Neidio i'r prif gynnwy

Nifer y staff yn y sector addysg uwch ar gyfer Awst 2022 i Orffennaf 2023.

Prif bwyntiau

  • Yn gyffredinol, gwelwyd cynnydd o 5% yn nifer y staff ym mhrifysgolion Cymru o 20,740 yn 2021/22 i 21,815 yn 2022/23.
  • Roedd nifer y staff yn uwch yn 2022/23 nag yr oeddent yn 2021/22 ar gyfer pob sefydliad (ac eithrio Prifysgol Cymru, swyddogaethau canolog).
  • Y sefydliadau a’r cynnydd canrannol uchaf yn niferoedd y staff oedd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (13% yn uwch na 2021/22), Prifysgol Metropolitan Caerdydd (11% yn uwch na 2021/22) a Phrifysgol De Cymru (8% yn uwch na 2021/22). 
  • Prifysgol Caerdydd oedd yn cyflogi’r nifer mwyaf o staff (7,075), a’r cyflogwr mwyaf nesaf oedd Prifysgol Abertawe (3,860).
  • Prifysgol Wrecsam oedd y brifysgol leiaf o ran nifer y staff. Roedd yn cyflogi 535 yn 2022/23.
  • Roedd ychydig llai na hanner yr holl staff (49%) ar gontractau academaidd.
  • Roedd 64% o gontractau academaidd yn rhai amser llawn ac roedd 73% o gontractau nad ydynt yn rhai academaidd yn rhai amser llawn.
  • O’r rheini nad oedd ar gontractau academaidd, roedd 4,895 (44%) mewn galwedigaethau proffesiynol neu dechnegol, 3,275 (34%) mewn galwedigaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol, 1,015 (9%) yn rheolwyr, yn gyfarwyddwyr neu’n uwch-swyddogion, ac roedd 680 (6%) mewn ‘galwedigaethau elfennol’.
  • Lle’r oedd rhyw’r aelodau staff yn hysbys, menywod oedd yn llenwi 55% o’r swyddi staff. Fodd bynnag, 48% ohonynt oedd â chontractau academaidd. Roedd dau o bob tri o’r aelodau staff rhan-amser yn fenywod (66%).
  • Dywedodd 12% o staff academaidd eu bod yn gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a 45% o’r rheini oedd yn gwneud hynny mewn gwirionedd.

Mae niferoedd y staff yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio’r mesur person cyfwerth â pherson llawn ar 1 Rhagfyr yn y flwyddyn adrodd. Nid yw staff sydd ar gontractau annodweddiadol wedi’u cynnwys.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Sedeek Ameer

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.