Neidio i'r prif gynnwy

Ein gweledigaeth: gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol

Sefydlwyd y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ym Medi 2020, gan ddod â’r Llywodraeth, cyflogwyr ac undebau at ei gilydd mewn partneriaeth gymdeithasol i edrych ar sut dylid cymhwyso’r diffiniad o waith teg ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Yn ystod 2022 a drwy drafodaethau ar y cyd, mae’r Fforwm wedi parhau â’i waith i nodi sut y dylai arferion gwaith da edrych ym maes gofal cymdeithasol.

Mae’n amlwg i’r Fforwm fod gwella cyflogau, telerau ac amodau gweithwyr gofal nid yn unig o fantais i weithwyr ond hefyd i gyflogwyr a phobl sydd yn derbyn a dibynnu ar ofal a chefnogaeth. Mae’n hanfodol o ran recriwtio a chadw staff ac yn arwain at well gofal.

Mae achos moesol clir dros wella telerau ac amodau yn y sector. Ni ddylai'r rhai sy'n gofalu am ein hanwyliaid mewn cyfnod anodd iawn fod ymhlith y rhai lleiaf cydnabyddedig yn ein cymdeithas. 

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd ar rai o’r blaenoriaethau Gwaith Teg a nodwyd gan y Fforwm, ac yn amlinellu materion eraill sy’n dod i’r amlwg y byddwn yn mynd i’r afael â nhw yn 2023.

Cynnydd yn erbyn ein blaenoriaethau Gwaith Teg

Telerau ac amodau cydradd drwy fargeinio ar y cyd

Tra bod rhai rhannau o’r gweithlu gofal cymdeithasol yn elwa ar delerau ac amodau sydd wedi eu cytuno drwy drefniadau bargeinio ar y cyd, mae llawer o weithwyr gofal cymdeithasol yn y sector annibynnol ac nid yw’r trefniadau yma yn eu cynnwys.

Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi bod yn ystyried sut i ddatblygu model unigryw o fargeinio ar y cyd ar gyfer y sector gofal cymdeithasol annibynnol yng Nghymru. Byddai’r model hwn yn y pen draw yn ymgorffori nifer o elfennau Gwaith Teg sy’n cael ei datblygu gan y Fforwm ar hyn o bryd, fel y fframwaith cydnabyddiaeth a dilyniant neu dâl salwch sy’n cael ei amlinellu isod.

Yn ystod 2023, bydd y grŵp yn gosod a chytuno ar egwyddorion eang a gweledigaeth ar gyfer bargeinio ar y cyd ac yn darparu opsiynau cychwynnol ar gyfer aelodaeth wirfoddol. Yna bydd yn trafod gyda’r sector fel rhan o ddull graddol o weithredu a phrofi trefniant bargeinio ar y cyd ar gyfer y gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Fframwaith cydnabyddiaeth a dilyniant teg i’r sector cyfan

Mae’r Fforwm wedi bod gweithio i egluro sut y dylai arferion da edrych mewn perthynas â thelerau ac amodau i’r rhai sy’n darparu gofal cymdeithasol, ac mae wedi symud ymlaen i ddechrau datblygu fframwaith cydnabyddiaeth a gwobrwyo.

Wrth ganolbwyntio ar ofal uniongyrchol yn y sector i gychwyn, mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi bod yn gweithio gydag arbenigwyr adnoddau dynol ar draws y sector i ddatblygu Fframwaith, ac mae’r Fforwm wedi craffu arno a’i gymeradwyo. Bydd y fframwaith hwn yn gosod cyfres o ddisgrifiadau swyddi ar gyfer gofal cymdeithasol ac yn amlinellu’r cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â nhw.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi bod yn gweithio ar ran y Fforwm gyda Hugh Irwin Associates i arwain ymarfer ymgynghori ac ymgysylltu a fydd yn digwydd ym mis Mawrth 2023. Bydd y fframwaith yn cael ei addasu fel rhan o’r ymarfer ymgysylltu cyn cael ei gynnwys yn yr ymgynghoriad sydd i ddod gan Lywodraeth Cymru ar ganllawiau comisiynu cenedlaethol fydd yn cael ei lansio yn Ebrill 2023.

Cydnabyddiaeth Ariannol Deg

Mynd i’r afael â thâl isel yn y sector annibynnol a gomisiynwyd

Mae trefniadau comisiynu cyfredol yn dueddol o arwain at lefelau cyflog sy’n aros ar lleiafswm statudol yn hytrach na galluogi cynnydd i’r Cyflog Byw Gwirioneddol.  Golyga hyn for pobl sy’n gweithio yn y sector ar gyflogau isel ac yn aml ar wahanol drefniadau contractiol sy’n rhoi’r argraff nad yw gofalu yn rôl sy’n cael ei gwerthfawrogi neu’n un i aneli ati

Gweithiodd aelodau’r Fforwm gyda’i gilydd i baratoi achos manwl ar gyfer cyflwyno’r Cyflog Byw Gwirioneddol ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru ym mis Ebrill 2022. Ymateb Llywodraeth Cymru oedd darparu £43m o gyllid i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd ar gyfer 2022-23 i gyflwyno’r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’r Fforwm yn falch o nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi tua £70m yn rhagor o gyllid i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd ar gyfer 2023/24 i gynyddu cyflogau gweithwyr gofal cymdeithasol i gyrraedd y gyfradd sy’n cael ei hargymell gan y Sefydliad Cyflog Byw o £10.90 yr awr o fis Ebrill 2023 ymlaen.

Yn ystod 2023, bydd y Fforwm yn parhau i bwyso am ymestyn y Cyflog Byw Gwirioneddol yn ehangach na gweithwyr gofal cymdeithasol i gynnwys gweithwyr cynorthwyol sy’n gweithio mewn cartrefi gofal. Bydd hefyd yn cadw golwg ar y ffordd y caiff ei weithredu ac yn edrych ar ganlyniadau gwerthusiad annibynnol sydd yn cael ei gomisiynu ar hyn o bryd.

Tâl Salwch

Nid yw llawer o weithwyr gofal cymdeithasol yn y sector annibynnol yn derbyn tâl salwch. Mae’r Fforwm yn gweld hyn fel arwydd arall o’r anghydraddoldeb rhwng gweithwyr gofal cymdeithasol sy’n cael eu cyflogi gan Awdurdodau Lleol a’r GIG, a’r rheiny sy’n cael eu cyflogi yn y sector annibynnol a Chynorthwywyr Personol sy’n cael eu cyflogi drwy daliadau uniongyrchol. Yn ogystal ag effaith negyddol hyn ar weithwyr gofal cymdeithasol, mae’r diffyg tâl salwch yn risg ar gyfer y rheiny sy’n derbyn ac y dibynnu ar ofal.

Mae’r Fforwm yn ystyried tâl salwch yn flaenoriaeth frys i staff sy’n gweithio yn y sector annibynnol ac wedi darparu cyngor i Weinidogion sy’n ystyried yr argyfwng costau byw a phwysau’r gaeaf. Yn ystod 2023, bydd y Fforwm yn parhau i edrych ar welliannau y gellir eu gwneud i ddarpariaeth tâl salwch.

Amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol

Bydd grŵp gorchwyl a gorffen y Fforwm yn parhau i ystyried i ba raddau y mae gan weithwyr gofal cymdeithasol fynediad at amgylcheddau gwaith diogel, iach a chynhwysol. Bydd yn ystyried tystiolaeth o’r angen i weithredu yn y maes hwn, ac a oes angen gwaith pellach i wella’r amgylchedd gwaith, yn ogystal â’r graddau y gall llais y gweithwyr chwarae rhan yn cefnogi amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol.

Profiad Cynorthwywyr Personol yn y sector gofal cymdeithasol

Mae Cynorthwywyr Personol yn rhan bwysig o’r gweithlu gofal cymdeithasol ac mae’r Fforwm wedi bod yn awyddus i sicrhau eu bod yn cael eu hadlewyrchu yng ngwaith a gweithgareddau’r Fforwm.

Mae’r gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan y Fforwm i wella dealltwriaeth o swyddogaethau a phrofiadau Cynorthwywyr Personol bellach wedi ei gwblhau ac i’w weld ar ein gwefan. Mae’r canfyddiadau yn cael eu hystyried gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen sy’n cynnwys cynrychiolaeth partneriaid o’r Fforwm, Llywodraeth Cymru ac ar draws y sector gofal cymdeithasol gan gynnwys cyflogwyr a gweithwyr, yn ogystal a defnyddwyr gofal. Yn 2023, bydd y Grŵp yn argymell camau i wella profiad a chefnogaeth i Gynorthwywyr Personol a’r rhai sy’n derbyn taliadau uniongyrchol i helpu i egluro eu swyddogaethau a’u cyfrifoldebau.

Blaenoriaethau’r Fforwm yn 2023

Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn canolbwyntio ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Bydd y grŵp gorchwyl a gorffen hwn yn helpu i weithredu’r argymhellion yn ymwneud â’r gweithlu gofal cymdeithasol sy’n codi yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Bydd hefyd yn ystyried y camau sydd angen eu cymryd mewn ymateb i ymchwiliad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i brofiadau gweithwyr ethnig leiafrifol ar gyflogau is yn maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Rhoi sylw i hawliau, lleisiau a chynrychiolaeth y gweithwyr

Mae’r Fforwm wedi derbyn dipyn o dystiolaeth sy’n awgrymu fod diffyg ymwybyddiaeth o hawliau gweithwyr o fewn y sector gofal. Bydd hyn yn cael ei ystyried fel blaenoriaeth i’r Fforwm a byddwn yn ystyried y ffordd orau o wella hyn yn ystod 2023 ochr yn ochr ag ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o fanteision bod yn aelod o undeb llafur.

Comisiynu gwaith ymchwil ac ymgysylltu ar ddarpariaeth gwasanaethau gofal micro

Mae cynnydd wedi bod yn nifer y gofalwyr micro yn y sector gofal cymdeithasol. Gofalwyr micro yw unigolion neu fusnesau bach sy’n darparu gofal, cefnogaeth neu wasanaeth lles, a gall olygu gofal personol, gofal seibiant, tasgau domestig, cwmnïaeth ayyb. Gellir talu am wasanaethau gofal micro drwy Daliad Uniongyrchol, drwy arian personol neu eu comisiynu gan awdurdod lleol.

Nid yw gofalwyr micro bob amser yn cael eu cynnwys yn narpariaeth neu drefniadau’r sector gofal cymdeithasol, er enghraifft, os yw gwasanaethau gofal micro yn darparu gofal i bedwar neu lai o unigolion ar unrhyw adeg, gallant gael eu heithrio o’r disgwyliad i gofrestru fel gwasanaeth cefnogi gofal cartref gyda Arolygiaeth Gofal Cymru.

Mae hwn yn newid arall yn y tirlun gofal cymdeithasol sydd â goblygiadau gwaith teg. Yn 2023, bydd y Fforwm yn ystyried egwyddorion gwaith teg i ofalwyr micro i’w cynnwys fel rhan o ymarfer ymgysylltu â rhanddeiliaid Llywodraeth Cymru ac wrth ddatblygu polisi.

Amlygu diogelwch a hyblygrwydd contract

Yn 2023, bydd y Fforwm yn gweithio i gael gwell dealltwriaeth o effaith oriau nad ydynt wedi eu gwarantu, neu gontractau dim oriau ar weithwyr. Yn arbennig pa mor ymwybodol yw’r gweithwyr o’u hawliau, a pha mor llwyddiannus yw’r gofyniad ar ddarparwyr gwasanaethau gofal cartref wedi’u rheoleiddio i gynnig oriau wedi eu gwarantu i weithwyr ar gontract dim oriau ar ôl 3 mis o gael eu cyflogi.

Byddwn yn ceisio cyflymu effaith y gwaith ymchwil mae Llywodraeth Cymru wedi ei gomisiynu i ddefnydd contractau dim oriau mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru. Amcan yr ymchwil fydd casglu rhagor o wybodaeth ar ddefnydd contractau dim oriau ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol, ac asesu sut mae COVID-19 a Brexit wedi cael effaith ar y math yma o gontractau.

Rhagor o wybodaeth

Sefydlwyd y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ym mis Medi 2020 yn dilyn argymhelliad Comisiwn Gwaith Teg Cymru, a’r cadeirydd annibynnol yw’r Athro Rachel Ashworth, Deon a Phennaeth Ysgol Fusnes Caerdydd.

Mae'r Fforwm yn grŵp partneriaeth gymdeithasol sy'n cynnwys cyflogwyr, cyflogeion, rhanddeiliaid a'r Llywodraeth ar sail gyfartal.

Yr  aelodau yw:

  • Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
  • Fforwm Gofal Cymru
  • GMB
  • Fforwm Cenedlaethol y Darparwyr
  • Coleg Nyrsio Brenhinol
  • Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Cyngres yr Undebau Llafur
  • Unsain
  • Llywodraeth Cymru
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru