Nifer y staff yn y sector addysg uwch ar gyfer Awst 2022 i Orffennaf 2023.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Staff mewn sefydliadau addysg uwch
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Yn gyffredinol, gwelwyd cynnydd o 5% yn nifer y staff ym mhrifysgolion Cymru o 20,740 yn 2021/22 i 21,815 yn 2022/23.
- Roedd nifer y staff yn uwch yn 2022/23 nag yr oeddent yn 2021/22 ar gyfer pob sefydliad (ac eithrio Prifysgol Cymru, swyddogaethau canolog).
- Y sefydliadau a’r cynnydd canrannol uchaf yn niferoedd y staff oedd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (13% yn uwch na 2021/22), Prifysgol Metropolitan Caerdydd (11% yn uwch na 2021/22) a Phrifysgol De Cymru (8% yn uwch na 2021/22).
- Prifysgol Caerdydd oedd yn cyflogi’r nifer mwyaf o staff (7,075), a’r cyflogwr mwyaf nesaf oedd Prifysgol Abertawe (3,860).
- Prifysgol Wrecsam oedd y brifysgol leiaf o ran nifer y staff. Roedd yn cyflogi 535 yn 2022/23.
- Roedd ychydig llai na hanner yr holl staff (49%) ar gontractau academaidd.
- Roedd 64% o gontractau academaidd yn rhai amser llawn ac roedd 73% o gontractau nad ydynt yn rhai academaidd yn rhai amser llawn.
- O’r rheini nad oedd ar gontractau academaidd, roedd 4,895 (44%) mewn galwedigaethau proffesiynol neu dechnegol, 3,275 (34%) mewn galwedigaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol, 1,015 (9%) yn rheolwyr, yn gyfarwyddwyr neu’n uwch-swyddogion, ac roedd 680 (6%) mewn ‘galwedigaethau elfennol’.
- Lle’r oedd rhyw’r aelodau staff yn hysbys, menywod oedd yn llenwi 55% o’r swyddi staff. Fodd bynnag, 48% ohonynt oedd â chontractau academaidd. Roedd dau o bob tri o’r aelodau staff rhan-amser yn fenywod (66%).
- Dywedodd 12% o staff academaidd eu bod yn gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a 45% o’r rheini oedd yn gwneud hynny mewn gwirionedd.
Mae niferoedd y staff yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio’r mesur person cyfwerth â pherson llawn ar 1 Rhagfyr yn y flwyddyn adrodd. Nid yw staff sydd ar gontractau annodweddiadol wedi’u cynnwys.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Gwefan Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch
Cyswllt
Sedeek Ameer
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.