Gwerthuso sut caiff y safonau proffesiynol eu gweithredu, eu heffeithiolrwydd a’r effeithiau a ragwelir, ynghyd â’u gallu i gefnogi datblygiad gweithlu medrus.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu, arwain a chynorthwyo gwaith addysgu
Mae’r adroddiad terfynol hwn yn dwyn ynghyd ganfyddiadau gwerthusiad blwyddyn 1 a blwyddyn 2 y safonau proffesiynol ar gyfer addysgu, arwain a chynorthwyo gwaith addysgu.
Roedd y gwaith ymchwil hwn yn cynnwys cyfweld â rhanddeiliaid allweddol, ac ymchwilio i ddata a gasglwyd drwy’r pasbort dysgu proffesiynol, yn ogystal â chyfweld ag ymarferwyr ar draws ysgolion yng Nghymru.
Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau’r data a’r gwaith maes, gan amlinellu sut y defnyddiwyd y safonau, y gefnogaeth i ddefnyddio’r safonau, ac effeithiau tybiedig y safonau ynghyd â’r effeithiau a ragwelir.
