Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 7 Mehefin 2022, amlinellais y pryderon parhaus a oedd gennyf am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn sgil materion yn ymwneud â diogelwch cleifion, llywodraethiant a sicrwydd a ddaeth i’r amlwg drwy nifer o ddigwyddiadau difrifol ac arolygiadau. Gwnes i estyn ei statws ymyrraeth wedi’i thargedu i gynnwys ystod ehangach o wasanaethau, gan gynnwys:

  • Ysbyty Glan Clwyd – diogelwch cleifion, llywodraethiant, arweinyddiaeth, goruchwylio gweithredol, llywodraethiant diogelwch cleifion gan gynnwys cadw cofnodion, rheoli digwyddiadau, gweithio fel tîm, adrodd am bryderon, a chydsyniad
  • Gwasanaethau fasgwlaidd
  • Adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd

Yn anffodus, nid yw’r gwelliant yr oeddwn innau a phobl Gogledd Cymru yn gobeithio amdano wedi digwydd, ac wythnos diwethaf cyflwynodd Archwilio Cymru ei adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd. Nodwyd pryderon am gamweithrediad o fewn y Bwrdd a bod y Bwrdd yn rhwystr i gynnydd pellach.

Pob dydd mae miloedd o bobl ar draws gogledd Cymru yn cael gwasanaeth ardderchog gan y GIG ond mae diffyg cysondeb o ran safon, diogelwch ac effeithlonrwydd. Bydd cywiro hyn wrth wraidd newidiadau sydd angen eu gwneud. Mae miloedd o weithwyr ymroddedig yn y bwrdd iechyd a allai fod yn bryderus ynghylch y datblygiadau yma, ond hoffwn eu sicrhau y bydd eu gwasanaethau a'u gweithgareddau dydd-i-ddydd yn parhau ac na fydd statws mesurau arbennig yn effeithio arnynt yn syth. Rwyf yn gwneud newidiadau sylfaenol i helpu sicrhau y gall pobl sy’n byw yng Ngogledd Cymru fod yn hyderus y byddant yn cael gofal diogel, amserol ac o ansawdd uchel.

Heddiw, rwyf wedi rhoi gwybod i’r bwrdd fy mod yn gweithredu mesurau arbennig, a hynny ar unwaith. Daw’r penderfyniad sylweddol hwn ar ôl i’r grŵp teirochrog, sef Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Archwilio Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru, gyfarfod ym mis Tachwedd 2022 a mis Ionawr 2023 i drafod yn benodol bryderon am ddarpariaeth gwasanaethau, ansawdd a diogelwch gofal ac effeithiolrwydd sefydliadol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 

Mae fy mhenderfyniad heddiw yn cael ei wneud yn unol â fframwaith uwchgyfeirio’r GIG ac mae’n adlewyrchu’r pryderon difrifol sy’n parhau ynghylch effeithiolrwydd y bwrdd, diwylliant sefydliadol, ansawdd gwasanaethau, ad-drefnu gwasanaethau, llywodraethiant, diogelwch cleifion, cyflawni gweithredol, arweinyddiaeth a rheolaeth ariannol.

Rwyf wedi cynnal trafodaethau â Chadeirydd, Is-gadeirydd ac aelodau annibynnol y Bwrdd ac maent wedi cytuno ei bod yn bryd iddynt gamu i’r naill ochr. Hoffwn ddiolch iddynt am eu hymdrechion wrth arwain y sefydliad yn ystod cyfnod heriol na welwyd mo’i debyg o’r blaen. Mae angen tîm newydd i arwain y sefydliad.

Rwyf wedi gwneud nifer o benodiadau uniongyrchol i sicrhau sefydlogrwydd y bwrdd yn ystod y 12 mis nesaf. Bydd y tîm newydd – o dan arweiniad Dyfed Edwards, cyn-arweinydd Cyngor Gwynedd a dirprwy gadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru, gyda chymorth tri Aelod Annibynnol – yn ymgymryd â rolau statudol y cadeirydd, yr is-gadeirydd ac aelodau annibynnol ar gyfer y bwrdd.

Byddant yn adolygu trefniadau arweinyddiaeth weithredol ac yn gwneud y penderfyniadau angenrheidiol i sicrhau gwelliant. Byddaf yn gofyn am eu harweiniad cyn recriwtio aelodau annibynnol newydd o’r bwrdd yn ffurfiol nes ymlaen eleni.

Bydd penodiad prif weithredwr parhaol newydd yn rhan ganolog o’r gwaith o ddatblygu a meithrin sefydliad cynaliadwy, a all ddarparu’r gwasanaethau GIG y mae pobl y Gogledd Cymru yn eu haeddu. Bydd y Cadeirydd newydd yn arwain y broses o recriwtio unigolyn sydd â’r weledigaeth, yr arweinyddiaeth a’r cymhelliant angenrheidiol i adfer hyder y gweithlu a’r cyhoedd.

Byddwn hefyd yn creu tîm ymyrraeth a chymorth ar gyfer y bwrdd iechyd. Bydd y tîm hwn yn adrodd yn uniongyrchol i’r cadeirydd a’r prif weithredwr parhaol newydd, gan weithio ochr yn ochr â’r bwrdd. Bydd eu gwaith yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol lle mae heriau yn bod, gan gynnwys arweinyddiaeth, diwylliant, perfformiad gweithredol, gwella’r adrannau achosion brys a threfniant gwasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau fasgwlaidd.

Bydd tîm ymyrraeth a chymorth y bwrdd iechyd yn:

  • Darparu cyngor a goruchwyliaeth arbenigol am lywodraethiant ac effeithiolrwydd y bwrdd.
  • Cynnig mentora a chymorth i’r bwrdd.
  • Darparu cymorth Adnoddau Dynol arbenigol i’r cadeirydd newydd a’r bwrdd er mwyn adolygu strwythur y sefydliad a phortffolios a sicrhau ansawdd y systemau a’r prosesau sylfaenol.
  • Cynyddu’r capasiti a’r arbenigedd mewn cynllunio gwasanaethau clinigol yn y sefydliad, gan ddatblygu a sefydlu’r cynllun clinigol.
  • Darparu cymorth sylweddol i wella perfformiad gweithredol a chyflawni’r newid trawsffurfiol sydd ei angen. Ceir blaenoriaethau o ran gweithredu a chyflawni y bydd angen rhoi sylw iddynt ar unwaith, prosesau llywodraethiant i’w gwella a’u rheoli, risgiau o ran ystadau i’w lliniaru a chynllun adfer i’w ddatblygu.

Byddwn yn gweithio gyda’r bwrdd iechyd i lunio cynllun gwella, gan nodi’r cerrig milltir allweddol. Dyma rwy’n disgwyl ei weld:

  • Bwrdd iechyd sydd ag arweinwyr cryf a thosturiol gyda systemau llywodraethiant cadarn ac effeithiol.
  • Bwrdd iechyd sy’n darparu gwasanaethau diogel, o safon uchel ar gyfer gofal brys ac argyfwng a gofal a gynlluniwyd, gyda chynllun clir i ddatblygu’r gwasanaethau hyn ar draws Gogledd Cymru a sicrhau eu bod yn gynaliadwy.
  • Bwrdd iechyd sy’n darparu gwasanaethau sy’n gwella iechyd y boblogaeth ac yn gweithio i leihau anghydraddoldebau iechyd, mewn partneriaeth â’r cyhoedd a phartneriaid lleol.

Gwn y bydd y cyhoeddiad hwn yn peri pryder ond hoffwn sicrhau pobl yn y Gogledd a’r miloedd o bobl sy’n gweithio i’r bwrdd iechyd y bydd gwasanaethau a gweithgareddau o ddydd i ddydd yn parhau, gyda mwy o ffocws ar ansawdd a diogelwch.

Rwy’n gwneud y datganiad hwn i’r Aelodau heddiw, fel y byddant yn ymwybodol ar unwaith o’m penderfyniad. Byddaf yn gwneud datganiad llafar i’r Senedd yfory.