Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

Teitl y papur

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Diben y papur

Galluogi trafodaeth ynghylch ymgorffori dull gweithredu gwrth-hiliol yn Llywodraeth Cymru yn dilyn cyhoeddi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Camau sy'n ofynnol gan y Bwrdd

Gofynnir i'r Bwrdd ystyried sut y bydd yn llywio'r modd y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgorffori gwrth-hiliaeth wrth weithredu'r sefydliad, a sut y bydd yn ei dwyn i gyfrif am hynny

Y swyddog sy'n cyflwyno'r papur

Claire Bennett

Paratowyd / cliriwyd y papur gan

Jo-anne Daniels

Ymgysylltiad/ Safbwynt Undebau Llafur

Nid ymgysylltwyd ag unrhyw Undeb Llafur penodol ynghylch y papur hwn.

Dyddiad cyflwyno i'r Ysgrifenyddiaeth

10 Mehefin 2022

1. Cefndir

1.1. Ystyriodd y Bwrdd ddiweddariad ar Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn flaenorol) yn ei gyfarfodydd ar 12 Tachwedd a 15 Rhagfyr 2022, a thrafododd sut y gellid ymgorffori dull gweithredu gwrth-hiliol yn fwy effeithiol yng ngwaith Llywodraeth Cymru, yn enwedig mewn perthynas ag arweinyddiaeth.

1.2. Mae'r papur hwn yn rhoi dolenni i'r Cynllun Gweithredu cyhoeddedig terfynol, ynghyd â'r Cyflwyniad byrrach i'r Cynllun, ac mae'n gwahodd sylwadau gan y Bwrdd ynghylch ei rôl wrth gefnogi'r broses o'i roi ar waith.

2. Materion i'w hystyried

2.1 Gellir dod o hyd i'r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol terfynol yn: Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ynghyd â'r Cyflwyniad byrrach i'r Cynllun, sy'n rhoi trosolwg da o'i ddiben a'i fwriad, yn: Cyflwyniad i’r Cynllun Cymru Wrth-hiliol

2.2 Mae'r Cynllun Gweithredu terfynol wedi'i ddiwygio'n sylweddol o gymharu â'r fersiwn yr ymgynghorwyd arni. Mae'r newid o 'gydraddoldeb hiliol' i 'wrth-hiliaeth' yn fwriadol er mwyn adlewyrchu'r safbwyntiau a nodwyd drwy'r ymgynghorid a'r broses gyd-ddylunio, a chydnabod bod angen ymdrech llawer mwy rhagweithiol a pharhaus er mwyn sicrhau newid. Mae angen i'r newid hwnnw ddigwydd ar lefel systemau sylfaenol ym mhob agwedd ar wasanaethau cyhoeddus a chymdeithas.

2.3 Ni fydd y Cynllun Gweithredu ynddo'i hun yn sicrhau newid o'r fath, ond bwriedir iddo ysgogi newid – nid yn unig drwy roi'r camau gweithredu a nodir ynddo ar waith yn effeithiol, ond drwy gymell mwy o fyfyrio a gweithredu ehangach er mwyn fynd i'r afael â'r ffordd y mae ein systemau'n gweithredu ar gyfer grwpiau gwahanol. Yn ogystal, drwy ei strwythurau atebolrwydd, bydd yn sicrhau proffil ac egni parhaus tuag at wneud cynnydd, ac yn fodd i roi mwy o dryloywder ynghylch y ffordd rydym yn mynd ati i sicrhau canlyniadau a phrofiadau tecach i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

2.4 Mae tôn, cwmpas ac uchelgais y Cynllun Gweithredu yn heriol yn fwriadol. Wrth gwrs, gallai fod yn fwy radical ac mae'r camau gweithredu a geir ynddo yn amrywio o bethau i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol i gamau gweithredu mwy gwrth-hiliol yn sylfaenol. Maent hefyd yn fan cychwyn i weithredu – neu'n gam nesaf lle bu gweithredu eisoes – a bydd angen adeiladu arnynt a'u hymestyn dros amser.

2.5 Gofynnir i'r Bwrdd ystyried:

  • Ei awydd i gynghori ar gynnydd i ymgorffori gwrth-hiliaeth yn Llywodraeth Cymru, a'i herio
  • Maint y newid y mae hyn yn ei olygu i Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus ehangach a blaenoriaethau ar gyfer camau gweithredu uniongyrchol
  • Y math o brosesau adrodd a fyddai'n fuddiol i'r Bwrdd wrth ystyried cynnydd
  • Y cymorth neu'r datblygiad y gallai fod eu hangen ar y Bwrdd i'w alluogi i gyflawni'r cyfrifoldeb hwn yn gyfrifol

3. Goblygiadau adnoddau

Goblygiadau riannol

3.1 Mae goblygiadau ariannol i weithredu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Nid yw'r dyraniadau cyllidebol a wnaed yn galluogi'r holl waith a gynlluniwyd gennym i gael ei wneud o fewn yr amserlen a bennwyd yn wreiddiol. Mae'r gwaith a gynlluniwyd wedi'i ail-broffilio er mwyn adlewyrchu'r gyllideb sydd ar gael. Cytunwyd yn rhannol ar yr achos busnes penodol i glustnodi bron £1.5m o gyllid DRC i staff er mwyn cyflawni'r Cynllun Gweithredu mewn gwahanol dimau ar draws Llywodraeth Cymru – gellid bwrw ati i recriwtio ond byddai angen i'r cyllid fod yn gyfuniad o gyllid DRC a chyllid rhaglenni. Mae'r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid rhaglenni ar gyfer nifer o rolau yn ddiweddar.

Goblygiadau i'r staff

3.2 Dylai ymgorffori dull gweithredu gwrth-hiliol yn Llywodraeth Cymru gael effaith gadarnhaol ar brofiad staff Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yn Llywodraeth Cymru. Bydd mynd i'r afael â systemau a phrosesau fel eu bod yn fwy tryloyw, yn decach ac yn arwain at ganlyniadau teg, o fudd i grwpiau eraill.

3.3 Nid ymgysylltwyd yn uniongyrchol ag Undebau Llafur Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, ond mae TUC Cymru wedi yn aelod o'r Grŵp Llywio. Ymgysylltir yn uniongyrchol ag Undebau Llafur Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu a chyflawni'r camau gweithredu yn y cynllun sy'n ymwneud â'n prosesau adnoddau dynol, yn ogystal ag adran ehangach y Cynllun ar 'arweinyddiaeth'.

4. Risgiau allweddol

4.1 Y risgiau allweddol sy'n gysylltiedig â rhoi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ar waith ac ymgorffori dull gweithredu gwrth-hiliol yw:

  • Diffyg staff (sydd â'r arbenigedd a'r hygrededd perthnasol) a diffyg adnoddau rhaglenni i arwain y gwaith a helpu i sicrhau newid yn Llywodraeth Cymru ac yn ehangach
  • Diffyg awydd, capasiti a gallu i ymgorffori dull gweithredu gwrth-hiliol
  • Colli hyder pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sydd wedi llunio'r cynllun ar y cyd yn ein hymrwymiad i fynd ati o ddifrif i gyflawni ein gweledigaeth o ran gwrth-hiliaeth, a chael ein dwyn i gyfrif am ein heffeithiolrwydd wrth wneud hynny
  • Peidio â chynnal y proffil a'r egni sydd eu hangen i sicrhau'r newid ymddygiadol a diwylliannol sydd ei angen

5. Cyfathrebu

5.1 Ceir rhaglen barhaus o waith ymgysylltu â staff yn Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gwrth-hiliaeth.

6. Materion cydymffurfiaeth cyffredinol

6.1 Nid oes unrhyw faterion cydymffurfiaeth penodol i'w nodi, ond bydd ymgorffori dull gweithredu gwrth-hiliaeth yn gwneud cyfraniad pwysig at gydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru â dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a gofynion y Ddeddf Cydraddoldeb a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Argymhellion

7.1 Gofynnir i'r Bwrdd ystyried goblygiadau mabwysiadu dull gweithredu gwrth-hiliaeth yn Llywodraeth Cymru o ran arweinyddiaeth.

Cyhoeddi

Dylid cyhoeddi'r papur hwn yn ei gyfanrwydd (gan gynnwys yr Atodiadau) gan nad oes yr un eithriad yn y Cod Ymarfer ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth yn gymwys.