Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r Canllawiau hyn yn egluro'r Cymorth ar gyfer Gwerth ychwanegol ac ansawdd cynnyrch a’r defnydd o ddalfeydd nad oes eu hangen Cronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop (EMFF) – a'r Cynllun Costau Safonol (SCS) sy'n eich galluogi i wneud cais am gyllid grant ar gyfer rhai eitemau cymwys. Darllenwch y canllawiau hyn yn ofalus. Mae'r eitemau hyn wedi eu rhestru yn y canllawiau atodol sydd â'r teitl 'Rhestr o Eitemau Cymwys' (https://www.llyw.cymru/cymorth-ar-gyfer-gwerth-ychwanegol-ansawdd-cynnyrch-defnydd-o-ddaliadau-diangen-rhestr-o-eitemau).

Os ydych felly yn ystyried eich hun yn gymwys am SCS a'ch bod am wneud cais am gymorth, darllenwch adran 'Sut i Wneud Cais' y canllawiau hyn a'r canllawiau atodol o dan yr enw 'Defnyddio RPW Ar-lein i Wneud Cais' a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae cymorth grant ar gael o dan raglen EMFF 2014-2020. Bydd y rhaglen yn cyfrannu at gyflawni yr amcanion canlynol:

  • Hyrwyddo pysgodfeydd cystadleuol, cynaliadwy yn amgylcheddol, hyfyw yn economaidd a chyfrifol yn gymdeithasol.
  • Meithrin y broses o weithredu'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (CFP).
  • Hyrwyddo datblygiad tiriogaethol cytbwys a chynhwysfawr o ardaloedd pysgodfeydd.
  • Meithrin datblygiad a gweithredu Polisi Morol Integredig yr Undeb (IMP) mewn ffordd ategol i'r polisi cydlynu a'r CFP.

Ni fydd yr amcanion hyn yn arwain at gynnydd yng nghapasiti pysgota cwch pysgota nac yn ei gwneud yn haws i gwch ddod o hyd i bysgod.

Dylid defnyddio'r canllawiau hyn ar gyfer buddsoddiadau sy'n gysylltiedig â gwella'r gwerth ychwanegol, ansawdd y cynnyrch a’r defnydd o ddalfeydd nad oes eu hangen . Mae rhestr lawn o eitemau cymwys ar gyfer buddsoddi i’w gweld yn y canllawiau atodol (https://www.llyw.cymru/cymorth-ar-gyfer-gwerth-ychwanegol-ansawdd-cynnyrch-defnydd-o-ddaliadau-diangen-rhestr-o-eitemau).

Mae EMFF yn bwysig i'r diwydiant pysgota a chymunedau arfordirol gan y bydd yn helpu busnesau i addasu i'r CFP diwygiedig a chefnogi cynaliadwyedd hirdymor y sector a thwf economaidd yr ardal.

Y ffocws i Gymru yw datblygu sector pysgota cystadleuol a chynaliadwy, gan hwyluso'r broses o weithredu'r CFP, a defnyddio posibiliadau dyframaethu ac annog partneriaethau rhwng pysgotwyr a sefydliadau gwyddonol.

Eich cyfrifoldeb  chi yw sicrhau bod buddsoddiadau arfaethedig yn hyfyw yn dechnegol, yn cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol ac unrhyw ofynion diogelwch penodol eraill.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod unrhyw offer sy'n cael ei brynu gyda chyllid EMFF yn bodloni'r holl ofynion cyfreithiol angenrheidiol. Os bydd yr offer sy'n cael ei brynu yn dod yn ddiwerth neu'n anghyfreithlon wedi hyn yna eich risg chi ei hun fydd hyn; ni ellir ad-dalu neu hawlio yn erbyn y cynllun hwn.

Ni chaiff perchennog cwch pysgota sy'n derbyn cymorth drosglwyddo'r cwch honno y tu allan i'r DU yn ystod o leiaf y bum mlynedd yn dilyn dyddiad talu'r cymorth hwnnw i'r buddiolwr. Os bydd cwch yn cael ei throsglwyddo o fewn y cyfnod hwnnw, bydd y symiau sy'n cael eu talu ar gyfer y buddsoddiad hwnnw yn cael ei adfer gan Lywodraeth Cymru, mewn swm sy'n gymesur â'r cyfnod na chafodd yr amod ei gyflawni.

Braslun o'r Rhaglen a'r ffordd y caiff ei weithredu yn unig a geir yma, ac mae'n bosibl y bydd y rheolau manwl o ran y meini prawf cymhwysedd yn newid.

Amcanion strategol a thematig

Mae'r EMFF yn anelu at gefnogi datblygiadau cynaliadwy yn y sectorau pysgota a dyframaethu a chadwraeth yr amgylchedd forol, ochr yn ochr â thwf atodol a swyddi mewn cymunedau arfordirol, drwy:

  1. Hyrwyddo pysgodfeydd cynaliadwy, sy'n defnyddio adnoddau yn effeithiol, sy'n arloesol, yn gystadleuol ac yn seiliedig ar wybodaeth: Canolbwyntio ar arloesi a gwerth ychwanegol, gan hyrwyddo pysgodfeydd cynaliadwy yn amgylcheddol, sy'n defnyddio adnoddau yn effeithiol, ac sy'n gystadleuol ac yn fwy dethol, yn cael gwared ar lai o bysgod ac yn gwneud llai o ddifrod i ecosystemau morol.
  2. Meithrin dyframaethu cynaliadwy, sy'n defnyddio adnoddau yn effeithiol, sy'n arloesol, yn gystadleuol ac yn seiliedig ar wybodaeth: Sector dyframaethu sy'n gynaliadwy yn amgylcheddol, sy'n defnyddio adnoddau yn effeithiol ac sy'n gystadleuol; i helpu busnesau o'r fath i fod yn hyfyw yn economaidd ac yn gystadleuol.
  3. Meithrin y broses o weithredu y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (CFP): Cefnogi y broses o weithredu'r CFP drwy gasglu a rheoli data i wella gwybodaeth wyddonol. Mae hyn hefyd yn cefnogi'r broses o fonitro, rheoli a gorfodi deddfwriaeth pysgodfeydd.
  4. Cynyddu cyflogaeth a chydlyniant tiriogaethol: Cynyddu cyflogaeth a hyrwyddo twf economaidd a chynhwysiant cymdeithasol mewn cymunedau sy'n dibynnu ar bysgota drwy ddatblygiadau sy'n cael eu harwain gan y gymuned (CLLD).
  5. Cymorth ar gyfer marchnata a phrosesu:
    Gwella marchnata a phrosesu cynnyrch pysgodfeydd a dyframaeth.
  6. Meithrin y broses o weithredu'r Polisi Morol Integredig:
    Cefnogi dull mwy cydlynol o fynd i'r afael â materion morol.

Mae'r prif flaenoriaethau ar gyfer yr EMFF yng Nghymru yn cynnwys:

  • Hwyluso'r broses o weithredu'r CFP, gan gynnwys yr ymrwymiad glanio.
  • Asesu'r posibiliadau ar gyfer dyframaethu.
  • Sicrhau bod y diwydiant pysgota yn fwy diogel.
  • Annog partneriaethau rhwng pysgotwyr a sefydliadau gwyddonol.
  • Datblygu dan arweiniad y gymuned.
  • Cynyddu gwerth ychwanegol pysgod o Gymru.
  • Annog y defnydd o Dechnoleg Gwybodaeth o fewn y diwydiant.

Mae’n ofynnol bod pob prosiect sy’n cael cymorth drwy’r Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd (ESI), yn cynnwys EMFF, yn cyfrannu at gyflawni un neu ragor o amcanion polisi strategol neu amcanion thematig. Gall buddsoddiadau gyfrannu at gyflawni nifer o amcanion o’r fath a rhaid iddynt adrodd ar eu cynnydd ar gyflawni’r rhain wrth gyflwyno pob hawliad am grant.

Mae Erthygl 24 o Reoliad Rhif 508/2014 (UE) yn egluro y bydd gweithgareddau DDAG o dan EMFF yn cyfrannu at gyflawni’r amcan penodol o dan Flaenoriaeth yr Undeb a nodwyd yn Erthygl 6(1) yn yr un Rheoliad.

Mae Erthygl 6(1)(d) yn berthnasol i Erthygl 42 gan ei fod yn datgan bod "Hyrwyddo pysgodfeydd cynaliadwy yn amgylcheddol, sydd yn defnyddio adnoddau yn effeithiol, yn arloesol, yn gystadleuol ac yn seiliedig ar wybodaeth drwy geisio yr amcanion penodol canlynol - sicrhau bod mentrau pysgota yn fwy cystadleuol a hyfyw, gan gynnwys y fflyd arfordirol ar raddfa fechan, a gwella diogelwch ac amodau gweithio."

Pwy all wneud cais

Cymorth o dan Fesur I.22: Mae Erthygl 42 wedi ei gyfyngu i bysgotwyr ac / neu berchnogion cychod pysgota sydd ar gofrestr fflyd pysgota y DU  ac sy'n cael eu gweinyddu gan Lywodraeth Cymru o borthladd yng Nghymru.

Yn ogystal â'r ddarpariaeth ym mharagraff 17, cyfyngir cefnogaeth o dan y Cynllun Cost Safonol (SCS) i bysgotwyr a/neu berchnogion llongau pysgota sy'n dymuno ychwanegu gwerth i'w dalfa eu hunain, gwella ansawdd cynnyrch eu dalfa eu hunain.  Mae hyn yn cynnwys defnydd o'u dalfa eu hunain nad oes ei angen. 

Dim ond ar gyfer y llongau sy'n rhan o'r prosiect y mae'n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno manylion ar eu cyfer.

Bydd y cymorth yn cael ei gyfyngu i'r buddiolwyr hynny sydd â trosiant busnes o £200,000 neu lai. Llythyr gan gyfrifydd yn cadarnhau y bydd hyn yn cael ei ystyried fel prawf. 

Ni dderbynnir ceisiadau oddi wrth sefydliadau neu unigolion sydd wedi’u cael yn euog o dwyll o dan EFF neu EMFF.

Ni dderbynnir ceisiadau oddi wrth sefydliadau neu unigolion sydd wedi’u cael yn euog o drosedd y mae Llywodraeth Cymru neu’r Undeb Ewropeaidd yn ei ystyried yn ‘dor rheolau difrifol’ neu’n dwyll, yn y 12 mis cyn gwneud cais. Gweler y Canllawiau ar wahân ar Dor Rheolau Difrifol a Thwyll.

Gweithgareddau cymwys

Bydd gweithgareddau yn gwella gwerth ychwanegol neu ansawdd y pysgod sy'n cael eu dal i fynd i'r afael â'r bygythiad o ostyngiad ym mhris y farchnad.

Y gweithgareddau cymwys yw:
 

  • Buddsoddiadau sy'n ychwanegu gwerth at gynnyrch pysgodfeydd, yn benodol drwy ganiatáu i bysgotwyr brosesu, marchnata a gwerthu eu daliadau eu hunain yn uniongyrchol.
  • Buddsoddiadau sy'n gwella ansawdd cynnyrch eu pysgodfeydd eu hunain.
  • Buddsoddiadau sy'n caniatáu i'r ymgeisydd wneud defnydd o'u dalfeydd eu hunain nad oes eu hangen.

Mae rhestr lawn o eitemau cymwys ar gyfer buddsoddi i’w gweld yn y canllawiau atodol (https://www.llyw.cymru/cymorth-ar-gyfer-gwerth-ychwanegol-ansawdd-cynnyrch-defnydd-o-ddaliadau-diangen-rhestr-o-eitemau).

Costau cymwys

Cafodd eitemau sy'n gymwys am gymorth grant EMFF o dan SCS eu dewis ymlaen llaw. Mae'n bosibl dod o hyd i'r rhain yn y canllawiau atodol, 'Rhestr o Eitemau Cymwys', ac mae'n bosibl eu dewis ar y ffurflen gais.

Gweithgareddau anghymwys

Gweithgareddau anghymwys yw:

Buddsoddiadau y gellid eu gweld fel rhai sy'n cynyddu capasiti pysgota llong neu offer gan gynyddu gallu llong i ddod o hyd i bysgod.

Costau anghymwys

Costau anghymwys yw:

  • Unrhyw fuddsoddiadau neu eitemau o offer nad ydynt wedi'u cynnwys yn y 'Rhestr o Eitemau Cymwys'.
  • Unrhyw eitemau y gallech eu hadennill yn rhannol neu i gyd drwy wneud hawliad ar bolisi yswiriant neu drwy geisio am iawndal.

Yn ogystal â'r darpariaethau o dan bwyntiau 29 a 30, dylid nodi, os byddwch yn gwneud cais am eitem/eitemau yr ydych wedi derbyn cyllid ar eu cyfer o dan rownd ariannu EMFF flaenorol, bydd gofyn i chi roi esboniad pam eich bod yn chwilio am gyllid i brynu'r eitem eto.

Cyfradd grant uchaf a'r trothwy grant uchaf

Isafswm grant y gellir gwneud cais amdano yw £800.00.

Uchafswm y grant y gellir gwneud cais amdano yw £24,000.00.

Cyfraddau Grant

Mae’r cyfraddau grant ar gael fel a ganlyn:

Maint y Cwch

Yn defnyddio offer pysgota llusg

Cyfradd ymyrraeth

Hyd cyfan 11.99 meter neu lai

Na

80%

Hyd cyfan 11.99 meter neu lai

Ie

50%

Hyd cyfan 12 meter neu fwy

Na

50%

Hyd cyfan 12 meter neu fwy

Ie

50%

Mae'r gyfradd grant fesul eitem yn sefydlog a swm y grant wedi'i ddangos yn y 'Rhestr o Eitemau Cymwys'.

Edrychwch ar yr adran ‘Pwy All Wneud Cais’ yn y Canllawiau hyn i gadarnhau eich bod yn gymwys i wneud cais.

Cymorth gwladwriaethol

Mae'n rhaid i bob buddsoddiad gydymffurfio â holl reolau cymhwysedd y cynllun a rheolau Cymorth Gwladwriaethol i fod yn gymwys am gyllid.

Nid yw Erthyglau 107, 108 nac 109 y TFEU yn berthnasol i'r grantiau a ddarperir o dan y cynllun hwn os cawsant eu gwneud yn unol â Rheoliad (UE) rhif 508/2014 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar Gronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop, ac o fewn cwmpas Erthygl 42 y TFEU. Fodd bynnag, mae'n rhaid i fuddsoddiadau fod yn berthnasol i ddal, cynhyrchu ac / neu brosesu cynnyrch pysgodfeydd. Mae'r rhain wedi'u diffinio yn:

  • Atodiad I y Cytuniad ar gyfer Gweithredu yr Undeb Ewropeaidd (yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd o dan 2012/C 326/01) ac
  • Atodiad I a II Rheoliadau Trefniadaeth y Farchnad Gyffredin EU 1379/2013.

Os ydych yn teimlo nad yw eich buddsoddiad yn bodloni'r meini prawf hyn yna dylech gysylltu â Llywodraeth Cymru i drafod eich buddsoddiad cyn gwneud cais.

Dethol

Mae gofyn ichi ddewis eitemau cost safonol hyd at werth y grant mwyaf (£30,000). Bydd y system yn cyfrif eich sgôr yn awtomatig trwy gyfrif nifer y pwyntiau sydd wrth bob eitem. Bydd sgôr yn cael ei phennu ar gyfer pob eitem ac nid yw’r sgôr hon yn newid waeth beth yw maint yr eitem. Caiff y cyfanswm sgôr ei rhannu gan gyfanswm y grant y gofynnwyd amdano. Bydd y prosiectau sydd â'r sgôr uchaf yn mynd yn eu blaenau.

Pwrpas y broses sgorio yw i Lywodraeth Cymru allu rhoi'r ceisiadau yn eu trefn yn ôl faint o arian sydd ar gael ym mhob cyfnod ymgeisio.

Ar ôl cyflwyno'r cais, chewch chi ddim newid yr eitemau rydych wedi'u dewis i'w prynu

Dangosyddion Canlyniadau

Yn eich cais, mae'n rhaid ichi ddarparu ymateb i bob Dangosydd Canlyniadau ac mae’n rhaid ichi ddangos cyfraniad at o leiaf un o’r dangosyddion isod.  Pan nad yw dangosydd canlyniadau yn berthnasol i’ch prosiect bydd angen ichi gadarnhau ei fod naill ai’n Amherthnasol neu nodi ffigur o 0.

Cofiwch y bydd angen ichi gyflwyno tystiolaeth i gefnogi’r ffigurau a ddarperir (ble nad yw’r ffigur yn 0 neu’n ‘amherthnasol’.

Dangosydd Canlyniadau 1.3: Newid mewn elw net (£)

  • Elw blynyddol cyn y prosiect.
  • Rhagolygon o ran elw blynyddol wedi cwblhau'r prosiect.

Dangosydd Canlyniadau 1.5: Newid mewn effeithlonrwydd ynni dal pysgod (mewn litrau o danwydd/tunelli o'r ddalfa wedi'i glanio)

  • Defnydd blynyddol o danwydd cyn y prosiect.
  • Rhagolygon blynyddol o ran defnyddio ynni wedi cwblhau'r prosiect.
  • Daliad blynyddol a laniwyd cyn y prosiect.
  • Rhagolygon o ran dalfa flynyddol wedi'i glanio wedi cwblhau'r prosiect.

Dangosydd Canlyniadau 1.8: Cyflogaeth wedi'i gynnal (FTE) yn y sector pysgodfeydd neu weithgareddau ategol

  • Nifer y swyddi sy’n cael eu hystyried mewn pergyl cyn y prosiect.
  • Nifer y swyddi a ragwelir cyn sydd mewn perygl wedi cwblhau'r prosiect.

Dangosydd Canlyniadau 1.9a: Newid yn nifer yr anafiadau neu ddamweiniau sy'n gysylltiedig â gwaith

  • Nifer blynyddol o anafiadau neu ddamweiniau cyn y prosiect.
  • Rhagolygon o ran nifer blynyddol o anafiadau neu ddamweiniau wedi cwblhau'r prosiect.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cysylltu â chi wedi cwblhau'r prosiect i benderfynu ar y canlyniadau a gafwyd.

Sut mae gwneud cais

Mae'n bosibl gwneud cais am SCS drwy RPW Ar-lein. Mae'n rhaid ichi gofrestru yn gyntaf am gyfrif Gateway y Llywodraeth, a chyfrif RPW Ar-lein. Mae canllaw ar sut i gofrestru i'w gael yn y canllawiau atodol, o dan yr enw 'RPW Ar-lein: Dechrau Arni’ (https://www.llyw.cymru/rpw-ar-lein-dechrau-arni).

Bydd canllawiau ar sut i lenwi'r ffurflen gais ar RPW Ar-lein i'w cael yn y canllawiau atodol, o dan yr enw 'Cynllun Costau Safonol: Defnyddio RPW Ar-lein i Wneud Cais’ o mis Ebrill.

Os byddwch yn llwyddiannus byddwch yn cael cynnig grant drwy eich cyfrif RPW Ar-lein.

Os byddwch yn llwyddiannus rhaid ichi brynu'r holl eitemau sydd ar eich contract a'u hawlio trwy'ch cyfrif RPW ar-lein o fewn 120 o ddyddiau calendr ar ôl dyddiad cynnig y contract ichi.

Os byddwch yn llwyddiannus rhaid ichi dderbyn y contract o fewn 30 diwrnod calendr ar ôl dyddiad cynnig y contract ichi. Os na fyddwch wedi derbyn eich contract o fewn 30 diwrnod calendr, caiff y cynnig ei dynnu'n ôl.

Caiff manylion llawn pryd y bydd yn rhaid ichi dderbyn y contract a phryd y bydd yn rhaid ichi brynu'r eitemau a'u hawlio eu nodi yn eich contract.

Ni chewch brynu unrhyw eitemau sydd wedi eu cynnwys yn eich contract nes eich bod wedi derbyn eich contract.

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais ac unrhyw ddogfennaeth ategol yn destun gofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004: bydd pob gwybodaeth sy'n cael ei roi i Lywodraeth Cymru yn cael ei drin yn gyfrinachol. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru a’r CE yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich cwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o’ch buddsoddiad.

Gallwch ddefnyddio ymgynghorydd i baratoi eich cais os dymunwch, ond mae’n rhaid i chi, ac nid yr ymgynghorydd, lofnodi’r  gais. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y cais wedi’i gwblhau’n gywir a bod yr wybodaeth a roddir i gefnogi’ch prosiect yn gywir.

Mae tri chanlyniad posibl:

  • Nid yw’ch prosiect yn gymwys ar gyfer y grant. Byddwch yn derbyn llythyr yn pennu'r rhesymau pam y cafodd eich cais ei wrthod.
  • Mae’ch prosiect yn gymwys i gael ei ystyried, ond nid yw’n cael ei gymeradwyo ar gyfer dyfarniad. Cewch wybod y rhesymau pam na fu eich cais yn llwyddiannus. Cewch wneud cais eto ond o fewn cyfnod ymgeisio gwahanol ond dim ond os nad ydych wedi prynu yr eitemau y gwnaethpwyd cais ar eu cyfer.
  • Mae’ch prosiect yn gymwys ac yn cael ei gymeradwyo ar gyfer dyfarniad. Bydd llythyr contract yn cael ei ddarparu ar eich cyfer ar-lein. Bydd yn nodi telerau ac amodau’r dyfarniad a bydd gofyn ichi dderbyn fel cytundeb eich bod yn derbyn y telerau a’r amodau hynny. Bydd y llythyr contract hefyd yn eich awdurdodi i brynu yr eitemau sydd wedi eu manylu yn eich contract.

Amodau'r grant

Daw'r Gronfa EMFF o dan amrywiaeth o ddeddfwriaeth. Rhaid i Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd/derbynnydd weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth honno.

Mae’r Grant EMFF a gynigir yn amodol ar delerau ac amodau, gan gynnwys, ond heb eu cyfyngu i'r rhai a amlinellir isod. Gallai methu â bodloni telerau ac amodau’r dyfarniad arwain at ganslo’ch dyfarniad a/neu adennill y symiau sydd eisoes wedi’u talu i chi, neu leihau cyfanswm y grant sy’n daladwy.

Amodau:

  1. Mae’n rhaid derbyn y grant a ddyfernir cyn pen tri-deg (30) o ddiwrnodau gwaith o’r dyddiad mae eich contractyn cael ei gyflwyno ar-lein.
     
  2. Mae’r dyfarniad yn cael ei wneud ar sail y datganiadau a wnaed gennych chi neu’ch cynrychiolwyr yn y cais ac mewn gohebiaeth ar-lein ddilynol. Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol.
     
  3. Ni ddylech brynu unrhyw eitem y gwnaethpwyd cais amdano cyn i’ch contract gael ei anfon.
     
  4. Ni chewch newid yr eitemau yr ydych wedi'u dewis wedi i’ch contract gael ei anfon.
     
  5. Mae'n RHAID ichi brynu pob eitem sydd wedi'u cynnwys yn eich contract.  
     
  6.  Mae'n RHAID ichi wneud un cais am bob un o'r eitemau ar yr un pryd.
     
  7.  Rhaid i chi fodloni unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol o dan gyfraith y DU a’r UE, gan gynnwys deddfwriaeth hylendid.
     
  8. Ni chaniateir gwneud unrhyw newid i’r prosiect, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig Llywodraeth Cymru.
     
  9. Ni chewch waredu, trosglwyddo na gwerthu unrhyw offer a brynir gyda chymorth y grant heb gael cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru, am bum mlynedd o ddyddiad y buddsoddiad. Mae hyn yn cynnwys newidiadau anuniongyrchol e.e. pan fydd cwch yn newid perchennog neu pan fydd lleoliad unrhyw eitem sydd wedi'i ariannu yn newid.
     
  10. Eich cyfrifoldeb chi fel yr ymgeisydd gwreiddiol yw hysbysu'r perchnogion newydd o'r ymrwymiadau cyllid sy'n gysylltiedig â'r eitem. Bydd yn ofynnol i'r perchnogion newydd dderbyn telerau ac amodau y cyllid am yr amser sy'n weddill hyd at 5 mlynedd o'r dyddiad y cafodd y cynnig gwreiddiol ei dderbyn.
     
  11. Os nad yw perchennog newydd yr eitem neu'r eitemau yn derbyn telerau ac amodau y cyllid sy'n gysylltiedig, yna ystyrir nad yw'r eitem wedi cyflawni ei rwymedigaethau i'r cynllun ac felly mae'n bosibl y bydd gweithdrefnau adfer yn dechrau a'r cyllid yn cael ei adfer gennych fel yr ymgeisydd gwreiddiol.
     
  12. Ni ddylech drosglwyddo cwch pysgota y tu allan i'r DU na’r UE am o leiaf 5 mlynedd wedi talu'r cyllid EMFF i'r ymgeisydd; os nad ydych yn gwneud hyn mae'n rhaid ichi ad-dalu'r cyfan neu ran o'r arian EMFF a gawsoch. Mae yr union swm sy'n rhaid ichi ei dalu yn ôl yn dibynnu pryd yr oeddech wedi trosglwyddo'r cwch.
     
  13. Mae’n rhaid cyflwyno hawliadau yn y fformat cywir a chyflwyno ar yr un pryd yr holl ddogfennaeth angenrheidiol.  Oni wneir hyn, ni chânt eu derbyn ac fe’u dychwelir at yr hawlydd.
     
  14. Rydych yn cadarnhau nad oes unrhyw rai o'r eitemau sy’n rhan o’r cais yn eitemau a brynwyd yn lle eitemau eraill o dan hawliad yswiriant.
     
  15. Os y gofynnir ichi, mae’n rhaid i chi gadarnhau nad ydych wedi gwneud cais am unrhyw gyllid cyhoeddus arall (boed hynny o ffynonellau’r Undeb Ewropeaidd neu’r Deyrnas Unedig).
     
  16. Mae’n rhaid i unrhyw gyhoeddusrwydd a roddir i’r prosiect gyfeirio at y rhan a chwaraewyd gan yr Undeb Ewropeaidd a chan Lywodraeth Cymru wrth ei noddi.
     
  17. Mae’n rhaid cadw cofnodion ynghylch gweithgaredd y busnes a chyflawni’r prosiect, gan gynnwys yr holl anfonebau gwreiddiol a dogfennau eraill perthnasol megis tendrau cystadleuol neu ddyfynbrisiau, am o leiaf chwe mlynedd ar ôl dyddiad gorffen y prosiect fel y'i nodir yn y llythyr cymeradwyo grant hwn.
     
  18. Mae’n rhaid ichi ganiatáu i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Archwilydd Cyffredinol Cymru, y Comisiwn Archwilio a Llys Archwilwyr Ewrop archwilio’r eitemau a brynwyd. Os gofynnir, rhaid i chi roi gwybodaeth iddynt a/neu adael iddynt weld y dogfennau gwreiddiol sy'n ymwneud â’r buddsoddiad.
     
  19. Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais ac unrhyw ddogfennaeth ategol yn destun gofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. 

    a. Dylech fod yn ymwybodol, os byddwch yn llwyddiannus, fod Llywodraeth Cymru a’r Gymuned Ewropeaidd yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich busnes neu gwmni, swm y grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o’ch prosiect.
     
  20. Mae'r wybodaeth sydd wedi'i darparu yn y cais ac unrhyw ddogfennau atodol yn destun i'r Nodyn Preifatrwydd sydd ar gael ar https://www.llyw.cymru/cronfar-mor-physgodfeydd-ewrop-hysbysiad-preifatrwydd Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd  yn esbonio sut y mae Llywodraeth Cymru’n prosesu ac yn defnyddio’ch data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.

Talu grant

Hawliadau

Bydd nodiadau cyfarwyddyd ynghylch sut i hawlio yn cael eu cyhoeddi pan gaiff y dyfarniad ei gadarnhau ac wedyn pan gewch eich gwahodd i hawlio. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y gwariant perthnasol wedi’i wneud y bydd hawliadau’n cael eu talu. Bydd taliadau’n cael eu gwneud drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.

Rhaid ichi brynu'r holl eitemau sydd ar eich contract a'u hawlio trwy'ch cyfrif RPW ar-lein o fewn 120 o ddyddiau calendr ar ôl dyddiad cynnig y contract ichi.

Yn ystod oes y grant, pan fo hawliadau’n cael eu cyflwyno, efallai y byddant yn cael eu harchwilio i sicrhau bod gwariant yn gymwys ac yn unol â’r hyn a gymeradwywyd yn y cais gwreiddiol. Wedi prynu, cynhelir asesiad manwl o'r eitemau. Mae’r wybodaeth a fydd yn ofynnol yn ystod yr ymweliad yn cynnwys anfonebau gwreiddiol, rhifau cyfresol/offer, tystysgrif gwblhau Rheoliadau Adeiladu (os yn briodol); system Iechyd a Diogelwch, gan gynnwys dadansoddiad risg; dogfennau Asesu Risgiau Tân yn unol â Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005; cofnodion y Drefn Lanhau, cofnodion Rheoli Plâu a chofnodion Rheoli Ansawdd. Caiff y grant ei dalu ar yr amod y gwneir cynnydd digonol.

Hawlio ar gam a chosbau

Eich cyfrifoldeb chi yw gofalu bod y cais mewn pryd.

Os yw’r hawliad yn anghywir, bydd eich hawliad yn cael ei leihau i’r cyfanswm cymwys a bydd y grant i’w dalu yn cael ei gyfrifo yn unol â hynny.

Os oes gennych chi unrhyw amheuon ynglŷn â chymhwyster unrhyw wariant, rhaid i chi wirio cyn i chi fynd i gostau.

Troseddau

Mae Rheoliadau Cronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 2016 Rhif 665 (W. 182) yn sefydlu bod troseddau a chosbau yn gysylltiedig â rhai agweddau ar Gyllid Cronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop. Mae enghreifftiau o droseddau yn cynnwys darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, yn fwriadol neu’n fyrbwyll, mewn perthynas â Chronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop; rhwystro arolygydd neu swyddog; a gwrthod darparu gwybodaeth ar gais.

Monitro buddsoddiadau

Mae’n rhaid i chi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Ewropeaidd, neu eu cynrychiolwyr, arolygu’r prosiect ar unrhyw adeg resymol o fewn y cyfnod hwnnw o bum mlynedd.

Gweithdrefn apelio

Nid oes modd apelio os na chaiff eich cais ei ddewis.

Os caiff hawliad ei wrthod, caiff y rhesymau dros ei wrthod eu nodi'n glir.

Os hoffech apelio yn erbyn penderfyniad mewn perthynas â'ch cais, yna rhaid cyflwyno apeliadau sy'n cynnwys tystiolaeth ategol, trwy RPW Ar-lein o fewn 60 diwrnod i ddyddiad y llythyr yn amlinellu'r penderfyniad yr hoffech apelio yn ei erbyn.

Bydd swyddog apelio/aelodau annibynnol o'r penderfyniad gwreiddiol yn ystyried yr apêl. Yna bydd y swyddog apelio/au yn gwneud penderfyniad terfynol ac yn hysbysu'r apelydd ynghyd â'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

Gweithdrefn apelio

 Byddwn yn ymdrin a chwynion o dan weithdrefn Llywodraeth Cymru ar Gwynion. Gellir cael cyngor pellach ar sut i wneud cwyn gan y Tîm Cyngor am Gwynion:

Llywodraeth Cymru
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251378

E-bost: cwynion@llyw.cymru

Gwefan: Cwynion am Lywodraeth Cymru

Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae
Pen-coed
CF35 5LJ

Ffôn: 0300 790 0203

Gwefan: Ombwdsmon

ISBN digidol 978-1-80535-627-1