Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi'r presenoldeb cryfaf posibl i Gymru ar lwyfan y byd ac mae'n ymrwymo i ‘gysylltiadau economaidd ac ymchwil agosach â'r UE’. Bydd cydweithredu â gwledydd a rhanbarthau eraill yn:

  • cynyddu proffil Cymru ar lwyfan y byd
  • datblygu economi Cymru
  • cadarnhau sefyllfa Cymru fel gwlad sy'n gyfrifol yn fyd-eang

Trwy gydweithio, mae'n bosibl cyfnewid syniadau, nodi arfer gorau a bod yn fwy arloesol a chystadleuol, a mynd i'r afael â phynciau pwysig sy'n rhychwantu ffiniau. Rydym am weld “Cymru Ystwyth” sy'n edrych tuag allan at ein partneriaid presennol a phartneriaid yn y dyfodol, yn y DU, Ewrop ac mewn gwledydd eraill, i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd cyffredin ac i fynd i'r afael â heriau cyffredin.

Llofnododd Cyngor Rhanbarthol Llydaw a Llywodraeth Cymru Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn 2004, a adnewyddwyd yn 2023. Mae'n nodi meysydd ar gyfer cydweithredu economaidd fel bwyd-amaeth, diwylliant, seiberddiogelwch, iechyd, treftadaeth, iaith, ynni morol adnewyddadwy, datblygu cynaliadwy a thwristiaeth.

Mae Fframwaith Buddsoddi Rhanbarthol yn tynnu sylw at yr angen i adeiladu ar y gweithgarwch a'r rhwydweithiau a sefydlwyd pan roedd Cymru'n cymryd rhan yn rhaglenni Interreg.

Mae Horizon Ewrop yn cynnig cyfle i ymchwilwyr ac arloeswyr o Gymru gydweithio â'r gorau yn y byd, gan ddenu talent, a chynnal gwyddoniaeth ac arloesedd blaengar er lles cymdeithas.

Mae Cymru Ystwyth yn helpu i ysgogi a hwyluso gweithgarwch sy'n creu partneriaethau trawsffiniol a rhyngwladol, gan gynyddu'r cydweithrediad mewn meysydd sydd â'r potensial i gael mwy o effaith economaidd gyson o arwyddocâd i Gymru. Mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio diwylliannol a manteision cymdeithasol gweithio ar draws ffiniau.

Y fenter

Mae'r fenter hon yn gwahodd ceisiadau oddi wrth sefydliadau sy'n gweithredu yng Nghymru sydd wedi nodi prosiect ar y cyd gyda phartner yn Llydaw a fydd yn cefnogi nodau'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Rhaid i weithgareddau a gwariant a ariennir gan Cymru Ystwyth ddigwydd rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Mawrth 2027.

Rhaid i brosiectau ar y cyd gynnwys partner o Lydaw sy'n gyfrifol am o leiaf 25% o weithgarwch y prosiect, gyda'u costau yn cael eu hariannu ar wahân. Mae Cyngor Rhanbarthol Llydaw wedi sicrhau bod cyllid ar gael at y diben hwn drwy ei gynllun 'B-Monde Projets – Europe et international'. Mae ffynonellau cyllido eraill yn dderbyniol, cyn belled â bod tystiolaeth briodol yn cael ei darparu. Rhaid i ymgeiswyr ddangos bod y gweithgarwch y maen nhw'n ei gynnig yn ateb gofynion ac amserlenni pob cyllidwr.

Os nad ydych yn gallu dangos gweithgarwch ar y cyd, er enghraifft am fod eich perthynas â Llydaw megis dechrau, yna dylech ystyried y cymorth arall y gall Cymru Ystwyth ei gynnig.

Bydd cais cryf yn cyd-fynd â'r strategaeth a ddisgrifir uchod ac yn:

  • cefnogi ac yn meithrin cysylltiadau strategol perthnasol y tu allan i Gymru
  • creu amrywiaeth o gyfleoedd mewn maes sy'n arwyddocaol i economi Cymru
  • cynnwys sefydliadau neu rwydweithiau pwysig a pherthnasol
  • trosglwyddo gwybodaeth ryngwladol i Gymru a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar flaenoriaethau polisi Cymru
  • adeiladu a datblygu ar weithgarwch presennol
  • meddu ar lwybr clir i ddenu cyllid arall neu ffordd arall i gynnal gweithgarwch economaidd parhaus a chynaliadwy

Rhaid i bob cais ddangos ei fod yn hyfyw ac yn rhoi gwerth am arian, a chyfrannu'n gymesur at allbynnau a chanlyniadau perthnasol Cymru Ystwyth.

Nid oes trothwyon grant penodol ond fel canllaw:

  • Ar gyfer prosiectau bach, fel teithio, ymgysylltu a chynghori, gellid ystyried bod hyd at £3,000 fesul cais yn rhesymol ar gyfer gweithgarwch a ariennir gan Cymru Ystwyth. Byddem yn disgwyl i geisiadau untro neu syml fod yn llai na £1,000 gan amlaf.
  • Ar gyfer prosiectau sy’n fwy strategol, fel rhedeg rhwydweithiau, astudiaethau dichonoldeb a phrosiectau peilot sy’n golygu defnyddio llawer o ddeunyddiau ac amser staff, gellid ystyried bod hyd at £20,000 y cais yn rhesymol ar gyfer gweithgarwch a ariennir gan Cymru Ystwyth. Mewn sefyllfaoedd eithriadol, gellid ystyried bod hyd at £50,000 yn rhesymol.

Blaenoriaethu

Bydd Llywodraeth Cymru yn dewis prosiectau ar sail portffolio i sicrhau'r cydbwysedd cywir o weithgareddau, risgiau a chanlyniadau ar gyfer y fenter hon a rhaglen Cymru Ystwyth. Gall hyn olygu blaenoriaethu ar sail nifer o ffactorau, gan gynnwys:

  • cryfder y cysylltiad â'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth; yn enwedig themâu bwyd-amaeth, diwylliant, seiberddiogelwch, iechyd, treftadaeth, iaith, ynni morol adnewyddadwy, datblygu cynaliadwy a thwristiaeth
  • mae'r cynnig yn ceisio llenwi bwlch thematig, daearyddol neu sectorol yn y portffolio
  • maint y cais am grant ac a oes modd ei leihau trwy ddenu cyllid (heb gynnwys cyllid o Lydaw) a/neu adnoddau eraill
  • gwerth am arian, yn enwedig o'i gymharu â chynigion tebyg

Costau a gefnogir

Bydd costau’n angenrheidiol i hyrwyddo, cynnal a lledaenu’r gweithgareddau y cytunwyd arnynt trwy’r broses ymgeisio a’r cynnig grant ysgrifenedig. Rhaid iddynt fod yn rhesymol, rhaid bod modd eu dilysu a rhaid iddynt fod yn gostau sy'n cael eu hysgwyddo gan yr ymgeisydd. Oni nodir yn benodol yn y fenter hon, dilynwch rheolau a gweithdrefnau Cymru Ystwyth.

Nid yw'r costau a ysgwyddwyd cyn cymeradwyo'r cais yn cyfrif oni bai bod Tîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn cadarnhau'n ysgrifenedig eu bod nhw.

Ni fyddwn yn cefnogi gweithgarwch na gwariant ar ôl 31 Mawrth 2027.

Gan y bydd y partner yn Llydaw yn cael ei ariannu ar wahân nid yw ei gostau yn gymwys oni bai bod Tîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn cadarnhau'n ysgrifenedig fel arall. Ni fyddwn chwaith yn cefnogi gweithgarwch masnachu cyffredinol na gwaith marchnata. Os mai allforio yw prif sylw'r gweithgarwch, mae Llywodraeth Cymru'n cynnig cymorth penodol ar gyfer hynny, a allai fod yn fwy addas. 

Felly, mae'n annhebygol y bydd Cymru Ystwyth yn cefnogi symudedd rhyngwladol ar gyfer canlyniadau addysg.

Gall Cymru Ystwyth gefnogi prosiectau diwylliannol, treftadaeth a chwaraeon os oes potensial am gydweithredu cyson fydd o arwyddocâd i Gymru, ond ni fydd yn debygol o gefnogi artistiaid neu berfformiadau unigol.

Gall y gwariant gynnwys gweithgarwch partneriaid nad ydynt yn Gymry nac yn Llydawyr, ar yr amod bod y costau a hawlir wedi'u hysgwyddo gan bartner o Gymru a bod modd dangos gwerth am arian. Rydym yn eich cynghori i gysylltu â Thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn fuan wrth ichi ddatblygu'ch cynnig i wneud yn siŵr ei fod yn cydymffurfio.

Gallwn gefnogi hyd at 100% o'r costau cymwys os oes cyfiawnhad dros hynny, ond gallai Llywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i geisiadau sy'n gofyn am gyfran lai o gymorth. 

Rydym yn disgwyl i chi ganolbwyntio ar eitemau gwariant mwy â llwybrau tystiolaeth syml, cryf. Nid yw costau bwyd/cynhaliaeth yn gymwys heblaw pan fydd brecwast wedi'i gynnwys ym mhris y gwesty neu pan fydd arlwyo dan gontract yn gost angenrheidiol ar gyfer cyfarfod/digwyddiad. Hynny er mwyn lleihau'r baich gweinyddol ar ymgeiswyr a'r llywodraeth.

Os yw eich partner yn Llydaw yn bwriadu gwneud cais i gynllun ‘B-Monde Projets – Europe et international’ Cyngor Rhanbarthol Llydaw rhaid iddynt fodloni ei reolau a'i weithdrefnau. Dyma rai o brif agweddau'r cynllun:

  • dim ond sefydliadau ‘nid er elw’ sydd wedi'u lleoli yn Llydaw sy'n gymwys i gael cyllid
  • rhaid bod yr ymgeisydd wedi bodoli'n gyfreithiol am flwyddyn o leiaf
  • dim ond hyd at 70% o'r costau cymwys perthnasol y bydd y cynllun yn ei gefnogi (ar gyfer gweithgarwch gyda Chymru)
  • rhaid i'r ymgeisydd hunangyllido 10% yn y gyllideb berthnasol
  • rhaid cyflwyno ceisiadau o leiaf dri mis cyn i'r gweithgaredd perthnasol ddechrau
  • mae hyblygrwydd i ysgwyddo gwariant hyd at 24 mis ar ôl y dyddiad cymeradwyo ffurfiol

Cyflwyno ceisiadau

Rydym yn agored i geisiadau nawr. Gan fod gofyn i bartner Llydewig prosiect ar y cyd gael ei ariannu ar wahân, rydyn ni’n eich cynghori’n gryf i gadarnhau ymrwymiad y partner a’i ffynhonnell ariannol bosibl cyn gwneud cais. Hefyd, os nad yw eich cais yn un ‘cryf’ neu'n flaenoriaeth fel y diffinnir hynny uchod, cysylltwch â Thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno'ch cais. Fel arall, llenwch y ffurflen gais a'i e-bostio at Dîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn CymruYstwyth@llyw.cymru.

Bydd ceisiadau yn cael eu hasesu ar sail nodau'r fenter hon, a Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol, a all gynnwys dyfarnu grant is na'r hyn y gofynnwyd amdano. Efallai y byddwn yn gofyn i arbenigwyr a chydweithwyr polisi perthnasol yng Nghymru neu mewn gwledydd/rhanbarthau perthnasol am eu barn. Byddwn yn gweithio’n glos gyda Chyngor Rhanbarthol Llydaw ar rinweddau pob cais a bydd angen rhannu gwybodaeth a cheisiadau, a ydynt yn ei ariannu ai peidio. 

Bydd ceisiadau cymwys yn cael eu hystyried ar sail 'y cyntaf i'r felin', ac ni fydd fawr o gyfle i roi esboniad manylach. Gellir rhoi ceisiadau nad ydyn nhw'n cael eu gweld fel rhai cryf neu'n flaenoriaeth fel y'i diffinnir uchod ar 'restr wrth gefn' i roi cyfle i geisiadau eraill. 

Mae'r gyllideb ar gyfer y fenter hon yn gyfyngedig, a byddwn yn ystyried ymrwymiadau a thanwariant mewn mannau eraill wrth benderfynu. Bydd rhai ceisiadau yn cael eu rhoi ar y 'rhestr wrth gefn' am resymau cyllidebol.

Efallai y bydd angen gohirio cymeradwyaeth ffurfiol hefyd nes bod pecyn ariannu'r prosiect ar y cyd yn cael ei gadarnhau, er enghraifft os yw'r partner yn Llydaw yn aros am benderfyniad ariannu. Llywodraeth Cymru fydd â'r penderfyniad terfynol ynghylch pryd i gymeradwyo ac ar ba sail, a gall gymeradwyo cyn penderfyniadau ariannu eraill. Fodd bynnag, ni fydd costau partneriaid yng Nghymru a ysgwyddir heb gytundeb ysgrifenedig penodol gan Dîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn gymwys.