, gan gynnwys:
- canser ceg y groth
- canser yr anws
- canserau'r organau cenhedlu
- canserau'r pen a'r gwddf
Drwy gael y brechlyn nawr, gallwch amddiffyn eich hun rhag risgiau yn y dyfodol.
O fis Medi 2023, bydd y brechlyn HPV yn cael ei gynnig fel un dos i fechgyn a merched:
- 12 i 13 oed (blwyddyn ysgol 8)
Yn y gorffennol, mae'r brechlyn HPV wedi'i gynnig fel dau ddos. Mae tystiolaeth arbenigol bellach yn dangos bod un dos yn rhoi'r un lefel o amddiffyniad i bobl ifanc â'r ddau ddos blaenorol. O fis Medi 2023, os ydych wedi derbyn un dos o frechlyn HPV, rydych wedi'ch brechu'n llawn yn erbyn HPV ac ni fydd angen unrhyw ddosau ychwanegol.
Os ydych chi neu eich plentyn wedi colli'r cyfle i gael y brechiad HPV yn yr ysgol, mae modd ichi gael y brechlyn hyd at eich pen-blwydd yn 25 oed. Siaradwch â thîm imiwneiddio eich ysgol neu eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i drefnu hyn.
Mae dynion hoyw a deurywiol a dynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion yn gymwys i gael y brechlyn HPV hyd at 45 oed. Gofynnwch i'ch meddyg teulu neu i weithiwr gofal iechyd proffesiynol mewn clinig iechyd rhywiol am ragor o wybodaeth.
Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn HPV ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Brechiad atgyfnerthu 3 mewn 1 i bobl yn eu harddegau
Mae'r brechiad Td/IPV, a elwir hefyd yn frechiad atgyfnerthu 3 mewn 1 i bobl yn eu harddegau, yn helpu i amddiffyn rhag tri gwahanol glefyd:
- tetanws
- difftheria
- polio
Caiff y brechlyn ei gynnig i bobl ifanc rhwng 13 a 14 oed fel rhan o'u brechiadau rheolaidd.
Siaradwch â'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os ydych chi neu eich plentyn wedi colli unrhyw un o'r dosau a roddir fel rhan o'r brechlyn 6 mewn 1 neu'r brechlyn 4 mewn 1.
Mae rhagor o wybodaeth am y brechiad atgyfnerthu 3 mewn 1 i bobl yn eu harddegau a'r clefydau y mae'n amddiffyn rhagddynt ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Brechlyn Men B
Meningococol Grŵp B (Men B) yw’r achos mwyaf cyffredin o glefyd meningococol ymledol yn y DU. Er ei fod yn brin, gall y clefyd hwn achosi llid yr ymennydd a sepsis, dau gyflwr a all ddatblygu’n gyflym a pheryglu bywyd.
Mae achosion o Men B yn cael eu cofnodi ledled Cymru a’r DU bob blwyddyn. Mae clystyrau a brigiadau o achosion yn digwydd fel rheol mewn amgylcheddau lle mae pobl ifanc yn cymysgu â’i gilydd yn glòs, er enghraifft mewn clybiau nos a neuaddau preswyl. Ym mis Mawrth 2026 cafwyd brigiad digynsail o achosion o Men B yn bennaf ymhlith myfyrwyr Prifysgol Caint a chafwyd adroddiadau o glystyrau annhymhorol mewn mannau eraill yn y DU yn ddiweddar.
Bydd rhaglen frechu Men B yn cael ei chyflwyno am gyfnod cyfyngedig ar draws holl wledydd y DU o fis Gorffennaf 2026 tan fis Rhagfyr 2026. Yng Nghymru bydd y byrddau iechyd yn cyflwyno’r rhaglen o 20 Gorffennaf 2026.
Nod y rhaglen hon yw amddiffyn y rhai sy’n wynebu’r risg uchaf. Y rhai hynny yw:
- pob unigolyn a anwyd rhwng 01/09/2007 a 31/08/2008 (17 i 18 oed)
- unrhyw un o dan 25 oed (unigolion a anwyd ar ôl 31/12/2001) sy’n mynd i addysg uwch neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf o hydref 2026, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr o Weinyddiaethau Datganoledig y DU a Thiriogaethau Dibynnol ar y Goron.
Mae’r brechlyn yn cael ei gynnig mewn rhaglen dau ddos. Bydd unigolion rhwng 17 ac 18 oed yn cael llythyr gwahoddiad gan eu bwrdd iechyd o 6 Gorffennaf 2026 yn rhoi manylion am sut i gael eu brechlyn. Bydd angen i unigolion o dan 25 oed (unigolion a anwyd ar ôl 31/12/2001) a fydd yn mynd i addysg uwch neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf yr hydref hwn, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol, gysylltu â’u bwrdd iechyd lleol ar ôl 20 Gorffennaf 2026 i gael rhagor o wybodaeth. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y rhaglen ar Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae rhestr o sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach breswyl ledled Cymru a wedi’i hatodi isod
Rhestr o sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru
- Prifysgol Aberystwyth
- Prifysgol Bangor
- Prifysgol Caerdydd
- Prifysgol Metropolitan Caerdydd
- Prifysgol Abertawe
- Prifysgol De Cymru (Caerdydd, Casnewydd a Phontypridd)
- Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (Llanbedr Pont Steffan, Abertawe a Chaerfyrddin)
- Prifysgol Wrecsam
Rhestr o sefydliadau addysg bellach sydd â darpariaeth breswyl yng Nghymru
- Coleg Iwerydd (Bro Morgannwg)
- Coleg Beechwood (Bro Morgannwg)
- Coleg Bevan (Pen-y-bont ar Ogwr)
- Coleg Cambian Pengwern (Rhuddlan, Sir Ddinbych)
- Coleg Cambria (Campws Llysfasi, Wrecsam)
- Coleg Elidyr (ger Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin)
- Coleg Plas Dwbl (Clynderwen, Sir Benfro)
- Coleg Gŵyr (Abertawe)
- Grŵp Llandrillo Menai (Campws Glynllifon)
Brechlyn MenACWY
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae achosion o lid yr ymennydd a septisemia o ganlyniad i MenW wedi bod yn cynyddu yng Nghymru. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n cael clefyd meningococol yn adfer yn llawn, ond mae heintiau MenW yn ddifrifol iawn. Gallant fod yn angheuol a gallant arwain at broblemau iechyd hirdymor.
Mae'r brechlyn MenACWY yn amddiffyn yn dda rhag heintiau difrifol a achosir gan glefydau meningococol (Men) A, C, W ac Y. Nid yw'r brechlyn MenACWY yn amddiffyn rhag straen meningococol grŵp B (MenB) y clefyd.
Caiff y brechiad MenACWY ei gynnig i:
- bobl ifanc rhwng 13 a 14 oed fel rhan o'u brechiadau rheolaidd
- unigolion o dan 25 oed sy'n bwriadu mynd i’r brifysgol, os nad ydynt eisoes wedi cael y brechlyn
Os nad ydych chi neu eich plentyn wedi cael y brechlyn eto, siaradwch â'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i drefnu i'w gael nawr.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Brechlyn y ffliw
Mae'r ffliw yn feirws sy'n gallu arwain at salwch difrifol a marwolaeth. Mae’r ffliw yn lledaenu bron bob gaeaf ac mae'r feirws yn newid yn gyson. Bob blwyddyn, mae brechlynnau’r ffliw yn cael eu newid i gyd-fynd â'r feirysau ffliw sydd ar led y flwyddyn honno, fel bod pobl yn cael yr amddiffyniad gorau.
Bob blwyddyn, mae brechlyn y ffliw yn cael ei gynnig i blant rhwng 2 ac 16 oed. Mae hyn yn cynnwys:
- Pob plentyn ym mlynyddoedd ysgol 7 i 11
Mae brechiadau’r ffliw yn cael eu rhoi rhwng mis Medi a mis Mawrth. Os gwnaethoch chi neu'ch plentyn golli'r cyfle, cysylltwch â nyrs yr ysgol neu â’ch meddygfa.
Os nad yw plant yn yr ysgol neu os ydynt yn cael eu haddysgu gartref, gallant gael eu brechlyn ffliw gan eu meddygfa pan ddaw’r amser.
Mae rhagor o wybodaeth am frechlyn y ffliw ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
