Neidio i'r prif gynnwy

Cylch gorchwyl y Gweithgor ar Wahardd Arferion Trosi.

Y cyd-destun strategol

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd gwahardd arferion trosi ar frys yng Nghymru, mewn perthynas â chyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd.

Gwnaed ymrwymiad gan Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, mewn datganiad ar 26 Ebrill 2022 i 'ddefnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i wahardd pob agwedd ar therapi trosi LHDTC+ a cheisio datganoli unrhyw bwerau ychwanegol angenrheidiol', a sefydlu Gweithgor o arbenigwyr i gynghori ar elfennau allweddol o'r gwaith hwn.

Pwrpas

Bydd y Gweithgor Anstatudol yn cynghori ar gamau arfaethedig i wahardd arferion trosi yng Nghymru. Bydd yn archwilio mesurau deddfwriaethol a rhai anneddfwriaethol, a fyddai'n sicrhau bod cymunedau LHDTC+ yn cael eu hamddiffyn, gan sicrhau bod rhyddid yn cael ei ddiogelu, sy’n cynnwys rhyddid i lefaru, a rhyddid crefydd a chred.

Bydd y Grŵp yn bodoli am gyfnod penodol (chwe mis), a’r prif nod fydd cyflwyno argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth i Weinidogion a swyddogion polisi, er mwyn llywio’r ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn dod ag arferion trosi i ben.

Gan gydnabod natur ymgynghorol y Grŵp, bydd Gweinidogion Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ystyried yr argymhellion a wneir gan y Grŵp yn ofalus.

Cylch gwaith a swyddogaeth

Pwrpas y Grŵp fydd cynnig cyngor ar wahardd arferion trosi yng Nghymru.

Bydd gan y Gweithgor y prif swyddogaethau canlynol:

  • argymell diffiniad cytûn o arferion trosi
  • cynghori ar gamau ychwanegol posibl i wahardd arferion trosi
  • cynghori ar allu ac addasrwydd gwasanaethau cymorth presennol ar gyfer goroeswyr yng Nghymru
  • cynghori ar gynllunio ymgyrch i addysgu am beryglon arferion trosi a thynnu sylw at wasanaethau cymorth

Aelodau

Mewn adroddiad cyntaf o'i fath a gyhoeddwyd yn 2019, canfu OutRight International fod arferion trosi yn digwydd bron ym mhob man yn y byd. Crefydd, ffydd, neu ysbrydolrwydd oedd y rhesymau a ddyfynnwyd amlaf dros gael therapi trosi. Mae data ar bobl yn y DU a gafodd arferion trosi yn crybwyll y canlynol:

  • dywedodd tua 51% fod sefydliad neu grŵp ffydd wedi’u cynnal
  • dywedodd tua 19% fod darparwyr gofal iechyd neu weithiwr meddygol proffesiynol wedi’u cynnal
  • dywedodd tua 16% iddynt gael eu cynnal mewn tŷ neu leoliad teuluol

Felly, bydd aelodaeth y Gweithgor yn cynnwys unigolion sy'n arbenigwyr yn y meysydd canlynol:

  • grwpiau cymorth LHDTC+
  • sefydliadau a chymunedau ffydd a chred
  • iechyd a gofal cymdeithasol
  • iechyd meddwl
  • hawliau'r plentyn a hawliau dynol
  • pobl sydd â phrofiad bywyd personol o arferion trosi

Adroddwyd am arferion trosi mewn lleoliadau iechyd meddwl, seiciatrig a lleoliadau gofal iechyd eraill, yn ogystal â lleoliadau crefyddol. Felly, bydd yn hanfodol deall safbwyntiau cyfredol y grwpiau hynny.

Bydd y Gweithgor yn cynnwys unigolion a fydd yn cael eu gwahodd ar sail eu harbenigedd a/neu eu profiad mewn perthynas ag arferion trosi. Bydd y gwahoddiad i’r unigolion hynny’n un uniongyrchol na ellir eu dirprwyo i unigolyn arall.

Bydd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn penodi’r aelodau a gaiff eu gwahodd i’r grŵp.

Caiff y gweithgor ei gadeirio gan un o uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru. A darperir yr ysgrifenyddiaeth gan uwch-swyddogion polisi LHDTC+.

Gweithredu’r grŵp a’r cofnodion

Bydd y Grŵp yn cyfarfod tua unwaith y mis am chwe mis, a hyd at gyfanswm o chwe chyfarfod, er mwyn trafod materion ac argymhellion i gyflawni ei amcanion. Cynhelir y cyfarfodydd yn rhithiol gan amlaf, ond gellir cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb pe byddai angen. Caiff y trafodaethau eu cofnodi, ond ni fydd yr hyn a gofnodir yn cael ei briodoli i unigolion penodol.

Bydd adroddiadau interim, cyngor ac argymhellion terfynol yn cael eu darparu i'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol.

Gallai’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol hefyd ofyn am gyngor gan Banel Arbenigwyr LHDTC+ wrth iddi ystyried cyngor ar y pwnc hwn. Caiff un aelod o’r Panel o Arbenigwyr ei wahodd i ymuno â chyfarfod y Gweithgor i sicrhau cyfathrebu dwy ffordd rhwng y ddau grŵp.

Amgylchedd gwaith

Mae disgwyl i bob aelod ddangos parch at ei gilydd, at swyddogion Llywodraeth Cymru ac at unrhyw rai eraill sy'n cynnig gwybodaeth neu dystiolaeth.

Gall trafod arferion trosi a chyngor yn y maes hwn fod yn drawmatig ar gyfer goroeswyr. Bydd angen mesurau diogelu ar bob aelod sy’n  ymgysylltu'n uniongyrchol â goroeswyr. Ar ddechrau pob cyfarfod, bydd ymwadiad yn cael ei ddarllen yn ymwneud â sensitifrwydd y maes, rhybuddion sbardun a pharch. Bydd hyblygrwydd o ran hyd cyfarfodydd yn cael ei sicrhau i ganiatáu rhediad sgwrs a rhannu gwybodaeth pan fo angen – ac agendâu wedi'u cynllunio yn unol â hynny.

Ni fydd cofnodion a sylwadau’n cael eu priodoli i unigolion penodol na sefydliadau, er mwyn iddynt aros yn anhysbys.

Dylai unrhyw gŵyn am aelod nad yw’n bodloni’r safonau uchel a ddisgwylir gan yr holl aelodau o ran eu hymddygiad gael ei chyfeirio at y cadeirydd, neu at swyddogion polisi LHDTC+ a fydd yn trafod y mater â’r cadeirydd yn y lle cyntaf.

Os na fydd modd datrys cwyn yn gyflym, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig gwasanaeth cyfryngu i sicrhau bod y grŵp yn gallu parhau i weithredu’n effeithiol.

Os na ellir dod i ddatrysiad trwy wasanaeth cyfryngu, gall swyddogion gynnig argymhellion i’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Gallai’r Dirprwy Weinidog dynnu aelodau o’r grŵp yn y pen draw os bydd angen.

Mae pob penderfyniad a wnaed gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn y cyswllt hwnnw yn derfynol.