Neidio i'r prif gynnwy
Chris Wong

Bwrdd Cysgodol Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Chris wedi bod yn byw yn y DU ers 2021. Ar hyn o bryd, mae'n Swyddog Gweithredol yn Llywodraeth y DU. Mae ei yrfa hyd yn hyn wedi bod yn seiliedig ar ei ymroddiad i wasanaeth cyhoeddus a'r awydd i gael effaith gadarnhaol yn y gymuned y mae'n byw ac yn gweithio ynddi.

Roedd gan Chris ddiddordeb mewn swydd gyhoeddus gan ei fod yn awyddus i ddatblygu ei sgiliau a'i brofiad. Roedd hefyd yn awyddus i gael y cyfle i helpu i lywio cyfeiriad a strategaeth y sector cyhoeddus.

Dywedodd Chris:

Fy nghymhelliant dros fod yn aelod bwrdd yw awydd cryf i dyfu'n bersonol. Rwyf hefyd yn angerddol am wneud cyfraniad ystyrlon a chynyddu cynrychiolaeth pobl ethnig leiafrifol mewn swyddi arwain.

Mae rôl Chris yn cynnwys cysgodi aelodau Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae'r cyfle amhrisiadwy hwn wedi caniatáu iddo ddysgu gan aelodau profiadol o'r bwrdd. Mae hefyd wedi dysgu mwy am sut y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei redeg a'r gwaith cynllunio strategol sy'n digwydd yno.

Mae'r rôl hon wedi rhoi llwyfan iddo ddylanwadu ar newid cadarnhaol a sicrhau bod safbwyntiau amrywiol yn cael eu cynnwys mewn prosesau gwneud penderfyniadau.

Ychwanegodd Chris:

Mae'r cyfle wedi fy ngalluogi i weithio gyda gweithwyr proffesiynol profiadol mewn gwahanol feysydd a dysgu oddi wrthyn nhw.

Drwy gymryd rhan, rwyf hefyd wedi gallu rhannu fy meddyliau a'm syniadau a chyfrannu at redeg corff cyhoeddus pwysig.

Rwy'n annog eraill i wneud cais am swyddi ar fyrddau oherwydd y manteision lu y maen nhw'n eu cynnig.

Dych chi eisiau gwybod mwy?

Cael mwy o wybodaeth am benodiadau cyhoeddus a sut gallwch helpu i siapio'r gymuned rydych chi'n byw ynddi.