Neidio i'r prif gynnwy

Data am weithgarwch a pherfformiad yn y GIG yng Nghymru. Mae’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf, fisol sydd ar gael ar gyfer Mehefin a Gorffennaf 2019 yn ogystal â chrynodeb o dueddiadau tymor hir.

Nodyn adolygu

Ar 30 Awst 2019, diwygiwyd data Mehefin 2019 nad oedd yn ymwneud ag atgyfeirio i driniaeth, gan fod y data Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan ar gyfer adroddiad ystadegol a gyhoeddwyd ar 22 Awst 2019 wedi cael ei godio o dan yr arbenigedd Salwch Meddwl.

Gofal heb ei drefnu

Roedd cyfartaledd y derbyniadau dyddiol i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn uwch ym mis Gorffennaf, ac yn uwch nag erioed. Gostyngodd canran y cleifion sy'n treulio llai na 4 awr yno ychydig, a chynyddodd nifer y cleifion a dreuliodd fwy na 12 awr yno.

Cynyddodd nifer cyfartalog y galwadau dyddiol i’r gwasanaeth ambiwlans ym mis Gorffennaf. Fe wnaeth canran y galwadau coch a oedd yn cael ymateb brys cyn pen 8 munud gwrdd â’r targed, ond roedd o dan 70% am y tro cyntaf ers mis Mawrth 2018.

Cynyddodd yr amser cyfartalog ar gyfer ymateb ambiwlansys i alwadau brys ychydig a gostyngodd nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal ym mis Gorffennaf.

Gofal wedi’i drefnu

Roedd nifer y cleifion a oedd yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig yn is ym mis Mehefin ond roedd nifer y cleifion a oedd yn aros mwy na’r amser targed am wasanaethau therapi yn uwch. Roedd amseroedd aros cyfartalog wedi cynyddu ar gyfer profion diagnostig ond wedi gostwng ar gyfer therapi.

Roedd perfformiad rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn gymysg; roedd canran uwch o gleifion yn aros llai na’r 26 wythnos ond roedd mwy o gleifion yn aros mwy na  36 wythnos hefyd. Roedd yr amser aros am driniaeth rhywfaint yn uwch ar gyfartaledd hefyd. 

Roedd canran y cleifion a oedd yn dechrau ar driniaeth am ganser o fewn yr amser targed wedi gostwng ar gyfer cleifion ar y llwybr brys ac ar gyfer cleifion nad oeddent ar y llwybr brys. Mae ystadegau arbrofol ar gyfer un llwybr canser wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn am y tro cyntaf hefyd.

Roedd perfformiad Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) wedi dirywio.

Adroddiadau

Crynodeb gweithgaredd a pherfformiad y GIG, Mehefin a Gorffenaf 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 621 KB

PDF
621 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.