Neidio i'r prif gynnwy

Gwella'r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal modern drwy dechnoleg a defnyddio data.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Mae angen i’n system o ddarparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol cydgysylltiedig gael ei datblygu ymhellach. Mae trawsnewid digidol yn allweddol i ganlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol llwyddiannus a gwell. Mae'r 'Strategaeth digidol a data ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru' hon ar ei newydd wedd yn adeiladu ar lwyddiannau blaenorol ac yn nodi uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol. Mae’n hanfodol cael gwasanaethau digidol sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac sydd wedi’u hadeiladu ar sgiliau, data a phlatfformau digidol gwell.   

Mae'r strategaeth yn nodi cyfres o flaenoriaethau i'w cyflawni drwy chwe chenhadaeth:

  • sgiliau digidol
  • economi ddigidol
  • cydweithredu a data
  • seilwaith a chysylltedd digidol 
  • gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
  • cynhwysiant digidol

Byddwn yn sicrhau bod technoleg ddigidol a data wrth wraidd ein gwaith o ddatblygu  gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r Strategaeth hon yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i helpu dinasyddion i fyw bywydau hirach a hapusach.