Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr alwad hon am dystiolaeth i ben ar 8 Hydref 2023.

Cyfnod yr alwad am dystiolaeth:
30 Gorffennaf 2023 i 8 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae'r ymatebion i'r alwad hon am dystiolaeth hon yn cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.

Yr alwad wreiddiol am dystiolaeth

Mae'r llywodraeth yn ceisio casglu tystiolaeth i lywio ein hadolygiad o daliadau parcio a ffioedd adennill dyledion yn y diwydiant parcio preifat.

Disgrifiad o'r alwad am dystiolaeth

Mae'r llywodraeth yn galw am dystiolaeth fel rhan o gynlluniau i reoleiddio'r sector parcio preifat yn well, gan gynnwys ystyried opsiynau ar gyfer taliadau parcio preifat (a godwyd wrth ganfod achosion o dorri rheolau maes parcio) a ffioedd adennill dyledion.

Mae'r mesurau a ystyrir yn rhan o waith datblygu cod ymarfer, fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Parcio (Cod Ymarfer) 2019, a fydd yn sicrhau mwy o reoleiddio o ran y diwydiant parcio preifat.

Mae'r alwad am dystiolaeth yn archwilio'r effeithiau y gellid eu disgwyl o'r cod ymarfer a 5 opsiwn yn ymwneud â thaliadau parcio a ffioedd adennill dyledion i helpu'r broses benderfynu.

Ymgynghoriad ar y cyd yw hwn, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban.

Cynhelir yr alwad hon am dystiolaeth ar GOV.UK