Bydd y prosiect hwn yn gwella’r problemau sy’n bodoli â’r bont Afon Dyfrdwy.
Trosolwg
Pam rydym yn ei wneud
Mae strwythur Pont Afon Dyfrdwy ar yr A494 mewn cyflwr gwael, sy'n gofyn am arolygiadau manylach a gwaith monitro ychwanegol cyn cael ei disodli..
Rydym wedi edrych ar amrywiaeth o opsiynau ac yn anelu at gyflwyno cynllun a fydd yn:
- Sicrhau bod y ffordd yn addas ar gyfer ceir, cerbydau nwyddau a thrafnidiaeth gyhoeddus
- Gwneud hi'n haws i bobl ddefnyddio opsiynau teithio mwy gwyrdd a mwy cynaliadwy fel cerdded, beicio, olwyno neu drafnidiaeth gyhoeddus fel dewis arall yn lle cerbydau modur
- Torri allyriadau carbon drwy gydol y prosiect
- Gwarchod a gwella’r bywyd gwyllt a byd natur yn lleol
- Blaenoriaethu diogelwch a lleihau effaith digwyddiadau neu gau ffyrdd
- Tarfu cyn lleied â phosib ar bethau yn ystod y gwaith adeiladu a chadw traffig i symud
Cynnydd presennol
Ar ôl ystyried yr holl ffactorau technegol, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn ofalus -
a gwrando ar adborth yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng Rhagfyr 2024 a Mawrth 2025 – mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi gwneud penderfyniad.
Mae’r opsiwn a ffefrir i ddisodli Pont Afon Dyfrdwy bresennol yr A494 yn cynnwys:
- Pont newydd sbon a fydd yn cael ei hadeiladu i’r de-ddwyrain o’r bont bresennol yn cario dwy lôn o draffig a lleiniau caled i bob cyfeiriad
- Bydd gwelliannau hefyd yn digwydd ar y briffordd sy'n mynd at y bont a'r ardaloedd cyfagos, gan gynnwys llwybrau cerdded a seiclo newydd a gwell, gwaith tirlunio a nodweddion bioamrywiaeth gwell, a seilwaith priffyrdd gwell fel aliniad ffyrdd gwell, draenio, goleuadau a chyffordd newydd well.
Yn bwysig, bydd y rhan fwyaf o'r gwaith adeiladu yn digwydd i ffwrdd o'r ffordd bresennol, felly gall yr A494 aros ar agor am y rhan fwyaf o'r gwaith—gan darfu cyn lleied â phosib ar bethau.
Camau nesaf
Rydyn ni’n cynnal cyfnod ymgynghori o Dydd Mawrth, 30 Medi, tan Dydd Mawrth, 11 Tachwedd.
Nod yr ymgynghoriad hwn yw rhoi cyfle i unrhyw berson neu sefydliad gefnogi, gwrthwynebu neu awgrymu dewisiadau amgen i ddogfennau Gorchymyn drafft y cynllun.
Fel rhan o'r broses Statudol, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr holl ymatebion i'r Gorchmynion drafft ac yna'n penderfynu a ddylid cynnal Ymchwiliad Cyhoeddus Lleol.
Gweld y Gorchmynion
Mae'r holl ddogfennau ar gael i'w gweld yn yr adran Gorchmynion ar waelod y dudalen hon.
Gellir eu gweld hefyd yn bersonol rhwng dydd Mawrth, 30 Medi, a dydd Mawrth, 11 Tachwedd, yn:
Llyfrgell Glannau Dyfrdwy,
Y Ganolfan Hamdden,
Chester Road West,
Queensferry,
Glannau Dyfrdwy,
CH5 1SA
Llun i Gwener: 9am i 5pm
Sadwrn: 9am i 1.30pm
Swyddfa Cyffordd Llandudno Llywodraeth Cymru,
Sarn Mynach,
Cyffordd Llandudno,
LL31 9RZ
Llun i Gwener: 10am i 5pm
Os yw unrhyw un eisiau siarad â chynrychiolydd Llywodraeth Cymru am y prosiect, rhaid gwneud apwyntiad o leiaf 3 diwrnod gwaith cyn ymweliad. I drefnu apwyntiad, e-bostiwch A494RiverDeeBridgeConsultation@gov.wales
Digwyddiadau arddangos cyhoeddus
Rydym hefyd yn cynnal 2 arddangosfa gyhoeddus lle bydd tîm y prosiect ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Dydd Mercher, 22 Hydref
10am i 6pm
Ty Calon, Campws Queensferry, Chester Road West, Queensferry, Glannau Dyfrdwy, CH5 1SA
Dydd Mercher, 29 Hydref
10am i 6pm
Eglwys Sant Andrew, Sealand Avenue, Garden City, Glannau Dyfrdwy, CH5 2HN
Cyflwyno eich barn
Rhaid i unrhyw wrthwynebiadau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gangen Gorchmynion cyn dydd Mawrth 11 Tachwedd 2025.
E-bostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru neu ysgrifennwch at:
Cangen Gorchmynion,
Trafnidiaeth,
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd,
CF10 3NQ.
Rhaid ddefnyddio’r cyfeirnod qA2280938 a qA2282120 a nodi’r sail dros wrthwynebu.
Os ydych chi’n dymuno gwrthwynebu, cefnogi neu gyflwyno sylwadau, bydd eich gohebiaeth yn cael ei hystyried gan dîm y prosiect ac efallai y bydd angen i ni ymgynghori â phobl a sefydliadau y tu allan i Lywodraeth Cymru.
Ymgynghoriadau cyhoeddus
Fe wnaethom ni ofyn am adborth ar 5 o opsiynau oedd ar y rhestr fer, rhwng Rhagfyr 2024 a Mawrth 2025.
Yn flaenorol, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos rhwng mis Tachwedd 2018 a mis Chwefror 2019.
Amserlen
Cyhoeddi Gorchmynion drafft a datganiad amgylcheddol: hydref 2025
Cyfnod ymgynghori ar gyfer sylwadau: hydref 2025
Ymchwiliad cyhoeddus lleol: gwanwyn/haf 2026
Penderfyniad y Gweinidog: haf 2026
Gwneud Gorchmynion: haf 2026
Gwaith galluogi ar y safle: hydref 2026
Dechrau'r prif waith adeiladu: gwanwyn 2027
Pont newydd yn agor: hydref 2029
Dymchwel yr hen bont: gwanwyn 2030
