Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r rhaglen Meddygon Seren, sy'n helpu plant oedran ysgol i fynd ymlaen i astudio Meddygaeth yn y brifysgol, yn gweld canlyniadau rhagorol yng ngogledd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ers 2016, mae gweithwyr meddygol proffesiynol yn Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd wedi gweithio gyda disgyblion Blwyddyn 12 a 13 o ysgolion gwladol lleol i'w helpu gyda'u ceisiadau i’r brifysgol i astudio Meddygaeth a Deintyddiaeth.

Yn sgil y fenter, mae cannoedd o fyfyrwyr o'r gogledd wedi gwneud cais llwyddiannus i astudio Deintyddiaeth neu Feddygaeth yn y brifysgol. Mae'r rhaglen bellach wedi dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb yn y flwyddyn ysgol hon, yn dilyn y pandemig. Yn 2019, y flwyddyn ysgol olaf cyn y pandemig, cafodd 100% o ddysgwyr a gwblhaodd y rhaglen gynnig i astudio Meddygaeth yn y brifysgol.

Eleni, mae 40 o fyfyrwyr Blwyddyn 12 wedi cofrestru ar y rhaglen yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae'r rhaglen hefyd wedi cael ei ehangu i Sir y Fflint a Gwynedd, gyda rhaglen ar gyfer darpar fyfyrwyr Deintyddiaeth bellach yn cael eu darparu ar draws y gogledd hefyd.

Mae pobl ifanc ar y cynllun yn mynychu hyd at 15 sesiwn y flwyddyn, ynghyd ag wythnos o brofiad gwaith, gyda’r bwriad o’u cefnogi gyda'u ceisiadau am le i astudio gradd Meddygaeth neu Ddeintyddiaeth. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys gwaith grŵp, darlithoedd, profion ffug ac ymarfer at gyfweliad. 

Mae nifer o wirfoddolwyr yn rhoi o'u hamser i gefnogi'r rhaglen, gan gynnwys ymgynghorwyr, myfyrwyr meddygol a staff gweinyddu.

Mae Seren yn fenter gan Lywodraeth Cymru i helpu’r dysgwyr disgleiriaf mewn ysgolion gwladol gyflawni eu potensial academaidd llawn a mynd i brifysgolion blaenllaw yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a thramor. Mae tua 22,000 o ddysgwyr blynyddoedd 8 i 13 yn cymryd rhan yn y cynllun Seren ar hyn o bryd. Yn 2022, aeth hanner y rhai a gymerodd ran ymlaen i astudio pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg neu fathemateg, neu 'STEM' yn y brifysgol.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Mae’n beth gwych bod clinigwyr yn rhannu eu gwybodaeth â’u hangerdd am feddygaeth â myfyrwyr ifanc lleol.

Mae hyn yn enghraifft wych o sut y gall staff clinigol gydweithio â’r gymuned leol i rannu arbenigedd â phobl ifanc, y bydd llawer ohonynt yn symud ymlaen i weithio yng Ngogledd Cymru gobeithio. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen i weld y Rhaglen Meddygon Seren yn cydweithio â byrddau iechyd eraill ledled Cymru.

Hoffwn ddiolch i’r holl wirfoddolwyr, staff a meddygon am roi o’u hamser i ysbrydoli  meddygon y dyfodol.

Ychwanegodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

Mae Seren yn gynllun ffantastig sydd wedi cael llwyddiant aruthrol wrth helpu ein pobl ifanc mwyaf disglair i fynd i rai o’r prifysgolion gorau yn y byd.

Mae hyn yn esiampl wych o sut mae ein Rhaglen Seren nid yn unig yn helpu dysgwyr ifanc i fynd o nerth i nerth, ond hefyd yn rhoi budd go iawn i gymunedau lleol drwy helpu i feithrin meddygon a deintyddion y dyfodol.

Byddwn wastad angen gweithwyr meddygol proffesiynol, ac mae hyn yn ffordd wych i helpu ein dysgwyr mwyaf disglair gael mynediad at y rhaglenni gradd gorau a symud ymlaen i yrfaoedd gwerth chweil ym maes meddygaeth.

Dywedodd Dr Dan Menzies, ymgynghorydd anadlol yn Ysbyty Glan Clwyd:

Mae’r cynllun wedi bod ar waith ers 2016-17, pan oedd fy nghydweithwyr a minnau’n awyddus i gefnogi plant lleol oedd eisiau gyrfa mewn meddygaeth. Sylweddolom fod bwlch rhwng y cyfleoedd i blant sy’n mynychu ysgolion preifat a’r ysgolion cyfun lleol a gwelsom y rhaglen hon fel ffordd o gau’r bwlch.

Mae’r rhaglen yn cael ei darparu gan ein meddygon iau, allan o ewyllys da ac anhunanoldeb – mae gennym ni uwch feddygon yn helpu meddygon iau, gyda’i gilydd yn helpu i gael meddygon y dyfodol.

Mae’n wych eu gweld nhw’n blodeuo ac rydyn ni wir eisiau i’r bobl ifanc gyflawni’r hyn maen nhw’n gallu ei wneud.