Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Ym Mehefin 2021, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd adolygiad o gynlluniau ffyrdd newydd sydd wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Sefydlwyd y panel Adolygu Ffyrdd gydag aelodaeth yn cynnwys arbenigwyr annibynnol ym maes polisi trafnidiaeth, newid hinsawdd, peirianneg priffyrdd, a'r sector cludo nwyddau a logisteg. Cadeirydd y panel oedd Dr Lynn Sloman MBE.

Fe gyflwynodd y panel ei Adroddiad Terfynol i Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2022. Diolchwn i'r Panel am eu gwaith cynhwysfawr, eu hamser a'u hymroddiad.

Cefndir

Trafnidiaeth yw 15% o gyfanswm ein hallyriadau yng Nghymru a dyma yw'r sector arafaf i leihau lefelau llygredd nwyon tŷ gwydr dros y 30 mlynedd diwethaf, er gwaethaf gwelliannau ym maes technoleg peiriannau ceir. Mae'r newid i gerbydau allyriadau isel iawn bellach ar y gweill, gyda gwerthiant ceir trydan yn cynyddu. Fodd bynnag, mae angen i ni leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn gyflymach nag y byddai'r cyfnod pontio hwn yn ei gyflawni – mae Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd wedi dweud yn glir nad yw newid i gerbydau trydan yn ddigon i gyrraedd ein targedau. Mae angen inni hefyd leihau'r niwed eraill sy'n gysylltiedig â thraffig y ffyrdd.

Ers degawdau, mae cynyddu capasiti ar gyfer ceir ar ein rhwydwaith ffyrdd wedi cael ei weld fel ateb i broblemau trafnidiaeth. Mae hyn wedi cyfrannu at ddibyniaeth gynyddol ar y car preifat, gan arwain at dwf trefol ac mewn sawl achos yn gwaethygu tagfeydd, sy'n cael effaith economaidd ac yn achosi problemau mynediad yn ogystal â phroblemau cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae arnom angen dull sy'n sicrhau buddion cymdeithasol ac economaidd, sy'n cyd-fynd â pholisïau defnydd tir, datgarboneiddio a thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru ac sy'n helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd gyda'i gilydd.

Pwrpas yr Adolygiad Ffyrdd

Cafodd yr adolygiad ei gomisiynu oherwydd pryderon bod rhai cynlluniau buddsoddi ffyrdd oedd yn cael eu datblygu ddim yn gyson â pholisïau Llywodraeth Cymru bellach, yn enwedig yr argyfwng hinsawdd a natur. Pwrpas yr adolygiad oedd:

  • sicrhau bod buddsoddi mewn ffyrdd yn cyd-fynd yn llawn â'r gwaith o gyflawni uchelgeisiau a blaenoriaethau Strategaeth Trafnidiaeth Cymru, Rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer ymrwymiadau’r Llywodraeth a Sero Net Cymru
  • datblygu cyfres o feini prawf sy'n nodi amgylchiadau priodol ar gyfer gwario cyllid Llywodraeth Cymru ar ffyrdd
  • defnyddio'r meini prawf hyn i argymell pa brosiectau cyfredol y ffyrdd ddylid eu cefnogi, eu haddasu, neu gael cefnogaeth wedi'i dynnu'n ôl
  • darparu canllawiau ar ailddyrannu gofod ffordd ar rannau o'r rhwydwaith ffyrdd a allai elwa yn y dyfodol o wella
  • styried sut y gellid dyrannu unrhyw arbedion, er mwyn sicrhau bod problemau ar y rhwydwaith ffyrdd yn cael sylw, ac yn benodol i wneud argymhellion ar sut i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o gynnal a chadw ffyrdd.

Argymhellion y Panel

Mae adroddiad y panel Adolygu Ffyrdd yn nodi:

  • profion ar y dibenion a'r amodau ar gyfer buddsoddi mewn ffyrdd a fyddai'n gyson â Strategaeth Trafnidiaeth Cymru, Net Sero Cymru a'r Rhaglen Lywodraethu, ac
  • asesiad y panel o bob un o'r cynlluniau ffyrdd sy’n cael eu hadolygu, gydag argymhellion.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae ymateb i'r argymhellion yn ddarn cymhleth o waith, sydd wedi ei gymhlethu ymhellach gan y gostyngiad sylweddol yn ein pŵer gwariant, a achosir gan y lefelau uchaf erioed o chwyddiant a chamreolaeth Llywodraeth y DU o'r economi.

Doedd dim cyllid cyfalaf ychwanegol yn Natganiad yr Hydref ar gyfer naill ai 2023-24 na 2024-25 - mae hyn yn golygu y bydd cyllideb gyfalaf gyffredinol Llywodraeth Cymru 8.1% yn is mewn termau real yn 2024-25. Rydym felly wedi ystyried ein hymateb i'r Adolygiad Ffyrdd yng ngoleuni'r sefyllfa gyllidol ac economaidd sy'n dirywio.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried cyngor ac argymhellion y panel yn ofalus yn unol â Llwybr Newydd, Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, sy'n cyflwyno gweledigaeth ar gyfer system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy ac effeithlon sy’n:

  • cyfrannu at Gymru fwy cyfartal a iachach, sydd gan bawb yr hyder i'w defnyddio
  • yn darparu gostyngiad sylweddol mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr, yn cynnal bioamrywiaeth ac yn gwella gwytnwch ecosystemau, ac yn lleihau gwastraff
  • yn cyfrannu at ein huchelgeisiau economaidd ehangach, ac yn helpu cymunedau lleol, yn cefnogi cadwyn gyflenwi fwy cynaliadwy, yn defnyddio'r datblygiadau arloesol diweddaraf ac yn mynd i'r afael â fforddiadwyedd trafnidiaeth
  • yn cefnogi'r Gymraeg, yn galluogi mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy i gyrraedd gweithgareddau celfyddydol, chwaraeon a diwylliannol, a gwarchod a gwella'r amgylchedd hanesyddol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ystyried aliniad gyda Sero Net Cymru, Cymru’r Dyfodol – y Cynllun Cenedlaethol, a'r Genhadaeth o ran Cadernid ac Ailadeiladu Economaidd.  Mae trafodaethau traws-lywodraethol hefyd wedi digwydd i sicrhau bod y ffordd ymlaen yn ystyried effeithiau ar draws ein holl nodau lles. Mae Llywodraeth Cymru'n derbyn yr egwyddorion craidd a'r dull gweithredu newydd sydd wedi eu nodi yn adroddiad y panel.

Profion adeiladu ffyrdd yn y dyfodol

Gan ystyried yr Adolygiad Ffyrdd, amcanion polisi ehangach a'i gyd-destun, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod rôl buddsoddi mewn ffyrdd wrth gefnogi'r 'economi lles' – sy'n gyrru ffyniant, sy'n amgylcheddol gadarn, ac yn helpu pawb i wireddu eu potensial.

Mae angen i bob ffordd newydd gyfrannu tuag at sicrhau shifft moddol - er mwyn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a lleihau tagfeydd ar y rhwydwaith ffyrdd ar gyfer cludo nwyddau. Rydym yn datblygu Cynllun Cludo Nwyddau a fydd yn archwilio opsiynau ar gyfer newid moddol ar gyfer cludo nwyddau gan ei fod yn aml yn anymarferol ar hyn o bryd i ddefnyddio dulliau cynaliadwy. O ganlyniad, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried buddsoddi mewn ffyrdd (newydd a rhai presennol) o dan yr amgylchiadau canlynol:

  1. Cefnogi newid moddol a lleihau allyriadau carbon. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau nad yw buddsoddi mewn ffyrdd yn y dyfodol yn cynyddu'r galw am deithio mewn ceir preifat yn unig. Yn hytrach, mae angen i ni gyflawni cynlluniau sy'n cyfrannu'n ystyrlon at newid moddol, a fydd yn galw am ddulliau gwahanol o weithredu mewn gwahanol rannau o Gymru.
  2. Gwella diogelwch trwy newidiadau ar raddfa fach. Rhaid i ddiogelwch ar y rhwydwaith ffyrdd fod yn hollbwysig. Dylai buddsoddiadau ar gyfer diogelwch ganolbwyntio ar broblemau diogelwch penodol sydd i gael sylw (yn hytrach na gwelliannau ehangach i'r ffyrdd a chynnydd yng nghapasiti'r ffordd). Dylid ystyried terfynau cyflymder fel un o'r prif ddulliau o wella diogelwch.
  3. Addasu i effeithiau newid hinsawdd. Mae newid hinsawdd eisoes yn cael effaith ar ein rhwydwaith ffyrdd ac yn debygol o fod yn broblem gynyddol mewn degawdau i ddod. Gellir cyfiawnhau buddsoddi mewn ffyrdd i addasu ar gyfer yr amgylchiadau hyn er mwyn sicrhau y gall ffyrdd barhau i weithredu a chyfrannu'n ystyrlon at newid moddol.
  4. Rhoi mynediad a chysylltedd i swyddi a chanolfannau gweithgarwch economaidd mewn ffordd sy'n cefnogi newid moddol. Yn benodol, bydd angen ffyrdd mynediad newydd a phresennol i gysylltu datblygiadau newydd, gan gynnwys Porthladdoedd Rhydd, â'r rhwydwaith presennol. Mae angen i leoliad datblygiadau newydd fod yn gyson â Cymru’r Dyfodol / PPW11, sy'n cynnwys yr egwyddor o roi'r cyfle gorau i gael mynediad trwy ddulliau cynaliadwy a dylid ei gynllunio i atal gyrrwyr rhag defnyddio ffyrdd preswyl ac ati i gyrraedd cyrchfan.

Wrth ddatblygu cynlluniau, dylid canolbwyntio ar leihau allyriadau carbon, peidio â chynyddu capasiti ffyrdd, peidio cynyddu allyriadau drwy gyflymder uwch gan gerbydau a pheidio â chael effaith andwyol ar safleoedd ecolegol werthfawr.

Byddwn yn ystyried y profion hyn ochr yn ochr â'n hymrwymiadau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol drwy ein cynlluniau trafnidiaeth sy'n nodi'r polisïau, y cyllid a'r cynlluniau y byddwn yn eu datblygu i gyflawni Llwybr Newydd, Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.

Cynlluniau ffyrdd wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru

Mae adroddiad y panel Adolygu Ffyrdd yn cynnig argymhellion penodol ar y gweill i gynlluniau ffyrdd a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.  Ni fydd Llywodraeth Cymru'n ymateb i'r argymhellion yn unigol. Mae methiant Llywodraeth y DU i ddarparu cyfalaf ychwanegol ar gyfer buddsoddi mewn prosiectau seilwaith cyhoeddus wrth i economi'r DU fynd i mewn i ddirwasgiad, yn gosod cyfyngiadau ar nifer y cynlluniau ffyrdd y gellir eu symud ymlaen. Mae'r cynlluniau y gellir eu symud ymlaen wedi'u nodi yn y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth. Bydd y gwaith o ddatblygu cynlluniau eraill yn cael ei ystyried mewn cylchoedd ariannu yn y dyfodol, yn amodol ar gwrdd â'r profion a gytunwyd ar gyfer adeiladu ffyrdd yn y dyfodol a'n hymrwymiadau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Cafodd sampl bach o dri cynllun datblygu tir (y Parc Busnes Celtaidd, Abergwaun, Llanfrechfa, Cwmbrân, Neuadd Warren, Sir y Fflint) eu hadolygu oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan drwy berchnogaeth tir neu gyllid. Er bod rhai sylwadau yn cael eu gwneud am y datblygiadau hyn, nid yw'r Panel yn gwneud argymhellion ar a ddylai'r cynlluniau unigol hyn fynd yn eu blaenau ai peidio. Yn hytrach, defnyddiwyd y sampl hwn i lywio cyngor y Panel ar fuddsoddi mewn ffyrdd yn y dyfodol. I gynorthwyo gweithredu'r rhain a chynlluniau datblygu economaidd eraill, rydym wedi gofyn i'r Cynghorydd Anthony Hunt a'r Cynghorydd Llinos Medi arwain grŵp i ddatblygu canllawiau ar gyflwyno datblygiad economaidd ar sail lle a alluogwyd gan atebion trafnidiaeth sy'n cefnogi twf economi ffyniannus, gwyrdd a chyfartal ac sy'n gyson â'r profion yn y dyfodol ar gyfer adeiladu ffyrdd a Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.

Crynodeb

Ein system drafnidiaeth yw un o'r asedau cenedlaethol pwysicaf sydd gennym. Mae'n cysylltu pobl â'i gilydd, yn rhwymo cymunedau gyda'i gilydd ac yn galluogi busnesau i dyfu ac ehangu er mwyn darparu economi fywiog. Mae'n un o'r dulliau mwyaf pwerus a deinamig ar gyfer cydlyniant cymunedol, cyfiawnder cymdeithasol a thwf economaidd cynhwysol sydd gennym. Wrth gwrs, byddwn yn dal i fuddsoddi mewn ffyrdd: bydd yn rhaid inni barhau i ddarparu cysylltiadau i gefnogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd cynaliadwy, ond mae'n rhaid i hyn fod yn gyson â pholisi Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn ogystal â chefnogi datgarboneiddio, newid moddol a gwella diogelwch, gan gydnabod bod angen amrywio ar draws gwahanol rannau o Gymru.

Bydd lleihau ac ail-flaenoriaethu ein buddsoddiad ar gynlluniau ffyrdd newydd a chynyddu ein buddsoddiad mewn dulliau cynaliadwy yn cynorthwyo newid modd, ond bydd hefyd yn sicrhau manteision ehangach. Mae'r rhain yn cynnwys llai o lygredd aer, canol trefi a chymdogaeth mwy llwyddiannus a system drafnidiaeth sy'n hygyrch ac yn deg i bawb. Rydym yn cydnabod bod hyn yn newid mawr ac anodd, na fydd yn digwydd dros nos, ac mae'n gofyn i ni weithio ar y cyd, ar draws y llywodraeth a thu hwnt.