Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Gall y gweithredu diwydiannol a gymerwyd gan staff nyrsio a staff y gwasanaethau ambiwlans fod wedi effeithio ar yr ystadegau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn.

Yn sgil yr effaith y mae COVID-19 wedi’i chael ar lefelau perfformiad a gweithgarwch y GIG, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei rhaglen i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros yng Nghymru. Mae’r cynllun hwn yn nodi nifer o uchelgeisiau allweddol i leihau amseroedd aros ar gyfer pobl yng Nghymru. Rydym wedi ymgorffori’r mesuriadau perfformiad yma'n erbyn yr uchelgeisiau hyn yn y datganiad ystadegol hwn ac ar StatsCymru.

Mae’r data a ddarperir yn yr adroddiad ystadegol hwn wedi cael eu darparu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) oni nodir yn wahanol. Ceir rhagor o fanylion ar y data ym mhob maes pwnc ar ein gwefan StatsCymru.

Prif bwyntiau

Ym mis Ionawr, gwnaed 73,818 o alwadau i’r gwasanaeth llinell gymorth 111, yn ôl i lefelau’r misoedd blaenorol ar ôl y lefel uchaf erioed ym mis Rhagfyr 2022. O’r rhain, atebwyd bron i 59,000 o alwadau, mae hyn yn ostyngiad o 3.9% o’i gymharu â’r mis blaenorol. Cafwyd dros 423,700 o ymweliadau â gwefan GIG 111 Cymru hefyd, a llenwyd dros 18,600 o holiaduron symptomau (GIG 111 Cymru).

Ym mis Ionawr, cafodd y gwasanaeth ambiwlans 4,078 o alwadau coch (bywyd yn y fantol), sef 13.1% o’r holl alwadau. Roedd hyn yn ostyngiad yn nifer y galwadau coch o’i gymharu â mis Rhagfyr 2022. Ar gyfartaledd bob dydd, cafwyd 132 o alwadau a oedd yn peryglu bywyd, yn ôl i lefelau tebyg i 2022.

Roedd 48.9% o’r galwadau coch wedi derbyn ymateb brys o fewn wyth munud. Roedd hyn 9.4 pwynt canran yn uwch na mis Rhagfyr 2022. Ym mis Ionawr, gwelwyd perfformiad yn dychwelyd i’r lefelau a welwyd drwy gydol 2022, ar ôl cofnodi’r ffigur isaf hyd at y pwynt hwnnw ym mis Rhagfyr 2022. Dim ond o fis Mai 2019 ymlaen y gellir cymharu data ar gyfer galwadau coch.

Ar gyfartaledd bob dydd, cafwyd 2,514 o ymweliadau ag adrannau brys, sy’n is o’i gymharu â’r mis blaenorol. Roedd y perfformiad wedi gwella yn erbyn y targedau o bedair awr a deuddeg awr, sef y perfformiad gorau ers mis Gorffennaf 2021 a mis Rhagfyr 2021 yn y drefn honno. Roedd yr amser cyfartalog (canolrifol) a dreuliwyd mewn adrannau brys wedi gostwng ym mis Ionawr o’i gymharu â’r mis blaenorol i ddwy awr a thri deg pump munud, sef y gorau ers mis Ebrill 2021.

Mae’r pandemig wedi achosi cynnydd mawr mewn llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth. Fodd bynnag, ym mis Rhagfyr, gostyngodd y nifer ychydig, o dros 748,000 i tua 735,000, sef trydydd gostyngiad yn olynol yn dilyn cynnydd cyson o fis Ebrill 2020. Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor. Mae mwy o wybodaeth ar gael ym mlog Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru.

Mae gwybodaeth reoli newydd yn awgrymu bod ychydig dros 577,400 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2022, pan oedd ychydig dros 735,000 o lwybrau cleifion agored. Dyma’r trydydd gostyngiad misol yn olynol, sef gostyngiad o fwy na 8,500 o gleifion ers mis Tachwedd.

Roedd cyfran y llwybrau cleifion a oedd yn aros llai na 26 wythnos wedi gostwng ychydig i 55.3% ym mis Rhagfyr. Mae hyn wedi bod yn gymharol sefydlog ers tro ar ôl disgyn yn sylweddol o’r lefelau cyn y pandemig. Roedd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na 36 wythnos wedi gostwng am y pedwerydd mis yn olynol ym mis Rhagfyr i ychydig dros 248,000, ond mae’n dal yn uchel mewn cyd-destun hanesyddol.

Roedd tua 45,300 o lwybrau’n aros mwy na dwy flynedd, 36% yn is na’r lefel uchaf, yn dilyn gostyngiad am y nawfed mis yn olynol, ar ôl cynnydd cyson dros y flwyddyn flaenorol. Roedd yr amser cyfartalog (canolrifol) yr oedd llwybrau cleifion wedi bod yn aros am driniaeth ar ddiwedd mis Rhagfyr wedi cynyddu ychydig o gymharu â’r mis blaenorol i 22.0 wythnos.

Roedd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi gostwng i oddeutu 75,000. Ni chyrhaeddwyd y targed ar gyfer adfer gofal wedi’i gynllunio, er gwaethaf gostyngiad o 27% o’r lefel uchaf a gyrhaeddwyd ym mis Awst 2022.

Ar gyfer gwasanaethau diagnostig, cynyddodd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros i oddeutu 111,800 ym mis Rhagfyr. Roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros mwy nag 8 wythnos (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi cynyddu i fymryn dros 47,000 ym mis Rhagfyr.

Ar gyfer therapïau, roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros wedi gostwng i oddeutu 61,000 ym mis Rhagfyr, ond mae’n dal yn uchel mewn cyd-destun hanesyddol. Roedd y nifer a oedd yn aros mwy na phedair wythnos ar ddeg (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi gostwng i oddeutu 9,200, gan ostwng am y nawfed mis yn olynol.

Ar gyfer gwasanaethau canser, dechreuodd llai o bobl eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ym mis Rhagfyr (1,520) na’r mis blaenorol. Roedd nifer y llwybrau a gaewyd ar ôl i’r claf gael gwybod nad oedd canser arno wedi gostwng o gymharu â’r mis blaenorol (i 11,432). Roedd y perfformiad wedi gostwng o gymharu â’r targed 62 diwrnod ym mis Rhagfyr i 52.9% o’i gymharu â 53.9% yn y mis blaenorol, a dyma’r ail ffigur isaf ers dechrau cadw cofnodion.

Gofal heb ei drefnu

Darperir data newydd yn ymwneud â gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Ionawr 2023.

Gall y gweithredu diwydiannol a gymerwyd gan staff rhai gwasanaethau ambiwlans fod wedi effeithio ar yr ystadegau ar gyfer gofal heb ei drefnu a gyflwynir yn yr adroddiad hwn.

Galwadau i wasanaeth 111

Ar 16 Mawrth 2022, cafodd gwasanaeth llinell gymorth 111 ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys ei gyflwyno ledled Cymru.

Ym mis Ionawr, gwnaed cyfanswm o 73,818 o alwadau i’r gwasanaeth llinell gymorth 111, yn ôl i lefelau’r misoedd blaenorol ar ôl cyrraedd y lefel uchaf erioed ym mis Rhagfyr 2022. O’r rhain, atebwyd bron i 59,000 (80%) o’r galwadau gan y gwasanaeth 111 yng Nghymru, sef cyfartaledd o bron i 1,900 o alwadau y dydd. Mae hyn yn ostyngiad o 3.9% yn nifer y galwadau a atebwyd o gymharu â’r mis blaenorol.

Cafodd amcangyfrif o 15,033 (20%) o alwadau eraill eu terfynu gan y galwr cyn cael eu hateb. O’r rhain, cafodd 3,747 eu terfynu o fewn 60 eiliad i’r negeseuon awtomatig, gan awgrymu bod eu hanghenion yn debygol o fod wedi cael eu diwallu.

Cafodd ychydig o dan 11,300 o alwadau eu gadael ar ôl 60 eiliad ac ystyrir y rhain yn alwyr yr oedd yn fwy tebygol bod dal angen gwasanaeth arnynt ar ôl y negeseuon, ond nad oeddent yn gallu mynd drwodd neu eu bod wedi penderfynu peidio ag aros. Mae’r ffigur hwn wedi gostwng yn ôl i lefelau’r misoedd blaenorol ar ôl cyrraedd y lefel uchaf ym mis Rhagfyr 2022, sef dros 4 gwaith yn uwch na’r lefel uchaf blaenorol ym mis Gorffennaf 2022.

O'r galwadau a atebwyd, nododd ychydig dros 1,261 o alwyr eu bod yn dymuno siarad Cymraeg ar yr alwad.

Cafwyd bron i 423,700 o ymweliadau â gwefan GIG 111 Cymru, a llenwyd dros 18,600 o holiaduron symptomau (GIG 111 Cymru) ym mis Ionawr.

Cyhoeddir rhagor o ddata ar StatsCymru.

Galwadau brys i'r gwasanaeth ambiwlans

Mae ystod ehangach o ddangosyddion ansawdd ambiwlansys yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys ac ar StatsCymru.

Gweithgaredd

Ffigur 1: Nifer cyfartalog y galwadau ambiwlans brys bob dydd, yn ôl math o alwad a mis [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigwr 1: Siart linell yn dangos bod nifer y galwadau brys a gafodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi gostwng yn ystod pandemig COVID-19 ond wedi dychwelyd i lefel cyn covid ers hynny.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Galwadau ambiwlans brys ac ymatebion i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae addasu’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd

Ym mis Ionawr, gwnaethpwyd dros 31,000 o alwadau brys i’r gwasanaeth ambiwlans. Roedd hyn yn gyfartaledd o 1,001 o alwadau y dydd, gostyngiad o 315 (24%) o alwadau y dydd ar gyfartaledd o gymharu â’r mis blaenorol, a 189 (neu 15.9%) yn llai o alwadau y dydd ar gyfartaledd na’r un mis y llynedd. Cyfanswm nifer y galwadau ym mis Ionawr oedd yr isaf ers i gofnodion cymharol ddechrau.

Mae galwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel rhai coch (lle mae bywyd yn y fantol), rhai ambr (difrifol ond nid yw bywyd yn y fantol) neu rai gwyrdd (achosion nad ydynt yn rhai brys). Roedd 132 o alwadau coch yn cael eu gwneud bob dydd ar gyfartaledd ym mis Ionawr. Roedd hyn yn ostyngiad o 31.5% o’i gymharu â’r mis blaenorol (192), sef yr uchaf a gofnodwyd hyd at y pwynt hwnnw. Fodd bynnag, dyma er hynny oedd y pumed nifer uchaf o alwadau coch dyddiol.

Ym mis Ionawr, cyfran yr holl alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol oedd 13.1%, i lawr o 14.6% ym mis Rhagfyr 2022, sef y ffigur uchaf ers dechrau cadw cofnodion.

Perfformiad
Targed
  • Ymateb i 65% o alwadau coch (lle mae bywyd yn y fantol, mae rhywun mewn perygl o farw’n gyflym, fel ataliad ar y galon) o fewn 8 munud.
Ffigur 2: Canran y galwadau coch a oedd wedi cael ymateb brys yn y fan a’r lle o fewn 8 munud i gael gwybod beth oedd lleoliad y claf a’r brif gŵyn, fesul mis [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigwr 2: Siart linell yn dangos bod perfformiad ar gyfer galwadau ymateb brys wedi gwella yn ystod cyfnod cychwynnol y coronafeirws ond fei fod, fel arall, wedi gostwng dros y tymor hir.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Ymatebion brys: perfformiad fesul munud i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae addasu’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd

Ym mis Tachwedd, cyrhaeddwyd 48.9% o’r ymatebion brys i alwadau (coch) lle mae bywyd yn y fantol o fewn 8 munud. Roedd hyn 9.4 pwynt canran yn uwch nag yn y mis diwethaf, sef y ffigwr isaf a gofnodwyd, ond 3.6 pwynt canran yn is nag ym mis Ionawr 2022. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r gyfran ar alwadau coch yr ymatebwyd iddynt o fewn 8 munud wedi gostwng yn weddol gyson. Mae’n bwysig nodi bod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y galwadau coch a dderbyniwyd dros yr un cyfnod. Yn 2022, cafodd tua 70% yn fwy o alwadau coch eu derbyn nag yn 2020 a 2019.

Mae’r amser ymateb canolrifol dros y pedair blynedd cyn y pandemig yn amrywio rhwng 4 munud 30 eiliad a 6 munud yng nghyswllt galwadau coch. Ym mis Ionawr, yr amser ymateb cyfartalog (canolrifol) i alwadau ‘coch’ lle’r oedd bywyd yn y fantol oedd 8 munud ac 11 eiliad. Roedd hyn 1 munud a 49 eiliad yn gynt nag yn y mis blaenorol, ond 32 eiliad yn arafach nag ym mis Ionawr 2022.

Mae’r mwyafrif o alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel galwadau ‘ambr’, ac nid oes targed perfformiad ar gyfer amseroedd ymateb galwadau. Ym mis Ionawr, yr amser ymateb canolrifol ar gyfer galwadau ambr oedd 53 awr a 28 munud. Roedd hyn tua 2 awr a 35 munud yn gynt nag ym mis Rhagfyr 2022 a bron i 9 munud yn gynt nag ym mis Ionawr 2022.

Ymweliadau ag adrannau achosion brys a derbyniadau i’r ysbyty

Mae ystod ehangach o ystadegau perfformiad adrannau achosion brys yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol (NCCU), fel gwybodaeth reoli.

Gweithgaredd

Ffigur 3: Nifer gyfartalog yr ymweliadau ag adrannau damweiniau ac achosion brys GIG Cymru, a derbyniadau i ysbytai o ganlyniad i ymweld ag adrannau damweiniau ac achosion brys mawr, fesul mis [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigwr 3: Siart linell yn dangos ymweliadau ag adrannau damweiniau ac achosion brys, sydd fel arfer yn uwch yn ystod misoedd yr haf na’r gaeaf. Cafwyd gostyngiad yn nifer yr ymweliadau oherwydd pandemig COVID-19.

Ffynhonnell: Set ddata adran achosion brys (EDDS), Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) (Nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys GIG Cymru fesul band oedran, rhyw a safle ar StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae’r Siart yn dangos nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys mawr ac unedau mân anafiadau, a nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn unig.

Ym mis Ionawr, roedd tua 77,900 o ymweliadau â holl adrannau brys GIG Cymru. Roedd hyn yn gyfartaledd o 2,514 o ymweliadau ag adran achosion brys y dydd; 335 yn llai bob dydd ar gyfartaledd na’r mis blaenorol.

Ym mis Ionawr, derbyniwyd dros 14,200 o gleifion i’r un ysbyty neu i ysbyty gwahanol ar ôl bod mewn adran achosion brys fawr. Roedd hyn 8.1% yn is na’r mis blaenorol a 2.4% yn uwch na’r un mis yn 2022.

Perfformiad

Targedau
  • Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
  • Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Ffigur 4: Canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr yn adrannau achosion brys y GIG, fesul mis 
Image

Disgrifiad o Ffigwr 4: Siart llinell yn dangos bod canran y cleifion a gafodd eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr yn adrannau brys y GIG wedi gostwng yn ystod pandemig y coronafeirws ac nad yw wedi gwella i lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Set ddata adran achosion brys (EDDS), Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) (Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty ar StatsCymru)

Ym mis Ionawr, roedd 69.9% o gleifion yn holl adrannau achosion brys y GIG wedi treulio llai na 4 awr yn yr adran, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Roedd hyn 6.4 pwynt canran yn uwch nag yn y mis blaenorol, sef y ffigwr isaf ers dechrau cadw cofnodion, a’r uchaf ers Gorffennaf 2021.

Yn 2019, canolrif yr amser a dreuliwyd mewn adran achosion brys oedd tua 2 awr 30 munud. Yn ystod rhan gyntaf y pandemig, wrth i nifer yr ymweliadau ostwng, roedd canolrif yr amser a dreulir yn yr adran wedi gostwng i isafbwynt o 1 awr a 47 munud ym mis Ebrill 2020. Ers hynny, mae canolrif yr amseroedd wedi cynyddu ac wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, sef 3 awr ac 8 munud ym mis Mawrth 2022. Yn y data diweddaraf ar gyfer mis Ionawr, canolrif yr amser aros oedd 2 awr a 35 munud, sef 27 munud yn gynt na’r mis blaenorol a’r gorau ar gofnod ers mis Ebrill 2021.

Mae canolrif yr amser sy’n cael ei dreulio mewn adran achosion brys yn amrywio yn ôl oedran. Cyn y pandemig, roedd plant (rhwng 0 a 4 oed) yn treulio rhwng 1 awr a 30 munud a 2 awr mewn adrannau achosion brys, ac roedd cleifion hŷn (85 oed a hŷn) yn treulio rhwng 3 awr a 30 munud a 5 awr.

Ym mis Ionawr, treuliodd plant (0 a 4 oed) 2 awr a 2 munud yno ar gyfartaledd. Treuliodd oedolion 85 oed a hŷn gyfartaledd o 6 awr a 11 munud mewn adrannau brys.

Ffigur 5: Cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau mewn adrannau achosion brys y GIG, fesul mis
Image

Disgrifiad o Ffigwr 5: Siart linell yn dangos nifer y cleifion sy’n aros mwy na 12 awr, a oedd wedi gostwng yn sydyn yn ystod cyfnod cychwynnol y coronafeirws ond sydd fel arall wedi tueddu am i fyny dros y tymor hir.

Ffynhonnell: Set ddata adran achosion brys (EDDS), Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) (Perfformiad yn erbyn y targed 12 awr fesul ysbyty ar StatsCymru)

Ym mis Ionawr, roedd 8,999 o gleifion yn aros 12 awr neu fwy. Roedd hyn 3,095 (25.6%) yn llai nag yn y mis blaenorol, sef yr uchaf erioed, a’r gorau ers mis Rhagfyr 2021.

Gofal wedi’i drefnu

Darperir data newydd yn ymwneud â gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Rhagfyr 2022.

Gall y gweithredu diwydiannol a gymerwyd gan staff nyrsio fod wedi effeithio ar yr ystadegau gofal wedi'i drefnu a gyflwynir yn yr adroddiad hwn.

Atgyfeiriadau cleifion allanol

Gweithgaredd

Ffigur 6: Atgyfeiriadau dyddiol cyfartalog ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol, fesul mis
Image

Disgrifiad o Ffigwr 6: Siart linell yn dangos atgyfeiriadau cleifion allanol, sydd wedi bod yn gyfnewidiol gyda’r duedd am i fyny yn dilyn gostyngiad mawr yn nifer yr atgyfeiriadau ym mis Chwefror 2020 oherwydd pandemig y coronafeirws.

Ffynhonnell: Set Ddata Atgyfeiriad Cleifion Allanol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) (Atgyfeiriadau cleifion allanol ar StatsCymru)

Ar gyfartaledd, cafwyd 3,126 o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol bob dydd ym mis Rhagfyr. Mae hyn yn ostyngiad o 25.2% (sef 1,053 yn llai o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Tachwedd.

Perfformiad

Targedau
Ffigur 7: Llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol, fesul mis 
Image

Disgrifiad o Ffigwr 7: Siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion sy’n aros dros flwyddyn, a gynyddodd yn gyflym yn ystod pandemig y coronafeirws ond sydd wedi bod yn gostwng yn ystod y misoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Amseroedd aros Rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) (Atgyfeiriad am driniaeth ar StatsCymru)

Bu cynnydd dramatig yn nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol yn ystod y pandemig.

Ym mis Rhagfyr, gostyngodd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol 12.1%, o’i gymharu â’r mis blaenorol i oddeutu 75,000.

Nid yw targed y cynllun adfer gofal wedi’i gynllunio wedi’i gyrraedd, er gwaethaf gostyngiad o 27% o’r lefel uchaf a gyrhaeddwyd ym mis Awst 2022.

Amseroedd Aros Diagnostig a Therapi

Gweithgaredd

Ffigur 8: Llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi, fesul mis [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigwr 8: Siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi. Mae tueddiad hirdymor am i fyny yn nifer y cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig, gan gynnwys cynnydd sydyn ar ddechrau pandemig y coronafeirws. Mae nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau therapi wedi cynyddu’n sylweddol ers dechrau 2021.

Ffynhonnell: Gwasanaethau Diagnostig a Therapi (DATS), Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos ar StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae’r pwynt isel ym mis Ebrill 2020 ar gyfer therapïau yn rhannol oherwydd nad oedd Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno data ar gyfer y mis hwn, gweler yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd i gael rhagor o wybodaeth.

Ym mis Rhagfyr, roedd ychydig o dan 112,000 o lwybrau cleifion yn aros am brofion diagnostig, sef cynnydd bach o 0.1% o’i gymharu â’r mis blaenorol. Roedd mwy na 61,000 o lwybrau cleifion yn aros am brofion diagnostig, sef gostyngiad o 6.2% o’i gymharu â’r mis blaenorol, ond mae’n parhau’n uchel mewn cyd-destun hanesyddol.

Perfformiad
Targedau
  • Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
  • Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.
  • Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio sefydlu Gwanwyn 2024 fel dyddiad targed i gyflawni'r targedau hyn.
Ffigur 9: Llwybrau cleifion sy’n aros yn hirach na’r amser targed am wasanaethau diagnostig a therapi, fesul mis [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigwr 9: Siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion sy’n aros mwy nag 8 wythnos am wasanaethau diagnostig ac 14 wythnos am wasanaethau therapi yn y drefn honno. Ar ôl cynnydd mawr yn nifer y cleifion a oedd yn aros dros 8 wythnos am wasanaethau diagnostig ar ddechrau pandemig y coronafeirws, mae nifer y llwybrau cleifion sy’n aros wedi bod yn gostwng yn araf. Roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros mwy na 14 wythnos am wasanaethau therapi wedi cyrraedd y lefel uchaf ym mis Mehefin 2020 a mis Mawrth 2022, ond mae wedi bod yn gostwng ers hynny.

Ffynhonnell: Gwasanaethau Diagnostig a Therapi (DATS), Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) (Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos ar StatsCymru)

[Nodyn 1]: Ni wnaeth Betsi Cadwaladr gyflwyno data ar gyfer mis Ebrill 2020, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn ffigurau Cymru ar gyfer y mis hwn.

Ddiwedd mis Rhagfyr, roedd tua 47,000 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig. Roedd hyn 10.6% yn fwy na’r mis blaenorol.

Ddiwedd mis Rhagfyr, roedd bron i 9,200 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed ar gyfer therapïau. Roedd hyn yn ostyngiad o 3.9% o gymharu â’r mis blaenorol ac yn 37% o ostyngiad o'r lefel uchaf ym mis Mawrth 2022.

Roedd canolrif yr amseroedd aros am brofion diagnostig yn weddol sefydlog ers 2017 (2.8 wythnos ar gyfartaledd) ac ar gyfer gwasanaethau therapi ers 2018 (3.6 wythnos ar gyfartaledd). Roedd canolrif yr amseroedd aros am y ddau wasanaeth wedi cyrraedd y lefel uchaf yn 2020 (14.3 wythnos ar gyfer diagnosteg ac 14.9 wythnos ar gyfer therapïau).

Ym mis Rhagfyr, 6.4 wythnos oedd canolrif yr amser aros ar gyfer profion diagnostig, o’i gymharu â 5.4 yn y mis blaenorol. Roedd canolrif yr amser aros am wasanaethau therapi yn 6.2 wythnos, o’i gymharu â 5.2 yn y mis blaenorol.

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae’r ystadegau ar gyfer yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn dangos data misol ar yr amseroedd aros ar gyfer llwybrau agored a chaeedig ar ôl derbyn atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall i’r ysbyty am driniaeth yn y GIG. Llwybrau agored yw’r rheini sy’n aros ar y rhestr aros ar y rhestr aros am driniaeth, ac mae llwybrau sydd wedi’u cau yn golygu’r rheini sydd wedi’u tynnu oddi ar y rhestr aros.

Mesurir gweithgarwch yn ôl llwybrau cleifion, sy’n wahanol i nifer y cleifion. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaeth hwn ar gael ym mlog prif ystadegwyr Llywodraeth Cymru.

Mae gwybodaeth reoli sydd newydd gael ei chasglu yn cael ei chyhoeddi hefyd, ar gyfer nifer y cleifion unigol sydd ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru.

Perfformiad

Targedau
  • Dim cleifion yn aros mwy na dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023, a dim cleifion yn aros mwy na blwyddyn yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn gwanwyn 2025 (targedau newydd wedi'u sefydlu yn y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio).
  • 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos ar ôl atgyfeirio.
  • Dim cleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth ar ôl atgyfeirio.
Ffigur 10: Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth, fesul mis 
Image

Disgrifiad o Ffigwr 10: Siart linell yn dangos cyfanswm y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth a’r nifer sy’n aros dros flwyddyn a dwy flynedd. Ers pandemig y coronafeirws, mae’r nifer sy’n aros wedi cynyddu’n sylweddol ond mae wedi dechrau gostwng yn ddiweddar. Gwelwyd cynnydd yn nifer y cleifion sy’n aros mwy na blwyddyn a dwy flynedd oherwydd pandemig y coronafeirws, ond mae’r niferoedd yn gostwng erbyn hyn.

Ffynhonnell: Amseroedd aros Rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) (Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr ar StatsCymru)

Ym mis Rhagfyr, roedd ychydig dros 735,000 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth. Dyma’r trydydd gostyngiad misol yn olynol, i lawr 1.8% o fwy na 748,000 ym mis Tachwedd, er hynny dyma’r chweched uchaf erioed a 58.6% yn uwch na mis Chwefror 2020. Nid oes modd cymharu ystadegau rhestrau aros yn uniongyrchol ar draws pedair gwlad y DU (blog gan y Prif Ystadegydd).

Roedd bron i 162,000 o lwybrau’n aros mwy na blwyddyn ym mis Rhagfyr. Mae’r ffigwr hwn wedi gostwng am y pedwerydd mis yn olynol, er ei fod yn gymharol sefydlog ers Gwanwyn 2021. Roedd bron i 45,300 o lwybrau’n aros mwy na dwy flynedd, 36% yn is na’r lefel uchaf, yn dilyn gostyngiad am y nawfed mis yn olynol, ar ôl cynnydd cyson dros 2021.

Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor.

Nid oes gennym ystadegau swyddogol ynghylch nifer y cleifion unigol sy’n aros i ddechrau triniaeth. Fodd bynnag, mae'r wybodaeth reoli sydd newydd gael ei chasglu yn amcangyfrif bod 577,400 o gleifion unigol ar restrau aros yng Nghymru ym mis Tachwedd, pan oedd yr Ystadegau Gwladol (uchod) yn adrodd bod dros 735,000 o lwybrau cleifion yn agored. Dyma’r trydydd gostyngiad misol yn olynol, gostyngiad o fwy nag 8,500 o gleifion ers mis Tachwedd.

Yn wahanol i’r Ystadegau Gwladol sydd wedi’u cynnwys mewn rhannau eraill o’r datganiad hwn, sydd wedi cael eu hasesu’n annibynnol yn erbyn y Cod Ymarfer ar gyfer ystadegau, mae’r amcangyfrif hwn yn seiliedig ar wybodaeth reoli sydd newydd gael ei chasglu. Er bod egwyddorion y Cod Ymarfer wedi’u cymhwyso, nid yw sicrhau ansawdd yn cyfateb i lefel yr Ystadegau Gwladol. Mae gwaith yn dal i fynd rhagddo i ddeall cryfderau a chyfyngiadau’r data hyn, a bydd hyn yn cael ei gyfleu’n glir wrth i ni ddysgu rhagor. Am y rhesymau hyn, mae mwy o ansicrwydd ynghylch yr amcangyfrif hwn na’r ffigurau eraill yn y datganiad hwn. Fodd bynnag, mae lefel diddordeb y cyhoedd mewn deall nifer y cleifion yn ychwanegol at nifer y llwybrau cleifion yn ychwanegu digon o werth i gyflwyno’r wybodaeth hon.

Ffigur 11: Canran y llwybrau cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos, yn ôl mis
Image

Disgrifiad o Ffigwr 11: Siart linell yn dangos canran y llwybrau cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos a’r llinell darged perfformiad o 95%. Yn ystod pandemig y coronafeirws, mae canran y cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos wedi gostwng yn sydyn, ac mae’r perfformiad wedi sefydlogi rhwng 50-60% ers hynny.

Ffynhonnell: Amseroedd aros Rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) (Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru)

O blith mwy na 735,000 o lwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd mis Rhagfyr, roedd 55.3% wedi bod yn aros llai na 26 wythnos. Roedd hyn 0.7 pwynt canran yn is nag yn y mis blaenorol, a 29 pwynt canran yn is nag ym mis Chwefror 2020.

Ffigur 12: Nifer y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na 36 wythnos, fesul mis ac wythnosau o aros
Image

Disgrifiad o Ffigwr 12: Siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion sy’n aros dros 36 wythnos, a gynyddodd yn gyflym yn ystod pandemig y coronafeirws. Drwy gydol 2022 roedd y nifer yn dal i gynyddu, ond ar gyfradd arafach.

Ffynhonnell: Amseroedd aros Rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) (Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru)

Ym mis Rhagfyr, roedd bron i 248,000 o lwybrau cleifion wedi bod yn aros dros 36 wythnos. Roedd hyn yn 33.8% o’r holl lwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth. Roedd hyn 4,668 (neu 1.8%) yn llai nag yn y mis blaenorol ond yn dal yn uchel mewn cyd-destun hanesyddol.

Roedd canolrif yr amser aros i ddechrau triniaeth wedi bod tua 10 wythnos cyn y pandemig rhwng diwedd 2013 a mis Chwefror 2020. Cynyddodd hyn yn ystod y pandemig a chyrhaeddodd y lefel uchaf erioed o 29 wythnos ym mis Hydref 2020. Ym mis Rhagfyr, roedd canolrif yr amser aros yn 22.0 wythnos, sef cynnydd o 21.2 wythnos yn y mis blaenorol.

Ffigur 13: Llwybrau cleifion a gaewyd, fesul mis [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigwr 13: Siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion a gaewyd, sydd fel arfer yn amrywio. Ar ôl gostyngiad mawr ym mis Mawrth 2020 oherwydd pandemig y coronafeirws, mae nifer y llwybrau a gaewyd wedi codi’n raddol i lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Amseroedd aros Rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) (Llwybrau cleifion ar gau yn ôl y mis, y bwrdd iechyd lleol a’r wythnosau aros ar StatsCymru)

[Nodyn 1] Diwygiwyd y data i gynnwys llwybrau caeedig bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg erbyn hyn. Hyd at ddatganiad ystadegol Gorffennaf 2022, nid oedd y gyfres ddata ar gael ar gyfer Cwm Taf Morgannwg. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Cafodd bron i 96,845 o lwybrau cleifion eu cau ym mis Chwefror. Roedd hyn yn gyfartaledd o 4,842 o lwybrau cleifion yn cau bob diwrnod gwaith. Roedd hyn yn ostyngiad o gymharu â’r mis blaenorol.

Gwasanaethau canser

Cafodd yr ystadegau hyn eu labelu’n arbrofol (ONS) yn flaenorol. Ar ôl adolygu dulliau, gwnaethom dynnu’r lefel arbrofol ym mis Tachwedd 2022.

Mae nifer o fesurau ehangach o’r llwybr amheuaeth o ganser yn cael eu cynhyrchu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn.

Gweithgaredd

Ffigur 14: Llwybrau amheuaeth o ganser a gaewyd yn y mis, fesul mis a chanlyniad [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigwr 14: Siart linell yn dangos nifer y cleifion a ddywedodd nad oes ganddynt ganser, sy’n amrywio ond yn dangos tueddiad am i fyny yn gyffredinol, a nifer y cleifion sy’n dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf, sydd wedi bod yn sefydlog ers dechrau cofnodi.

Ffynhonnell: Lwybr Canser a Amheuir, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) ac Adnodd Data Cenedlaethol (NDR) (Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru)

[Nodyn 1]: Cyflwynwyd proses newydd o gasglu data am y llwybr amheuaeth o ganser ym mis Rhagfyr 2020.

Ym mis Rhagfyr, dechreuodd 1,520 o lwybrau, lle’r oedd cleifion newydd gael diagnosis o ganser, eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y mis. Roedd hyn 13.1% yn llai na’r mis blaenorol.

Cafodd 11,432 o lwybrau eu cau, ar ôl i gleifion gael gwybod nad oedd ganddynt ganser. Mae hyn 21.2% yn llai na’r mis blaenorol. Ym mis Rhagfyr, agorwyd 11,842 o lwybrau cleifion yn ystod y mis yn dilyn amheuaeth newydd o ganser. Roedd hyn 3,865 (24.6%) yn llai na’r mis blaenorol.

Perfformiad

Targed
  • Dylai o leiaf 75% o gleifion ddechrau cael triniaeth o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) ar ôl i'r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Nid yw'r targed yn berthnasol i ddata a gyhoeddwyd ar gyfer cyfnodau amser cyn Rhagfyr 2020.
  • Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio sefydlu targed newydd o 80%, i'w gyrraedd erbyn 2026.
Ffigur 15: Canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, fesul mis [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigwr 15: Siart linell yn dangos canran y cleifion a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf a’r targed perfformiad o 80%. Mae’r perfformiad yn amrywio, ond mae tueddiad cyffredinol am i lawr yn y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Lwybr Canser a Amheuir, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) ac Adnodd Data Cenedlaethol (NDR) (Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru)

[Nodyn 1]: Cyflwynwyd proses newydd o gasglu data am y llwybr amheuaeth o ganser ym mis Rhagfyr 2020.

Ym mis Rhagfyr, roedd 52.9% o’r llwybrau (804 allan o 1,520) wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Roedd hyn 1.0 pwynt canran yn is nag yn y mis blaenorol, 6.7 pwynt canran yn is nag ym mis Rhagfyr 2021, a’r ail isaf ers dechrau cadw cofnodion.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae'r holl wybodaeth am ansawdd a methodoleg mewn perthynas â'r datganiad ystadegol hwn i'w gweld yn y Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG: adroddiad ansawdd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Diweddariad nesaf

23 Mawrth 2023

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Ryan Pike
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 18/2023

Image
Ystadegau Gwladol