Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau adolygiad o Gynllun Grantiau Llywodraeth Cymru sy’n anelu i gefnogi defnydd y Gymraeg mewn cymunedau ar draws Cymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Nod yr adolygiad oedd cynnig arweiniad i Lywodraeth Cymru wrth iddi gynllunio model cyllido a strwythurau ar gyfer y dyfodol i gefnogi defnydd y Gymraeg.
Cyflawnwyd hyn drwy:
- osod y Cynllun Grantiau yng nghyd-destun strategol Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr ac amcanion polisi Llywodraeth Cymru mewn meysydd perthnasol allweddol;
- archwilio’r llenyddiaeth am fodelau arloesi, grymuso cymunedol a gweithio mewn partneriaeth, a’u perthnasedd i ddefnydd iaith;
- archwilio modelau sy’n meithrin gallu cymunedau a buddiolwyr i fesur canlyniadau ac effaith eu gweithgarwch;
- cynnal gwerthusiad proses o sut mae’r Cynllun Grantiau presennol yn cael ei weithredu;
- datblygu theori newid i archwilio’r trywydd rhesymeg rhwng mewnbynnau, gweithgareddau, allbynnau a deilliannau disgwyliedig y Cynllun Grantiau.
Mae’r adolygiad yn cynnig cyfres o argymhellion ar gyfer datblygu’r Cynllun Grantiau i’r dyfodol.
