Mae gan yr Arolwg Sbotolau rôl unigryw wrth fonitro ac asesu iechyd parhaus y sector amgueddfeydd yng Nghymru. Dyma’r iteriad diweddaraf o’r arolwg ers pandemig COVID-19.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Casglodd yr arolwg ddata ar gyfer y flwyddyn 2022 o'r amgueddfeydd hynny yng Nghymru sydd wedi'u hachredu neu'n gweithio tuag at achrediad. Mae canfyddiadau'r arolwg yn darparu tystiolaeth i lywio cynllunio, ariannu a phenderfyniadau strategol eraill gan Lywodraeth Cymru a'r sector amgueddfeydd yng Nghymru.
Mae'r adroddiad yn defnyddio data cymharol, yn enwedig data a gasglwyd o 2019 i ystyried tystiolaeth cyn ac ar ôl pandemig COVID-19.
Mae'r adroddiad yn nodi canfyddiadau allweddol rownd gyfredol yr Arolwg Sbotolau ar Amgueddfeydd.
