Neidio i'r prif gynnwy

Canllaw i helpwch chi i gadw at y gyfraith wrth profi offer chwistrellu plaladdwyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ôl y gyfraith, rhaid profi offer taenu plaladdwyr newydd, fel chwistrellwyr bŵm a ‘weed wipers’, o dan y Cynllun Cenedlaethol Profi Chwistrellwyr (NSTS) cyn eu bod yn 5 oed. 

Ar ôl 5 mlynedd, dylid cynnal profion yn rheolaidd, naill ai bob 3 neu 6 blynedd, yn dibynnu ar y math o offer.  Rhaid gwirio sachau cefn, chwistrellwyr llaw ac offer cerdded gyda llai na 3 olwyn yn rheolaidd hefyd. Cofiwch gadw cofnodion cyfredol o arolygiadau, gwiriadau ac atgyweiriadau.

Cylch ail-brofi

Bob 3 blynedd 

  • pob chwistrellwr bŵm dros 3m o led
  • chwistrellwyr aer
  • chwistrellwyr trên ac
  • offer wedi'i osod ar awyrennau 

Bob 6 blynedd 

  • bŵms 3 metr neu lai
  • offer taenu pelenni lladd gwlithod ac offer micro-gronynnog
  • ‘weed wipers’
  • triniaeth hadau
  • offer troli wedi'i yrru â llaw neu sy'n hunan-yrru gyda 3 neu fwy o olwynion a phwmp modur ac
  • offer arbenigol arall 

Mae'r dolenni isod yn nodi'r gofynion ar gyfer profi offer, megis:

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y wefan Cynllun Cenedlaethol Profi Chwistrellwyr. Mae yna hefyd ddetholiad o restrau gwirio defnyddiol ar gyfer y gwahanol fathau o offer.

Nid oes angen cynnal prawf ar offer segur nac offer nad yw’n cael ei ddefnyddio i wasgaru plaladdwyr.