Neidio i'r prif gynnwy

Data yn ôl oedran, awdurdod lleol, dull astudio ac incwm gweddilliol ar gyfer Medi 2018 i Awst 2019.

Mae’r data, sy’n seiliedig ar geisiadau a dderbyniwyd erbyn 31 Gorffennaf 2019, yn gywir ar 1 Awst 2019.

Prif bwyntiau

Gwnaeth cyfanswm o 5,615 o fyfyrwyr mewn AB gais am y Grant yn 2018/19, sy’n ostyngiad o 7.1% o gymharu â 2017/18. O’r ceisiadau hyn, roedd 4,785 yn llwyddiannus, sy’n ostyngiad o 7.1% o gymharu â 2017/18. O ganlyniad, talwyd gwerth £5.1 miliwn o Grantiau i fyfyrwyr AB yn 2018/19, o gymharu â’r £5.6 miliwn a dalwyd yn 2017/18. Roedd 4,430 (92.6%) o geisiadau llwyddiannus gan fyfyrwyr amser llawn a 250 (5.2%) o geisiadau llwyddiannus gan fyfyrwyr rhan-amser.

Mae 85.2% o’r ceisiadau a ddaeth i law yn geisiadau llwyddiannus; dyma’r un gyfran ag yn 2017/18. Mae cyfran y ceisiadau llwyddiannus gan fyfyrwyr amser llawn yn parhau i fod yn uchel iawn, sef tua 98.6%, a’r ffigur cyfatebol ar gyfer myfyrwyr rhan-amser yn 83.9%. Roedd 3,490 (79%) o geisiadau amser llawn llwyddiannus a 200 (79.7%) o geisiadau rhan-amser llwyddiannus gan fyfyrwyr ag incwm gweddilliol o £6,120 neu lai, ac felly dyfarnwyd iddynt y symiau grant llawn o £1,500 a £750. Roedd 1,870 (42.2%) o geisiadau amser llawn llwyddiannus a 55 (22.3%) o geisiadau rhan-amser llwyddiannus gan fyfyrwyr 21 oed neu iau.

Adroddiadau

Grantiau Dysgu Llywodraeth Cymru: addysg bellach, Medi 2018 i Awst 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 777 KB

PDF
Saesneg yn unig
777 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.