Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymorthdaliadau, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau drwy anfon e-bost i: yrunedrheolicymorthdaliadau@llyw.cymru

1. Rhanbarth

Cymru gyfan

2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal

Y Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd

3. Sail gyfreithiol y DU

Rheoliadau’r Cyngor Cyfraith yr UE a Ddargedwir Rhifau 1305/2013, 1303/2013 ac 1306/2013, Rheoliad Gweithredu Rhif 808/2014 a Rhif 809/2014 a Rheoliad Dirprwyedig 640/2014 ac 807/2014. Caiff y Gyfraith UE a Ddargedwir ei gweithredu yng Nghymru drwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (pob un fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd), gan gynnwys Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (Cy. 129): Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (Cy.27)

4. Amcanion y Cynllun

Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth hirdymor ar gyfer y diwydiant bwyd a diod sy’n cael ei disgrifio yn ‘Gweledigaeth ar gyfer y diwydiant Bwyd a Diod o 2021’. Mae’n cynnig gweledigaeth o ddiwydiant cryf, bywiog gydag enw da trwy’r byd am ragoriaeth ac sydd ag un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf amgylcheddol a chymdeithasol gyfrifol yn y byd.

Rhaid i bob prosiect sy'n cael ei gefnogi drwy'r Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd gyfrannu at wireddu’r weledigaeth a gwneud cyfraniad amlwg. Bydd y cyfraniad at wireddu’r weledigaeth yn cael ei asesu yn ystod yr arfarniad. Yr amcanion penodol yw:

  • Twf: Bob blwyddyn, bydd gwerth trosiant sector bwyd a diod Cymru’n tyfu’n gymesur yn fwy na gweddill y DU, ac i o leiaf £8.5 biliwn erbyn 2025.
  • Cynhyrchiant: Bydd cyfartaledd tair blynedd Gwerth Ychwanegol Gros yr awr a weithir yn y diwydiant yn cynyddu’n gymesur yn fwy na gweddill y DU.
  • Gwaith Teg: Bob blwyddyn, bydd cyfran gweithwyr y sector sy’n derbyn Cyflog Byw Cymru o leiaf yn cynyddu, i gyflawni 80% erbyn 2025.
  • Achredu: Bob blwyddyn, bydd cynnydd yng nghyfran y busnesau gweithgynhyrchu yn y diwydiant sydd wedi cael eu hachredu (e.e. rheoli amgylcheddol, datblygu staff, cynhyrchu a safonau perthnasol eraill).
  • Gwobrau: Bob blwyddyn, bydd cynnydd yng nghyfran y busnesau yn y sector gweithgynhyrchu bwyd a diod sy’n ennill gwobrau sy’n briodol i’w busnes. Erbyn 2025 bydd o leiaf chwe chynnyrch arall o Gymru yn ymuno â chynllun Dynodiad Daearyddol (GI) y DU.
  • Hylendid: Bydd gan 98% o fusnesau sgôr hylendid bwyd o 5 erbyn 2025.

5. Awdurdod/awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’i awdurdodi/wedi’u hawdurdodi i weithredu'r Cynllun

Llywodraeth Cymru

6. Categori/categorïau mentrau cymwys

Busnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW ac sy’n ymwneud â phrosesau cynradd a/neu eilaidd mewn cynnyrch amaethyddol ac anamaethyddol, fel:

  • cwmnïau cyfyngedig preifat a chyhoeddus
  • unig fasnachwyr a phartneriaethau
  • busnesau fferm sy’n prosesu cynnyrch amaethyddol
  • busnesau newydd, gan gynnwys hen fusnesau sy'n dechrau arallgyfeirio a busnesau sydd newydd eu sefydlu
  • cwmnïau dielw, cwmnïau cydweithredol a mudiadau cymunedol, cyhoeddus a gwirfoddol

Yn ogystal, er mwyn cael gwneud cais rhaid eich bod wedi cofrestru â Llywodraeth Cymru ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN). Darllenwch y canllawiau ar sut i gofrestru neu cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid drwy ffonio 0300 062 5004.

7. Sector(au) a gefnogir

Y sectorau amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota yn unig

8. Hyd y Cynllun

17 Tachwedd 2022 i 31 Mawrth 2025

9. Cyllideb ar gyfer cymorth o dan y Cynllun

£43,000,000

10. Ffurf y cymorth

Bydd pob cymhorthdal sy’n cael ei ddyfarnu o dan y Cynllun yn cael ei roi ar ffurf grant uniongyrchol.

11. Telerau ac amodau cymhwysedd

Mae'r cynllun hwn yn cynnig cymorth ar gyfer buddsoddiadau diriaethol a/neu anniriaethol mewn gweithgareddau prosesu sy'n dod â manteision clir a mesuradwy i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru a'i gadwyni cyflenwi.

Gall ffrwyth y gweithgaredd fod yn unrhyw fath o gynnyrch bwyd a diod i'w fwyta gan bobl; cynhyrchion bwyd anifeiliaid fferm neu anwes; cynhyrchion bwyd swyddogaethol eraill; cynhyrchion maethol-fferyllol; a chynhyrchion nad ydynt yn fwyd megis bio-blastigau.

Parciau Bwyd sy'n darparu unedau cynhyrchu a phrosesu gyda chymorth technegol, masnachol ac academaidd ar gael ar y safle.

Gellir defnyddio’r cymorth o dan y cynllun hwn i brynu a/neu ddatblygu asedau diriaethol fel tir, adeiladau, peiriannau, a chyfarpar, yn ogystal ag asedau anniriaethol fel meddalwedd gyfrifiadurol, hawliau patent, a thrwyddedau a ffioedd ar gyfer gwasanaethau technegol ac ymgynghori, yn amodol ar gyfyngiadau (a-d):

  1. adeiladu, caffael, neu wella eiddo sefydlog, gyda phrynu tir ond yn gymwys cyn belled nad yw'n fwy na 10% o gyfanswm costau cymwys y prosiect buddsoddi
  2. prynu peiriannau a chyfarpar hyd at werth yr ased ar y farchnad
  3. costau cyffredinol sy'n gysylltiedig â gwariant pwyntiau (a) a (b), fel ffioedd peiriannydd neu ymgynghorydd, rheoli prosiect, ffioedd cyngor ar gynaliadwyedd amgylcheddol ac economaidd, cyn belled nad ydynt yn fwy na 12% o gyfanswm costau cymwys y prosiect buddsoddi
  4. caffael neu ddatblygu meddalwedd gyfrifiadurol, a chaffael patentau, trwyddedau, hawlfreintiau, nodau masnach.

Mae cyfarpar ail-law yn gymwys os yw'r ymgeisydd yn gallu dangos y canlynol:

  • bod yr offer yn bodloni'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch bresennol
  • ei fod yn ateb y gofyn
  • y disgwylir iddo allu para o leiaf bum mlynedd arall.

Mae’r gofynion llawn ar gyfer bod yn gymwys i’w gweld yng nghanllawiau'r cynllun yma: Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd: canllawiau.

12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Y grant fydd cyfanswm cyfraniad y sector cyhoeddus at y prosiect buddsoddi a all gynnwys: arian oddi wrth Lywodraeth Cymru; arian oddi wrth adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus anadrannol ac awdurdodau lleol; arian oddi wrth gyrff a reolir gan y llywodraeth fel y Gwasanaeth Busnesau Bach a'r Loteri Genedlaethol; ac arian o drethi ardrethiannol (ardollau).

Os ceir arian o ffynonellau cyhoeddus eraill i gefnogi costau’r prosiect, tynnir swm cyfwerth o’r grant Sbarduno Busnesau Bwyd.

Y grant mwyaf a roddir fesul menter ar gyfer unrhyw brosiect buddsoddi unigol yw £5,000,000.

Y grant lleiaf a roddir fesul menter ar gyfer unrhyw brosiect buddsoddi unigol yw £20,000.

Y Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd – Y Grant Mwyaf y gellir gwneud cais amdano yw £5,000,000

Mae’r cyfraddau grant uchaf fel a ganlyn –

40% o gyfanswm y gost buddsoddi

Mae'r grant yn darparu hyd at % o gyfraniad tuag at fuddsoddiad cyfalaf (ac eithrio TAW) ar sail costau gwirioneddol wedi’u hanfonebu.

Er enghraifft, os cynigir grant 40% tuag at brynu peiriant gwneud selsig gwerth £60,000, y grant mwyaf y gallwch ei gael yw £24,000.

Os bydd cost derfynol y buddsoddiad yn fwy na £60,000, ni chaiff y grant fynd yn uwch na’r gost wreiddiol a nodwyd yn y cais h.y., 40% neu £24,000.

Os bydd cost derfynol y buddsoddiad yn llai na'r gost wreiddiol a gyflwynwyd yn y cais e.e. £58,000, bydd y grant y gallwch ei hawlio yn gostwng i £23,200 (40% o'r gwariant gwirioneddol).

Caiff eich cais fod yn fwy na'r grant mwyaf. Os dewisir eich Datganiad o Ddiddordeb, bydd yr hawliad cysylltiedig yn cael ei gapio yn unol â’r uchafswm o £5,000,000.

Bydd y broses Datgan Diddordeb a dewis gychwynnol yn cadarnhau’ch bod wedi bodloni’r meini prawf sylfaenol.

13. Y cymhorthdal mwyaf a ganiateir o dan y cynllun

£5,000,000

14. Gwybodaeth gysylltu

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image