Daeth yr ymgynghoriad i ben 31 Mai 2023.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem glywed eich barn ar newidiadau polisi drafft i Bolisi Cynllunio Cymru ar fudd net ar gyfer bioamrywiaeth a chadernid ecosystemau.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar newidiadau i’r system gynllunio sy’n gwella bioamrywiaeth a chadernid ecosystemau yng Nghymru.
Mae’r newidiadau arfaethedig yn cynnwys atgyfnerthu polisi ar:
- Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
- Coed a choetiroedd
- Seilwaith gwyrdd
Dogfennau ymgynghori
Newidiadau polisi a dargedir , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 536 KB
Help a chymorth
Am fwy o wybodaeth amdano’r ymgynghoriad hwn, e-bostiwch planconsultations-d@llyw.cymru
