Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ynglŷn â myfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athrawon ar gyrsiau addysg gychwynnol i athrawon (AGA) sy’n arwain at statws athro cymwysedig ar gyfer Medi 2021 i Awst 2022.

Mae data ar gyfer 2020/21 wedi'i ddiwygio oherwydd gwallau a nodwyd yn y data sy'n ymwneud â dyraniadau, a nifer y myfyrwyr sy'n dysgu i addysgu yn y Gymraeg. Mae ffigurau diwygiedig wedi'u cynnwys yn y datganiad 'Addysg gychwynnol i athrawon: Medi 2021 i Awst 2022' a thablau cysylltiedig StatsCymru. Sylwch nad yw'r ffigurau yn y datganiad 'Addysg gychwynnol i athrawon: Medi 2020 i Awst 2021' wedi'u diweddaru.

Y data mwyaf diweddar yn y diweddariad hwn yw data blwyddyn academaidd 2021/22. Mae’n cynnwys athrawon dan hyfforddiant mewn prifysgolion yng Nghymru a hefyd myfyrwyr o Gymru sy’n astudio ledled y DU.

Ar gyfer 2021/22, Cyngor y Gweithlu Addysg a bennodd y dyraniadau ar gyfer cyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru. Cafodd dyraniadau ar wahân eu pennu ar gyfer cyrsiau’r Brifysgol Agored gan Lywodraeth Cymru. Mae’r dyraniadau yn ymwneud â’r nifer sy’n hyfforddi i fod naill ai’n athrawon ysgol gynradd neu’n athrawon ysgol uwchradd a’r nifer sy’n gwneud cyrsiau AGA ôl-raddedig neu israddedig.

Ffigur 1: Dyraniadau derbyn a dyraniadau o ran newydd ddyfodiaid ar gyrsiau AGA yng Nghymru, 2012/13 i 2021/22

Image

Disgrifiad o'r Ffigur 1: Siart linell sy'n dangos bod y nifer a ddechreuodd cyrsiau ysgol gynradd yn uwch na'r dyraniadau am yr ail flwyddyn yn olynol, tra bo’r nifer a ddechreuodd cyrsiau ysgol uwchradd yn is na'r dyraniadau am yr wythfed blwyddyn yn olynol.

Ffynhonnell: Cofnod Myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) a Llywodraeth Cymru

Prif bwyntiau

  • Dechreuodd 1,610 ar gyrsiau AGA yng Nghymru yn 2021/22; 935 ar gyrsiau ysgol gynradd a 675 ar gyrsiau ysgol uwchradd.
  • Er bod y nifer a ddechreuodd cyrsiau AGA ysgol uwchradd yng Nghymru ar gyfer 2021/22 yn is nag yr oedd yn 2020/21, roedd y nifer a ddechreuodd cyrsiau yn 2021/22 yn dal i fod yn uwch nag yr oeddent am bob blwyddyn rhwng 2015/16 a 2019/20.
  • Roedd nifer y rhai a ddechreuodd cyrsiau AGA ysgol gynradd yng Nghymru 20% yn uwch na'r dyraniadau yn 2021/22.
  • Roedd nifer y rhai a ddechreuodd cyrsiau AGA ysgol uwchradd yng Nghymru 34% yn is na'r dyraniadau yn 2021/22.
  • Roedd nifer y myfyrwyr AGA blwyddyn gyntaf yng Nghymru a oedd yn hyfforddi i allu addysgu yn y Gymraeg 4% yn is nag yr oedd yn 2020/21, sef 325 o fyfyrwyr yn 2021/22. Fodd bynnag, mae hyn yn cyfrif am 20% o gyfanswm nifer y myfyrwyr AGA blwyddyn gyntaf yng Nghymru, sef yr un gyfran ag yn 2020/21.
  • Mathemateg, Bioleg a Chymraeg oedd y pynciau blaenoriaeth mwyaf cyffredin i fyfyrwyr sy'n dechrau ar gyrsiau AGA ysgol uwchradd yng Nghymru.
  • Roedd 5% o fyfyrwyr AGA newydd yng Nghymru yr oedd eu hethnigrwydd yn hysbys o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnic Leiafrifol yn 2021/22, sef yr un gyfran ag ydoedd yn 2020/21.
  • Roedd 84% o fyfyrwyr AGA newydd a oedd yn hyfforddi yng Nghymru yn byw yng Nghymru cyn dechrau ar eu gradd.

Adroddiadau

Addysg Gychwynnol i Athrawon: Medi 2021 i Awst 2022 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 854 KB

PDF
854 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Sedeek Ameer

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.