Neidio i'r prif gynnwy

Data ar gyfer pobl ifanc yn ôl oedran, rhyw, rhanbarth ac anabledd ar gyfer Gorffennaf 2022 i Fehefin 2023.

Mae’r datganiad hwn yn crynhoi’r ystadegau sydd ar gael ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru. Y ffynhonnell ddiffiniol ar gyfer y wybodaeth hon yw’r datganiad ystadegol blynyddol cyntaf (SFR), Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg ac yn y farchnad lafur (a gyhoeddwyd ar 31 Hydref 2023 hefyd) sy’n defnyddio amrywiol ffynonellau data i amcangyfrif cyfranogiad ac sy’n darparu amcangyfrifon terfynol ar gyfer 2021 ac amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2022.

Yn ogystal, mae’r datganiad hwn yn darparu ystadegau manylach, ond llai cadarn yn ystadegol, o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth i ddefnyddwyr. Mae amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth wedi dod yn fwyfwy anwadal yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae gwahaniaethau cynyddol rhwng amcangyfrifon yr Arolwg ac amcangyfrifon y Datganiadau Ystadegol Cyntaf.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET): Gorffennaf 2022 i Fehefin 2023 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 20 KB

ODS
20 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Joe Davies

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.