Neidio i'r prif gynnwy

Rhaid i bob ceidwad defaid a geifr lenwi’r stocrestr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

1 Rhagfyr 2025 fydd dyddiad y stocrestr flynyddol nesaf o ddefaid a geifr. 

O dan Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2015 rhaid i bob ceidwad lenwi stocrestr, yn nodi nifer ei holl ddefaid a/neu geifr ar ei ddaliad(au). 

I gwblhau'r stocrestr, cofnodwch nifer y defaid a/neu geifr yr ydych yn berchen arnyn nhw ar 1 Rhagfyr a'r CPH lle maen nhw ar y dyddiad hwnnw. Dylai hyn gynnwys tir comin ac unrhyw CPH dros dro.

Rhaid i chi hefyd gofnodi nifer y defaid a geifr ar eich daliad yn 'Llyfr y Ddiadell' ar eich fferm.

Sut i lenwi'r stocrestr

  • ceidwaid sydd â chyfrif EIDCymru cofrestredig: bydd y stocrestr ar gael ar eich cyfrif yn www.eidcymru.org ar 1 Rhagfyr 2025
  • mae ceidwaid sydd heb gyfrif EIDCymru yn gallu llenwi'r stocrestr ar borth ar-lein EIDCymru. Mae manylion sut i fynd i'r porth yn cael eu hanfon at y ceidwaid sydd heb gyfrif EIDCymru

Ond mae croeso ichi gofrestru ar gyfer cyfrif EIDCymru os dyna'r ffordd fyddai’n well gennych i lenwi'ch stocrestr. Cysylltwch â staff EIDCymru ar 01970 636959 neu e-bostiwch contact@eidcymru.org a fydd ar gael i'ch tywys drwy'r broses.

Rydym yn eich annog i lenwi'ch stocrestr cyn gynted ag y medrwch ar ôl 1 Rhagfyr, ac i fanteisio ar yr help sydd ar gael.

Cymorth ac arweiniad ychwanegol 

Rydym hefyd wedi trefnu'r sesiynau galw heibio hyn mewn marchnadoedd da byw lle bydd staff o'r Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm a Cyswllt Ffermio yn gallu'ch helpu i lenwi'r stocrestr. 

Drop in sessions

1 Rhagfyr 2025

Marchnad Da Byw y Trallwng: rhwng 10am a 2pm

2 Rhagfyr 2025

Marchnad Da Byw Rhuthun: rhwng 10am a 2pm
Marchnad Da Byw Aberhonddu: rhwng 10am a 2pm

3 Rhagfyr 2025

Marchnad Da Byw Rhaglan: rhwng 10am a 2pm

4 Rhagfyr 2025

Marchnad Da Byw Llanelwy: rhwng 10am a 2pm

5 Rhagfyr 2025

Marchnad Da Byw Caerfyrddin: rhwng 10am a 2pm
Marchnad Da Byw Dolgellau: rhwng 10am a 2pm

8 Rhagfyr 2025

Marchnad Da Byw y Trallwng: rhwng 10am a 2pm

9 Rhagfyr 2025

Marchnad Da Byw Aberhonddu: rhwng 10am a 2pm

10 Rhagfyr 2025

Marchnad Da Byw Rhaglan: rhwng 10am a 2pm

12 Rhagfyr 2025

Marchnad Da Byw Caerfyrddin: rhwng 10am a 2pm
Marchnad Da Byw Dolgellau: rhwng 10am a 2pm