Neidio i'r prif gynnwys

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Gwobr Dewi Sant

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Enwebwyr

Mae Gwobr Dewi Sant yn dathlu llwyddiannau pobl Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd ei chyfrifoldebau cyfreithiol gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae'r ddogfen hon yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru (fel rheolwyr data) yn prosesu'r data personol yr ydych yn eu cyflwyno trwy gydol proses y gwobrau. Bydd unrhyw ddata personol yn cael eu prosesu er budd y cyhoedd, gan arfer yr awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom ni.

Byddwn bob amser yn sicrhau bod unrhyw ddata personol a dderbyniwn mewn perthynas â'r gwobrau'n cael eu storio'n ddiogel ac yn cael eu gweld yn unig gan y bobl hynny sy'n ymwneud â phrosesu'r enwebiad Gwobr Dewi Sant, e.e. swyddogion Llywodraeth Cymru a chontractwyr penodedig.

Bydd y data personol yn cael eu cadw am 12 mis ar ôl dyfarnu’r gwobrau a byddant yn cael eu dileu ar ôl hynny.

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael mynediad at y data personol yr ydym yn eu prosesu amdanoch chi
  • i ofyn i ni gywiro anghywirdebau yn y data hynny
  • i wrthwynebu prosesu (mewn rhai amgylchiadau)
  • i'ch data gael eu dileu (mewn rhai amgylchiadau)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Customer contact

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

I wybod rhagor am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'i defnyddio, neu os hoffech ymarfer eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Enwebeion

Mae Gwobr Dewi Sant yn dathlu llwyddiannau pobl Cymru. Mae 10 Gwobr Dewi Sant, pob un ohonynt wedi'u henwebu gan y cyhoedd i gydnabod ymrwymiad, ymroddiad a gwaith caled pobl Cymru.

Fel rhan o'r broses enwebu, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn manylion eich enw, teitl swydd a’ch e-bost a chyfeiriad gwaith a chartref. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd ei chyfrifoldebau cyfreithiol o ddifrif mewn perthynas â gwybodaeth bersonol ac mae'r ddogfen hon yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru (fel rheolwyr data) yn prosesu eich data personol drwy gydol proses y gwobrau. Bydd unrhyw ddata personol yn cael eu prosesu er budd y cyhoedd gan arfer yr awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom.

Byddwn bob amser yn sicrhau bod unrhyw ddata personol a dderbyniwn mewn perthynas â'r gwobrau yn cael eu storio'n ddiogel ac yn cael eu gweld yn unig gan y bobl hynny sy'n ymwneud â phrosesu'r enwebiad Gwobr Dewi Sant, e.e. swyddogion Llywodraeth Cymru a chontractwyr penodedig.

Os ydych chi ar restr fer y gwobrau, fe all eich data personol (ynghyd ag enw eich sefydliad) gael eu prosesu ar gyfer cysylltiadau cyhoeddus a chyfleoedd i'r wasg (cyn ac ar ôl digwyddiad). Bydd y rhain yn cynnwys ffotograffiaeth, cyfweliadau gyda’r cyfryngau, defnyddio eich astudiaeth achos / stori mewn deunyddiau cysylltiadau cyhoeddus, fideo, y cyfryngau cymdeithasol, y teledu a'r wasg.

Bydd eich data personol yn cael eu cadw am 12 mis ar ôl dyfarnu’r gwobrau a byddant yn cael eu dileu wedi hynny.

Os hoffech dynnu'n ôl o'r broses ar unrhyw adeg, rhowch wybod i ni trwy gysylltu â gwobraudewisant@llyw.cymru. Yna byddwn yn dileu'r holl ddata personol amdanoch chi yr ydym yn eu prosesu at ddibenion y gwobrau.

Yn ogystal â hyn, o dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i’r canlynol:

  • i gael mynediad at y data Personol yr ydym yn eu prosesu amdanoch chi
  • i ofyn i ni gywiro anghywirdebau yn y data hynny
  • i wrthwynebu prosesu (mewn rhai amgylchiadau)
  • i'ch data gael eu dileu (mewn rhai amgylchiadau)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Customer contact

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

I wybod rhagor am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei dal a'i defnyddio, neu os hoffech ymarfer eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Gwneud cwyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drin eich data personol yn saff ac yn ddiogel, a dim ond cyhyd ag y mae angen inni wneud hynny.   

Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, y peth gorau fyddai ichi eu codi â’r tîm perthnasol i ddechrau.   

Gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio SwyddogDiogeluData@llyw.cymru neu drwy anfon llythyr i’r cyfeiriad isod:  

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 
Caerdydd  
CF10 3NQ 

Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, gallwch ddilyn y canllawiau ar y dudalen Cwyn am Lywodraeth Cymru. 

Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn ymateb o fewn amserlen briodol, yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno.