Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Ar ddechrau'r pandemig, drwy fabwysiadu ffordd o weithio lle nad oedd 'neb yn cael ei adael allan', gwnaethom gymryd camau pendant i sicrhau bod y bobl hynny sydd heb rywle i fyw yn gallu cael gafael ar lety diogel, hunangynhwysol, nid yn unig er mwyn eu hamddiffyn eu hunain ond hefyd er mwyn atal firws Covid-19 rhag lledaenu. Rwy'n falch o'r ymateb yng Nghymru ac yn hynod ddiolchgar i dimau digartrefedd a chymorth tai yr awdurdodau lleol, ynghyd â'u partneriaid yn y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, am eu cymorth wrth inni fynd ati i weithredu yn y ffordd honno.
Mae ymrwymiad clir yn ein Rhaglen Lywodraethu i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd yn sylfaenol er mwyn canolbwyntio ar atal digartrefedd ac ar ailgartrefu pobl yn gyflym. Yn gynharach yn y mis, roeddwn yn falch o gael lansio Papur Gwyn ac ynddo nifer o gynigion sy'n cynnwys mynd ati'n gynt i helpu pobl i symud i mewn i dai parhaol. Mae'r cyhoeddiad diweddar i estyn y Gronfa Gyfalaf Llety Trosiannol yn sail i'n hymrwymiad i gyflwyno rhagor o gartrefi er mwyn lleihau'r niferoedd sy'n byw mewn llety dros dro ar hyn o bryd.
Fodd bynnag, ni fydd y mesurau hynny'n cyflawni eu hamcanion ar unwaith. Yn y tymor byr, rwy'n cydnabod yr angen i fod yn bragmatig mewn ymateb i'r ffaith bod dal angen atebion dros dro, a hefyd yr angen i ddiogelu'r stoc o lety dros dro sydd ar gael ar hyn o bryd i'r awdurdodau lleol ledled Cymru.
Felly, heddiw, rwyf wedi gosod Rheoliadau drafft Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (Diwygio) 2023. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, bydd y rheoliadau hyn yn sicrhau na fydd defnyddio llety gwely a brecwast, sy'n cael ei sicrhau gan yr awdurdodau lleol drwy drefniadau gyda darparwyr trydydd parti, at ddibenion digartrefedd, yn arwain at gontract meddiannaeth o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
Rwyf hefyd yn cyhoeddi heddiw ein hymateb i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd am y cynnig hwn. Mae'r ymateb yn dangos bod cryn gefnogaeth i'r cynnig ac mae, ar yr un pryd, yn nodi natur heriol y sefyllfa, wrth i deuluoedd barhau i aros mewn mathau o lety dros dro heb y diogelwch deiliadaeth a geir gyda chontract meddiannaeth. Wrth benderfynu bwrw ymlaen â gwneud rheoliadau er mwyn esemptio llety gwely a brecwast sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion digartrefedd o gwmpas Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, y nod yw sicrhau bod y llety hwnnw'n parhau i fod ar gael er mwyn helpu i gwrdd â'r galw yn wyneb y prinder eithafol presennol o lety dros dro.
Mae'r rheoliadau a osodais heddiw yn cydnabod y bydd hyn yn cymryd amser ond , wrth inni fynd ati i ddatblygu ein diwygiadau deddfwriaethol ehangach er mwyn dod â digartrefedd i ben, rydym yn ymrwymo i adolygu a fydd yn rheoliadau hyn yn parhau'n briodol.
