Mae’r astudiaeth yn archwilio tystiolaeth yn ymwneud â throchi cyfrwng Cymraeg yng Nghymru ac yn rhyngwladol er mwyn dadanosoddi dulliau effeithiol o addysg drochi.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Addysg drochi
Nod yr Asesiad Cyflym hwn o’r Dystiolaeth (ACD) yw cynnig arweiniad i ymarferwyr, hyfforddwyr a llunwyr polisi ar sut i ddarparu addysg drochi effeithiol i ddysgwyr rhwng 3 ac 16 oed yng Nghymru.
Yn yr astudiaeth hon, diffinnir ‘addysg drochi’ fel profiad dysgwyr o dderbyn addysg drwy gyfrwng iaith yr ysgol, a bod yr iaith honno yn wahanol i iaith yr aelwyd.
Mae'r dystiolaeth ymchwil sydd ar gael yng Nghymru ac yn rhyngwladol yn cael ei chanfod, ei gwerthuso a'i chrynhoi.
