Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae'r datganiad hwn yn rhoi gwybod i’r Aelodau bod fersiwn ddiwygiedig o’r Strategaeth Digidol a Data ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi’i chyhoeddi a’i bod ar gael yn: Strategaeth digidol a data ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
Ni ellir tanlinellu digon pa mor bwysig yw technoleg ddigidol a data o ran cefnogi ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol – ac mae'r strategaeth newydd hon yn adeiladu ar lwyddiant y gwaith o weithredu Iechyd a Gofal Gwybodus (2015), a oedd yn un o ddulliau galluogi allweddol Cymru Iachach (2018).
Bu llawer o fuddsoddiadau ar raddfa fawr mewn datblygiadau digidol a data, gan gynnwys presgripsiynau electronig a'r Rhaglen Gwasanaethau Digidol i'r Cyhoedd a Chleifion, sy'n cynnwys datblygu Ap GIG Cymru.
Mae'r strategaeth ar ei newydd wedd yn darparu cyfeiriad ar gyfer trawsnewidiad digidol a data i helpu pobl Cymru i fyw bywydau hapusach, iachach a hirach drwy wasanaethau digidol sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac sydd wedi’u hadeiladu ar well sgiliau, partneriaethau, data a phlatfformau digidol.
Yn ogystal â sefydlu swydd prif swyddog digidol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol i weithio ochr yn ochr â'r phrif swyddogion digidol llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru, mae'r strategaeth ddiwygiedig yn gweithredu fel naratif ar gyfer y system gyfan. Mae'n nodi'r disgwyliad y dylid manteisio i’r eithaf ar dechnoleg ddigidol a data i hybu ansawdd ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Ei bwriad yw gwella profiad defnyddwyr iechyd a gofal cymdeithasol drwy ddylunio ein gwasanaethau digidol a data gyda chleifion, defnyddwyr gofal cymdeithasol, darparwyr a chlinigwyr.
Mae'n cydnabod yn benodol bod gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n cael eu galluogi drwy dechnoleg ddigidol a data yn ymwneud â phobl, lawn gymaint ag y maent yn ymwneud â thechnoleg. Y bwriad yw grymuso pobl i reoli eu hiechyd eu hunain ac atal clefydau drwy wasanaethau digidol cynhwysol sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, drwy gryfhau ein seilwaith a'n cysylltedd a’n defnydd o ddata, a thrwy groesawu’r dulliau arloesol y mae technolegau newydd yn eu cynnig.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Pe bai aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn ailagor, byddwn yn hapus i wneud hynny.