Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu plant i aros yng ngofal eu teuluoedd ac i ddarparu’r gofal sydd ei angen ar blant yn nes at eu cartref. Gweler adroddiad Llywodraeth Cymru ynghylch hyn, Gwella Canlyniadau i Blant

Mae lleihau nifer y plant yng Nghymru sy’n cael eu rhoi mewn gofal yn brif flaenoriaeth o hyd ac mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi bod yn gweithio i gyflawni eu cynlluniau lleihau disgwyliadau 3 blynedd i sicrhau gostyngiad yn y niferoedd. Mae hyn yn cynnwys nifer y plant sy’n cael eu cymryd oddi ar riant/rhieni sydd ag anabledd dysgu. O ganlyniad i hyn, comisiynwyd y Sefydliad Gofal Cyhoeddus  i wneud gwaith ymchwil i edrych ar nifer y plant yng Nghymru sy’n cael eu cymryd oddi ar rieni ag anableddau dysgu a’r rhesymau sydd wrth wraidd hyn. Gweler Ymchwil i’r Nifer o Blant yng Nghymru a Roddwyd mewn Gofal oddi ar Rieni ag Anableddau Dysgu a’r Rhesymau dros eu Symud gan Y Sefydliad Gofal Cyhoeddus.

Roedd yr argymhellion yn y gwaith ymchwil hwnnw’n cynnwys datblygu canllaw cenedlaethol i helpu gweithwyr cymdeithasol i ganfod a chynorthwyo teuluoedd yn well lle mae gan riant anabledd dysgu. Cafodd y ddogfen hon, felly, ei chomisiynu gan Lywodraeth Cymru i edrych ar yr argymhelliad hwn.

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol i ddatblygu’r canllaw hwn i nodi’r heriau mae teuluoedd a’r sawl sy’n eu cynorthwyo’n eu profi, a hefyd arferion da o ran darparu cymorth:

  • yr ymchwil a gynhaliwyd gan y Sefydliad Gofal Cyhoeddus
  • adolygiad cwmpasu o ymchwil, polisi a chanllawiau perthnasol  
  • trafodaeth â rhanddeiliaid allweddol ar lefel genedlaethol a rhyngwladol
  • cyfweliadau â rhieni ag anableddau dysgu
  • grwpiau ffocws a chyfweliadau unigol ag ystod o randdeiliaid gan gynnwys rheolwyr ac ymarferwyr gwaith cymdeithasol 
  • adborth gan randdeiliaid ar ddrafftiau cynnar o’r ddogfen hon

Drwy gydol y ddogfen, mae dyfyniadau wedi’u cynnwys gan gyfranogwyr o gyfweliadau â rhieni (cyfeirir atynt fel ‘rhieni’) a chyfweliadau / grwpiau ffocws â rhanddeiliaid ac ymarferwyr (cyfeirir atynt fel ‘cyfranogwyr’) i ddangos y cysylltiadau rhwng y canllaw a phrofiadau rhieni ac ymarferwyr.

Mae’r canllaw wedi’i drefnu o dan sawl prif bennawd, sef:

  • y gwerthoedd a’r egwyddorion sylfaenol
  • canfod rhieni ag anableddau dysgu
  • cyfathrebu effeithiol
  • eiriolaeth annibynnol 
  • asesu
  • cynllunio a darparu cymorth effeithiol
  • help mewn achosion llys
  • cydweithredu, cydlynu, a dilyniant 
  • cymorth sefydliadol 

Er eu bod yn cael eu cyflwyno ar wahân mae’r meysydd hyn wedi’u cydgysylltu ac mae angen eu hystyried ochr yn ochr â’i gilydd. Er enghraifft, mae sicrhau cyfathrebu effeithiol yn hanfodol o’r cychwyn cyntaf i ymgysylltu â theuluoedd ac mae angen hynny drwy gydol y gwaith asesu, cynllunio a darparu cymorth. Gall darparu eiriolaeth annibynnol helpu yn hyn o beth ac mae ymarfer effeithiol â theuluoedd yn gofyn am gymorth sefydliadol priodol. Bydd croesgyfeirio, felly, yn cael ei ddefnyddio yn y ddogfen hon pan yn briodol.

Gwerthoedd, egwyddorion a deddfwriaeth sylfaenol

Mae nifer o werthoedd ac egwyddorion allweddol sy’n sail i’r canllaw a ddisgrifir yn y ddogfen hon.

Yn gyntaf, pwysigrwydd parchu hawliau plant a’u rhieni ac yn benodol yr hawl i barch i fywyd preifat a theuluol fel y gwelir yn y Ddeddf Hawliau Dynol (1998). Mae’n cael ei gydnabod, fodd bynnag, y bydd adegau lle gall tensiynau godi rhwng hawliau’r rhieni a hawliau’r plentyn.

Yn ail, er bod gwasanaethau a ddarperir yn aml yn canolbwyntio ar naill ai’r plentyn neu’r rhieni, mae’r angen i ganolbwyntio ar y teulu yn ganolog i’r canllaw hwn. Mae hyn yn gofyn am gydweithredu a chydlynu effeithiol o fewn, a rhwng, gwasanaethau.

Mae pobl ag anableddau dysgu’n aml yn cael eu barnu’n ôl yr hyn na allant ei wneud yn hytrach na’r hyn y gallant ei wneud a’r hyn y gellid ei gyflawni. Mae pwyslais felly'n cael ei roi ar bwysigrwydd mabwysiadu dull seiliedig ar gryfderau, lle mae galluoedd rhieni’n cael eu cydnabod, a bod cymorth yn canolbwyntio ar adeiladu ar gryfderau i gyflawni canlyniadau dymunol. Mae hyn yn cyd-fynd â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014).

Mae llawer o rieni ag anabledd dysgu’n magu eu teuluoedd yn effeithiol heb ddim cymorth allanol. Fodd bynnag, bydd angen cymorth ychwanegol ar rai ac mae’r posibilrwydd o gyflawni canlyniadau positif yn codi os darperir cymorth yn rhagweithiol yn hytrach na dim ond pan fydd argyfwng yn codi. Mae pwysigrwydd ymyrraeth gynnar a dull rhagweithiol felly’n sail i’r canllaw hwn.

Mae’r gwerthoedd a’r egwyddorion hyn yn cyfateb i’r fframwaith cyfreithiol a pholisi presennol yng Nghymru (gweler Atodiad 1). Gwneir cyfeiriadau mewn pwyntiau allweddol yn y ddogfen hon at oblygiadau penodol wrth gymhwyso deddfwriaeth o’r fath i helpu teuluoedd lle mae gan riant anabledd dysgu.

Canfod rhieni ag anableddau dysgu

Nid oedd y gweithiwr cymdeithasol cyntaf yn gwybod bod gen i anabledd dysgu ac mi ddaru’r ail weithiwr cymdeithasol ddarganfod hynny, ac mae wedi bod yn sensitif iawn. Mae’n cymryd llawer mwy o amser i siarad â mi ac mae’n rhoi mwy o amser imi i ddeall pethau.

(Rhiant 4)

Mi ddwedais wrth y gweithiwr cymdeithasol bod gen i fân anabledd dysgu achos mi wyddwn hynny o’r ysgol, ond wnaethon nhw ddim byd yn wahanol. Yr unig un a helpodd oedd fy eiriolydd a [enw gweithiwr cymorth]. Mi oedden nhw’n gofyn am fwy o amser ac yn egluro pethau imi.

(Rhiant 8)

Mae darparu cymorth amserol a phriodol yn bwysig i ganfod a oes gan riant anabledd dysgu. Mae’r rhan fwyaf o ddiffiniadau’n nodi y dylai tri dangosydd allweddol fod yn bresennol er mwyn i unigolyn gael ei ystyried fel bod ag anabledd dysgu:

  • mae ganddynt allu deallusol is; mae hyn yn golygu y gall unigolyn gael anawsterau i ddeall gwybodaeth newydd neu gymhleth – er enghraifft, efallai y byddant yn cael anhawster wrth ddeall cyfarwyddiadau, datrys problemau, cofio gwybodaeth a meddwl haniaethol; gall rhai gwasanaethau ddefnyddio’r maen prawf o fod ag IQ o 70 neu lai
  • maent yn cael anawsterau â gweithgareddau byw o ddydd i ddydd ac efallai y bydd angen help arnynt i ddiwallu anghenion hylendid, maeth a diogelwch
  • roedd yr anawsterau hyn wedi cychwyn cyn iddynt fod yn oedolion (cyn iddynt fod yn 18 oed) a byddant yn effeithio arnynt gydol eu hoes

Er bod anhawster dysgu’n gyflwr gydol oes, gall unigolion ddysgu a datblygu sgiliau newydd os byddant yn cael y cyfleoedd a’r help cywir.

Mae’n bwysig nodi bod Llywodraeth Cymru yn annog defnyddio’r model cymdeithasol o anabledd. Mae hyn yn cydnabod er y gall pobl fod â namau gwahanol (fel anabledd dysgu) gallant fod wedi’u hanablu gan ystod o rwystrau cymdeithasol, ariannol, corfforol, ac o ran agwedd sy’n cyfyngu ar eu cynhwysiant a’u cyfranogiad mewn cymdeithas. Wrth ystyried anghenion rhieni ag anabledd dysgu mae’n bwysig felly ein bod yn deall sut mae’r rhwystrau hyn yn effeithio ar eu gallu i rianta. Drwy gydol y ddogfen hon mae’r pwyslais ar gydnabod a rhoi sylw i'r anghenion hyn.

Mae’r term ‘anabledd dysgu’ yn cynnwys pobl ag ystod eang o alluoedd, cryfderau ac anghenion. Cyfeirir weithiau at unigolion sydd â ‘mân’ anableddau dysgu, anableddau dysgu ‘cymedrol’, ‘difrifol’ neu ‘ddwys’. Pan fydd gan rywun anableddau dysgu difrifol neu ddwys, mae’n debygol y bydd angen lefelau cymorth sylweddol arnynt gyda llawer neu bob agwedd ar fywyd pob dydd. Efallai hefyd na fyddant yn cyfathrebu’n eiriol neu bydd eu geirfa’n gyfyngedig.

Fodd bynnag, pan fydd gan rywun fân anabledd dysgu, efallai na fydd hyn yn amlwg ar unwaith i eraill. Efallai y byddant (er enghraifft) yn cael trafferth â rhai agweddau ar fyw o ddydd i ddydd fel darllen a chyllidebu ond eu bod wedi datblygu ffyrdd o reoli ac ymdopi’n annibynnol. Efallai na fyddant yn uniaethu â’r ‘label’ anableddau dysgu ac efallai y byddant yn amharod i ddatgelu i eraill eu bod yn profi anawsterau am eu bod yn ofni stigma. Gall hyn fod yn arbennig o wir os oes ganddynt blant oherwydd mi all y rhieni boeni y byddai eu plant yn cael eu cymryd o’u gofal yn awtomatig os daw eraill i wybod am eu hanawsterau.

Gall gwasanaethau neu unigolion gyfeirio at y term ‘anableddau dysgu’. Nid ddylai’r termau ‘anableddau dysgu’ ac ‘anawsterau dysgu’ gael eu defnyddio i ddisgrifio’r un peth ond, yn ymarferol, gall hyn ddigwydd yn enwedig os bydd yn well gan unigolyn i bobl gyfeirio atynt fel rhywun ag anawsterau dysgu. Dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o hyn ac, er eu bod am barchu hoffterau’r cleient, dylent allu gwahaniaethu rhwng y ddau. Defnyddir y term ‘anawsterau dysgu’ yn aml lle mae gan unigolyn anawsterau wrth ddysgu ond nad yw’n cydymffurfio â’r meini prawf ar gyfer bod ag anabledd dysgu (gweler uchod) ac mae’n cynnwys cyflyrau niwroddatblygiadol fel awtistiaeth, dyslecsia, dyspracsia, a dyscalcwlia sy’n gallu effeithio ar weithrediad addasol. Er bod y cyflyrau hyn yn gallu cydfodoli ag anabledd dysgu, os nad oes gan unigolyn nam sylweddol ar weithrediad deallusol, bernir fod ganddynt anhawster dysgu’n hytrach nag anabledd dysgu.

Weithiau ceir atgyfeiriad gan un neu ragor o’r rhieni a aseswyd yn ffurfiol fel bod ag anabledd dysgu ac mi allant hefyd fod yn hysbys i’r Tîm Anableddau Dysgu Oedolion yn y Gymuned. Fodd bynnag, nid yw’r rhan fwyaf o oedolion â mân anableddau dysgu yn hysbys i wasanaethau anableddau dysgu oedolion. Gall cofnodion eu Meddyg Teulu gofnodi gwybodaeth o’r fath a gall fod yn ddefnyddiol wrth wneud penderfyniad ynglŷn â bodolaeth anabledd dysgu.

Heb wybodaeth o’r fath bydd angen holi gofalus i ganfod a oes gan riant anabledd dysgu. Weithiau bydd gofyn y cwestiwn “A oes rhywun erioed wedi awgrymu bod gennych anabledd dysgu?” mewn ffordd sensitif arwain at ymateb positif gan rieni. Fodd bynnag, efallai y byddant yn amharod i ddatgelu hyn ac mae’n bwysig pwysleisio mai’r rheswm dros gael gwybodaeth o’r fath yw chwilio am y ffordd orau o’u helpu. Gall rhai dangosyddion eraill gynnwys:

  • dywed y rhiant eu bod wedi bod i ysgol arbennig, wedi cael cymorth arbenigol yn ystod eu haddysg, neu wedi mynychu uned arbenigol mewn coleg Addysg Bellach
  • dywed y rhiant eu bod yn cael anawsterau â sgiliau allweddol, fel darllen, ysgrifennu, rhifedd
  • ymddengys fod y rhiant yn cael anhawster i ddeall a chofio gwybodaeth
  • mae gan y rhiant gopi o’r Proffil Iechyd Cymru Gyfan sy’n cynnwys manylion am eu hanghenion iechyd, cyfathrebu a chymorth

Gall ffactorau eraill heblaw anabledd dysgu hefyd effeithio ar sut mae rhieni’n arddangos arwyddion. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cyflyrau eraill sy’n cydfodoli fel awtistiaeth, ADHD, neu broblemau iechyd meddwl (gweler Atodiad 2 am ragor o adnoddau)
  • nam synhwyraidd
  • gwahaniaethau ieithyddol lle nad yw iaith gyntaf y rhiant yn Gymraeg/Saesneg
  • gwahaniaethau diwylliannol

Mae’n bwysig bod presenoldeb posibl anableddau dysgu’n cael eu canfod cyn gynted â phosibl yn y broses o ymgysylltu â’r teulu i sicrhau asesiad priodol ac i gynnig cymorth effeithiol ac amserol. Mae offer sgrinio ar gael y gellir eu defnyddio, gyda chydsyniad y rhiant, i helpu i ganfod presenoldeb anableddau dysgu. Mae’r rhain yn cynnwys yr Holiadur Sgrinio Anableddau Deallusol Plant a’r Glasoed (CAIDS-Q) a’r Holiadur Sgrinio Anableddau Dysgu (LDSQ) (gweler Atodiad 2). Er nad ydynt yn rhoi diagnosis ffurfiol gallant fod yn ddefnyddiol i sicrhau bod cymorth priodol yn cael ei ddarparu.

Mae’n bosibl y bydd angen asesiad / diagnosis ffurfiol, a gall hyn gael ei hwyluso drwy atgyfeirio at y Tîm Anableddau Dysgu Oedolion yn y Gymuned. Fodd bynnag, efallai y bydd rhestr aros ar gyfer asesiadau o’r fath, ac mae’n bwysig nad oes dim oedi cyn darparu cymorth i’r teulu.

Felly, os na chafwyd diagnosis ffurfiol, ond bod arwyddion y gall fod gan y rhieni anabledd dysgu, yna byddai’n arfer da i weithredu’r egwyddorion yn y canllaw hwn pan fydd rhagor o asesiadau’n cael eu cynnal.

efallai …byddai peidio â gwneud y penderfyniad bod ganddynt anabledd dysgu, ond rhoi iddynt y cymorth hwnnw a fydd yn ei galluogi, os oes ganddynt anabledd dysgu, i gael cymorth gwell heb ... gwneud i bobl deimlo bod stigma ynghlwm wrth gael y label hwnnw. Dim ond rhoi’r help iddynt a pheidio o reidrwydd â dweud yn gyhoeddus bod gan yr unigolyn hwn anabledd dysgu.

(Cyfranogwr 9).

Pwyntiau ymarfer da:

  • Os yw anabledd dysgu rhiant wedi’i gadarnhau, dylai hyn lywio’r asesiad o’r teulu a’r cymorth a ddarperir yn ddiweddarach.
  • Os gwelir fod gan riant anabledd dysgu, ond heb gael diagnosis a/neu nad yw’n hysbys i’r Tîm Anableddau Dysgu Oedolion yn y Gymuned, yna dylid (gyda chydsyniad y rhiant) ystyried defnyddio offer sgrinio. 
  • Ni ddylid oedi cyn darparu cymorth priodol nes ceir diagnosis / asesiad ffurfiol.
  • Dylid gweithredu’r canllaw a geir yn y ddogfen hon bob tro y credir fod gan riant anabledd dysgu posibl.

Cyfathrebu effeithiol

Cyfathrebu  - nid yw’n rhywbeth “braf i’w gael”, mae’n gwbl hanfodol. Mae’n hawl dynol. Mae’n gyfranogiad llawn ... yr hawl i rieni gael cyfathrebu dwy ffordd effeithiol fel y byddant nid yn unig yn deall yr hyn sy’n cael ei ddweud ac a ddisgwylir ganddynt, ond bod yr hyn maent yn dymuno’i ddweud a’i gyfathrebu’n cael ei gyfleu yn yr un modd

(Cyfranogwr 8)

Mae cyfathrebu dwy ffordd effeithiol yn sylfaen hanfodol i weithio â phob teulu. Fodd bynnag, fel y mae’r dyfyniad uchod yn ei danlinellu, os oes gan riant anabledd dysgu mae’n bwysicach fyth bod sylw gofalus yn cael ei roi i hyn o’r cysylltiad cyntaf oherwydd yr anawsterau y gallant eu profi wrth geisio deall a chofio’r wybodaeth. Bydd angen rhoi sylw i unrhyw addasiadau (addasiadau rhesymol) fydd eu hangen er mwyn i’w barn, eu dymuniadau a’u pryderon gael eu clywed, fel y byddant yn deall yr hyn sy’n cael ei ddweud wrthynt, a’r hyn a ddisgwylir ganddynt. Mae hefyd yn bwysig cydnabod sut y gall rhwystrau iaith a/neu gyflyrau sy’n cydfodoli fel awtistiaeth effeithio ar gyfathrebu (gweler Atodiad 2 am ragor o adnoddau yn ymwneud ag awtistiaeth).

Y cam cyntaf i gyfathrebu’n effeithiol yw meithrin ymddiriedaeth. Mae hyn yn gydnaws â dull seiliedig ar berthynas mewn gwaith cymdeithasol ond gall fod yn anodd os oes gan rieni hanes o brofiadau negyddol o ddelio â gwasanaethau. Efallai y byddant hefyd yn poeni am ganlyniadau’r cysylltiad presennol.

Felly, mae fy nghyfathrebu’n digwydd i feithrin perthnasoedd.

(Cyfranogwr 5)

Y peth gorau am yr hyn mae hi’n ei wneud yw rhoi tawelwch meddwl i chi a'ch helpu, nid yw hi byth yn fy marnu i na fy ngŵr a dywedodd ei bod yn deall beth rydym yn ei feddwl... Y peth gorau oedd ei bod bob amser yn onest ac agored, roedd yn dweud wrthym beth yn union oedd yn digwydd

(Rhiant 13)

Mae meithrin perthynas â’r rhiant/rhieni yn allweddol i gyfathrebu’n effeithiol i gael y canlyniadau gorau posibl i bob aelod o’r teulu. Efallai y bydd rhieni ag anableddau dysgu’n ffafrio ffyrdd penodol o gyfathrebu, a man cychwyn da yw gofyn sut yr hoffent i chi gyfathrebu â hwy, beth fyddai’n eu helpu i ddweud yr hyn maent eisiau’i ddweud, a dod i gytundeb ar sut rydych am gyfathrebu.

Rwyf yn teimlo’n rhwystredig â’r holl wasanaethau, ac ni allaf wneud iddynt wrando arna i. Nid ydynt yn clywed yr hyn sydd gen i i’w ddweud ac yna maent yn dweud fy mod yn ymosodol ac nad ydym yn mynd i unman.

(Rhiant 1)

Yr help gorau i’w gael gan y gweithiwr cymdeithasol yw iddynt i gymryd amser ac eistedd, boed hynny dros y ffôn neu wyneb yn wyneb a gwrando ar y sawl maent yn ceisio’i helpu.

(Rhiant 4)

Gall rhieni ag anableddau dysgu brofi sawl rhwystr pan fyddant yn ceisio mynegi’r hyn sydd ar eu meddwl a chael eu clywed. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • rhagdybiaethau pobl eraill
  • anghydraddoldeb mewn pŵer 
  • ofn a gorbryder 
  • hanes o beidio cael eu clywed
  • hanes o bobl eraill yn siarad ar eu rhan 
  • geirfa gyfyngedig 
  • stigma/gwahaniaethu 

Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod y pandemig COVID-19 wedi arwain at newidiadau mewn cyfathrebu wrth i ryngweithio ddigwydd ar-lein yn aml. Er bod hyn yn gallu bod yn anodd i lawer o bobl mi all olygu heriau ychwanegol i rieni ag anabledd dysgu. Efallai na fydd ganddynt ddefnydd hwylus o gyfarpar TG a/neu efallai na fydd ganddynt yr wybodaeth a’r sgiliau i’w ddefnyddio. Bydd darllen iaith y corff a chiwiau eraill yn fwy anodd ar-lein, ac mae’n ei gwneud hyd yn oed yn fwy anodd i ofyn cwestiynau ac i fynegi pryderon. Os yw cyfathrebu ar-lein yn anorfod yna dylid sicrhau bod rhieni’n cael help i baratoi ar gyfer, i gymryd rhan mewn, ac i drafod ar ôl cyfarfodydd o’r fath.

Gan fod y cyfarfodydd yn digwydd ar Teams, weithiau mi all fod yn anodd pan fydd rhywun yn siarad. Ni allwch weld y person; ni allwch weld iaith eu corff, ac weithiau dyna’r iaith maent yn ei defnyddio. Maent yn defnyddio iaith broffesiynol, termau proffesiynol ac ati, llawer o lythrennau gwahanol a geiriau byr am bethau ac yn y blaen. Mi aethom i gyfarfod heb wybod dim gyda gweithiwr cymdeithasol ar ddyletswydd, roedd pethau’n codi nad oeddem wedi eu trafod erioed o’r blaen.

(Rhiant 12)

Pwyntiau ymarfer da:

  • Gofynnwch i’r rhieni sut yr hoffent i chi gyfathrebu â hwy a chytunwch ar sut i wneud hynny.
  • Gofynnwch ‘beth sy’n gweithio orau i chi?’
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn ‘gwrando’ nid yn unig ar yr hyn sy’n cael ei ddweud ond hefyd ar yr hyn sy’n cael ei gyfleu drwy iaith y corff, mynegiant yr wyneb ac ati.
  • Rhowch ‘ganiatâd’ i rieni i fynegi eu barn drwy ofyn am eu barn a gweld a oes rhywbeth arall yr hoffent ei ddweud.
  • Ceisiwch osgoi defnyddio ‘jargon’ pan yn bosibl (a lle na ellir ei osgoi) gwnewch yn siŵr eich bod yn egluro popeth mewn iaith syml.
  • (Gweler Atodiad 2 am rai adnoddau).
  • Rhowch wybodaeth mewn fformatau sy’n helpu rhieni i’w deall a’i chofio.
  • Gallai hyn gynnwys rhoi gwybodaeth mewn fformat Hawl ei Ddarllen, defnyddio iaith arwyddion neu symbolau, neu recordiadau sain.
  • Meddyliwch am faint o wybodaeth sy’n cael ei rhannu ar y tro ac ar ba gyflymder mae hi’n cael ei rhannu i annog dealltwriaeth ac i osgoi rhoi gormod o wybodaeth ar y tro.
  • Gwiriwch eu bod wedi deall yr wybodaeth a roddwyd – eich dealltwriaeth chi o’r hyn mae’r rhieni wedi’i ddweud a dealltwriaeth y rhieni o’r hyn a ddywedwyd wrthynt hwythau.
  • Gwiriwch eu bod yn cofio’r wybodaeth – er enghraifft gwirio ym mhob ymweliad beth a drafodwyd y tro diwethaf.
  • Rhowch help i gynorthwyo rhieni i gofio ac i weithredu ar wybodaeth fel anfon negeseuon testun neu alwadau ffôn i’w hatgoffa, defnyddio gwybodaeth ar ffurf lluniau ac yn y blaen.
  • Hwyluswch fynediad at eiriolydd annibynnol i’r rhieni i gynnig cymorth ychwanegol (gweler adran 5 isod).

Eiriolaeth annibynnol

Mae pwysigrwydd llais, rheolaeth ac eiriolaeth yn ganolog i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014) fel ffordd o sicrhau bod unigolion yn gallu ymgysylltu a chyfranogi yn yr asesiad ac i ddiwallu eu hanghenion. Gweler rhan 10 y Cod Ymarfer (Eiriolaeth). Gall unigolion ddewis eu heiriolwyr eu hunain (fel teulu a ffrindiau) ond mewn rhai amgylchiadau bydd angen eiriolwyr annibynnol, proffesiynol sydd wedi cael hyfforddiant priodol (gyda dealltwriaeth o anghenion pobl ag anableddau dysgu). Yn achos rhieni ag anabledd dysgu mae help eiriolydd annibynnol yn cael ei weld fel elfen allweddol o arferion gorau ,  a dylid ei ddarparu cyn gynted â phosibl yn y broses o ymgysylltu â theuluoedd. Gweler Bristol University's Working Together with Parents Good Practice Guidelines.

Mae rôl yr eiriolydd annibynnol yn wahanol i gyfryngwyr a benodir gan lysoedd (gweler Adran 8).

Alla i ddim gweld sut y byddent yn gweithredu heb eiriolydd. Ac rwy’n credu’n gryf y dylai fod heb y rhagfarn “Rwy’n gweithio i wasanaethau cymdeithasol” neu “Rwy gydag iechyd” … Mae angen rhywun sy’n gwbl annibynnol ac sydd yno ar gyfer yr unigolyn ac a all eu helpu i ddeall pethau.

(Cyfranogwr 1)

Mae sawl elfen ynghlwm wrth eiriolaeth ac mae gan bob un ohonynt oblygiadau wrth ddarparu cymorth i rieni ag anabledd dysgu. Gall eiriolwyr helpu rhieni â’r canlynol:

  • deall prosesau – gallant dreulio amser â’r rhieni yn eu helpu i ddeall yr hyn sy’n digwydd, beth a ddisgwylir ganddynt, a’r amserlenni dan sylw; gall hyn gynnwys addasu gwybodaeth i fformat neu amserlenni sy’n briodol i’r rhieni; gan eu bod yn annibynnol, maent yno i helpu’r rhieni
  • cyfleu barn, dymuniadau a theimladau – wrth ryngweithio â chorff swyddogol fel awdurdod lleol mae gwahaniaethau mawr rhwng pŵer y ddwy ochr; gall rhieni deimlo’n ofnus wrth godi llais a/neu gael anhawster wrth fynegi eu hunain yn glir os bydd achos yn mynd o flaen llys (gweler Adran 8); gall eiriolydd annibynnol dreulio amser â rhieni cyn cyfarfodydd swyddogol, ac ymddangosiadau mewn llys i benderfynu ar yr hyn maent eisiau ei ddweud, a pha gwestiynau i’w gofyn
  • deall sut y gall neu pam na all yr Awdurdod Lleol ddiwallu anghenion – efallai y bydd rhieni’n amharod i ofyn am help gan ofni y gallai hynny gael ei weld fel methiant ar eu rhan; gall eiriolydd annibynnol helpu rhieni i fod yn ddeall pa help sydd ar gael iddynt a’u helpu i gael gafael ar yr help hwnnw
  • gwneud penderfyniadau am ofal a chymorth - gall eiriolydd annibynnol rannu gwybodaeth gymhleth yn ddarnau llai a helpu rhieni i ganfod camau posibl i’w cymryd (a chanlyniadau’r camau hynny) mewn ffyrdd sy’n briodol, ac yn ddealladwy, i’r rhiant
  • deall eu hawliau – gall eiriolwyr annibynnol helpu rhieni i ddeall eu hawliau, i ddangos lle mae eu hawliau’n cael eu hesgeuluso, a’u helpu i gael iawn am hynny
  • herio penderfyniadau neu brosesau – efallai y bydd rhieni’n anhapus â phenderfyniadau a wneir neu brosesau a ddilynir ond yn teimlo na allant eu herio; gall eiriolydd helpu drwy egluro natur eu pryderon, eu helpu i’w mynegi drwy’r sianelau priodol neu (gyda chaniatâd y rhieni) eu mynegi ar eu rhan; gallant hefyd eu helpu i ddeall pam y gwnaed penderfyniad neu pam y dilynwyd proses benodol
  • helpu i ddeall materion diogelu – gallant helpu rhieni i ddeall pryderon diogelu, y camau sydd eu hangen, a’r canlyniadau y mae angen eu cyflawni

Drwy gyflawni’r rolau uchod, gall eiriolwyr annibynnol wneud cyfraniad pwysig i liniaru risgiau. Gallant hefyd helpu gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio â’r teulu drwy, er enghraifft, hwyluso a helpu â chyfathrebu.

Wel, mi symudodd fy mab i ysgol arall ac roedd ei ymddygiad yn ddrwg, yna mi ddechreuon nhw gysylltu mwy. Roedd ei ymddygiad yn ddrwg adref ac yn yr ysgol. Dwi’n meddwl y dylent fod wedi gwneud mwy na mynd i gyfarfodydd. Ar y dechrau doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd ond wedyn mi ges eiriolydd ac mi oedd hynny’n help mawr imi.

(Rhiant 8)

mae gan un teulu eiriolydd sy’n gweithio â nhw, a’r gweithiwr cymdeithasol. Wedyn roedd popeth a oedd yn cael ei ddweud wrthynt yn cael ei ddweud wrthynt drwy’r eiriolydd mewn ffordd y gallant ei deall.

(Cyfranogwr 5)

Pwyntiau ymarfer da:

  • Dylai rhieni ag anabledd dysgu gael gwybod am wasanaethau eiriolaeth annibynnol cyn gynted â phosibl a chael help i’w defnyddio os mai dyna yw eu dymuniad.
  • Dylai eiriolwyr annibynnol fod â phrofiad o weithio â phobl ag anabledd dysgu a phrofiad a dealltwriaeth o achosion amddiffyn plant.
  • Dylai eiriolwyr annibynnol ymwneud â’r achos cyn gynted â phosibl i sicrhau bod rhieni’n cael help yn ystod asesiadau ac unrhyw achos llys a all ddilyn hynny.
  • Nid yw’n dderbyniol i rieni gwrdd ag eiriolydd am y tro cyntaf yn syth cyn mynd i mewn i’r llys.
  • Dylai eiriolwyr annibynnol weithio â rhieni ag anabledd dysgu dros gyfnod i gael dilyniant, gwell dealltwriaeth o gryfderau a dymuniadau’r rhieni, ac i ennyn yr ymddiriedaeth sydd ei angen i gael perthynas eiriolaeth effeithiol.
  • Mae’n hanfodol bod gwasanaethau eiriolaeth annibynnol arbenigol ar gyfer rhieni ag anabledd dysgu ar gael a’u bod yn cael eu hariannu.

Asesu

Mae egwyddorion asesu wedi’u disgrifio yn Rhan 3 o God Ymarfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014). Mae diben asesu wedi’i nodi yno fel modd i ddeall yr anghenion, y galluedd, yr adnoddau a’r canlyniadau sydd eu hangen ar unigolion i gyflawni ac wedyn i ddefnyddio’r wybodaeth hon i benderfynu ar y ffordd oriau o helpu i gyflawni’r canlyniadau hyn (Adran 11). Mae angen pum elfen allweddol yn yr asesiadau i allu cyflawni hyn:

  • asesu a rhoi sylw i amgylchiadau’r unigolyn
  • rhoi sylw i’w canlyniadau personol
  • asesu a rhoi sylw i unrhyw rwystrau rhag cyflawni’r canlyniadau hyn
  • asesu a rhoi sylw i unrhyw risgiau i’r unigolyn neu i bobl eraill os na chyflawnir y canlyniadau hynny
  • asesu a rhoi sylw i gryfderau a galluoedd yr unigolyn

Wrth weithio â theuluoedd lle mae gan riant anableddau dysgu, yn enwedig os yw ymyriad yn ymateb i bryderon a godwyd yn achos llesiant plant, mae’n bwysig asesu nid yn unig anghenion y plant ond hefyd anghenion y rhieni ac anghenion yr uned deuluol.

Efallai y bydd rhieni’n teimlo dan fygythiad gan y broses asesu, yn enwedig os oes pryderon diogelu wedi’u mynegi. Mae’n bwysig, felly, bod asesu’n cael ei weld fel ffordd o ganfod yr angen am gymorth a bod ymdrechion yn cael eu gwneud i ennyn ymddiriedaeth. Bydd angen neilltuo amser i egluro prosesau a pham maent yn digwydd mewn ffordd y gall y rhieni ei deall. Gall fod yn fuddiol i ddatblygu cytundeb ynglŷn â’r ffordd ymlaen i gynnal yr asesiad.

cyn cychwyn ar asesiad, byddaf yn ymweld â’r rhieni ac yn cytuno â hwy sut y bydd yr asesiad yn cael ei gynnal. Mae hynny’n swnio’n rhywbeth sylfaenol ... ond mae’n ychwanegu llawer iawn o werth ... rydym yn sôn am bennu (rheolau sylfaenol) ... nid wyf am ddefnyddio jargon, ac os wyf yn defnyddio jargon, gallwch ddweud wrthyf am stopio. Yna rydym yn cytuno ar air diogel felly, os yw pobl yn mynd yn emosiynol, neu os ydynt yn ddryslyd neu’n cael eu llethu, gallant ddweud y gair a byddwn yn stopio ar unwaith ... rydych yn rhoi caniatâd iddynt, yn eu grymuso...ac mi allwch ddweud y byddwch, bob hanner awr, yn gofyn, a hoffech gael seibiant, fel y gallwn stopio, fel y gallwch godi.

(Cyfranogwr 7)

Mae’r canllaw cyfredol hwn yn ychwanegu at yr hyn a geir yn y Cod Ymarfer ac mae’n amlygu ystyriaethau ychwanegol sy’n bwysig wrth asesu teulu lle mae gan riant/rhieni anableddau dysgu. Y prif feysydd i’w hystyried yw pryd, pwy, beth, ble a pham yr asesiad.

Rwyf yn cael fy synnu bob amser ... pa mor hwyr yn y broses ... yr ydym yn cynnal yr asesiadau a faint o dybiaethau sydd wedi’u gwneud am allu’r rhieni cyn hynny. Pan fyddwn yn cael atgyfeiriad, rydym yn siarad â’r gweithiwr cymdeithasol ...Beth am inni fynd drwy’r ffurflen, gadewch inni weld beth yw eu hanghenion...rwyf yn cael fy synnu er ein bod wedi gweithio â’r teulu ers misoedd a misoedd ac eto rwyf yn dod ar draws gwybodaeth newydd, ac rwyf yn meddwl y dylai’r asesiadau fod wedi’u gwneud yn llawer cynharach, ac y byddent wedyn yn sail i unrhyw ymyriadau.

(Cyfranogwr 3)

Pryd: Mae asesu amserol bob amser yn bwysig, ond mae hyn yn arbennig o wir os oes gan rieni anabledd dysgu oherwydd efallai y byddant angen mwy o amser i ddatblygu sgiliau ac y bydd angen help ychwanegol arnynt i ddeall a chofio gwybodaeth newydd a chymhleth. Gall oedi cyn asesu olygu oedi cyn y gellir darparu cymorth priodol a bod llai o amser ar gael i rieni i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau a all fod eu hangen arnynt i ofalu’n briodol am eu plentyn neu blant.

Mae hyn yn bwysicach fyth os oes pryderon wedi’u mynegi ynglŷn â llesiant y plentyn a lle mae angen i rieni ddangos gwelliannau o fewn amser penodol. Er enghraifft, mae’r broses Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus yn nodi amserlen o 26 wythnos gan ddechrau pan fo awdurdod lleol yn gwneud eu cais a gallai’r cyfnod hwn o 26 wythnos ddechrau cyn y gwrandawiadau llys. Gallai unrhyw oedi wrth asesu a darparu cefnogaeth briodol olygu felly ei bod yn amhosibl i’r rhieni sicrhau’r canlyniadau angenrheidiol o fewn yr amserlen hon.

Yn ddelfrydol, byddai asesiad yn cael ei gynnal cyn gynted ag y bydd beichiogrwydd yn cael ei gadarnhau i sicrhau bod cymorth priodol ar gael ac i roi cymaint o amser â phosibl i rieni i ddysgu unrhyw wybodaeth a sgiliau newydd. Os na ellir gwneud hyn yna dylid cychwyn ar y broses cyn gynted â phosibl. Mae’n bwysig cofio hefyd bod galluedd yn gallu amrywio dros amser ac felly dylid edrych ar anghenion asesu fel proses yn hytrach na digwyddiad. Efallai y bydd angen ailasesu wrth i anghenion datblygiadol y plentyn/plant newid ac wrth i amgylchiadau’r teulu newid. Mae asesiad cynhwysfawr yn hanfodol hefyd wrth ymdrechu i ailuno teuluoedd a dychwelyd plant i’r cartref teuluol.

Pwy: Wrth ystyried y ‘pwy’ wrth asesu, mae pwy ddylai gynnal yr asesiad a phwy ddylai fod yn bresennol yn bwysig. Dylai’r asesydd fod yn rhywun â phrofiad o weithio ag oedolion ag anabledd dysgu fel y bydd ganddynt yr wybodaeth a’r sgiliau gofynnol i ddeall ac addasu ar gyfer anghenion cyfathrebu’r rhieni. Er enghraifft, efallai y bydd angen medru aralleirio cwestiynau ac addasu asesiadau i sicrhau bod y rhieni’n deall yr hyn a ofynnir iddynt ac i'w galluogi i fynegi eu barn (gweler Adran 4). Dylai’r asesydd hefyd fod wedi cael hyfforddiant priodol i ddefnyddio unrhyw adnoddau asesu arbenigol. Gall y Tîm Anableddau Dysgu Oedolion yn y Gymuned a gweithwyr proffesiynol eraill fel Meddyg Teulu neu Ymwelydd Iechyd helpu o ran cynghori neu gymryd rhan mewn asesiad ar y cyd.

A dweud y gwir rwy’n credu bod lle i asesiadau ar y cyd, yn hytrach na’u bod yn un lle penodol rydych yn ei adnabod gyda’r tîm i’w wneud, ac rwy’n credu bod hynny’n helpu i roi sylw i unrhyw anghydraddoldebau mewn pŵer ... Llesiant y plentyn sy’n dod gyntaf, ynte? A dyna fydd yr achos bob amser. Ond rwy’n teimlo bod yr anawsterau mae pobl ag anableddau dysgu’n eu hwynebu’n cael eu colli yn hynny weithiau ac rwy’n meddwl bod angen iddynt gael yr unigolyn hwnnw yno gyda hwy yn ogystal ag i gwblhau eu hasesiadau.

(Cyfranogwr 2)

Rhaid i asesiadau PAM [asesiad o alluedd rhianta] gael eu cynnal gan bobl sy’n deall anabledd dysgu. O’r rhai rwyf wedi gweithio â hwy, dau allan o naw, dim ond dau o’r aseswyr oedd â dealltwriaeth lawn a phrofiad o weithio a phobl ag anabledd dysgu... wn i ddim ym mha faes roeddent wedi bod yn gweithio...maent yn mynd trwy’r asesiad PAM ac nid yw’n fwy na rhestr wirio...maent yn gwneud penderfyniadau heb holi... Nid ydynt yn gofyn i’r rhieni pan maent wedi gwneud rhywbeth, neu “Pam wnaethoch chi hynny?” Felly i mi, nid yw’r rhain yn asesiadau lle mae rhieni’n cymryd rhan.

(Cyfranogwr 10)

Dylai’r rhieni a (phan yn briodol) y plentyn/plant gyfranogi yn y broses asesu ac mae’n bwysig yma bod yn ymwybodol o ofynion y Ddeddf Galluedd Meddyliol (2005) o ran asesu galluedd. Gyda chytundeb y rhieni, gallai fod yn fuddiol pe byddai aelodau’r teulu estynedig yn rhan o’r broses yn enwedig os ydynt yn darparu cymorth uniongyrchol i’r teulu. Gall fod yn fuddiol pe bai gweithwyr proffesiynol eraill sy’n helpu’r teulu hefyd yn cymryd rhan ac, yn bwysig iawn, byddai’n help i sicrhau bod gan y rhieni eiriolydd annibynnol i fod yn gefn iddynt ac i helpu gyda chyfathrebu (gweler Adran 5).

Beth: Mae’r Cod Ymarfer (2015: t35) yn rhoi fframwaith i asesu plant a’u teuluoedd sy’n cynnwys tair elfen allweddol:

  • anghenion datblygiad y plentyn 
  • galluedd rhianta
  • ffactorau teuluol ac amgylcheddol 

Mae pob un o’r rhain yn hanfodol wrth asesu teulu lle mae gan riant/rhieni anabledd dysgu. Mae’n bwysig ystyried cam datblygiadol y plentyn, eu hanghenion cymorth a gofal, yn ogystal â gallu’r rhiant i ddiwallu’r anghenion hynny (naill ai ar y pryd, gydag addysg, neu gymorth uniongyrchol). Mae anghenion babi’n wahanol i rai plentyn bach ac yn wahanol eto i rai plentyn yn ei arddegau ac er efallai bod gan rieni (neu eu bod yn dysgu) y gallu i ofalu yn ystod un cam o ddatblygiad y plentyn efallai y byddant yn profi anawsterau yn ystod cam arall. Fel y nodwyd yn gynharach yn y canllaw hwn mi allant gael anhawster deall gwybodaeth newydd neu gymhleth a/neu drosglwyddo dysgu o un cyd-destun i un arall. Efallai y bydd angen ail-asesu ar wahanol adegau yng nghylch bywyd y teulu.

Mae’n bwysig bod unrhyw bryderon sydd gan rieni ynglŷn â datblygiad eu plentyn yn cael eu clywed, ac yr ymatebir iddynt er mwyn cael dealltwriaeth fanwl o anghenion y teulu, a bod cymorth priodol yn cael ei ddarparu.

Drwy gydol ei bywyd rwyf wedi bod yn dweud wrth weithwyr proffesiynol bod rhywbeth yn bod, ond fi oedd yn cael y bai bob tro. Fel mae’n digwydd mae gan [enw’r ferch] gyflwr genetig, sy’n golygu bod ganddi anabledd dysgu...rwyf wedi sôn am hyn wrth bob gweithiwr cymdeithasol ond nid oeddent yn fodlon gwrando arna i... Roeddent yn beio rhianta gwael. Rwyf wedi bod yn brwydro ers pan oedd hi’n 3 oed.

(Rhiant 2)

…mae gan fy mab ADHD ac roeddem yn meddwl bod rhywbeth yn bod o’r dechrau. Nid oedd neb yn fodlon gwrando, roeddent yn ei roi o’r neilltu…Ond roeddem ni wedi sylw arno o’r dechrau ac yn gwybod bod rhywbeth yn bod…Roeddem yn dweud wrth y gweithwyr proffesiynol bod rhywbeth o’i le... Mi wnaethon ni ddweud wrth yr ymwelydd iechyd, wrth yr ysgol, wrth yr holl weithwyr proffesiynol, wrth y meddyg bod rhywbeth yn bod gyda’n mab. Roeddent yn rhoi’r bai arnom ni, nad oedden i a fy nhŵr yn cadw llygad arno. Mi gyrhaeddodd y pwynt lle torrodd bont ei ysgwydd wrth iddo siglo yn ei gadair uchel, a syrthio ohoni. Ond na, mi ddigwyddodd hynny am nad oeddem ni’n cadw golwg arno. Yr hyn sy’n fy mrifo i a fy ngŵr yw’r ffaith nad oeddent yn fodlon gwrando, ac nad oeddent wedi gwrando arna i a [enw’r partner] yn y lle cyntaf.

(Rhiant 13)

Wrth i blant fynd yn hŷn, gallant ymgymryd â rôl ofalu o fewn y teulu. Wrth asesu’r teulu, mae felly’n hanfodol i ystyried i ba raddau mae hyn yn effeithio ar eu hanghenion datblygiadol.

I benderfynu ar alluedd rhianta, efallai y bydd angen cynnal asesiad arbenigol, mwy trylwyr. Yr adnodd a ddefnyddir amlaf yw’r Parenting Assessment Manual (y cyfeirir ato gan amlaf fel PAM). Bydd hwn yn cael ei gynnal dros gyfnod o sawl wythnos ac mae’n cynnwys asesiad o wybodaeth a sgiliau, ynghyd ag arsylwi ar ystod o sgiliau rhianta. Mae’r meysydd a asesir yn cynnwys gwybodaeth am beryglon a risgiau, diwallu anghenion hylendid a maeth a rheoli ymddygiad. Ni ddylai’r PAM gael ei ddefnyddio’n unig i ddangos tystiolaeth o’r hyn na all rhieni ei wneud (ar y pryd): dylai’n hytrach fod yn sail i ddarparu cymorth a/neu addysgu i wella eu gallu i ofalu am eu plentyn. Fel rhan o’r asesiad dylid gofyn i’r rhiant/rhieni enwi meysydd lle mae angen cymorth arnynt.

Yr unig beth oedd yr asesiad PAMS, ac nid oedd hynny’n addas imi. Roedd yn ceisio gwneud pethau o fewn cyfnod penodol, ac nid oeddent am newid yr amser hwnnw imi. Ac wedyn mi geisiodd yr eiriolydd bwyso am ragor o amser imi. Roedd y gweithwyr cymdeithasol yn defnyddio amserlenni caeth iawn. Roeddent yn dweud pethau, ac mi oeddwn i’n gofyn “be ar y ddaear ydach chi’n feddwl?"

(Rhiant 8)

Dull asesu gwahanol i PAMS yw Parent Assess (gweler Atodiad 2). Mae’r asesiad hwn yn rhoi pwyslais ar bum maes allweddol:

  • profiad y plentyn o gael eu rhianta – gan gynnwys sut mae’r rhiant yn diwallu anghenion corfforol ac emosiynol
  • sgiliau byw beunyddiol y rhiant
  • gweithrediad y rhiant – sut mae eu hanes personol yn effeithio ar rianta, eu gallu i reoli newid a gwneud penderfyniadau, a sut maent yn rheoli risg
  • materion penodol fel trais domestig, problemau cyffuriau ac alcohol
  • cymorth – os canfyddir bylchau mewn unrhyw rai o’r uchod, yna bydd rhwydwaith cymorth y rhiant a’u gallu i fanteisio ar y rhwydwaith hwnnw’n cael ei ystyried

Mae Parent Assess yn ymgorffori’r tair elfen o asesu teuluol a argymhellir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014). Mae tystiolaeth yn cael ei chasglu drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau sy’n cynnwys gweithio’n uniongyrchol â’r rhiant a siarad ag eraill gan gynnwys (pan yn briodol), y plentyn. Mae’r asesiad yn cael ei sgorio drwy ddefnyddio system ‘goleuadau traffig’ lle mae gwyrdd yn nodi cryfder neu ddim pryderon, mae melyn yn dangos peth pryder, ac mae coch yn dangos pryder sylweddol. Mae’r dull gweledol hwn wedi’i ddatblygu i’w gwneud yn haws i rieni ei ddeall. Mae’r wybodaeth yn cael ei throsglwyddo i dabl canlyniadau sy’n galluogi i gryfderau rhieni, y meysydd lle mae angen cymorth a meysydd sy’n achos pryder sylweddol i gael eu dangos yn glir.

Gall ystod o ffactorau (heblaw anabledd dysgu) effeithio ar allu unigolion ag anabledd dysgu i rianta’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • eu profiad hwy eu hunain o gael eu magu
  • eu cyfleoedd (neu ddiffyg cyfleoedd) i ddysgu sgiliau rhianta
  • eu hamodau byw/amodau’r cartref
  • presenoldeb cyflyrau iechyd (eu rhai eu hunain neu rai’r plentyn)
  • eu sefyllfa ariannol 
  • eu rhwydweithiau cymorth 
  • trais domestig
  • problemau cyffuriau ac alcohol

Mae angen ystyried pob un o’r anghenion hyn oherwydd mi allant (yn hytrach na phresenoldeb anabledd dysgu) effeithio ar y gallu i rianta. Er enghraifft, gall profiad rhiant o gael eu magu a/neu drais domestig cyfredol wneud iddynt deimlo bod ymddygiad camdriniol yn dderbyniol a bod hynny wedyn yn cyfyngu ar eu gallu i ddiogelu eu plant. Efallai y bydd angen cymorth i ddeall perthnasoedd personol a rhywiol i helpu eu gallu i rianta.

pan fyddwch yn edrych ar broblemau rhieni yng nghyd-destun anableddau (dysgu), mae’n bwysig bod pawb yn gweld bod pethau fel ynysu cymdeithasol, tlodi, trais domestig, mae’r rhain yn ddangosyddion… o gamfanteisio’n rhywiol ar blant. Mae’r pethau hynny’n wirioneddol bwysig.

(Cyfranogwr 12)

Trydydd dull asesu rhianta sy’n cael ei ddefnyddio’n fwy eang yng Nghymru yw CUBAS. Mae’r asesiad hwn wedi’i gynllunio’n benodol i’w ddefnyddio gan weithwyr cymdeithasol sydd wedi’u hyfforddi ac mae’n cael ei ddisgrifio fel asesiad deinamig o rianta sy’n hygyrch i bob rhiant, gan gynnwys rhai sydd ag anableddau dysgu. Caiff amrywiaeth o feysydd eu hasesu, gan gynnwys iechyd rhieni, dealltwriaeth o anghenion plant, agweddau rhieni, cymhelliant a’r gallu i newid, rhwydweithiau cefnogi ac ystyriaethau amgylcheddol. Drwy ddefnyddio meddalwedd arbenigol, mae’n golygu bod modd creu adroddiadau i’w defnyddio mewn achosion llys a hefyd adroddiadau unigol ar gyfer rhieni. Mae llyfrgell o adnoddau ar gael i gefnogi ymyriadau ac mae’n mesur gallu rhieni i elwa o hyfforddiant ychwanegol. Hefyd, mae modd asesu effaith ymyriadau drwy ailasesiad nad yw’n golygu ailadrodd y broses asesu gyfan. I ddefnyddio’r dull asesu hwn, rhaid i ymarferwyr gwaith cymdeithasol gael hyfforddiant CUBAS ac i wneud hyn rhaid iddynt fod wedi cymhwyso ers tair blynedd a mwy.

Drwy ddeall anghenion teuluol cymhleth mae’n bosibl y bydd sawl gweithiwr proffesiynol (er enghraifft bydwragedd, ymwelwyr iechyd, a therapyddion iaith a lleferydd) yn gysylltiedig ag asesu’r rhieni a/neu eu plant. Dylai asesiadau o’r fath gael eu cydlynu a dylai gwybodaeth gael ei rhannu (gyda chydsyniad ac o fewn protocolau rhannu gwybodaeth) i osgoi ailadrodd asesiadau’n ddiangen a sicrhau na fydd meysydd allweddol yn cael eu hepgor.

Ble: Mi all fod yn anodd i bobl ag anableddau dysgu drosglwyddo dysgu o un lleoliad i un arall, felly pan yn bosibl, dylai rhieni gael eu hasesu yn eu cartref: tasg a all fod yn rhwydd iddynt yn eu cartref eu hunain ond a all fod yn anodd mewn lleoliad anghyfarwydd gyda chyfarpar nad ydynt yn gyfarwydd â hwy a heb bethau cyfarwydd o’u cwmpas. Os na fydd hyn yn bosibl dylid neilltuo amser i’w helpu i gyfarwyddo ag amgylchedd / cyfarpar  anghyfarwydd a dylid caniatáu i bethau cyfarwydd (fel y teulu) fod yn bresennol os yw’r unigolyn yn teimlo y byddai hynny’n helpu.

mi wyddoch os oes gennych rywun yn dod i mewn ac yn gofyn llawer o gwestiynau i chi ni fyddwch yn debygol o allu mynegi eich hun gystal ag y gallech fel arfer, efallai. Ond pe bai pethau’n dechrau fel sgwrs, mi allent lenwi eu rhestr wirio drwy gynnal sgwrs yn hytrach na dod i mewn gyda darn o bapur ac yna ei lenwi ac ysgrifennu o’u blaenau.

(Cyfranogwr 10)

rhaid inni gydnabod y bydd asesiadau’n cymryd amser ac yn achos rhieni ag anabledd dysgu mi fydd angen mwy o amser arnom am fod angen inni lenwi bylchau rhwng y cyfnodau o siarad a fydd yn digwydd. Ac mi fydd angen mynd yn ôl dros bethau drosodd a throsodd i wneud yn siŵr eu bod yn deall yr hyn rydych yn ei ddweud, ond hefyd fel eu bod yn dechrau cofio’r hyn rydych yn ei wneud a pham. Ond mae gwahaniaeth cynnil yn arddull y math hwnnw o asesiad

(Cyfranogwr 9)

Sut: Efallai y bydd angen sawl asesiad (er enghraifft, asesiad gwybyddol gan seicolegydd). Mewn amgylchiadau o’r fath mi fydd yn bwysig bod prosesau’n cael eu cydlynu i sicrhau bod pob maes yn cael eu cynnwys ond gan osgoi dyblygu. Rhaid cofio hefyd bod asesiadau lluosog yn gallu bod yn straen mawr, ac yn ddryslyd, i rieni felly mae angen iddynt ddeall beth sy’n digwydd, a pham. I gydymffurfio â’r Cod Ymarfer (2015) dylid penodi prif ymarferydd, a dylai’r rhiant/rhieni fod yn ymwybodol o bwy sy’n llenwi’r rôl honno.

Pwyntiau ymarfer da:

  • Dylid cymryd amser i feithrin perthynas â’r teulu cyn dechrau ar y broses asesu.
  • Rhaid sicrhau bod gan yr asesydd y sgiliau a’r wybodaeth gywir i gynnal yr asesiad.
  • Dylid ystyried datblygu cytundeb / rheolau sylfaenol â rhieni o ran sut y bydd yr asesiad yn cael ei gynnal. Bydd angen gwneud yn siŵr bod gan y rhieni gopi, sy’n hawdd iddynt ei ddeall, ac yr edrychir arno’n aml.
  • Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014) gwnewch yn siŵr mai’r man cychwyn ar gyfer asesiad yw gofyn i’r rhieni ‘Beth sy’n bwysig i chi?’
  • Gwnewch yn siŵr bod yr asesiad wedi’i seilio ar gryfderau a chefnogaeth bresennol y teulu.

Cynllunio a darparu cymorth effeithiol

Dylai asesiad o anghenion teulu fod yn sail i gynllunio a darparu cymorth teuluol. Gall hyn gynnwys ychydig o gymorth, cynllun gofal a chymorth, neu ymyriad mwy sylweddol a bod y cymorth yn cael ei gynllunio a’i ddarparu o fewn fframwaith y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014). Dylid sicrhau drwy gydol yr amser bod y rhieni a (phan yn briodol) y plentyn/plant yn cael eu cynnwys yn llawn, dylai adeiladu ar eu cryfderau a’r cymorth sydd ar gael iddynt eisoes, a thrwy gyd-fynd â’r model cymdeithasol o anabledd dylai roi pwyslais ar rwystrau sy’n anablu.

Dylai hefyd gydnabod galluedd rhieni i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd gyda’r hyfforddiant a’r cymorth priodol gan sylweddoli efallai y bydd angen rhagor o amser ac ailadrodd i ddysgu gwybodaeth a sgiliau o’r fath. Mae hefyd yn bwysig i gofio y gall rhieni ag anabledd dysgu fod yn amharod i ofyn am neu i dderbyn help: mae’n bwysig cymryd amser i egluro pam mae cymorth yn cael ei ddarparu a’r hyn sydd i’w gyflawni. Os oes angen cyflawni canlyniadau o fewn cyfnod penodedig, mae’n bwysig bod rhieni’n deall beth yn union sydd ei angen ac o fewn pa amserlen. Gall hyn olygu efallai y bydd angen rhannu amcanion yn gamau llai i helpu i ddysgu a chyflawni.

Yr unig beth wyf i eisiau yw iddynt ddechrau dod â phobl i helpu rhieni ag anableddau dysgu. Mi wn fod hynny’n costio, ond ni ddylid meddwl am yr arian. Dylai fod fel Dechrau’n Deg, fel bod rhieni’n cael eu helpu a’u bod yn dysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt cyn i’r plentyn gael ei eni a (chyn) iddo fynd i’r llys, hyd yn oed. Rhaid ei wneud yn gynnar. Mae angen i’r arian fynd ar y sianelau cywir.

(Rhiant 6)

Yna dysgodd y fydwraig fi ar ôl dod adref sut i wneud poteli a bwydo. Gofynnais iddi ddangos i mi sut i wneud pethau, Roedd yno drwy’r dydd, a dysgodd fi sut i ddiheintio ... mi ges i’r holl help oedd ei angen, a dwi’n meddwl bod angen yr help hwnnw arna i.

(Rhiant 9)

Byddai’r ymwelydd iechyd yn dod ac yn dweud, iawn bwyda ar y fron. Gwna hyn ac yna gadael. Rydych yn dweud eich bod yn gwybod beth i’w wneud, ond nid o reidrwydd sut i’w wneud. Doedd gennym ddim syniad.

(Rhiant 12)

Fel y nodwyd eisoes, dylai cymorth priodol gael ei ddarparu’n amserol er mwyn rhoi digon o amser i rieni ag anabledd dysgu ddysgu unrhyw wybodaeth a sgiliau newydd a fydd eu hangen arnynt i rianta’n effeithiol. Mae hefyd yn bwysig cofio y gall ymyrryd cynnar atal sefyllfaoedd rhag dirywio ac atal problemau rhag digwydd yn y lle cyntaf. 

Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014) dylai cynllunio a darparu gofal roi pwyslais ar y canlyniadau sydd i’w cyflawni. Mewn rhai achosion, gall y teulu dynnu sylw at y rhain. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai canlyniadau sydd eu hangen os yw’r plentyn/plant am aros gyda’u teulu biolegol (er enghraifft, canlyniadau sy’n ofynnol yn ôl y llysoedd). Ym mhob sefyllfa mae’n bwysig bod y rhieni’n deall beth yw’r canlyniadau hyn, sut mae eu cyflawni, pwy sy’n gyfrifol am beth, a beth yw’r amserlenni ar gyfer eu cyflawni.

Oedd, mi oedd (enw’r gweithiwr cymdeithasol) bob amser yn dweud beth oeddem ni wedi’i wneud hyd yma. Dyma’r hyn rydym wedi’i wneud...Bod yn glir bob tro, gadael imi ddeall beth yw hwn neu beth sydd wedi digwydd. Felly, pan fyddwn yn mynd i gyfarfodydd a phan fydd gweithwyr proffesiynol eraill yn mynd amdani, fel yr ydw i’n disgrifio pethau weithiau, mae fel eu bod i gyd yn troi yn eich erbyn, mi fyddai, (enw’r gweithiwr cymdeithasol) yno bob amser i egluro pethau.

(Rhiant 12)

Efallai y bydd angen addasiadau rhesymol i sicrhau bod rhieni’n gallu deall, cofio a defnyddio’r wybodaeth sydd mewn cynllun cymorth. Yn ddibynnol ar eu hanghenion mi all y rhain gynnwys pethau fel:

  • sicrhau bod y cynllun yn cael ei gynhyrchu mewn fformat hawdd ei ddarllen a’u bod yn mynd trwyddo gyda’r rhieni i wneud yn siŵr eu bod yn ei ddeall
  • rhannu’r cynllun yn ddarnau llai i’w galluogi i’w ddeall, un rhan ar y tro
  • cynhyrchu recordiad sain o’r cynllun y gall y rhiant wrando arno sawl tro 
  • sicrhau bod eiriolydd annibynnol ar gael i gynorthwyo’r rhiant i gyfrannu at ac i ddeall y cynllun
  • sicrhau eu bod yn cael eu hatgoffa pan fydd angen gwneud rhywbeth erbyn adeg benodol – gall y rhain fod ar ffurf (er enghraifft) negeseuon testun a chalendrau gweledol
  • eu helpu i gofio pan fydd angen camau gweithredu allweddol yn y cartref; er enghraifft, yn hytrach na dweud bod angen 200 ml o hylif wrth fwydo, rhoi cwpan sy’n mesur y maint angenrheidiol ac yna dweud wrthynt i ddefnyddio’r cwpan hwnnw i fesur
  • cynnwys ffotograffau o bobl allweddol yn y cynllun i’w helpu i gofio pwy sy’n gwneud beth

Roedd yn ofnadwy o anodd yn amlwg oherwydd fy anawsterau dysgu, a phethau felly. Roedd (ei chwaer yng nghyfraith) yn arbennig o dda ac mi ddysgodd lawer imi. Dangosodd imi faint o boteli i’w paratoi, a pha bryd i newid y babi. Mi wnes i ddod i arfer wedyn, mi gymerodd greddfau mam drosodd wedyn... Ac wedyn codi i fynd i’r feithrinfa a phethau felly, achos fedra i ddim dweud faint o’r gloch yw hi. Roedd yn anodd o ran gwybod pa bryd i fynd, a pha bryd i’w chasglu. Roeddwn yn dibynnu ar fy mhartner i fynd â hi ac yna mi faswn i’n mynd i’w chasglu.

(Rhiant 13)

Wrth gynllunio gofal a chymorth mae’n bwysig adeiladu ar gryfderau a chymorth presennol gan deulu, ffrindiau a’r gymuned leol. Er hynny, wrth ymgorffori hyn mewn cynllun mae’n bwysig bod y rhai sy’n ei ddarparu yn gwybod faint y gallant ei gyfrannu. Efallai y byddant yn teimlo bod disgwyl iddynt wneud gormod, yn enwedig os oes perygl y gall plant gael eu cymryd oddi ar y teulu. Fodd bynnag, os byddant yn cynnig cymorth ond na fyddant yn gallu ei roi, mae perygl y gallai’r rhieni gael eu gadael heb help.

Mi allai fod yn fuddiol i roi’r rhieni mewn cysylltiad â grwpiau cymunedol fel dosbarthiadau rhianta a chylchoedd rhieni a phlant bach. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r rhwystrau y gall rhieni ag anableddau dysgu eu hwynebu mewn lleoliadau o’r fath (er enghraifft gwybodaeth yn cael ei chyflwyno’n rhy gyflym iddynt). Efallai y byddai angen addasiadau rhesymol i sicrhau mynediad, a byddai hyn yn golygu (gyda chaniatâd y rhiant) cysylltu â’r sawl sy’n rhedeg grwpiau o’r fath i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r hyn sydd ei angen.

Gallai fod yn ddefnyddiol pe bai’r rhieni’n cael cymorth gan wasanaethau anableddau dysgu arbenigol gan y sector statudol neu’r trydydd sector. Gallai hyn gynnwys Tîm Anableddau Dysgu Oedolion yn y Gymuned, sy’n weithredol ym mhob awdurdod lleol. Gall ymarferwyr sy’n rhan o’r tîm hwn gynnig cymorth uniongyrchol neu weithredu fel ffynhonnell cyngor (er enghraifft gall therapydd galwedigaethol neu nyrs anabledd dysgu ddarparu cyngor ar y ffordd orau o addasu’r amgylchedd i helpu’r rhiant, gall therapydd iaith a lleferydd roi cyngor ar gyfathrebu effeithiol). Mewn rhai ardaloedd efallai y bydd grwpiau arbenigol ar gyfer rhieni ag anabledd dysgu. Gall y rhain fod yn grwpiau cymorth gan gymheiriaid a/neu wasanaethau sy’n cynnig cymorth ymarferol i rieni wrth iddynt ddysgu sgiliau newydd a chynnig lefel o gymorth eirioli. Hefyd mae rhwydwaith o Grwpiau Pobl yn Gyntaf (hunan-eiriolaeth) ar gael ledled Cymru a all helpu gyda chyngor a chymorth.

Mae fy ngwraig yn weledol, efallai y byddai defnyddio dol wedi ei helpu i egluro sut i afael mewn babi. Y mwyaf mae hi’n ei wneud, y mwyaf mae hi’n ei ddysgu. Mae hi wrthi’n ddi-stop erbyn hyn ac mae hi’n gwybod pa mor bwysig yw cadw’r tŷ’n daclus felly mae hi’n brysur yn gwneud pethau drwy’r amser, gan ei bod wedi dysgu’r hyn mae hi’n ei wneud.

(Rhiant 12)

rydym yn aml yn sôn am rieni sydd heb gael magwraeth ddigonol ac maent yn dod at wasanaethau plant heb lawer o sgiliau a gallu i wneud y pethau hynny. A’r unig ffordd yw ailadrodd ac ailadrodd, ac rydym ar amserlen 26 wythnos cyn i’r achos ddod i ben gyda’r plentyn hwnnw.

(Cyfranogwr 6)

Wrth helpu â datblygiad sgiliau rhianta, mae’n bwysig canfod yr hyn mae’r rhiant yn gallu ei wneud yn annibynnol. Ym mha feysydd fydd angen hyfforddiant arnynt i fod yn annibynnol, ac ym mha feysydd fydd angen cymorth uniongyrchol (a hynny efallai dros y tymor hir). Efallai y bydd angen hyfforddiant a chymorth â ffocws ar rai rhieni i alluogi datblygiad sgiliau rhianta. Gall hyn fod ar sawl ffurf gan gynnwys byw mewn uned mamau a babanod, cyrsiau coleg, cyrsiau rhianta cyffredinol a chymorth pwrpasol un i un. Wrth gynllunio a darparu cymorth o’r fath bydd yn fuddiol i weithredu rhai egwyddorion allweddol:

  • gwneud yn siŵr bod rhieni’n deall beth sy’n cael ei ddarparu a beth yw’r canlyniadau dymunol
  • pan yn bosibl, dylid darparu hyfforddiant yng nghartref y teulu oherwydd mi all y teulu gael anhawster trosglwyddo dysgu o un lleoliad i un arall; os nad yw hyn yn bosibl yna efallai y bydd angen help i drosglwyddo dysgu (er enghraifft rhywun sy’n helpu ac yn arsylwi ar y rhiant gartref nes byddant yn teimlo’n hyderus a chymwys)
  • dylai hyfforddiant fod mor ‘benodol’ â phosibl a rhoi cyfle i rieni i ymarfer sgiliau gyda’r cyfarpar y byddant yn ei ddefnyddio gartref
  • wrth helpu i ddatblygu sgiliau fel gwneud penderfyniadau, ac asesu risgiau, dylid defnyddio sefyllfaoedd a lleoliadau mae’r rhieni’n debygol o ddod ar eu traws a defnyddio cliwiau gweledol maent yn gyfarwydd â hwy (er enghraifft eu cartref teuluol a’r ardal leol); ar ôl ei feistroli gellir cyffredinoli’r dysgu i sefyllfaoedd/lleoliadau eraill
  • cofiwch ei bod yn bwysig cynllunio cyfleoedd dysgu ar gyflymder addas i sicrhau nad yw rhieni’n cael eu llethu
  • cofiwch efallai y bydd angen ailadrodd ac atgyfnerthu i helpu rhieni i feistroli sgiliau
  • cofiwch wirio’n rheolaidd i wneud yn siŵr bod y rhiant wedi deall a’u hannog i ofyn cwestiynau
  • dylid osgoi defnyddio jargon neu (lle nad yw hynny’n bosibl) wneud yn siŵr bod eglurhad hawdd ei ddeall yn cael ei roi
  • pan fydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan wahanol bobl a/neu mewn gwahanol leoliadau gwnewch yn siŵr bod cyngor a chymorth cyson yn cael ei roi
  • pan yn bosibl gwnewch addasiadau i’w gwneud yn haws i ddysgu sgiliau. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, defnyddio dulliau atgoffa gweledol, rhannu tasgau’n gamau llai, defnyddio recordiadau sain i atgoffa

Rwy’n credu bod yn rhaid derbyn o’r cychwyn y tebygrwydd y bydd angen help tymor hir. Ond os gellir dechrau’n gynnar a mynd i’r afael ag argyfwng cyn iddo waethygu efallai na fydd yn rhaid iddo fod yn rhy ddwys.

(Cyfranogwr 8)

Rhaid cael rhywun sy’n cadw golwg a gofyn cwestiynau i’r rhieni’n rheolaidd oherwydd mi all pethau fod yn dda heddiw ond yn ofnadwy yfory, ac mi all fod yn weithiwr gwahanol neu rywbeth nad ydynt wedi’i ddeall neu sydd heb ei egluro’n iawn iddynt.

(Cyfranogwr 10)

Fel y nodwyd eisoes, efallai y bydd angen i’r cymorth a gaiff rhieni ag anabledd dysgu fod yn dymor hir/neu y bydd ei angen ar adegau gwahanol yng nghylch bywyd y teulu wrth i anghenion y rhieni neu’r plentyn/plant newid. Gall hyn fod yn groes i’r dull tymor byr o weithio â theuluoedd, sy’n rhoi pwyslais ar ganlyniadau. Fodd bynnag, i gyd-fynd â’r egwyddor o ymyrraeth gynnar dylid rhoi trefniadau ar waith i sicrhau cymorth parhaus oherwydd mi allai hyn leihau’r posibilrwydd o argyfyngau yn y dyfodol neu (pan fyddant yn digwydd) eu hatal rhag gwaethygu. Os nad oes cymorth parhaus ar gael gan yr awdurdod lleol yna dylid ystyried gwneud yn siŵr bod cymorth ar gael naill ai gan y teulu, neu gymorth amgen gan y sector statudol neu’r trydydd sector. Er enghraifft, gall cymorth parhaus gan wasanaeth cymorth arbenigol gan gymheiriaid fod yn help i rieni ag anableddau dysgu, os oes un ar gael.

mewn rhai achosion dylid cymryd plant hynny oddi ar y teulu. Fel y gwyddoch, waeth faint o gymorth y byddwch yn ei roi, ni fydd anghenion y plentyn yn cael eu diwallu bob amser, ac felly mi wyddoch fod yn rhaid inni ddweud hynny hefyd. Nid yw'n achos o mi allai pethau fod yn wahanol pe baech yn medru neilltuo mwy o amser, ond mae’n fater o a oes modd gwella’r cyfleoedd hynny,

(Cyfranogwr 3)

Mae hi’n bwysig cofio, hyd yn oed pan fydd cymorth yn cael ei ddarparu, y bydd angen cymryd plant oddi ar eu teulu. Mewn rhai achosion, bydd hyn oherwydd anawsterau yn ymwneud â datblygu gwybodaeth a sgiliau priodol i allu magu eu plant yn briodol. Mewn amgylchiadau eraill, gall hyn fod o ganlyniad i ffactorau eraill fel amodau tai annigonol, problemau iechyd, camddefnyddio sylweddau neu drais domestig. Beth bynnag fo’r achos, mae’n bwysig cydnabod angen y rhiant am ofal a chymorth ar ôl i’w plentyn gael ei symud. Gallant brofi ystod o deimladau, gan gynnwys galar, colled a dicter a bydd y rhain yn effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant. Efallai y bydd angen help arnynt i gynnal cysylltiad â’u plentyn/plant (os bydd hynny’n cael ei ganiatáu) neu i ddod i delerau â cholli cysylltiad.

Pwyntiau ymarfer da:

  • Sicrhau bod eiriolaeth annibynnol ar gael i rieni i’w helpu i gyfrannu at ddatblygiad cynllun ac i’w helpu i ddeall y cynllun hwnnw.
  • Bod yn ymwybodol o gysylltiadau allweddol yn y Tîm Anableddau Dysgu Oedolion yn y Gymuned a defnyddio’r cysylltiadau hyn i sicrhau cymorth priodol.
  • Bod yn ymwybodol o wasanaethau anableddau dysgu arbenigol gan gynnwys darpariaeth trydydd sector fel grwpiau Pobl yn Gyntaf.
  • Mabwysiadu dull seiliedig ar gryfderau sy’n adeiladu ar gryfderau a rhwydweithiau cymorth presennol y teulu.
  • Sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud i alluogi rhieni i ddeall y broses o gynllunio’r hyn sydd ei angen i gyflawni canlyniadau a bennwyd, ac i ddefnyddio gwasanaethau cymorth. Gall hyn olygu addasu’r dull cyfathrebu, yr amserlenni, a ffyrdd o atgoffa’r rhieni o ofynion pwysig. 
  • Darparu unrhyw hyfforddiant yng nghartref y teulu. Os nad yw hyn yn bosibl yna dylid darparu helpu i drosglwyddo dysgu.
  • Os bydd angen symud plentyn/plant oddi wrth y teulu yna dylid cydnabod a diwallu angen y rhieni am gymorth parhaus.

Cymorth mewn achosion llys

Mae tri cham allweddol lle gall fod angen cymorth ar rieni mewn achosion llys – paratoi, yn ystod, ac ar ôl yr achos.

pan fyddwch yn mynd i broses llys gymhleth a lle nad yw hyd yn oed y gweithwyr cymdeithasol yn eu deall hanner yr amser ... dychmygwch y straen o feddwl, os na wnaf i hyn yn iawn, dwi’n mynd i golli fy mhlentyn. Nid ydynt yn dweud dim. Rydych yn cael cynnig cyfreithiwr 10 munud cyn i chi gael y dogfennau anferthol.

[Cyfranogwr 12]

Fel y gwelir yn y dyfyniad uchod dylai rhieni gael eu paratoi’n briodol ar gyfer achosion llys a chael gwybodaeth hygyrch mewn da bryd. Bydd ceisio deall gwybodaeth newydd a chymhleth yn her i’r rhan fwyaf o rieni ag anableddau dysgu, ond bydd y straen ychwanegol o fod mewn llys yn rhwystr ychwanegol rhag deall.

Dylai’r rhieni gael eu cynghori i gyfarwyddo cyfreithiwr sy’n brofiadol mewn cyfraith teulu ac sy’n aelod o Banel Plant Cymdeithas y Cyfreithwyr. Yn ddelfrydol, dylai’r cyfreithiwr hefyd fod â phrofiad o gynrychioli rhieni ag anableddau dysgu fel y byddant yn deall anghenion penodol y rhieni o ran cyfathrebu a deall.

Gall y canlynol helpu:

  • cymorth eiriolydd annibynnol sydd wedi meithrin perthynas dros amser â’r rhieni, a phrofiad o helpu pobl ag anabledd dysgu
  • darparu gwybodaeth i’r rhieni am y bobl a’r prosesau sy’n gysylltiedig â’r achos, a beth fydd eu rôl yn ystod yr achos; dylai gwybodaeth o’r fath gael ei rhoi mewn fformatau sydd wedi’u cytuno â’r rhieni ac sy’n hygyrch iddynt, ac ar gyflymder addas i’w galluogi i’w phrosesu a’i deall; (gweler Atodiad 2 am adnoddau)
  • dylai unrhyw derminoleg bwysig sy’n debygol o gael ei defnyddio yn ystod yr achos gael ei hegluro i’r rhieni; (gweler Atodiad 2 am adnoddau)
  • os bydd cyfeiriad at unrhyw ddogfennau yn y llys yna dylid esbonio’r rhain yn fanwl ymlaen llaw i’r rhieni, a dylid eu hannog i ofyn cwestiynau
  • dylid ystyried gofyn i’r rhieni a oes unrhyw beth yr hoffent i’r llys ei glywed o ran eu barn a’u dymuniadau. Os ydynt yn dymuno i’w barn gael ei chlywed, yna dylid cynnig help iddynt i baratoi sylwadau ysgrifenedig neu lafar y gellid eu rhoi i’r cyfreithiwr

Yn ystod proses y llys dylai cymorth fod ar gael i rieni i helpu â morâl ac i gyfathrebu. Gallai hyn gynnwys egluro’r hyn sy’n mynd ymlaen neu ddehongli unrhyw wybodaeth nad yw’n eglur iddynt. Mae gan eiriolydd annibynnol rôl hanfodol i’w chwarae yma. Hefyd, o dan ddarpariaethau’r Rheolau Trefniadaeth Teulu (2010) Rhan 3A) mae dyletswydd i nodi unrhyw un a all fod yn dyst ‘agored i niwed’ ac i roi mesurau ar waith i’w cynorthwyo i roi tystiolaeth. Gall y llys felly benodi cyfryngwr i rieni ag anabledd dysgu ac addasu sut mae achosion yn cael eu cynnal i’w helpu i gyfranogi.

Fel y gwyddoch, mi fydd rhieni fel arfer yn eistedd yn y cefn – mae’r cyfreithwyr a’r bargyfreithwyr yn wynebu’r barnwr wrth siarad. Os yw rhiant yn drwm eu clyw, ni allant ddeall beth sy’n digwydd na chlywed yr hyn sy’n cael ei ddweud... ac mae’r geiriau’n cael eu colli. Felly, byddaf yn treulio fy amser yn sibrwd yn eu clust. A phan fyddwn yn mynd i mewn nid oes neb yn dweud pwy yw pwy, felly pan rydych yno mae llwyth o bobl yn yr ystafell, ac mi all hynny fod yn ddryslyd iawn. Ond ni ofynnir byth am glywed llais y rhieni, felly nid ydynt byth yn cael cyfle i gynrychioli’u hunain.

(Cyfranogwr 10)

Ar ôl yr achos llys efallai y bydd angen help ar rieni i ddeall beth sydd wedi digwydd a beth yw goblygiadau hynny. Os yw’r achos wedi arwain at gymryd y plentyn/plant o’r cartref teuluol yna mae’n bwysig bod y rhieni’n cael cymorth emosiynol i ddygymod â’r penderfyniad. Efallai bod y rhieni wedi bod yn cael help gan y gwasanaethau plant (hyd at y llys) ond ar ôl i’r plentyn cael ei gymryd oddi ar y rhieni efallai na fydd hwnnw ar gael wedyn. Fodd bynnag, bydd gan y rhieni eu hanghenion eu hunain ac mae’n hanfodol bod yr anghenion hynny’n cael eu cydnabod, a bod trefniadau cymorth priodol yn cael eu rhoi ar waith.

Pwyntiau ymarfer da:

  • Dylai rhieni gael help i baratoi ar gyfer y llys i ddeall beth fydd yn digwydd.
  • Os yw’r rhieni’n dymuno, dylent gael help i baratoi datganiad o’u barn a’u dymuniadau y gellir ei gyflwyno i’r llys.
  • Yn ystod yr achos llys efallai y bydd angen cefnogaeth o ran morâl ac i gyfathrebu ynghyd ag addasiadau i’r achos.
  • Yn dilyn yr achos llys efallai y bydd angen help ar y rhieni i ddeall y canlyniad a’i oblygiadau; pan fydd plant yn cael eu cymryd oddi arnynt dylent gael tawelwch meddwl o ran llesiant eu plant.
  • Gall eiriolydd annibynnol sydd wedi datblygu perthynas â’r teulu ac sydd â phrofiad o helpu pobl ag anabledd dysgu fod yn hanfodol i ddarparu cymorth drwy gydol ac ar ôl proses y llys.

Cydweithredu, cydlynu a dilyniant

Os oes gan riant anabledd dysgu mae’n bosibl y bydd angen help ar y teulu gan ystod o ffynonellau ffurfiol ac anffurfiol. Fodd bynnag, mae perygl y bydd dyblygu (a all fod yn ddryslyd i rieni) neu fylchau sylweddol yn y ddarpariaeth. Felly mae angen cydlynu a chydweithredu o fewn a rhwng gwasanaethau. Mae hyn yn cyd-fynd â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014).

Mae gweithwyr cymdeithasol angen i bobl weithio mwy â’r tîm anabledd dysgu yn y gymuned, i gael y darlun cyflawn o ba anghenion sydd angen eu diwallu. Oherwydd ar hyn o bryd, nid yw’n gweithio. Mae gormod o bobl yn syrthio drwy’r bylchau, heb ddim cymorth.

(Rhiant 6)

Rwyf yn cael fy nigalonni pan nad yw gweithwyr proffesiynol eraill fel bydwragedd, ymwelwyr iechyd… mae gennym i gyd rywbeth i’w gyfrannu, ond nid ydym yn cael eu clywed ar yr adegau priodol bob amser.

(Cyfranogwr 5)

I hwyluso dull cydlynus a chydweithredol mae angen protocol ar y cyd i ganfod, atgyfeirio, asesu a helpu teuluoedd lle mae gan riant anabledd dysgu (ymhelaethir ar hyn yn Adran 10). Gweler 'Working Together with Parents Good Practice Guidelines'. Fodd bynnag, ar lefel ymarferwyr gellir cymryd camau i hybu cydweithredu a chydlynu effeithiol. Er enghraifft, gall y sawl sy’n gweithio mewn gwasanaethau plant sicrhau eu bod yn gwybod am gydweithwyr sy’n gweithio yn y Tîm Anableddau Dysgu Oedolion yn y Gymuned a gwasanaethau lleol (gan gynnwys y trydydd sector) sydd ar gael i helpu. Dylid cydnabod cyfyngiadau cymhwystra personol/proffesiynol a gwerthfawrogi gwybodaeth a sgiliau pobl eraill, er mwyn darparu’r cymorth mwyaf effeithiol i deuluoedd.

Rwy’n credu ein bod yn anghofio y gall asesiadau fod yn amlddisgyblaethol.. ac y gallant ddeillio o lawer o wahanol bobl a safbwyntiau. Ac rwy’n credu bod lle i wneud hynny ar y cyd... am ei fod yn golygu llawer o gyfrifoldeb hefyd, fel gweithiwr proffesiynol, i gynnal yr asesiadau hynny...Ac rwy’n credu mai rhannu cyfrifoldeb, trafodaethau a dysgu sy’n cael eu rhannu rhwng gweithwyr cymdeithasol gofal plant a gweithwyr cymdeithasol oedolion yw’r ffordd o wella pethau am ein bod yn rhannu gwybodaeth drwy asesu, a thrwy achosion unigol. A dyna, yn y diwedd, sut yr ydym yn mynd i ddysgu.

(Cyfranogwr 2)

Dwi’n meddwl ei fod yn fater o bobl yn cael digon o ddylanwad i ddod â phethau at ei gilydd...proses glir a chymorth gan unigolyn. Nid ydych yn diraddio rolau, felly mae’n wirioneddol gefnogol.

(Cyfranogwr 1)

Ystyriaeth allweddol arall i rieni ag anabledd dysgu yw cysondeb y cymorth maent yn ei gael.

Y broblem yw fy mod angen yr un person, ond maent yn newid gweithwyr cymdeithasol drwy’r amser. Rwyf wedi cael mwy na fedra i eu cyfrif. Mae hynny’n anodd ac yn rhwystredig. Mae’r trosiant yn uchel, ac mae’r achos yn cael ei basio i rywun arall drwy’r adeg ac ni allaf ddelio â hynny.

(Rhiant 1) 

Mi adawodd y gweithiwr cymdeithasol, mae’r un sydd gennym yn awr yn hyfryd (enw). Mae hi’n gefnogol iawn i’r teulu, ond mae gweithiwr cymdeithasol newydd yn dod felly mae gorbryder y plant wedi cyrraedd lefelau uchel iawn eto. Mae’r gweithwyr cymdeithasol yn newid drwy’r amser, mae’n cael effaith ofnadwy arnyn nhw.

(Rhiant 13)

Er bod trosiant staff yn gallu gwneud pethau’n anodd/amhosibl wrth geisio cael cysondeb a dilyniant mewn cymorth gwaith cymdeithasol, mae’n bwysig cydnabod effaith hyn ar rieni ag anabledd dysgu a cheisio ei lleihau. Mae cynnal cyfathrebu da â’r rhieni a sicrhau tryloywder yn hanfodol. Os oes yn rhaid newid gweithiwr cymdeithasol dylid cyfleu hyn yn ofalus i rieni. Dylent gael manylion cyswllt y staff newydd ac, os nad ydynt wedi dechrau yn eu swydd eto, dylent gael pwynt cyswllt dros dro. Os yn bosibl dylid trefnu trosglwyddiad rhwng gweithwyr ac os nad yw hynny’n bosibl yna dylid cael cofnod clir sy’n nodi’r ffordd orau o ddarparu cymorth i’r teulu fel na fydd yn rhaid i’r rhieni ailadrodd gwybodaeth yn ddiangen.

Pwyntiau ymarfer da:

  • Mae angen dull clir a chydlynus ar gyfer teuluoedd lle mae gan riant anabledd dysgu i sicrhau eu bod yn cael yr wybodaeth, y sgiliau a’r cymorth mwyaf priodol.
  • Mae angen cydlyniant o fewn yr awdurdod lleol a rhwng asiantaethau (statudol a thrydydd sector).
  • Mae angen cydnabod effaith newid staff ar rieni, a sicrhau nad yw’n digwydd yn fwy aml na sy’n rhaid.

Cymorth sefydliadol

Er bod y canllaw hwn wedi’i anelu at ymarferwyr gwaith cymdeithasol yn bennaf, mae angen hwyluso arferion gorau ar lefel ymarferwyr drwy gymorth sefydliadol priodol. Mae ymchwil flaenorol yng Nghymru wedi amlygu’r angen am brotocolau effeithiol ar gyfer cydweithio rhwng gwasanaethau cymdeithasol plant ac oedolion. Mae protocolau o’r fath yn rhoi i fframwaith i ymarferwyr i weithio o fewn iddo sy’n disgrifio beth ddylai ddigwydd, pa bryd, a phwy sy’n gyfrifol amdano. Gallant nodi lle mae angen cydweithio, pa bryd mae angen gwneud atgyfeiriadau, a lle mae cael gafael ar gyngor.

Dylai protocol o’r fath gynnwys llwybr cytunedig ar gyfer gweithio rhyngasiantaethol i egluro cyfrifoldebau’r amrywiol asiantaethau statudol a thrydydd sector a’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio iddynt (fel bydwragedd ac ymwelwyr iechyd), ynghyd â’r trefniadau i gydlynu cymorth i deuluoedd. Dylai gynnwys eglurhad o gyfrifoldebau cyllidebol, sut y darperir eiriolaeth annibynnol, a phwy fydd yn ei ariannu.

Yn ddelfrydol dylid cael protocol cyffredin ledled Cymru i hybu cydraddoldeb a chysondeb yn y ddarpariaeth. Fodd bynnag, mi all hyn fod yn anodd ei gyflawni gan fod strwythurau a gwasanaethau’n amrywio o ardal i ardal. Mi all protocol a rennir fod yn bosibl, er hynny, ar lefel pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol lle mae dyletswydd ar y gwahanol asiantaethau i gydweithredu.

I hybu gallu ymarferwyr gwaith cymdeithasol i roi mwy o help i deuluoedd lle mae gan rieni anabledd dysgu, mae’n hanfodol eu bod yn cael hyfforddiant a chymorth priodol yn barhaus. Dylai hyn gynnwys pwyslais ar ganfod a oes anabledd dysgu’n bresennol, cyfathrebu effeithiol, a sut i wneud addasiadau rhesymol i brosesau a chymorth i hybu cyfranogiad, llais a rheolaeth. Gallai’r hyfforddiant hwn gael ei ddarparu gan fudiadau trydydd sector, yn enwedig rhai sy’n darparu cyngor a chymorth i bobl ag anableddau dysgu, a gall gael ei ddarparu hefyd gan rieni ag anableddau dysgu.

Rwy’n credu o ddifrif nad oes gan y bobl yr wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i weithio’n effeithiol â hwy am nad ydynt wedi cael y pethau hynny. Ac rwy’n dal i deimlo bod yr hyn rydym yn dueddol o’i ddysgu, ac mae’n debyg mai fi yw’r arbenigwr yn fy awdurdod lleol gan mai fi yw’r un sy’n gwneud yr asesiadau PAMS, ond rydych yn dal i deimlo, wel rwy’n dysgu wrth fynd yn fy mlaen ac rwy’n credu bod bwlch enfawr. Mae disgwyl inni wybod, ac mae arna i ofn nad ydym yn gwybod.

(Cyfranogwr 3)

Mae hi’n arbennig o bwysig sicrhau bod ymarferwyr sy’n cynnal asesiadau o alluedd rhianta yn cael yr hyfforddiant priodol ar gyfer yr offer asesu a ddefnyddir, bod ganddynt brofiad o weithio ag oedolion ag anabledd dysgu a’u bod wedi cael hyfforddiant i ddefnyddio a dehongli adnoddau asesu.

Mae’r canlynol yn ffynonellau cymorth eraill y gallai ymarferwyr, awdurdodau lleol eu hystyried:

  • nodi swydd o fewn gwasanaethau plant lle mae deiliad y swydd yn gweithredu fel adnodd arbenigol i gydweithwyr o ran helpu teuluoedd lle mae gan riant anabledd dysgu; gallai hyn fod ar ffurf ‘hyrwyddwr anabledd dysgu’
  • datblygu adnodd o fewn tîm plant sy’n cynnwys manylion cyswllt ar gyfer y Tîm Anableddau Dysgu Oedolion yn y Gymuned a gwasanaethau eraill fel Grwpiau Pobl yn Gyntaf. Byddai’n rhaid diweddaru hwn yn rheolaidd i sicrhau ei gywirdeb
  • datblygu templedi hawdd eu darllen ar gyfer gohebiaeth allweddol (fel llythyrau apwyntiadau a chynlluniau gofal a chymorth) y gallai ymarferwyr eu defnyddio a’u haddasu’n ôl anghenion rhieni unigol; (gweler Atodiad 2 ar gyfer rhai adnoddau)

Pwyntiau ymarfer da:

  • Dylai protocol clir a chydlynus ar gyfer cydweithio i ganfod a chynorthwyo rhieni ag anabledd dysgu fod ar gael ym mhob awdurdod lleol. Dylai hyn gynnwys dangos sut y bydd eiriolaeth annibynnol yn cael ei ddarparu a phwy sydd â chyfrifoldeb ariannol am ddarparu gofal a chymorth.
  • Dylai ymarferwyr gwaith cymdeithasol gael addysg a hyfforddiant i helpu rhieni ag anabledd dysgu. Dylai hyn gynnwys sgiliau cyfathrebu a phwysigrwydd gwneud addasiadau rhesymol.
  • Dylai asesiadau o alluedd rhianta gael eu cynnal gan ymarferwyr sydd â phrofiad o weithio ag anabledd dysgu ac sydd wedi cael hyfforddiant priodol i ddefnyddio’r adnodd asesu.
  • Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod adnoddau fel arweinydd/hyrwyddwr anabledd dysgu a gwybodaeth am wasanaethau anableddau dysgu lleol yn hygyrch i ymarferwyr mewn gwasanaethau plant.

Atodiad 1: deddfwriaeth a pholisïau perthnasol sy’n sail i’r canllaw hwn

Y Ddeddf Hawliau Dynol (1998) – gall llawer o’r hawliau a amlinellir yn y Ddeddf hon fod yn berthnasol, ond yn benodol yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol. Hefyd, mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn berthnasol.

Y Ddeddf Cydraddoldeb (2010) – mae anabledd yn un o’r nodweddion gwarchodedig o dan y Ddeddf ac mae dyletswydd rhag-gynllunio ar wasanaethau statudol i wneud addasiadau rhesymol i’r ffordd mae nwyddau a gwasanaethau’n cael ei darparu i hybu cydraddoldeb mynediad. Mae hyn yn golygu efallai y bydd angen addasu sut mae gwasanaethau a gwybodaeth  yn cael eu darparu i ddiwallu anghenion rhieni ag anabledd dysgu.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 – mae’r ddeddf (ynghyd â’r codau ymarfer) yn amlinellu cyfrifoldebau o ran asesu anghenion, darparu cymorth, diogelu oedolion a phlant a darparu eiriolaeth.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Y Deddfau Plant (1989 a 2004) – maent yn gosod dyletswydd ar weithwyr proffesiynol i gydweithredu ar draws gwasanaethau cyhoeddus i helpu plant a’u teuluoedd.

Y Ddeddf Galluedd Meddyliol (2015) – mae’r Ddeddf yn rhoi fframwaith i asesu galluedd unigolion i wneud penderfyniadau. Mae asesu’n canolbwyntio ar y gallu i ddeall, cofio, pwyso a mesur a defnyddio gwybodaeth i wneud penderfyniad. Mae’n cydnabod y gall galluedd amrywio, a bod galluedd yn amrywio’n ôl penderfyniadau – gall unigolyn fod â’r galluedd i wneud un penderfyniad ond nid un arall. Os oes gan unigolyn alluedd yna rhaid parchu eu penderfyniad hyd yn oed oes yw’n cael ei weld fel un annoeth gan bobl eraill. Os, fodd bynnag, nad oes gan yr unigolyn alluedd i wneud penderfyniad penodol yna efallai y bydd angen penderfyniad er lles pennaf.

Hefyd, mae polisïau allweddol sy’n berthnasol:

Atodiad 2: rhagor o adnoddau