Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru, gyda chymorth Data Cymru, arolwg o ymgeiswyr etholiad llywodraeth leol ar gyfer etholiadau Mai 2022. Hwn oedd y trydydd arolwg o ymgeiswyr etholiad llywodraeth leol. Cynhaliwyd y cyntaf yn dilyn etholiadau 2012 a'r ail ar ôl etholiadau Mai 2017.

Fel rhan o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gynnal arolwg safonedig o Gynghorwyr ac ymgeiswyr am etholiad i swydd Cynghorydd yn ei hardaloedd. Dylai'r arolwg gynnwys Cynghorwyr ac ymgeiswyr Sir a Thref a Chymuned fel ei gilydd a gofyn set benodedig o gwestiynau a oedd yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) gwestiynau am ryw a hunaniaeth rhywedd; cyfeiriadedd rhywiol; iaith; ethnigrwydd; oedran; anabledd; crefydd neu gred; iechyd; addysg a chymwysterau; cyflogaeth; a gwaith fel Cynghorydd. Y bwriad yw ailadrodd yr arolwg yn ystod pob etholiad arferol er mwyn olrhain newidiadau yn nodweddion Cynghorwyr ac ymgeiswyr dros amser.

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi nodweddion demograffaidd Cynghorwyr etholedig ac ymgeiswyr na chawsant eu hethol, gan ganolbwyntio'n arbennig ar nodweddion sy'n arwydd o amrywiaeth. Y bwriad yw i'r wybodaeth sy'n cael ei darparu gefnogi Llywodraeth Cymru a'r pleidiau gwleidyddol wrth ddatblygu polisïau i gynyddu amrywiaeth y sawl sy'n sefyll fel Cynghorwyr Sir a Chymuned.

Methodoleg

Cafodd yr arolwg ei gynnal cyn, yn ystod ac ar ôl etholiadau llywodraeth leol a gynhaliwyd ar 5 Mai 2022. Trefnwyd bod yr holiadur ar gael i ymgeiswyr ar gyfer etholiadau Sir a Chymuned fel rhan o’u pecynnau enwebu. Cafodd yr arolwg ei gynnal ar-lein gyda chopïau papur ar gael drwy wneud cais.

Cafodd arolwg 2012 ei gynnal ar ôl yr etholiad. Roedd gan y dull hwn y potensial am duedd dim ymateb am fod yr ymgeiswyr hynny na chawsant eu hethol yn ymateb ar gyfradd is na’r ymgeiswyr a gafodd eu hethol.

Yn yr un modd ag arolwg 2017, cafodd arolwg 2022 ei ddylunio i leihau tuedd dim ymateb gan ymgeiswyr na chawsant eu hethol drwy fod ar gael cyn yr etholiad. Cafodd rhai dyfeisiau adnabod unigryw eu casglu fel rhan o’r holiadur er mwyn caniatáu eu cysylltu â chofnodion ymgeiswyr, gan helpu i ddeall a gafodd yr ymgeisydd ei ethol yn dilyn yr etholiad. Cafodd 14% o ymatebion eu derbyn cyn yr etholiad, a chafodd 83% eu derbyn ar ôl yr etholiad.

Denodd yr arolwg 1,077 o ymatebion. O'r rhain, etholwyd 309 yn Gynghorwyr Sir ac etholwyd 444 yn Gynghorwyr Cymuned. Ni chafodd 352 eu hethol yn y naill swydd na'r llall ac roedd gan 116 ganlyniad anhysbys. Dylid nodi nad yw'r niferoedd yn cyfansymio i 1,077 oherwydd gall ymgeiswyr sefyll a chael eu hethol fel Cynghorwyr Sir a Chymuned ar yr un pryd.

Y gyfradd ymateb i ymgeiswyr Sir oedd 15% ac i ymgeiswyr Cymuned roedd yn 11%. Roedd y cyfraddau ymateb yn amrywio o 40% ym Merthyr Tudful i 1% ar Ynys Môn.

Prif ganfyddiadau

Roedd 3,291 o Ymgeiswyr Sir a 6,639 o Ymgeiswyr Cymuned yn etholiadau llywodraeth leol 2022. Yn gyfan gwbl, cafodd 38% o ymgeiswyr Sir eu hethol yn Gynghorwyr Sir a chafodd 82% o ymgeiswyr Cymuned eu hethol yn Gynghorwyr Cymuned.

Profiad blaenorol

Roedd mwy nag un o bob tri (39%) o’r 1,077 ymgeisydd a ymatebodd i’r arolwg wedi sefyll am etholiad fel Cynghorydd Sir yn y gorffennol; roedd 26% wedi eu hethol o’r blaen.

O’r 309 o ymgeiswyr a etholwyd yn Gynghorwyr Sir yn 2022, roedd bron dau o bob tri (63%) wedi sefyll mewn etholiad Sir o’r blaen ac roedd hanner (50%) wedi cael eu hethol o’r blaen.. O’r 444 o Gynghorwyr Cymuned a etholwyd fel Cynghorwyr Sir yn 2022, roedd tua treian (31%) wedi sefyll fel Cyngorydd cymunedol mewn etholiadau blaenorol, ac o’r ffigwr hwn roedd tua un allan o bob pump (21%) wedi cael eu hethol o’r blaen.

Roedd mwy nag un o bob pump (22%) o Ymgeiswyr Sir na chawsant eu hethol wedi bod yn aflwyddiannus mewn etholiad blaenorol hefyd.

Roedd bron hanner yr ymgeiswyr a ymatebodd i’r arolwg wedi sefyll am etholiad i gyngor Cymuned yn y gorffennol (46%); roedd 42% wedi eu hethol o’r blaen.

O’r 444 a etholwyd yn Gynghorwyr Cymuned yn 2022, roedd mwy na hanner (59%) wedi sefyll am etholiad i gynghorau Cymuned o’r blaen. Roedd bron pob un o’r rhain (54% o Gynghorwyr) wedi eu hethol o’r blaen. O’r 309 o ymgeiswyr a etholwyd yn Gynghorwyr Sir yn 2002, roedd tua hanner (47%) wedi sefyll am etholiad fel Cynghorwyr Tref a Chymuned mewn etholiadau blaenorol a 45% wedi eu hethol o’r blaen.

Ymlyniad wrth blaid

O’r 1,077 o ymgeiswyr a ymatebodd i’r arolwg, dwedodd 46% eu bod yn Annibynnol, roedd 29% yn cynrychioli Plaid Lafur Cymru, roedd 11% yn cynrychioli Plaid Cymru, 6% Ceidwadwyr Cymru, 3% Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, a 3% y Blaid Werdd.

O’r 309 o Gynghorwyr Sir etholedig a ymatebodd i’r arolwg, dwedodd 46% eu bod yn cynrychioli Plaid Lafur Cymru, roedd 29% yn Annibynnol, roedd 12% yn cynrychioli Plaid Cymru, 6% Ceidwadwyr Cymru, 5% Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, a 2% y Blaid Werdd.

Ymhlith y 444 o Gynghorwyr Cymuned etholedig a ymatebodd, safodd 58% fel Annibynolwyr, 25% dros Blaid Lafur Cymru, 12% dros Blaid Cymru, 2% dros Geidwadwyr Cymru, 2% dros Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, ac 1% dros y Blaid Werdd.

Rhyw

O’r 1,077 o ymgeiswyr a ymatebodd I’r arolwg roedd 40% yn fenyw a 60% yn wryw.

Roedd mwy na hanner (60%) o’r 309 o ymgeiswyr a etholwyd fel Cynghorwyr Sir yn 2022 yn wryw ac roedd tua dau o bob tri (69%) o’r 261 o ymgeiswyr a oedd wedi sefyll am etholiad fel Cynghorwyr Sir yn 2022 ond na chawsant eu hethol, yn wryw hefyd. Ymhlith y 444 o Gynghorwyr Cymuned a etholwyd yn 2022 roedd 57% yn wryw ac roedd cyfran debyg o'r 138 o ymgeiswyr Cymuned na chawsant eu hethol (58%) hefyd yn wryw.

Oedran

Canfu'r arolwg fod tua hanner o’r 1,077 o ymgeiswyr a ymatebodd i’r arolwg (50%) yn 60 oed neu drosodd, roedd tua dau allan o bump (38%) rhwn 40 a 59 blwydd oed, treian (10%) rhwng 25 a 39 blwydd oed a’r 2% a oedd yn weddil rhwng 18 a 24 blwydd oed.

Ymhlith Cynghorwyr etholedig, roedd 46% o Gynghorwyr Sir a 56% o Gynghorwyr Cymuned yn 60 oed neu drosodd. Roedd lleiafrif bach o Gynghorwyr Sir (2%) a Chynghorwyr Cymuned (1%) yn 18 i 29 blwydd oed. Ymhlith y 399 o ymgeiswyr Sir a Chymuned na chawsant eu hethol yn 2002, roedd 5% yn y band oedran hwn.

Ethnigrwydd

Ar y cyfan adroddodd 96% or 1,077 o ymgeiswyr a ymatebodd I’r arolwg eu bod o grŵp ethnig Gwyn.

Adroddodd 1% yr ymgeiswyr a ymatebodd I’r arolwg eu bod o grŵp ethnig Asiaidd Asiaidd Cymreig neu Asiadd Prydeinig. Adroddodd 1% eu bod o grwpiau ethnig cymysg neu luosog. Llai nag 1% a adroddodd eu bod o grwpiau ethnig Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd. Ni chafodd y cwestiwn hwn ei ateb gan 2% o ymatebwyr.

Crefydd

Roedd tua hanner yr 1,077 o ymgeiswyr (54%) a ymatebodd i’r arolwg yn Gristnogion (sy'n cynnwys pob enwad), tra nad oedd crefydd gan 40%, ac atebodd 3% "arall" (gan gynnwys Bwdhydd, Hindw, Iddew, Mwslim, Sîc ac 'unrhyw grefydd arall').

Ychydig o amrywiaeth a welwyd ar draws atebion Cynghorwyr Sir a Chynghorwyr Cymuned ac ymgeiswyr na chawsant eu hethol.

Cyfeiriadedd rhywiol

Canfu'r arolwg fod 88% o’r ymgeiswyr a ymatebodd i’r arolwg yn ystyried eu hun yn heterorywiol neu strêt, 6% fel lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol ac 1% fel unrhyw gyfeiriadedd rhywiol arall.

Ymhlith y 309 o Gynghorwyr Sir a etholwyd yn 2022 a ymatebodd i’r arolwg, nododd 6% eu bod yn lesbiaidd, yn hoyw neu’n ddeurywiol o’u cymharu ag 8% o ymgeiswyr Sir na chawsant eu hethol yn 2022. Cyfran y Cynghorwyr Cymuned ac ymgeiswyr Cymuned na chawsant eu hethol yn 2022 a adroddodd fod yn lesbiaidd, yn hoyw neu’n ddeurywiol oedd 5% a 6% yn y drefn honno.

Anabledd

Adroddodd mwyafrif mawr o'r holl ymgeiswyr (82%) nad oeddent yn ystyried eu hunain yn berson anabl. Ystyriodd 14% o'r holl ymgeiswyr nad ydynt yn berson anabl, tra roedd yn well gan 3% beidio â dweud.

Roedd cyfran y 309 o Gynghorwyr Sir a ymatebodd i’r arolwg a oedd yn ystyried eu hunain yn anabl yn 13% o’u cymharu â 15% o ymgeiswyr Sir na chawsant eu hethol. Ymhlith Cynghorwyr Cymuned roedd 15% yn ystyried eu hunain yn anabl o’u cymharu â 14% o ymgeiswyr Cymuned na chawsant eu hethol.

Yn gyfan gwbl, dwedodd 35% (379) o’r 1,077 o ymgeiswyr a ymatebodd i’r arolwg fod ganddynt o leiaf un cyflwr iechyd neu nam. O’r 379 o ymgeiswyr hynny, rhestrodd 26% ( neu 97 ymatebydd) gyflyrau neu namau mewn mwy nag un categori. Roedd gan 17% o’r holl ymgeiswyr a ymatebodd i’r arolwg gyflwr iechyd hirdymor.

Addysg

Roedd gan tua dau draean o’r 1,077 ymgeiswyr a ymatebodd i’r arolwg (40%) gymhwyster Lefel 4 neu uwch (h.y. gradd, neu gymhwyster ôl-raddedig neu broffesiynol). Roedd gan 29% gymhwyster Lefel 1 i 3. Nid oedd unrhyw gymwysterau addysgol ffurfiol gan 5%.

Roedd y canlyniadau hyn yn debyg iawn ymhlith Cynghorwyr Sir a Chynghorwyr Cymuned ac ymgeiswyr na chawsant eu hethol yn 2022.

Cyflogaeth

Roedd mwy nag un o bob tri (43%) o’r 1,077 ymgeisydd a ymatebodd i’r arolwg yn cael eu cyflogi naill ai'n amser llawn (30%) neu'n rhan-amser (13%) ac roedd 14% arall yn hunan-gyflogedig. Roedd 38% o ymgeiswyr wedi ymddeol, ac roedd 2% yn ddi-waith. Roedd y 10% sy'n weddill yn fyfyrwyr amser llawn neu ran-amser, ar absenoldeb mamolaeth, yn edrych ar ôl y teulu neu'r cartref, yn sâl yn hirdymor neu'n anabl, ar gynllun hyfforddiant y llywodraeth, yn weithwyr di-dâl mewn busnes teuluol, neu wedi dethol "arall".

Ymhlith y 309 Cynghorwyr Sir a ymatebodd, roedd 47% yn gyflogeion, roedd 14% yn hunan-gyflogedig, ac roedd 32% wedi ymddeol. Ymhlith y 444 Cynghorwyr Cymuned a ymatebodd, roedd 40% yn gyflogeion, roedd 13% yn hunan-gyflogedig, ac roedd 43% wedi ymddeol.

Nododd y mwyafrif o ymgeiswyr (46%) fod eu cyflogaeth bresennol, neu ddiweddaraf, yn y sector cyhoeddus (gan gynnwys llywodraeth leol, llywodraeth ganolog, GIG, addysg a sector cyhoeddus arall). Roedd 43% yn gweithio yn y sector preifat, roedd 8% yn gweithio yn y sector gwirfoddol ac 1% mewn sectorau ‘eraill’ (gan gynnwys amaethyddiaeth).

Cymraeg

Nododd cyfran fawr (91%) o ymgeiswyr mai Saesneg oedd eu dewis iaith, a dwedodd 9% mai Cymraeg oedd eu dewis iaith.

Ymhlith yr holl ymgeiswyr, dwedodd 28% eu bod yn gallu deall Cymraeg llafar, gallai 22% siarad Cymraeg, gallai 23% ddarllen Cymraeg, a gallai 18% ysgrifennu Cymraeg.

Manylion cyswllt

Awduron: Hayley Randall, Shannon Richards, Jonathan Owens a Sam Sullivan (Data Cymru)

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Nerys Owens
Ebost:  ymchwil.gwasanaethaucyhoeddus@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 23/2023

Image
GSR logo