Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r datganiad hwn yn crynhoi’r ystadegau sydd ar gael ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru. Y ffynhonnell ddiffiniol ar gyfer y wybodaeth hon yw’r datganiad ystadegol blynyddol cyntaf (SFR), Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg ac yn y farchnad lafur (a gyhoeddwyd ar 31 Hydref 2023 hefyd) sy’n defnyddio amrywiol ffynonellau data i amcangyfrif cyfranogiad ac sy’n darparu amcangyfrifon terfynol ar gyfer 2021 ac amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2022.

Yn ogystal, mae’r datganiad hwn yn darparu ystadegau manylach, ond llai cadarn yn ystadegol, o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth i ddefnyddwyr. Mae amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth wedi dod yn fwyfwy anwadal yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae gwahaniaethau cynyddol rhwng amcangyfrifon yr Arolwg ac amcangyfrifon y Datganiadau Ystadegol Cyntaf. 

Dylid nodi mai amcangyfrifon yw pob ffynhonnell. Mae ein canllaw ar ddeall y ffynonellau gwahanol o ystadegau ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru’n darparu rhagor o wybodaeth.

Mae amcangyfrifon ar gyfer 2020 ymlaen yn cynnwys gyfnod pandemig y Coronafeirws (COVID-19). Mae’n bosibl fod rhai o’r newidiadau a nodwyd yn deillio o amodau a achoswyd gan y pandemig. Er enghraifft dysgu a ohiriwyd neu a fethwyd, newidiadau i arholiadau ac asesiadau a newidiadau yn amgylchiadau’r farchnad lafur yn ystod cyfnod y pandemig.

Mae ansicrwydd ychwanegol ynghylch yr amcangyfrifon hyn, oherwydd problemau gyda rhai o'r ffynonellau data a ddefnyddiwyd. Darperir esboniad yn yr adran am wybodaeth ansawdd allweddol.

Prif bwyntiau

Ffigur 1: Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru, 2004 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell yn cymharu cyfraddau NEET ar sail yr SFR gyda sail yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed a phobl ifanc 19 i 24 oed. Mae’r ddau fesur yn dangos bod cyfraddau NEET wedi gostwng yn 2022 gyda’r SFR yn dangos cyfradd uwch, yn arbennig ar gyfer y rhai 16 i 18 oed.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r gyfres SFR a’r gyfres Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfraddau NEET.

Pobl ifanc 16 i 18 oed

  • Roedd gostyngiad bach graddol yng nghyfran y rhai 16 i 18 oed a oedd yn NEET rhwng 2011 a 2017. Yn ôl y Datganiad Ystadegol Cyntaf, mae'r gyfran hon wedi cynyddu. Yn ôl yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, mae'r gyfran hefyd yn uwch yn 2022 nag yr oedd yn 2017 ond mae wedi amrywio yn yr amser hwnnw. Mae gwahaniaethau cynyddol rhwng amcangyfrifon NEET y Datganiad Ystadegol Cyntaf a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Gweler yr wybodaeth ansawdd allweddol am ragor o fanylion.
  • Ar sail y SFR, mae'r ffigurau dros dro diweddaraf yn dangos y canlynol ar ddiwedd 2022 roedd 13.3% (14,400) o bobl ifanc 16 i 18 oed yn NEET o gymharu â 14.2% (14,900) ar ddiwedd 2021.
  • Mae data mwy amserol o'r gyfres yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn dangos bod cyfraddau NEET wedi cynyddu ers hynny. Ar sail yr APB, am y flwyddyn yn gorffen Mehefin 2023, amcangyfrifwyd bod 10.5% o bobl ifanc 16 i 18 oed yn NEET, o gymharu â 6.3% ar ddiwedd y flwyddyn a ddaeth i ben ym Mehefin 2022. Dylid nodi bod y ffigurau ar gyfer y flwyddyn sy'n dod i ben ym Mehefin 2022 a Mehefin 2023 yn seiliedig ar rhwng tua 25 a 40 o ymatebion ac mae'n cael ei gategoreiddio fel un o ansawdd cyfyngedig.

Pobl ifanc 19 i 24 oed

  • Ar sail y Datganiad Ystadegol Cyntaf (SFR), mae'r ffigurau dros dro diweddaraf yn dangos roedd 14.6% (34,500) o bobl ifanc 19 i 24 oed yn NEET ar ddiwedd 2022, gostyngiad o gymharu ag 17.3% (39,600) yn 2021.
  • Ar ddechrau dirwasgiad 2008 gwelodd cyfran y bobl ifanc 19 i 24 oed a oedd yn NEET gynnydd mawr o 17.4% yn 2008 i tua 22% - 23% o 2009 i 2012, gan ostwng ym mhob blwyddyn ddilynol hyd at 2017. Roedd y gostyngiad hwn yn deillio o gynnydd yng ngweithgarwch y farchnad lafur, gyda chyfranogiad mewn addysg a hyfforddiant yn aros yn gymharol sefydlog.
  • Ar sail yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, am y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023, amcangyfrifwyd bod 15.8% o bobl ifanc 19 i 24 oed yn NEET, o gymharu ag 15.1% ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2022.

Cyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn ôl nodwedd

Rhywedd

O’r gyfres SFR mae hefyd yn bosibl cynhyrchu rhaniad rhywedd o’r gyfran o bobl ifanc sy’n NEET. Gan fod hyn yn seiliedig ar y gyfres y Datganiad Ystadegol Cyntaf, mae'r adran hon yn cynnwys data hyd at ac yn cynnwys yr amcangyfrifon dros dro ar gyfer blwyddyn galendr 2022. Mae dadansoddiad dilynol yn yr adran hon (oedran, anabledd, ethnigrwydd a rhanbarth) yn seiliedig ar gyfres yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ac mae'n cwmpasu data hyd at ac yn cynnwys y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2023.

Pobl ifanc 16 i 18 oed

Mae Ffigur 2 yn dangos bod cyfran y bechgyn a merched 16 i 18 oed sy’n NEET wedi dilyn tueddiadau tebyg yn fras rhwng 2004 a 2015, gyda merched yn llai tebygol o fod yn NEET na bechgyn yn sgil lefelau uwch o gyfranogiad mewn addysg a hyfforddiant. Ers hynny mae'r bwlch wedi lleihau a hyd yn oed gwrthdroi, gyda’r anwadalrwydd cynyddol yn arwain at weld y gyfradd ar gyfer merched yn uwch na’r gyfradd ar gyfer bechgyn yn 2020 a 2022.

Yn 2022:

  • bod 11.2% (6,200) o fechgyn 16 i 18 oed yn NEET, o gymharu ag 15.4% (8,300) yn 2021.
  • bod 15.5% (8,100) o ferched 16 i 18 oed yn NEET, o gymharu ag 12.9% (6,600) yn 2021.
Ffigur 2: Pobl ifanc 16 i 18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru yn ôl rhywedd, 2004 i 2022
Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart linell yn dangos bod cyfrannau’r gwrywod a benywod 16-18 oed NEET wedi cydgyfarfod yn ddiweddar wrth i gyfradd y benywod gynyddu dros sawl blwyddyn yn olynol. Yn 2022 gwelodd y gwrywod ostyngiad yng nghyfradd y rhai NEET tra bod cynnydd yn y benywod.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r gyfres SFR ar gyfraddau NEET.

Pobl ifanc 19 i 24 oed

Roedd cyfran y merched 19 i 24 oed sy’n NEET yn gyson uwch na bechgyn dros y gyfres hon tan 2018, pan oedd cyfran ychydig yn fwy o fechgyn yn NEET na merched. Ers hynny, mae’r cyfraddau wedi bod yn gynyddol anwadal ar gyfer bechgyn a merched fel ei gilydd.

Mae’r ffigurau dros dro ar gyfer 2022 yn dangos:

  • roedd 17.6% (21,900) o fechgyn 19 i 24 oed yn NEET, cynnydd o 17.4% (20,700) yn 2021
  • roedd 11.2% (12,600) o ferched 19 i 24 oed yn NEET, gostyngiad o 17.1% (18,900) yn y 2021
Ffigur 3: Pobl ifanc 19 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru yn ôl rhywedd, 2004 i 2022
Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart linell yn dangos bod cyfrannau’r gwrywod a benywod 19 i 24 oed NEET wedi cydgyfarfod yn 2016 ac wedi parhau’n debyg hyd at 2022, pan welwyd cynnydd o ran y gwrywod a gostyngiad sylweddol o ran y benywod.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r gyfres SFR ar gyfraddau NEET.

Oedran

Gellir defnyddio’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth hefyd i ddarparu dadansoddiadau o gyfraddau NEET yn ôl nodweddion, nad ydynt ar gael drwy gyfres SFR. Gan fod y samplau’n fach, wrth edrych ar is-grwpiau bu’n rhaid defnyddio amcangyfrifon yn seiliedig ar gyfartaledd y tri chyfnod ac felly dylid eu defnyddio i gymharu grwpiau neu ranbarthau’n unig.

Ffigur 4: Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru, yn ôl oedran, yn y cyfnod o dair blynedd sy'n dod i ben ym Mawrth 2021 i'r flwyddyn sy’n dod i ben ym Mehefin 2023 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart bar chart yn dangos cyfran y bobl ifanc NEET yn y cyfnod o dair blynedd hyd at fis Mehefin 2023 ar gyfer pob blwyddyn oedran o 16 i 24 oed.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r gyfres Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfraddau NEET.

[NODYN 1] (!) Mae'r eitem ddata'n seiliedig ar rhwng tua 25 a 40 ymateb ac wedi'i dosbarthu fel ei bod o ansawdd isel.

  • Mae cyfran y bobl ifanc sy’n NEET yn gymharol sefydlog ar gyfer y rhai rhwng 17 a 20, ac yn cynyddu ar gyfer y rhai 21 i 24 oed.
  • Ar gyfer y cyfnod o dair blynedd yn dod i ben ym mis Mehefin 2023, roedd cyfradd y bobl ifanc NEET ar ei isaf ar gyfer y rhai 16 oed (4.7%) ac ar ei uchaf i’r rhai 23 oed (19.0%).

Anabledd

Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, sef y ffynhonnell ddata ar gyfer y datganiad hwn, yn cipio’r data gan ddefnyddio’r diffiniad meddygol o anabledd a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (“nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol neu hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol bob dydd”). Ceir rhagor o wybodaeth yn y diffiniad o anabledd.

Ffigur 5: Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru yn ôl anabledd, yn y cyfnod o dair blynedd sy'n dod i ben ym Mehefin 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart bar yn dangos cyfran y bobl anabl NEET yn y cyfnod o dair blynedd hyd at fis Mehefin 2023. Mae pobl anabl yn fwy tebygol o fod yn NEET na phobl nad ydynt yn anabl, gyda’r gyfran fwyaf o’r rhai NEET yn bobl ifanc 19 i 24 oed sy’n anabl (38.9%).

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r gyfres Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfraddau NEET.

  • Mae pob ifanc anabl yn llawer fwy tebygol o fod yn NEET na phobl ifanc nad ydynt yn anabl.
  • Mae’r gwahaniaeth hwn hyd yn oed yn fwy amlwg ar gyfer pobl ifanc 19 i 24 oed o gymharu â phobl ifanc 16 i 18 oed. Mae cyfran y bobl anabl sy’n NEET yn codi o 19.7% ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed i 38.9% ar gyfer pobl ifanc 19 i 24 oed.

Ethnigrwydd

Ffigur 6: Pobl ifanc 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru yn ôl ethnigrwydd, yn y cyfnod o dair blynedd sy'n dod i ben ym Mehefin 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart bar yn dangos bod pobl ifanc gwyn yn fwy tebygol o fod yn NEET na’r rhai o gefndir du, Asiaidd neu ethnig lleiafrifol.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth

  • Yn y cyfnod o dair blynedd a ddaeth i ben ym mis Mehefin  2023 roedd pobl ifanc Gwyn yn fwy tebygol o fod yn NEET na phobl ifanc du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol.
  • Amcangyfrifwyd bod 13.8% o bobl ifanc Gwyn yn NEET o'i gymharu â 7.5% o bobl ifanc du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol.

Crefydd

Ffigur 7: Pobl ifanc 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru yn ôl rhanbarth, yn y cyfnod o dair blynedd sy'n dod i ben ym Mehefin 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart bar yn dangos bod gwahaniaethau bach yn y cyfraddau NEET rhwng rhanbarthau Cymru, gyda’r gyfradd uchaf yn y Canolbarth a’r De-orllewin, a’r isaf yn y De-ddwyrain.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth

  • Yn y cyfnod o dair blynedd yn dod i ben ym mis Mehefin 2023 roedd gwahaniaethau bach yn y cyfraddau NEET rhwng rhanbarthau Cymru. Roedd cyfran y bobl ifanc (16 i 24 oed) NEET yn amrywio o 12.5% yn y De-ddwyrain i 14.9% yn y Canol barth a’r De-orllewin.

Dangosydd cenedlaethol a charreg filltir genedlaethol

Yn y datganiad hwn, mae dangosydd 22: Canran o bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, a fesurir ar gyfer gwahanol grwpiau oedran yn cyfateb i garreg filltir genedlaethol.

Mae carreg filltir genedlaethol yn gysylltiedig â'r dangosydd 'Bydd o leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed oedd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050’. Er bod y datganiad hwn yn ystyried data ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed a phobl ifanc 19 i 24 oed ar wahân, mae'r garreg filltir genedlaethol yn seiliedig ar yr ystod oedran 16 i 24 llawn. Mae dangosydd cenellaethol a charreg filltir genedlaethol yn ystyried pobl ifanc mewn mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant hefyd (yn hytrach na rhai nad ydynt (NEET)).

Mae amcangyfrifon dros dro yn dangos bod 85.8% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn 2022, i lawr o 83.7% yn 2021.

Diffiniadau

Addysg a hyfforddiant

Ar gyfer amcangyfrifon SFR: mae’n seiliedig ar y rhai sydd wedi ymrestru ar gwrs mewn ysgol, coleg Addysg Bellach, sefydliad Addysg Uwch (yn cynnwys y Brifysgol Agored) neu gyda darparwr seiliedig ar waith yng Nghymru. Yn ogystal, amcangyfrifir nifer y rhai sydd mewn cyflogaeth sy’n dilyn hyfforddiant oddi ar y swydd hefyd.

Ar gyfer yr amcangyfrifon sy’n seiliedig ar yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth: ymatebwyr i’r Arolwg sydd naill ai:

  • yn gwneud prentisiaeth ar hyn o bryd
  • sydd ar gynllun cyflogaeth neu hyfforddiant llywodraeth ar hyn o bryd
  • sy’n gweithio neu’n astudio tuag at unrhyw gymwysterau
  • sydd wedi cwblhau unrhyw addysg neu hyfforddiant cysylltiedig â swydd yn y 4 wythnos ddiwethaf
  • sydd wedi ymrestru ar unrhyw gwrs addysg llawn amser neu ran-amser ar hyn o bryd ac eithrio dosbarthiadau hamdden ac yn dal i’w mynychu neu’n aros i’r tymor (ail)ddechrau

Cyflogaeth

Defnyddir yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth i amcangyfrif y gyfran mewn cyflogaeth ar gyfer amcangyfrifon sy’n seiliedig ar yr SFR a’r Arolwg. Yn ogystal, defnyddir statws cyflogaeth o ddata ymrestru ôl-16 yn y gyfres SFR.

O’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, bydd ymatebwyr mewn cyflogaeth os ydynt naill ai:

  • yn gyflogedig
  • yn hunangyflogedig
  • ar raglenni cyflogaeth neu hyfforddiant llywodraeth
  • yn weithiwr teulu di-dâl.

Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru’n derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy’n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu i analluogi pobl sydd â namau neu gyflyrau iechyd neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.

Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, sef y ffynhonnell ddata ar gyfer y datganiad hwn, yn cipio’r data gan ddefnyddio’r diffiniad meddygol o anabledd a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (“nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol neu hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol bob dydd”). Ni ellir cymharu ffigurau’r datganiad hwn â rhai mewn datganiadau cyn 2015, a oedd yn adrodd ar y rhai a oedd yn nodi anabledd cyfredol o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd neu anabledd sy’n cyfyngu ar waith.

Gwybodaeth allweddol o ansawdd

Mae’r datganiad hwn yn crynhoi’r ystadegau sydd ar gael ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru. Caiff ei ddiweddaru bob blwyddyn gyda’r amcangyfrifon diweddaraf o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth a phrif gyfres SFR. I ategu’r allbwn blynyddol hwn, cyhoeddir pennawd a thablau bob chwarter wrth i ddata Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth newydd ddod ar gael. Mae cyhoeddi'r datganiad hwn yn cyd-fynd ag argaeledd amcangyfrifon newydd o gyfres y Datganiad Ystadegol Cyntaf ar gyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a datganiad ystadegol y farchnad lafur. Mae'r datganiad hwn fel arfer yn cwmpasu data’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth hyd at ac yn cynnwys mis Mawrth y flwyddyn ganlynol y mae amcangyfrifon Datganiad Ystadegol Cyntaf ar gael ar ei chyfer. Mae'r bwletin eleni yn cynnwys data hyd at ac yn cynnwys y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023, yn sgil oedi cyn cyhoeddi amcangyfrifon yr SFR.

Rhagor o wybodaeth am gyfresi’r Datganiad Ystadegol Cyntaf a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, ac amcangyfrifon NEET o arolwg cyrchfannau disgyblion Gyrfa Cymru, wedi’u darparu yn ein canllaw i ddeall y gwahanol ffynonellau o ystadegau ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru

Bydd y data’n cael ei ddefnyddio i gefnogi’r Dangosydd Cenedlaethol sy’n gysylltiedig â’r ‘Canran o bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant’ a gyflwynwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau yn Llywodraeth Cymru i fonitro tueddiadau yn lefel a chyfran pobl ifanc sy’n NEET.

Cyhoeddwyd y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid yn wreiddiol yn 2013 ac fe'i adnewyddwyd ym mis Medi 2022.

Mae’r Fframwaith yn fecanwaith systematig i adnabod ac ymateb i bobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn NEET, sydd yn NEET a/neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Mae'n canolbwyntio ar bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed ac yn cynnwys 6 cydran craidd:

  • Adnabod unigolion yn gynnar
  • Broceru
  • Monitro cynnydd
  • Darpariaeth
  • Cyflogadwyedd a chyfleoedd cyflogaeth
  • Atebolrwydd

Mae'r ystadegau hyn yn berthnasol i Cymru Gryfach, Tecach, Gwyrddach: Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau. Mae'r atodiad technegol ar gyfer y strategaeth yn cyfeirio at y dangosydd cenedlaethol yn seiliedig ar ddata o'r datganiad hwn (gweler hefyd yr adran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol isod). Mae'r ystadegau hyn hefyd yn rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y Warant i Bobl Ifanc.

Cywirdeb

Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn arolwg o gartrefi a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’r arolwg yn casglu gwybodaeth am amgylchiadau personol ymatebwyr, yn cynnwys eu statws marchnad lafur a’u gweithgarwch addysg a hyfforddiant. Mae’r Arolwg yn cyfuno samplau wedi’u hybu yr Arolwg Llafurlu ac yn darparu data pedwar chwarter treiglol.

Gan fod y data yn dod o arolwg, mae’r canlyniadau’n amcangyfrifon seiliedig ar samplau ac felly yn gallu amrywio i wahanol raddau, h.y. mae gwir werth unrhyw fesur i’w weld yn ystod amrywiol y gwerth amcangyfrifiedig. Cyfrifwyd cyfyngau hyder o tua 95% ar gyfer amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth o gyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed a 19 i 24 oed sy’n NEET yng Nghymru ac maent wedi'u cynnwys yn y tablau gwe a gyhoeddir ochr yn ochr â'r datganiad hwn. Mae'r siart isod yn dangos prif gyfres amser NEET yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 a 19 i 24 oed gyda chyfyngau hyder o 95% wedi’u cynnwys.

Ffigur 8: Amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfer pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru, gyda chyfyngau hyder o 95%, 2004 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart linell yn dangos amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth o bobl ifanc NEET yng Nghymru gyda chyfwng hyder o 95% wedi’u lliwio.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth

Cyfrifwyd y rhain gan ragdybio hapsampl pwysedig syml ac nid ydynt yn ystyried cynllun y sampl ac felly awgrym o’r cyfwng hyder a ddarperir ganddynt yn unig. Hefyd, mae’r dull addasu ar gyfer dosrannu gwerthoedd coll yn creu maint sampl cyfanredol artiffisial a ddefnyddir i gyfrif cyfyngau hyder. Mae amrywioldeb y samplau’n cynyddu wrth i’r manylion yn y data gynyddu ac felly mae amcangyfrifon ar gyfer is-grwpiau a rhanbarthau ar gyfer grwpiau oedran 16 i 18 oed ac 19 i 24 oed sydd o ddiddordeb yn y bwletin hwn yn seiliedig ar gyfartaleddau tri chyfnod.

Rhagor o wybodaeth am ansawdd yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (SYG)  

Mae Ffigur 1 yn dangos, o 2005 i 2013, y lefelau a’r tueddiadau tebyg ymhlith pobl ifanc sy’n NEET a welir rhwng cyfresi’r Datganiadau Ystadegol Cyntaf a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn gyffredinol. O 2014 gwelwyd rhai gwahaniaethau yn yr amcangyfrifon ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed sydd wedi ehangu ymhellach yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r rheswm am hyn yn aneglur ond mae swyddogion yn archwilio'r mater gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Adran Addysg (sy'n cynhyrchu’r amcangyfrifon cyfranogiad a NEET cyfatebol ar gyfer Lloegr). Bydd diweddariadau ac esboniadau pellach yn cael eu cynnwys mewn fersiynau o'r datganiad hwn yn y dyfodol.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi ailgalibradu pwysoliad setiau data’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfer cyfnodau sy'n cwmpasu'r flwyddyn sy'n dod i ben yn chwarter 1 2020 i'r flwyddyn sy'n dod i ben yn chwarter 4 2022. Ceir rhagor o wybodaeth am yr ailbwysoliad hwn a'i effaith mewn erthygl a gyhoeddwyd gan yr SYG ar Effaith ailbwysoli ar yr Arolwg o’r Llafurlu (SYG).

Polisi diwygiadau

Bydd ffigurau dros dro 2022 yn cael eu datgan yn derfynol yng nghyhoeddiad y flwyddyn nesaf, y bwriedir ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2024. Dylid ond cyflwyno diwygiadau yn unol â diwygiadau i ddata ffynhonnell.

Data ar y boblogaeth

Caiff amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth hyd at ac yn cynnwys 2021 (yn seiliedig ar Gyfrifiad 2021 ar gyfer amcangyfrifon 2021, a chyfrifiad 2011 ar gyfer blynyddoedd cynharach), ynghyd â rhagamcanion o’r boblogaeth sy'n seiliedig ar 2020, eu defnyddio i gyfrif yr amcangyfrifon cyfranogiad hyn. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth wedi'u hailsylfaenu a'r rhagamcanion wedi'u diweddaru ym mis Tachwedd 2023. O ganlyniad, rydym yn bwriadu adolygu amcangyfrifon cyfranogiad a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y datganiad y flwyddyn nesaf.

Gallai hyn effeithio hefyd ar ddata o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae’r gyfres SFR diweddaraf ar gyfraddau NEET yn darparu data newydd ar gyfer 2021 a data dros dro ar gyfer 2022. Mae’r amcangyfrifon dros dro’n defnyddio’r data gorau ar gyfer 2022 sydd ar gael ar bob agwedd ar gyfranogiad; mae hyn yn cynnwys rhywfaint o ddata terfynol, rhywfaint o ddata dros dro a rhywfaint o fodelu.

Cyfres SFR

Bydd ffigurau dros dro 2022 yn cael eu datgan yn derfynol yn y cyhoeddiad SFR nesaf, sydd i’w gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2024. Roedd y diwygiadau rhwng amcangyfrifon dros dro a therfynol 2021 yn fwy na’r rhai a welir gan amlaf pan fo amcangyfrifon dros dro’n cael eu diweddaru â’r data terfynol. Mae hyn yn rhannol oherwydd diwygiadau i lawr yn nifer y bobl ifanc mewn addysg amser llawn a rhan-amser rhwng data dros dro y llynedd a'r data terfynol sydd ar gael ar gyfer y datganiad hwn.

Cyfres yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth

Mae’r amcangyfrifon hyn o bobl ifanc sy’n NEET yn cael eu diwygio pan mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn rhyddhau setiau data Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth diwygiedig.

Hygyrchedd ac eglurder

Nid yw’n bosibl dadgyfuno amcangyfrif NEET SFR i lefel awdurdodau lleol oherwydd y ffordd mae’r data wedi’i roi at ei gilydd gan ddefnyddio data ymrestru a chan fod y statws cyflogaeth yn cael ei amcangyfrif drwy ddefnyddio’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Yn achos pobl ifanc 16 i 18 oed mae nifer yr ymatebwyr i’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn gymharol fach ym mhob awdurdod.

Defnyddiwyd yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth i amcangyfrif cyfran y bobl ifanc sy’n NEET yn ôl rhanbarth. Fodd bynnag, gan fod maint y samplau tua 25 i 70 (yn seiliedig ar y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2023) ym mhob ardal ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed mae’r amcangyfrifon wedi’u cyfartaleddu dros y tair blynedd dreiglol ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed. Y rhanbarthau sy’n cael eu defnyddio yw:

Y Gogledd

  • Ynys Môn
  • Gwynedd
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Wrecsam

Y Canolbarth a’r De-orllewin

  • Powys
  • Ceredigion
  • Sir Benfro
  • Sir Gaerfyrddin
  • Abertawe
  • Castell-nedd Port Talbot

Y De-ddwyrain

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Bro Morgannwg
  • Rhondda Cynon Taf
  • Merthyr Tudful
  • Caerffili
  • Blaenau Gwent
  • Torfaen
  • Sir Fynwy
  • Casnewydd
  • Caerdydd

Agweddau cymharydd a chydlyniant

Mae’r dull a ddefnyddir i ddiffinio pobl ifanc sy’n NEET gan ddefnyddio’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn cael ei gysoni â methodoleg y cytunwyd arno yn y DU o gyfrif amcangyfrifon NEET. Mae rhagor o wybodaeth yn y papur a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae’r Adran Addysg yn cyhoeddi amcangyfrifon o gyfraddau NEET pobl ifanc 16 i 18 oed ar gyfer Lloegr gan ddefnyddio methodoleg debyg i’r SFR bob blwyddyn. Darparodd y Datganiad Ystadegol 'Statistics: NEET and participation' (Adran Addysg)' diweddaraf ffigurau dros dro ar gyfer 2022. Mae Ffigur 9 yn cymharu amcangyfrifon Cymru a Lloegr. Nid yw Lloegr yn darparu mesur cyfwerth ar gyfer pobl ifanc 19 i 24 oed:

Ffigur 9: Pobl ifanc 16 i 18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, Cymru a Lloegr, 2004 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart linell yn dangos bwlch cynyddol rhwng cyfraddau pobl ifanc 16 i 18 oed NEET yng Nghymru a Lloegr.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r SFR

Rhwng 2005 a 2012 dilynodd cyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed a oedd yn NEET yng Nghymru a Lloegr dueddiadau tebyg yn fras, ond bod gan Gymru gyfran fwy o bobl ifanc 16 i 18 oed sy’n NEET na Lloegr. Ers 2012 mae’r bwlch rhwng Cymru a Lloegr wedi cynyddu .

Yn ôl y ffigyrau dros dro ar gyfer 2022, roedd 13.3% o bobl ifanc 16 i 18 oed yng Nghymru yn NEET o'i gymharu â 8.4% yn Lloegr. Wrth fynd ati i ddehongli tueddiadau, dylid nodi y gwnaed newidiadau deddfwriaethol yn 2013/14 gan Lywodraeth y DU a gynyddodd yr oedran y mae’n ofynnol i holl bobl ifanc Lloegr barhau mewn addysg neu hyfforddiant nes ei gyrraedd.

Ar gyfer y ddwy gyfres, mae angen dehongli newidiadau mewn tuedd yn ofalus, gan y gellid priodoli newidiadau i effeithiau samplu yn ogystal ag effeithiau go iawn.

Nid yw’r Alban a Gogledd Iwerddon yn cyhoeddi amcangyfrifon NEET ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed ac 19 i 24 oed y gellir eu cymharu’n uniongyrchol.

Arolwg Llafurlu a Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth

Mae’r Adran Addysg hefyd yn cyhoeddi briff blynyddol ar bobl ifanc sy’n NEET sy’n cynnwys cyfraddau NEET yn seiliedig ar yr Arolwg Llafurlu chwarterol. Yn ogystal, o fis Mai 2013 mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cynhyrchu amcangyfrifon y DU o bobl ifanc sy’n NEET (SYG), sydd hefyd yn seiliedig ar yr Arolwg Llafurlu chwarterol.

Ni ellir cymharu’r amcangyfrifon chwarterol yn uniongyrchol ag amcangyfrifon Arolwg Blynyddol o Boblogaeth Cymru a gyhoeddwyd yn y datganiad hwn. Nid oes cymhariaeth uniongyrchol rhwng Cymru a Lloegr na mesur Arolwg Llafurlu y DU yn cael ei ddarparu gan nad yw maint y sampl ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed ac 19 i 24 oed yn ddigon mawr. Fodd bynnag, trwy ddefnyddio methodoleg debyg i’r hyn a ddefnyddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ond gan ddefnyddio’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn lle’r Arolwg Llafurlu, gallwn ddarparu amcangyfrifon o bobl ifanc sy’n NEET ledled y DU.

Bydd yr amcangyfrifon hyn yn wahanol i’r amcangyfrifon swyddogol a gynhyrchir gan yr Adran Addysg a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ac adrannau perthnasol eraill a dylid eu dehongli’n ofalus felly. Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol erthygl yn egluro’r gwahaniaeth rhwng ystadegau NEET ledled y DU (The National Archives), ochr yn ochr â’u cyhoeddiad cyntaf o amcangyfrifon o bobl ifanc sy’n NEET yn y DU:

Mae Tabl 1 yn dangos amcangyfrifon o gyfran y bobl ifanc sy’n NEET ar gyfer pob un o wledydd y DU ar gyfer y blynyddoedd a ddaeth i ben ym Mehefin 2022 a Mehefin 2023.

Ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed, bu cynnydd yng nghyfran y boblogaeth a amcangyfrifwyd yn NEET ar draws y DU yn ei chrynswth.

Tabl 1: Amcangyfrifon o gyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), yn ôl oedran a gwlad y DU, blwyddyn sy'n dod i ben ym Mehefin 2022 a blwyddyn sy’n dod i ben ym Mehefin 2023
Gwlad Pobl ifanc 16 i 18 oed: blwyddyn sy’n dod i ben ym Mehefin 2022 Pobl ifanc 16 i 18 oed: blwyddyn sy’n dod i ben ym Mehefin 2023 Pobl ifanc 19 i 24 oed: blwyddyn sy’n dod i ben ym Mehefin 2022 Pobl ifanc 19 i 24 oed: blwyddyn sy’n dod i ben ym Mehefin 2023
Cymru 6.3% (a) 10.5% (a) 15.1% 15.8%
Lloegr 6.0% 8.1% 13.8% 14.7%
Yr Alban 7.5% (a) 9.3% (a) 12.1% 12.5%
Gogledd Iwerddon 5.6% (b) 4.5% (b) 13.0% 10.1%
Y DU 6.1% 8.2% 13.7% 14.4%

Disgrifiad o Dabl 1: Tabl yn dangos amcangyfrifon y gyfran o bobl ifanc NEET yn ôl oedran a gwlad yn y DU yn y flwyddyn yn dod i ben mis Mehefin 2022 a’r flwyddyn yn dod i ben mis Mehefin 2023.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth

[NODYN a] Mae'r eitem ddata yn seiliedig ar rhwng 25 a 40 o ymatebion, ac yn cael ei chategoreiddio fel un o ansawdd cyfyngedig.

[NODYN b] Mae'r eitem ddata'n seiliedig ar rhwng tua 10 a 25 ymateb ac wedi'i dosbarthu fel ei bod o ansawdd cyfyngedig.

Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023 fe wnaeth cyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed yr amcangyfrifwyd eu bod yn NEET ostwng yng Ngogledd Iwerddon a chynyddu yng Nghymru, Lloegr a’r Alban o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Fe wnaeth y bwlch rhwng y DU a Chymru gynyddu o 0.2 pwynt canran yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2022 i 2.3 pwynt canran yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2023.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 ac sy’n arwydd eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn bodloni’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus uchaf. Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Maent yn derbyn statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n bodloni’r safonau uchaf o ran cydymffurfiaeth â’r Cod, yn cynnwys y gwerth maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau cyhoeddus a thrafodaeth. Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Gorffennaf 2012 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • Wedi cynnwys nifer o ddelweddau gweledol yn dangos tueddiadau hirdymor yn ogystal â sylwadau ar y tueddiadau hyn
  • Cael gwared ar dablau diangen o’r datganiad gan eu bod ar gael ar StatsCymru
  • Y sylwadau’n fwy ystyrlon wrth gymharu’r ddwy gyfres wahanol

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cynnal cydymffurfiaeth â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu a yw’r ystadegau hyn yn dal i fodloni’r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon gyda’r Awdurdod yn ddi-oed. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a’u hailgyflwyno pan fydd safonau’n cael eu hadfer.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae’r rhain er mwyn sicrhau Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) cyflwyno copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016 ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys un o’r dangosyddion cenedlaethol sef:

  • (22) Canran o bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, a fesurir ar gyfer gwahanol grwpiau oedran.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, a’r naratifau ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf mae’n rhaid cyfeirio atynt mewn dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.

Mae’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid gosod cerrig milltir cenedlaethol a fyddai “...ym marn Gweinidogion Cymru, yn helpu i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyflawni’r nodau llesiant.” Wrth wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bennu sut y gwyddom fod carreg filltir genedlaethol wedi'i chyflawni ac erbyn pryd y mae i'w chyflawni.

Nid yw cerrig milltir cenedlaethol yn dargedau perfformiad ar gyfer unrhyw sefydliad unigol, ond maent yn fesurau llwyddiant ar y cyd i Gymru.

Yn y datganiad hwn, mae dangosydd 22 ‘Canran y bobl sydd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, wedi’i mesur ar gyfer gwahanol grwpiau oedran’, yn cyfateb i garreg filltir genedlaethol:

  • Bydd o leiaf 90% o’r rhai 16-24 oed oedd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050

Rhagor o wybodaeth am 'Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015'

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Rydym am gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. E-bostiwch yr adborth i ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Joe Davies
E-bost: ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB 37/2023

Image
Ystadegau Gwladol