Neidio i'r prif gynnwy

Yn esbonio pwy sy'n gymwys i gael y cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol a sut i wneud cais.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae'r Cynllun Cymhelliant AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol yn gynllun cyfreithiol a wnaed gan Weinidogion Cymru. Mae'r cynllun hwn ar gael o flwyddyn academaidd 2022 i 2023. Mae’n cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru Wrth-hiliol ac i gynyddu nifer yr athrawon sydd o gymunedau ethnig lleiafrifol, fel bod gan ddysgwyr Cymru weithlu addysgu mwy amrywiol.

Mae myfyrwyr sy'n dilyn Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) (llawn-amser a rhan-amser) sy’n arwain at SAC yn gymwys i hawlio’r grant hwn ar yr amod eu bod yn bodloni'r meini prawf.

Nid yw myfyrwyr sy'n ymgymryd ag unrhyw Gynllun Hyfforddi Athrawon ar sail Cyflogaeth, gan gynnwys y TAR Cyflogedig, yn gymwys i gael y grant hwn.

Nid yw’r cynllun hwn yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni hyfforddi sy'n eu galluogi i addysgu yn y Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol.

Nid yw’r cynllun hwn yn berthnasol i fyfyrwyr a oedd yn gymwys, efallai, ond a oedd yn dilyn rhaglenni AGA cymwys cyn Medi 2022. 

Mae'r canllawiau hyn yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2022 i 2023. Dylid darllen y canllawiau hyn ochr yn ochr â’r cynllun cyfreithiol sy’n ymwneud â’r flwyddyn astudio berthnasol sy’n amlinellu gofynion statudol y cynllun.

Blwyddyn academaidd 2022 i 2023 

Gwnaed Cynllun AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol (LlC23-04) ("y Cynllun") gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2023. Dylid darllen y Cynllun ochr yn ochr â’r wybodaeth ar y dudalen hon.

Mae Cynllun LlC23-04 yn weithredol o 1 Medi 2022 ar gyfer myfyrwyr cymwys yng Nghymru sy’n bodloni’r meini prawf ac sydd, rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023, yn dechrau ar raglen AGA sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig.

Pwy sy’n gymwys ar gyfer y Cynllun Cymhelliant AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol

Mae’r grantiau cymhelliant AGA sydd ar gael yn adlewyrchu’r blaenoriaethau recriwtio cyfredol o fewn y gweithlu addysgu yng Nghymru.

Mae’r grant cymhelliant ar gael ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn rhaglenni cymwys llawn-amser a rhan-amser.

Mae'r cynllun cyfreithiol yn nodi gofynion statudol y cynllun. Gweler y cynllun sy’n gysylltiedig â’r flwyddyn astudio berthnasol.

Rhaglenni cymwys

Mae rhaglen yn gymwys os yw’n rhaglen AGA ôl-raddedig lawn-amser neu ran-amser, gynradd neu uwchradd yng Nghymru, sydd wedi'i hachredu, ac sy'n arwain at SAC.

Pwy sy'n gymwys

I fod yn gymwys i gael Grant Cymhelliant AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol, rhaid i fyfyriwr:

  • fod wedi dilyn rhaglen gymwys yng Nghymru a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi ond cyn 31 Awst y flwyddyn astudio
  • bod yn gymwys am gymorth ariannol o dan reoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 
  • peidio â bod yn athro cymwysedig eisoes wrth ddechrau astudio tuag at SAC
  • peidio â bod wedi’i gyflogi i addysgu mewn ysgol neu sefydliad arall fel athro neu athrawes wrth ddechrau ar raglen AGA ôl-raddedig gymwys
  • peidio â bod yn dilyn hyfforddiant a drefnwyd o dan gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth, gan gynnwys y TAR cyflogedig
  • uniaethu â myfyrwyr o un o’r grwpiau ethnig canlynol a datgan hynny i'w Partneriaeth AGA:

Asiaidd:

  • Bangladeshaidd neu Fangladeshaidd Prydeinig
  • Tsieinïaidd neu Dsieinïaidd Prydeinig
  • Indiaidd neu Indiaidd Prydeinig
  • Pacistanaidd neu Bacistanaidd Prydeinig
  • Unrhyw gefndir Asiaidd arall

Du, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd:

  • Affricanaidd neu Affricanaidd Prydeinig
  • Caribïaidd neu Garibïaidd Prydeinig
  • Unrhyw gefndir Du arall

Grwpiau cymysg neu aml-ethnig:

  • Gwyn neu Wyn Prydeinig ac Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig
  • Gwyn neu Wyn Prydeinig a Du Affricanaidd neu Ddu Affricanaidd Prydeinig
  • Gwyn neu Wyn Prydeinig a Du Caribïaidd neu Ddu Caribïaidd Prydeinig
  • Unrhyw gefndir Cymysg neu Aml-ethnig arall

Gwyn:

  • Gwyn, Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig
  • Gwyn, Roma

Grŵp ethnig arall:

  • Arabaidd

I fod yn gymwys i gael rhandaliad SAC, rhaid i fyfyriwr:

  • fodloni'r gofynion cymhwysedd ar gyfer y Cynllun Cymhelliant AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol 
  • bod wedi cwblhau rhaglen AGA gymwys yn llwyddiannus ac ennill SAC yn unol â Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012

I fod yn gymwys i gael y rhandaliad olaf, ar ôl cwblhau’r broses sefydlu, rhaid i athro newydd gymhwyso:

  • fod wedi bodloni'r gofynion cymhwysedd ar gyfer y grant a bod wedi derbyn taliad cymhelliant SAC
  • bod wedi cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus a chael tystysgrif sefydlu o fewn tair blynedd ar ôl ennill SAC mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, fel sy’n ofynnol o dan Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015.

Mae myfyrwyr sy'n gymwys ar gyfer y cynllun cymhelliant hwn hefyd yn gymwys i hawlio cymhellion hyfforddiant athrawon eraill ar yr amod eu bod yn bodloni meini prawf cymhwysedd y cynlluniau hynny sy'n ymwneud â'r flwyddyn astudio academaidd berthnasol.

Os oes gennych gwestiynau ynghylch cymhwysedd, dylech eu trafod gyda’ch Partneriaeth AGA.

Pa grant sydd ar gael a phryd caiff taliadau eu gwneud

O dan y cynllun hwn mae grant cymhelliant o hyd at £5,000 ar gael i bob myfyriwr sy'n bodloni’r meini prawf cymhwysedd. 

Gwneir dau randaliad o £2,500 i fyfyrwyr cymwys:

  • £2,500 ym mis Gorffennaf/Awst ar ôl cwblhau TAR yn llwyddiannus a dyfarnu SAC (Pan fydd myfyriwr yn cael ei asesu gan fwrdd arholi sy’n delio ag ail geisiadau, bydd y taliadau yn cael eu gwneud cyn 31 Rhagfyr)
  • £2,500 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru

Sut caiff taliadau eu gwneud 

Gweinyddir Cynllun Cymhelliant AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol gan Llyowdraeth Cymru ac ar ran Llywodraeth Cymru gan Bartneriaethau AGA a Chyngor y Gweithlu Addysg. Os hoffech drafod a ydych yn gymwys neu wneud cais am grant, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y grant hwn, cysylltwch â’ch Partneriaeth AGA.

Bydd myfyrwyr cymwys yn cael eu taliad SAC gan eu Partneriaeth AGA. Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y cymelldaliad olaf ar ôl cwblhau cyfnod sefydlu yn llwyddiannus a chael tystysgrif sefydlu.

Datganiad y Myfyriwr a Chofrestru

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud Cymru yn genedl wrth-hiliol ac i gynyddu nifer yr athrawon sydd o gymunedau ethnig lleiafrifol, fel bod gan ddysgwyr Cymru weithlu addysgu mwy amrywiol. Mae’r grantiau cymhelliant AGA sydd ar gael yn adlewyrchu’r blaenoriaethau recriwtio cyfredol o fewn y gweithlu addysgu yng Nghymru. Mae yna feini prawf cymhwysedd ar gyfer pob un o’r cynlluniau cymhelliant AGA.

Rydym yn gofyn i fyfyrwyr sy’n gwneud cais am y Grant Cymhelliant AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol am wybodaeth am eu hethnigrwydd. Gwneir hyn er mwyn sefydlu p’un a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun; i ddeall yr amrywiaeth gyffredinol sydd o fewn y garfan o fyfyrwyr; ac i geisio amcangyfrif amrywiaeth gweithlu'r dyfodol. Gofynnwn ichi ddewis o restr o grwpiau ethnig sy'n adlewyrchu'r rhai a ddefnyddir gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, er mwyn sicrhau dull cyson o ddeall amrywiaeth ethnig o fewn addysg uwch yng Nghymru.

Bydd Partneriaethau AGA yn darparu Ffurflen Gofrestru i fyfyrwyr cymwys i’w llofnodi ar ddechrau eu rhaglen AGA. Mae hyn yn cadarnhau eu bod yn gymwys ac yn ei gwneud yn bosibl gwneud taliadau o dan y cynllun hwn. Mae’r Ffurflen Gofrestru yn gofyn i fyfyrwyr gadarnhau eu bod wedi darllen a deall yr wybodaeth sydd ar y gwe-dudalennau hyn. Os na dderbynnir y cadarnhad hwn, ni ellir gwneud taliadau grant.

Caiff yr wybodaeth ar y Ffurflen Gofrestru ar gyfer y cynllun cymhelliant ei rhannu â phartneriaethau AGA a Llywodraeth Cymru. 

I gael gwybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud â’ch gwybodaeth mewn perthynas â’r cynllun hwn, ewch i adran Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth.

Taliad SAC

Gwneir y taliad SAC i bob myfyriwr cymwys ar ôl cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy'n arwain at SAC (ar ôl dyfarnu SAC).

Mae Partneriaethau AGA y myfyrwyr yn gyfrifol am wneud y taliadau SAC, a nhw fydd yn penderfynu ar yr union ddyddiad. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau atyn nhw.

Ni fydd gan fyfyrwyr sy’n methu ag ennill SAC hawl i gael y taliad SAC.

Y cymelldaliad olaf 

Gwneir y cymelldaliad olaf i bob athro newydd gymhwyso cymwys ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru ac ar ôl cael tystysgrif sefydlu. Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn gyfrifol am wneud y taliad hwn. 

Bydd gofyn i chi lenwi ffurflenni hawlio anwytho (A1 ac A2). Os nad ydych wedi derbyn ffurflenni hawlio, cysylltwch ag ITEIncentives@llyw.cymru.

Ni ellir hawlio’r cymelldaliad olaf oni bai bod y myfyriwr cymwys wedi hawlio’n llwyddiannus ac wedi derbyn y taliad SAC o dan y cynllun cymhelliant hwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am wneud y cymelldaliad olaf, a nhw fydd yn penderfynu ar yr union ddyddiad. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau at  iteincentives@llyw.cymru.

Rhaid i chi hawlio'r cymelldaliad olaf o fewn blwyddyn i gwblhau eich cyfnod sefydlu, neu ni fydd modd gwneud y taliad. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod wedi hawlio’r taliad.

Gohirio, tynnu'n ôl ac ailgydio

Os bydd myfyriwr yn ailgydio mewn rhaglen AGA mewn blwyddyn academaidd wahanol i'r flwyddyn pan ddechreuwyd astudiaethau’r myfyriwr neu pan gawsant eu gohirio, gwneir taliadau ar yr un gyfradd (os o gwbl) a oedd yn weithredol y flwyddyn academaidd pan ddechreuwyd astudiaethau’r myfyriwr neu pan gawsant eu gohirio, oni bai bod Llywodraeth Cymru yn cytuno fel arall yn ysgrifenedig.

Dychwelyd at Raglen AGA yn ystod blwyddyn academaidd 2022 i 2023

Ni fydd myfyrwyr a ddechreuodd eu rhaglen AGA cyn Medi 2022, ac sy’n dychwelyd i gwblhau eu rhaglen ar neu ar ôl 1 Medi 2022, yn gymwys ar gyfer y cynllun cymhelliant hwn.

Taliad SAC

Os bydd myfyriwr yn gohirio ei astudiaethau cyn ennill SAC, ni fydd yn gymwys i gael y taliad SAC. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau ac yn ennill SAC, bydd ganddo hawl i’r taliad SAC pan ddyfernir SAC iddo. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy'n arwain at SAC (ar ôl dyfarnu SAC) ac yn unol â'r amodau hyn.

Os bydd myfyriwr yn ailgydio mewn rhaglen AGA mewn blwyddyn academaidd wahanol, bydd angen llenwi Ffurflen Ohirio ac Ailgydio. Caiff yr wybodaeth ar y ffurflen a ddaw i law ei rhannu â Phartneriaethau AGA a Llywodraeth Cymru.

Ni fydd gan fyfyrwyr nad ydynt yn ennill SAC ar ddiwedd eu rhaglen AGA hawl i gael y taliad SAC.

Y cymelldaliad olaf

Ni fydd gan fyfyrwyr sy’n gymwys i gael grant cymhelliant ac sy'n ennill SAC, ond nad ydynt yn cwblhau’r broses sefydlu o fewn y cyfnod penodedig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, hawl i gael y cymelldaliad olaf.

Rhaid cwblhau'r broses sefydlu yn llwyddiannus o fewn tair blynedd i ennill SAC mewn lleoliad a gynhelir yng Nghymru er mwyn parhau i fod yn gymwys i dderbyn y cymelldaliad olaf.

Adennill grantiau

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i adennill grantiau a dalwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Mae ganddynt ddisgresiwn i arfer y pwerau hyn ai peidio, a byddant yn ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod.

Caniateir i’r pwerau hyn gael eu harfer gan Weinidogion Cymru:

  • os bydd y derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad o grant cymhelliant, yn methu â bodloni unrhyw feini prawf cymhwysedd a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru ac a nodir yn y cynllun cyfreithiol neu'r canllaw hwn mewn perthynas â rhandaliad dilynol, neu
  • os yw’r derbynnydd, yn ei gais am grant, neu mewn cysylltiad â’r cais hwnnw, wedi darparu gwybodaeth ffug neu wybodaeth sy’n gamarweiniol mewn ffordd berthnasol, neu
  • os oes tystiolaeth ddigamsyniol nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau'r rhaglen neu nad oedd yn fwriad ganddo, ar ôl ei chwblhau, fynd i addysgu, neu
  • os yw Cyngor y Gweithlu Addysg wedi dirymu’r SAC a ddyfarnwyd a / neu’r dystysgrif sefydlu.
  • and or Induction has been revoked by the EWC

Diogelu data a Rhyddid gwybodaeth

Mae’r wybodaeth y mae myfyrwyr yn ei chyflwyno, fel rhan o'u hawliad o dan Gynllun Cymhelliant AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (“y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth"), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr "EIR"), Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018 (“y Ddeddf Diogelu Data").

Mae myfyrwyr hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr:

  • a ddylid datgelu unrhyw wybodaeth yr ydym wedi’i chael o dan neu mewn cysylltiad â’r Cyllid i’r graddau y mae’n ofynnol inni ddatgelu gwybodaeth o’r fath i berson sy’n gwneud cais am ddatgeliad o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r EIR; a/neu
  • a yw unrhyw wybodaeth wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r EIR
  • a ddylid cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych. Mae angen y gwiriadau hyn i brosesu data personol amdanoch i asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y mae'n ei chael. Bydd unrhyw ddata personol a gasglwn yn cael ei reoli yn unol â'n Hysbysiad Preifatrwydd (PN00001019) a’n 'Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru'.

Grantiau cymhelliant AGA eraill sydd ar gael

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu tri chynllun cymhelliant sydd ar gael i fyfyrwyr. Bydd Partneriaethau AGA yn gweithio gyda’u myfyrwyr i helpu i nodi’r unigolion hynny sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer pob cynllun. Bydd angen llenwi ffurflen gofrestru bob un ar gyfer y cynlluniau. Bydd hyn yn cadarnhau bod yr unigolion yn gymwys ac yn ei gwneud yn bosibl i’r taliadau gael eu gwneud o dan y cynllun perthnasol. Mewn rhai achosion, efallai y bydd myfyriwr yn gymwys am bob cynllun.

Effaith ar gymorth ariannol arall

A yw'r grant cymhelliant yn drethadwy?

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) yn adran anweinidogol o Lywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gasglu trethi. Nid yw grantiau cymhelliant fel arfer yn drethadwy i fyfyrwyr amser llawn. Fodd bynnag, dylai myfyrwyr geisio cyngor gan CThEM ar eu hamgylchiadau unigol.

Dylid gofyn am gyngor pellach ynghylch y cymelldaliad olaf. Efallai y bydd y cymelldaliad olaf yn drethadwy i’r unigolion hynny sydd mewn cyflogaeth.

Beth fydd effaith y grant cymhelliant ar gymorth arall i fyfyrwyr?

Ni chaiff grant cymhelliant ei ystyried yn rhan o'ch incwm ar gyfer darpariaethau cyllid myfyrwyr sy'n seiliedig ar incwm y cartref. Felly, ni ddylid ei gynnwys wrth gyfrifo eich incwm trethadwy sydd heb ei ennill. Fodd bynnag, dylai myfyrwyr geisio cyngor gan eu darparwr cyllid myfyrwyr ar eu hamgylchiadau unigol.

Beth fydd effaith y grant cymhelliant ar fudd-daliadau?

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn adran o Lywodraeth y DU sy'n gyfrifol am bolisi lles a phensiwn. Dylech ofyn am gyngor ganddynt ar eich amgylchiadau unigol.

A fydd y grant cymhelliant yn golygu bod rhaid imi ddechrau ad-dalu fy menthyciad fel myfyriwr?

Na, ddim os ydych yn dilyn cwrs llawn-amser. Fodd bynnag, os ydych yn dilyn cwrs rhan-amser, bydd eich sefyllfa yn dibynnu ar p’un a ydych hefyd yn ennill cyflog (drwy waith nad yw'n gysylltiedig ag AGA) sy'n ddigon uchel ichi orfod dechrau ad-dalu benthyciadau myfyriwr.

Efallai y bydd rhaid ichi ddechrau ad-dalu eich benthyciad ar ôl ichi gwblhau eich rhaglen, ennill SAC a dechrau ennill cyflog fel athro.

Sut caiff y grant hyfforddi ei dalu?

A chymryd bod yr holl feini prawf cymhwysedd perthnasol wedi’u bodloni a bod y dogfennau wedi’u darparu, gwneir dau randaliad i’ch cyfrif banc. Gwneir y taliadau ar wahân i gymelldaliadau eraill.

A yw’r grant cymhelliant yn bensiynadwy?

Nac ydy.

A yw athrawon yn gymwys ar gyfer y grant cymhelliant os yw eu swydd addysgu yn ystod y broses sefydlu mewn ysgol annibynnol, coleg chweched dosbarth neu sefydliad addysg bellach?

Nac ydynt. I hawlio’r grant hyfforddi, rhaid i’r unigolyn fod wedi cwblhau’r broses sefydlu mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru.

Enillais Statws Athro Cymwysedig drwy drefniant ar sail cyflogaeth – ydw i’n gymwys am y grant cymhelliant?

Nac ydych. Nid yw athrawon sy’n ennill Statws Athro Cymwysedig drwy drefniant ar sail cyflogaeth, gan gynnwys y TAR Cyflogedig, yn gymwys i gael y grant cymhelliant.

A oes rhaid imi ddatgan fy ethnigrwydd i’m Partneriaeth AGA er mwyn cael y cymhelliant hwn?

Oes. Rhaid i fyfyrwyr ddatgan eu bod yn uniaethu ag un o’r grwpiau ethnig yn y meini prawf cymhwysedd, fel y gall Partneriaethau AGA gadarnhau eu bod yn gymwys i hawlio’r cymhelliant hwn a gweinyddu’r grant.

A allaf hawlio a chael y taliad sefydlu os nad wyf wedi cael y taliad SAC?

Na allwch. Rhaid ichi fod wedi cael y taliad cyntaf er mwyn bod yn gymwys am y taliad olaf.

A fydd gennyf hawl i grant cymhelliant Iaith Athrawon Yfory?

Nid yw bod yn gymwys i gael y grantiau cymhelliant o dan y cynllun hwn yn effeithio ar eich cymhwysedd i gael grant cymhelliant Iaith Athrawon Yfory. Mae'n bosibl cael arian grant o dan y ddau gynllun. Ceir rhagor o wybodaeth yn Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory.

A fydd gennyf hawl i grant cymhelliant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth?

Nid yw bod yn gymwys i gael y grantiau cymhelliant o dan y cynllun hwn yn effeithio ar eich cymhwysedd i gael grant cymhelliant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth. Mae'n bosibl cael arian grant o dan y ddau gynllun. Ceir rhagor o wybodaeth yn Cynllun Cymhelliant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth.

Manylion cyswllt

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.