Neidio i'r prif gynnwy

Pwy sy'n gymwys i gael brechiadau rheolaidd a ble i gael rhagor o wybodaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Brechlyn niwmococol

Gall heintiau niwmococol arwain at glefydau difrifol megis sepsis a llid yr ymennydd. Mae'r heintiau mwyaf difrifol yn tueddu i godi ymhlith:

  • plant
  • pobl hŷn
  • pobl â chyflyrau iechyd penodol 

Mae’r brechlyn niwmococol yn frechlyn diogel sy'n gallu helpu i atal rhai o'r mathau difrifol o heintiau niwmococol.

Pwy sy'n gymwys

Rydym yn cynnig brechlyn niwmococol i:

  • bobl 65 oed a throsodd
  • plant o dan 2 oed, fel rhan o'u brechiadau rheolaidd
  • rhai unigolion â chyflyrau meddygol sy'n bodoli eisoes fel y'u diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd (gov.uk) 

Mae modd i bobl sy'n gymwys gael y brechlyn niwmococol ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. Gallwch drefnu i gael y brechlyn drwy eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Brechlyn yr eryr

Mae’r rhaglen brechu rhag yr eryr wedi ei hestyn yng Nghymru i ddiogelu unigolion o oedran iau. Mae hyn yn cyd-fynd â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Darllenwch ragor am y newidiadau i bwy sy’n gymwys i gael eu brechu rhag yr eryr.

Mae’r cymhwystra presennol wedi’i estyn i:

  • unigolion sydd â system imiwnedd sy’n gallu cynhyrchu ymateb priodol pan fyddant yn troi’n 65 oed
  • pob unigolyn sydd â system imiwnedd sy’n gallu cynhyrchu ymateb priodol rhwng 70 ac 79 oed sydd eisoes yn gymwys i gael brechlyn rhag yr eryr
  • unigolion sydd ag imiwnedd gwan iawn sy’n 18 oed a throsodd

Mae rhagor o wybodaeth am bwy sy’n gymwys i gael eu brechu yn y Llyfr Gwyrdd ar Imiwneiddio - Pennod 28a yr eryr (publishing.service.gov.uk).

Cael eich brechu rhag yr eryr

Mae’r brechlyn rhag yr eryr ar gael mewn meddygfeydd yng Nghymru. Dylai eich meddygfa gysylltu â chi i drefnu apwyntiad pan fyddwch yn dod yn gymwys i gael eich brechu. Os na fyddant yn cysylltu â chi, neu os byddwch yn meddwl eich bod wedi methu’r gwahoddiad, cysylltwch â’ch meddygfa a dywedwch wrthynt eich bod yn meddwl y dylech gael eich brechu rhag yr eryr.

Mae’r eryr yn gallu taro unigolion o unrhyw oed. Ond mae’r risg, a pha mor ddifrifol fydd y salwch ac unrhyw gymhlethdodau yn cynyddu wrth i rywun fynd yn hŷn – mae hyn yn arbennig o wir yn achos unigolion sydd ag imiwnedd gwan iawn. Mae’n bwysig sicrhau bod y rheini sydd yn wynebu’r risg fwyaf yn cael eu brechu, a dyma’r rheswm pam rydym ni yng Nghymru yn gweithredu cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.

I gael gwybod rhagor am y brechlyn rhag yr eryr neu am y clefydau y mae’r brechlyn yn diogelu pobl rhagddynt, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gallwch hefyd ffonio GIG 111 Cymru neu eich meddygfa i gael cyngor os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Gwybodaeth am newidiadau i bwy sy’n gymwys i gael eu brechu 

Fel mewn mannau eraill o’r DU, mae’r newid i gymhwystra unigolion sydd â system imiwnedd sy’n gallu cynhyrchu ymateb priodol wedi’i gynllunio mewn dau gam yng Nghymru. Am gyfnod o 5 mlynedd, sydd wedi dechrau ers 2023, bydd yr ymgyrch yn brechu y rhai sy’n troi’n 65 oed a’r rheini sy’n troi’n 70 oed. Am gyfnod o 5 mlynedd arall wedi hynny, o 2028 ymlaen, bydd y rheini sy’n troi’n 60 oed a’r rheini sy’n troi’n 65 oed yn cael cynnig i gael eu brechu. 

Bwriedir felly, o 2028 ymlaen, gynnig brechlyn fel mater o drefn i’r unigolion hynny sydd â system imiwnedd sy’n gallu cynhyrchu ymateb priodol, pan fyddant yn troi’n 60 oed. Fodd bynnag, bydd estyn y rhaglen hon yn y dyfodol yn amodol ar gyngor diweddaraf y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. 

Mae rhagor o fanylion ar gael yma: Newidiadau i frechiadau yn erbyn yr eryr (WHC/2023/024)| LLYW. CYMRU