Y cynllun sbarduno busnesau bwyd
Cyfeirnod y cymhorthdal: SC.10822. Mae'r cynllun yn cefnogi cyflawni'r "Gweledigaeth ar gyfer y diwydiant Bwyd a Diod o 2021".
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymorthdaliadau, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau drwy anfon e-bost i: yrunedrheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
1. Rhanbarth
Cymru gyfan
2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal
Y Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd
3. Sail gyfreithiol y DU
Rheoliadau’r Cyngor Cyfraith yr UE a Ddargedwir Rhifau 1305/2013, 1303/2013 ac 1306/2013, Rheoliad Gweithredu Rhif 808/2014 a Rhif 809/2014 a Rheoliad Dirprwyedig 640/2014 ac 807/2014. Caiff y Gyfraith UE a Ddargedwir ei gweithredu yng Nghymru drwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (pob un fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd), gan gynnwys Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (Cy. 129): Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (Cy.27)
4. Amcanion y Cynllun
Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth hirdymor ar gyfer y diwydiant bwyd a diod sy’n cael ei disgrifio yn ‘Gweledigaeth ar gyfer y diwydiant Bwyd a Diod o 2021’. Mae’n cynnig gweledigaeth o ddiwydiant cryf, bywiog gydag enw da trwy’r byd am ragoriaeth ac sydd ag un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf amgylcheddol a chymdeithasol gyfrifol yn y byd.
Rhaid i bob prosiect sy'n cael ei gefnogi drwy'r Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd gyfrannu at wireddu’r weledigaeth a gwneud cyfraniad amlwg. Bydd y cyfraniad at wireddu’r weledigaeth yn cael ei asesu yn ystod yr arfarniad. Yr amcanion penodol yw:
- Twf: Bob blwyddyn, bydd gwerth trosiant sector bwyd a diod Cymru’n tyfu’n gymesur yn fwy na gweddill y DU, ac i o leiaf £8.5 biliwn erbyn 2025.
- Cynhyrchiant: Bydd cyfartaledd tair blynedd Gwerth Ychwanegol Gros yr awr a weithir yn y diwydiant yn cynyddu’n gymesur yn fwy na gweddill y DU.
- Gwaith Teg: Bob blwyddyn, bydd cyfran gweithwyr y sector sy’n derbyn Cyflog Byw Cymru o leiaf yn cynyddu, i gyflawni 80% erbyn 2025.
- Achredu: Bob blwyddyn, bydd cynnydd yng nghyfran y busnesau gweithgynhyrchu yn y diwydiant sydd wedi cael eu hachredu (e.e. rheoli amgylcheddol, datblygu staff, cynhyrchu a safonau perthnasol eraill).
- Gwobrau: Bob blwyddyn, bydd cynnydd yng nghyfran y busnesau yn y sector gweithgynhyrchu bwyd a diod sy’n ennill gwobrau sy’n briodol i’w busnes. Erbyn 2025 bydd o leiaf chwe chynnyrch arall o Gymru yn ymuno â chynllun Dynodiad Daearyddol (GI) y DU.
- Hylendid: Bydd gan 98% o fusnesau sgôr hylendid bwyd o 5 erbyn 2025.
5. Awdurdod/awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’i awdurdodi/wedi’u hawdurdodi i weithredu'r Cynllun
Llywodraeth Cymru
6. Categori/categorïau mentrau cymwys
Busnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW ac sy’n ymwneud â phrosesau cynradd a/neu eilaidd mewn cynnyrch amaethyddol ac anamaethyddol, fel:
- cwmnïau cyfyngedig preifat a chyhoeddus
- unig fasnachwyr a phartneriaethau
- busnesau fferm sy’n prosesu cynnyrch amaethyddol
- busnesau newydd, gan gynnwys hen fusnesau sy'n dechrau arallgyfeirio a busnesau sydd newydd eu sefydlu
- cwmnïau dielw, cwmnïau cydweithredol a mudiadau cymunedol, cyhoeddus a gwirfoddol
Yn ogystal, er mwyn cael gwneud cais rhaid eich bod wedi cofrestru â Llywodraeth Cymru ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN). Darllenwch y canllawiau ar sut i gofrestru neu cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid drwy ffonio 0300 062 5004.
7. Sector(au) a gefnogir
Y sectorau amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota yn unig
8. Hyd y Cynllun
17 Tachwedd 2022 i 31 Mawrth 2025
9. Cyllideb ar gyfer cymorth o dan y Cynllun
£43,000,000
10. Ffurf y cymorth
Bydd pob cymhorthdal sy’n cael ei ddyfarnu o dan y Cynllun yn cael ei roi ar ffurf grant uniongyrchol.
11. Telerau ac amodau cymhwysedd
Mae'r cynllun hwn yn cynnig cymorth ar gyfer buddsoddiadau diriaethol a/neu anniriaethol mewn gweithgareddau prosesu sy'n dod â manteision clir a mesuradwy i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru a'i gadwyni cyflenwi.
Gall ffrwyth y gweithgaredd fod yn unrhyw fath o gynnyrch bwyd a diod i'w fwyta gan bobl; cynhyrchion bwyd anifeiliaid fferm neu anwes; cynhyrchion bwyd swyddogaethol eraill; cynhyrchion maethol-fferyllol; a chynhyrchion nad ydynt yn fwyd megis bio-blastigau.
Parciau Bwyd sy'n darparu unedau cynhyrchu a phrosesu gyda chymorth technegol, masnachol ac academaidd ar gael ar y safle.
Gellir defnyddio’r cymorth o dan y cynllun hwn i brynu a/neu ddatblygu asedau diriaethol fel tir, adeiladau, peiriannau, a chyfarpar, yn ogystal ag asedau anniriaethol fel meddalwedd gyfrifiadurol, hawliau patent, a thrwyddedau a ffioedd ar gyfer gwasanaethau technegol ac ymgynghori, yn amodol ar gyfyngiadau (a-d):
- adeiladu, caffael, neu wella eiddo sefydlog, gyda phrynu tir ond yn gymwys cyn belled nad yw'n fwy na 10% o gyfanswm costau cymwys y prosiect buddsoddi
- prynu peiriannau a chyfarpar hyd at werth yr ased ar y farchnad
- costau cyffredinol sy'n gysylltiedig â gwariant pwyntiau (a) a (b), fel ffioedd peiriannydd neu ymgynghorydd, rheoli prosiect, ffioedd cyngor ar gynaliadwyedd amgylcheddol ac economaidd, cyn belled nad ydynt yn fwy na 12% o gyfanswm costau cymwys y prosiect buddsoddi
- caffael neu ddatblygu meddalwedd gyfrifiadurol, a chaffael patentau, trwyddedau, hawlfreintiau, nodau masnach.
Mae cyfarpar ail-law yn gymwys os yw'r ymgeisydd yn gallu dangos y canlynol:
- bod yr offer yn bodloni'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch bresennol
- ei fod yn ateb y gofyn
- y disgwylir iddo allu para o leiaf bum mlynedd arall.
Mae’r gofynion llawn ar gyfer bod yn gymwys i’w gweld yng nghanllawiau'r cynllun yma: Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd: canllawiau.
12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Y grant fydd cyfanswm cyfraniad y sector cyhoeddus at y prosiect buddsoddi a all gynnwys: arian oddi wrth Lywodraeth Cymru; arian oddi wrth adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus anadrannol ac awdurdodau lleol; arian oddi wrth gyrff a reolir gan y llywodraeth fel y Gwasanaeth Busnesau Bach a'r Loteri Genedlaethol; ac arian o drethi ardrethiannol (ardollau).
Os ceir arian o ffynonellau cyhoeddus eraill i gefnogi costau’r prosiect, tynnir swm cyfwerth o’r grant Sbarduno Busnesau Bwyd.
Y grant mwyaf a roddir fesul menter ar gyfer unrhyw brosiect buddsoddi unigol yw £5,000,000.
Y grant lleiaf a roddir fesul menter ar gyfer unrhyw brosiect buddsoddi unigol yw £20,000.
Y Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd – Y Grant Mwyaf y gellir gwneud cais amdano yw £5,000,000
Mae’r cyfraddau grant uchaf fel a ganlyn –
40% o gyfanswm y gost buddsoddi
Mae'r grant yn darparu hyd at % o gyfraniad tuag at fuddsoddiad cyfalaf (ac eithrio TAW) ar sail costau gwirioneddol wedi’u hanfonebu.
Er enghraifft, os cynigir grant 40% tuag at brynu peiriant gwneud selsig gwerth £60,000, y grant mwyaf y gallwch ei gael yw £24,000.
Os bydd cost derfynol y buddsoddiad yn fwy na £60,000, ni chaiff y grant fynd yn uwch na’r gost wreiddiol a nodwyd yn y cais h.y., 40% neu £24,000.
Os bydd cost derfynol y buddsoddiad yn llai na'r gost wreiddiol a gyflwynwyd yn y cais e.e. £58,000, bydd y grant y gallwch ei hawlio yn gostwng i £23,200 (40% o'r gwariant gwirioneddol).
Caiff eich cais fod yn fwy na'r grant mwyaf. Os dewisir eich Datganiad o Ddiddordeb, bydd yr hawliad cysylltiedig yn cael ei gapio yn unol â’r uchafswm o £5,000,000.
Bydd y broses Datgan Diddordeb a dewis gychwynnol yn cadarnhau’ch bod wedi bodloni’r meini prawf sylfaenol.
13. Y cymhorthdal mwyaf a ganiateir o dan y cynllun
£5,000,000
14. Gwybodaeth gysylltu
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig
Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.