Penodiadau cyhoeddus yng Nghymru
Beth yw penodiad cyhoeddus?
Nid oes diffiniad union o benodiad cyhoeddus ond, yn gyffredinol, mae’n cynnwys rôl ar fwrdd corff cyhoeddus neu fel aelod o bwyllgor cynghori.
Mae penodiad cyhoeddus yn cael ei wneud gan weinidog y llywodraeth fel arfer, i fwrdd corff cyhoeddus.
Mae penodiadau cyhoeddus yng Nghymru yn cwmpasu popeth o’r celfyddydau i chwaraeon a buddiannau defnyddwyr i feysydd mwy arbenigol, fel adeiladau hanesyddol a henebion.
Pam ymuno â bwrdd cyhoeddus?
Mae penodiadau cyhoeddus yn cynnig cyfle gwych i ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau pobl yng Nghymru ac i gyfrannu at ddatblygu polisïau a gwasanaethau sydd o bwys.
Ni waeth a ydych yn arweinydd profiadol neu’n rhywun sy’n dod â safbwynt cwbl newydd, gall eich sgiliau, y ddealltwriaeth rydych wedi’i meithrin a’ch profiadau bywyd helpu i ffurfio dyfodol ein cenedl.
Rydym wedi ymrwymo i wneud y penodiadau hyn yn agored, yn gynhwysol ac yn hygyrch i amrediad eang o unigolion galluog, gan sicrhau bod pob llais yn cael y cyfle i wneud gwahaniaeth.
Pam ymuno â bwrdd cyhoeddus?
Dylanwadu ar benderfyniadau allweddol
Helpu i ffurfio’r polisïau a’r penderfyniadau sy’n bwysig i Gymru.
Ehangu eich arbenigedd
Magu profiad amhrisiadwy mewn arweinyddiaeth, llywodraethiant a gwasanaeth cyhoeddus.
Rhwydweithio â gweithwyr proffesiynol
Gweithio ochr yn ochr ag unigolion profiadol ac angerddol sydd wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth.
Hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant
Bod yn rhan o dîm sy’n gwerthfawrogi gwahanol safbwyntiau a phrofiadau bywyd.
Gwasanaethu’r cyhoedd a rhoi yn ôl
Gwneud cyfraniad ystyrlon i’ch cymuned ac i fywyd cyhoeddus yng Nghymru.
Defnyddio eich profiad bywyd i ysgogi newid
Rhannu eich safbwynt unigryw a dylanwadu ar ganlyniadau gwell.
Pwy all wneud cais?
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob cefndir a phrofiad bywyd. Nid oes angen profiad blaenorol o fod yn aelod o fwrdd – rydym yn rhoi gwerth mawr ar angerdd, profiadau bywyd, ac ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus.
Os oes gennych syniadau newydd, meddwl strategol, ac rydych yn barod i ddysgu, rydym yn eich annog i ystyried gwneud cais am benodiad cyhoeddus.
Am beth rydym yn chwilio?
- Ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus ac i degwch
- Syniadau annibynnol a safbwyntiau newydd
- Parodrwydd i herio ac arloesi
- Sgiliau cyfathrebu a chydweithredu cadarn
Os ydych yn meddwl, “Nid rhywun fel fi sydd fel arfer yn ymgeisio am benodiad fel hwn,” efallai mai chi yw’r union berson sydd ei angen arnom!
Lleisiau Go Iawn, Newid Go Iawn
Gwrandewch ar unigolion sydd wedi ymgymryd â phenodiadau cyhoeddus a dysgwch sut maen nhw wedi helpu i ffurfio dyfodol Cymru.
Sut i wneud cais am benodiad cyhoeddus
Dysgwch ragor am yr hyn y mae rôl ar fwrdd cyhoeddus yn ei olygu a chael help gyda’ch cais drwy ddarllen ein canllawiau.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cyflwyno cais?
Edrychwch ar y swyddi gwag presennol ar gyfer penodiadau gan Lywodraeth Cymru.
Gallwch ddod o hyd i ragor o swyddi gwag ar fyrddau cyhoeddus ar wefan Byrddau Cymru.
