Neidio i'r prif gynnwy

Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol: interim seiliedig ar 2021

Ar 30 Ionawr, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol interim seiliedig ar 2021. Mae'r amcanestyniadau yn seiliedig ar yr amcangyfrifon dros dro diweddaraf o fudo rhyngwladol. Datblygwyd rhagdybiaethau newydd yn dilyn y cyngor arbenigol diweddaraf a'r amcangyfrifon dros dro diweddaraf o fudo rhyngwladol. 

Rydym hefyd wedi cyhoeddi ein pennawd amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol ein hunain ar gyfer Cymru.

Prif bwyntiau

  • Rhwng canol 2021 a chanol 2031, amcanestynnir y bydd poblogaeth Cymru yn cynyddu 5.8% o 3.11 miliwn i 3.29 miliwn. 
  • Mae'r twf a amcanestynnir yn y boblogaeth rhwng canol 2021 a chanol 2031 yn cael ei yrru gan fudo, gyda chyfanswm mudo net o 250,000 rhwng canol 2021 a chanol 2031.
  • Mae'r cynnydd yn yr amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer Cymru rhwng 2021 a 2031 yn is nag ar gyfer Lloegr. Y cynnydd yn amcanestyniadau Lloegr yw'r un mwyaf o holl wledydd y DU, sef 7.9%. 
  • Fodd bynnag, mae'r cynnydd yn yr amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer Cymru rhwng 2021 a 2031 yn uwch nag ar gyfer Gogledd Iwerddon, sef cynnydd o 3.6%.

Nid oes amcanestyniadau seiliedig ar 2021 wedi'u cyhoeddi ar gyfer yr Alban oherwydd nid yw'r broses o gysoni ac ailseilio ystadegau poblogaeth, gan gynnwys ystadegau mudo rhyngwladol ar gyfer 2012 i 2022 sy'n cynnwys mewnwelediadau o Gyfrifiad yr Alban yn 2022, wedi'u cwblhau eto. 

Mae tablau StatsCymru ar amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol seiliedig ar 2021 wedi cael eu cyhoeddi.

Mae SYG yn bwriadu cyhoeddi amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol seiliedig ar 2022 wedi'u diweddaru'n llawn rhwng mis Hydref a mis Tachwedd 2024. Bydd y rhain yn seiliedig ar 2022 ac yn cynnwys data o Gyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a data o Gyfrifiad 2022 ar gyfer yr Alban.

Rydym yn bwriadu cyhoeddi ein cyfres nesaf o amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd is-genedlaethol unwaith y bydd SYG wedi cyhoeddi'r amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol seiliedig ar 2022. Ar hyn o bryd, y bwriad yw cyhoeddi'r rhain yn ystod hanner cyntaf 2025. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso ichi gysylltu â ni ar ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru.

Amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol

Ar 18 Rhagfyr 2023, cyhoeddodd SYG amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr. Roedd hyn yn cynnwys amcangyfrifon wedi'u diweddaru ar gyfer canol 2021 a chanol 2022, ac amcangyfrifon dros dro ar gyfer canol 2023. O fewn yr erthygl, ceir adran sy'n cymharu'r amcangyfrifon hyn â'r amcangyfrifon canol blwyddyn swyddogol, sy'n dangos y gwahaniaethau yn y boblogaeth wrth ddefnyddio gwahanol ddulliau.

Noder, nid yw'r amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol yn disodli'r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn swyddogol na'r ystadegau mudo rhyngwladol a gyhoeddwyd ar 23 Tachwedd 2023, ac ni ddylid eu defnyddio ar gyfer gwneud penderfyniadau na llunio polisïau.

Mae'r ystadegau swyddogol hyn sy'n cael eu datblygu yn rhan o raglen trawsnewid ystadegau poblogaeth a mudo SYG. Mae'r gwaith hwn yn parhau a bydd yn cael ei lywio gan yr adborth a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad diweddar ynghylch dyfodol ystadegau poblogaeth a mudo.

Diweddariad ar yr ymgynghoriad ynghylch dyfodol ystadegau poblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr

Ar 14 Rhagfyr 2023, darparodd SYG ddiweddariad ar yr ymgynghoriad ynghylch dyfodol ystadegau poblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr. Mae'r diweddariad yn manylu ar nifer yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn ôl sector ac yn nodi sut y gwnaeth SYG ymgysylltu â defnyddwyr ystadegau poblogaeth a mudo cyn ac yn ystod yr ymgynghoriad. Mae hefyd yn esbonio sut mae SYG yn cynnal ei dadansoddiad o'r ymatebion.

Bydd dadansoddiad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r argymhelliad yn 2024.  

Tablau Cyfrifiad 2021 StatsCymru

Ar 31 Ionawr, gwnaethom ddiweddaru ein hadran 'Cyfrifiad 2021' o StatsCymru i gynnwys data ar gyfer Cymru mewn perthynas â demograffeg a mudo. Mae hyn yn cynnwys data ar wlad enedigol, pasbortau a ddelir, statws partneriaeth gyfreithiol (priodasol), a chyn-filwyr lluoedd arfog y DU. 

Ailseilio amcangyfrifon poblogaeth Cymru yn dilyn Cyfrifiad 2021: erthygl gwybodaeth ychwanegol

Ym mis Ebrill, rydym yn bwriadu cyhoeddi erthygl ystadegol sy'n edrych yn fanylach ar yr amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn wedi'u hailseilio ar gyfer Cymru yn dilyn Cyfrifiad 2021. Bydd cyhoeddiad tebyg gan SYG yn cyd-fynd â'r cyhoeddiad hwn, gan ganolbwyntio ar yr amcangyfrifon wedi'u hailseilio ar gyfer Cymru a Lloegr.

Ystadegau'r Gymraeg

I gael gwybodaeth am Ystadegau'r Gymraeg, gweler Diweddariad chwarterol ystadegau Cymru.

Manylion cyswllt

Martin Parry

Rhif ffôn: 0300 025 0373

E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099